– Senedd Cymru am 6:08 pm ar 17 Ebrill 2018.
Eitem 7 yw Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Egni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig. Lesley Griffiths.
Cynnig NDM6700 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyflwynais Orchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 ar 5 Mawrth 2018, ac rwy’n cyflwyno’r Gorchymyn heddiw ar gyfer dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Ddeddf yn cynnwys cymal machlud sy'n datgan y bydd yn methu os na chymerir camau i’w gwarchod erbyn 30 Gorffennaf 2018. Bydd y Gorchymyn yn gwarchod y Ddeddf, ac mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cyflogau a thelerau ac amodau cyflogaeth teg i weithwyr amaethyddol yn dal i fod ar waith yn ymarferol.
Yn ystod haf 2017, ymgynghorais ar weithrediad ac effaith y Ddeddf. Cyflwynwyd yr adroddiad dilynol ar yr adolygiad o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 27 Chwefror eleni. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sut y mae’r Ddeddf wedi cefnogi cymunedau gwledig ac wedi sicrhau bod gweithwyr yn y sector amaethyddol yn cael cyflog teg. Roedd hefyd yn nodi sut y mae'r Ddeddf yn ategu fy ymrwymiad i hyfywedd a llwyddiant hirdymor y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf wedi ein galluogi i bennu cyfraddau isafswm cyflog teg i weithwyr amaethyddol yn unol â’u cyfrifoldebau a’u sgiliau. Mae’r cyfraddau isafswm tâl a’r lwfansau’n diogelu incwm cartrefi ac yn helpu cymunedau lleol i ffynnu ledled Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y cyfraniad a wnaiff amaethyddiaeth i’n heconomi, ein hamgylchedd a’n cymunedau gwledig, sy'n hollbwysig i ddatblygiad pellach Cymru ffyniannus, gref a mwy cyfartal. Mae'r Ddeddf yn cefnogi datblygu gweithlu amaethyddol sydd â’r sgiliau priodol sy'n angenrheidiol ar gyfer hyfywedd busnesau amaethyddol a'r diwydiant ehangach yn y tymor hir, ac yn bwysig i'n cymunedau gwledig. Rydym ni hefyd yn gwybod mai cyflogaeth gynaliadwy yw’r ffordd orau o drechu tlodi.
Sefydlwyd panel cynghori amaethyddol Cymru o dan y Ddeddf ar 1 Ebrill 2016. Yn yr amser byr ers ei sefydlu, mae'r panel wedi gwneud gwaith sylweddol. Daeth y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) cyntaf a baratowyd gan y panel i rym ar 1 Ebrill 2017. Cafodd hwn ei ddisodli gan Orchymyn newydd ar 1 Ebrill 2018, sy'n ystyried y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol. Yn fuan, sefydlodd y panel eu his-bwyllgor datblygu sgiliau a hyfforddiant statudol, i ddangos eu hymrwymiad i helpu i wella dyfodol tymor hir y diwydiant. Mae’r panel, ynghyd â’r is-bwyllgor, yn ymchwilio i ddarparu datblygiad proffesiynol, ac maent wedi comisiynu ymchwil ar y farchnad lafur i ganfod meysydd blaenoriaeth y mae angen eu gwella. Comisiynwyd hyn mewn partneriaeth â bwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru i sicrhau yr ystyrir yr holl gadwyn gyflenwi bwyd a diod ac i sicrhau arbedion maint. Disgwylir canfyddiadau'r ymchwil yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae cadw’r drefn isafswm cyflog amaethyddol yng Nghymru a rhoi’r Ddeddf ar waith o fudd i’r sector cyfan ac i economïau gwledig. Dyma yw sail gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddiwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol, a bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod y buddion hyn yn parhau. Diolch.
A gaf i ddweud yn y cychwyn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Gorchymyn heddiw i barhau â'r ddeddfwriaeth? Y rheswm ein bod ni'n trafod hwn heddiw, wrth gwrs, yw bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol. Y rheswm bod yna gymal machlud yn y ddeddfwriaeth wreiddiol oedd ei bod hi wedi cael ei phasio fel deddfwriaeth frys. Rŷm ni newydd gael profiad cyn y Pasg o hynny. Bach yn eironig yn y cyd-destun yma, wrth gwrs, fe gymerodd e 18 mis ar ôl pasio'r ddeddfwriaeth frys i sefydlu'r bwrdd a oedd cymaint o frys yn ei gylch e. Ond, wedi ei sefydlu, mae'r bwrdd wedi mynd ati, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, i amlinellu nifer o bethau pwysig sydd yn gynsail i gyflogau yn y sector amaeth.
Rydw i'n credu bod yna dri rheswm y dylem ni gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma. Yn gyntaf oll, os ŷm ni'n rhoi'r gorau i'r ddeddfwriaeth heddiw, ni fyddwn yn gallu dychwelyd at y ddeddfwriaeth yma. Mae Deddf Cymru wedi newid ac erbyn hyn ni fyddai gennym ni'r hawl i ddeddfu yn y maes yma. Nid rheswm, efallai, am ganrifoedd i afael yn y grymoedd hynny, neu byddem ni'n dal i bleidleisio ar yfed ar y Sul ar gefn y fath yna o ddadl, ond mae'n ddadl i ni ei hystyried fel Cynulliad, i beidio rhoi i fyny'r grymoedd sydd gyda ni ar hyn o bryd.
Yr ail reswm yw, wrth gwrs, er bod y bwrdd yn weithredol, er bod gennym ni sector amaeth sydd wedi'i gefnogi gan y ddeddfwriaeth yma, mae lefel cyflogau ar gyfartaledd yn y sector amaeth yn dal yn is na'r lefel cyfartaledd cyflogau drwy sectorau eraill yng Nghymru. Felly, mae yna job o waith i'w wneud i godi sgiliau, codi cyflogau, a chodi gwybodaeth ymysg y sector amaeth. Mae'n amlwg, felly, fod yna waith parhaus a pharhaol i'w wneud yn y cyd-destun yma.
A'r trydydd rheswm, a'r rheswm olaf, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y sector yma yn wynebu un o'r heriau mwyaf y gallech chi ei dychmygu yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, sef gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid ydym ni'n gwybod, i fod yn gwbl onest, a fydd y ddeddfwriaeth yma o fudd mawr wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth rŷm ni yn teimlo yn gryf yw na ddylem ychwanegu at y broses o newid yn y sector wrth iddo wynebu cymaint o newid a'r heriau sydd ar y gorwel. Rydw i yn pleidio y dylem ni gadw'r sector o dan gymaint o gysondeb ag sy'n bosibl, ac mae hwn yn rhan o beth mae'r sector yn hen gyfarwydd ag ef, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymyrraeth sy'n mynd i ddeillio o adael yr Undeb Ewropeaidd ar y lefel isaf posibl.
Mae yna un agwedd o hyn, serch hynny, sydd yn fy nharo i fel rhywbeth o wendid gyda'r Llywodraeth, ac yn gyffredinol: y wybodaeth sydd gyda ni am Gymru yn benodol—am effaith cyflogau yn y sector amaeth, am y gymhariaeth rhwng Cymru a'r sector amaeth yn Lloegr, a'r gymhariaeth ar draws sectorau hefyd. Mae'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio yn y papurau wedi'u cyhoeddi gan y Llywodraeth yn tanlinellu bod yna wendid a diffyg gwybodaeth. Wrth gefnogi parhau â'r ddeddfwriaeth yma, byddwn i'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet a yw'n bosib iddi ddweud beth sydd gyda hi ar y gweill i wella'r ffordd yr ŷm ni'n casglu gwybodaeth ac i gasglu mwy o dystiolaeth ynglŷn â pha mor ffeithiol yw'r ddeddfwriaeth yma a gwaith y bwrdd o dan y ddeddfwriaeth.
Diolch. A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl honno?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac i Simon Thomas am ei sylwadau, ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth Plaid Cymru. Rwy’n credu eich bod wedi gwneud rhai sylwadau perthnasol iawn. Yn sicr, dywedais fod y grŵp yn edrych ar ymchwil i ddatblygiad proffesiynol a gwella sgiliau ac rwy’n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau i wneud hynny a byddaf yn hapus iawn i gyhoeddi'r wybodaeth pan ddaw honno i law yn ddiweddarach y mis hwn neu'r mis nesaf, os wyf o'r farn y byddai Aelodau yn dymuno ei gweld.
Rydych chi yn llygad eich lle, ar hyn o bryd, ein bod yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd ynghylch Brexit, felly rwy’n meddwl mai da o beth fyddai peidio ag ychwanegu at ddim mwy o’r heriau hynny sy’n ein hwynebu. O ran eich sylw olaf, rwy’n cydnabod hynny—yn amlwg nid yw’r drefn bresennol wedi bod ar waith yn ddigon hir, rwy'n credu, inni asesu’n iawn yr effaith y mae'n ei chael, ond rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Rwy'n tybio y byddai angen adolygiad polisi, efallai yn y flwyddyn neu ddwy nesaf, i sicrhau ei bod yn addas at y diben.
Felly, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, Dirprwy Lywydd, bydd Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018 yn dod i rym yfory.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, cytunir ar y cynnig hwnnw.