2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd rhyngrwyd symudol yn y Rhondda? OAQ52008
Rydym yn parhau i ymgymryd â nifer o fesurau i hwyluso'r broses o wella cysylltedd rhyngrwyd symudol ar draws pob rhan o Gymru, gan gynnwys darparu'r cynllun gweithredu cysylltedd symudol, treialu technolegau celloedd bach, trafodaethau parhaus ynghylch 5G a darparu'r rhwydwaith ffibr cysylltiol hanfodol.
Mae llawer o leoedd yng Nghymru sydd â chysylltedd rhyngrwyd symudol eilradd, fel y clywsom yn gynharach, ac nid yw fy etholaeth yn ddiogel rhag y broblem hon. Mae llawer o gymunedau wedi'u heffeithio, ond yn ddiweddar, yn y Porth, er enghraifft, nid oedd y cyngor yn gallu casglu data ar nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref oherwydd nad oedd y rhifydd yn gallu cael signal cyson. Wrth gwrs, mae hyn yn ddrwg i drigolion lleol, ond mae hefyd yn ddrwg i fusnesau. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw'r polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond mae yna ddulliau ar gael i chi ac rydych wedi amlinellu rhai ohonynt mewn atebion i gwestiynau yn gynharach. A wnewch chi gytuno i edrych ar leoedd, fel y Porth yn y Rhondda, sydd ar ei hôl hi mewn perthynas â'r hyn sy'n dderbyniol o ran cysylltedd rhyngrwyd symudol? Ac a wnewch chi ddefnyddio'r pwerau a'r dylanwad sydd gennych i ddatrys y problemau lleol hyn cyn gynted ag y bo modd?
Yn bendant. Rwy'n hapus iawn i gytuno â hynny ac rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth Leanne Wood yn llwyr. Fel y mae'n digwydd, rwy'n cadeirio cyfarfod tasglu'r Cymoedd fore Llun sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â chysylltedd digidol a bydd y mater hwnnw'n cael sylw blaenllaw yn y cyfarfod hwnnw gyda'r bwriad o wneud yn union hynny. Ac ymhlith y nifer o bethau y dywedais yn gynharach ein bod yn eu gwneud, rydym hefyd yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda seilwaith cyhoeddus—felly, rhedeg signalau Wi-Fi oddi ar adeiladau cyhoeddus ac ati. Felly, mae cryn dipyn o waith ar y gweill mewn perthynas â chymhlethdodau'r gyfraith yn hynny o beth, oherwydd, yn anffodus, mae yna broblemau sy'n ymwneud â chymorth gwladwriaethol yn codi o'i ddefnyddio, ond rwy'n hyderus y gallwn ddatrys y rheini a darparu Wi-Fi da ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru pan fyddwn wedi gwneud hynny. Ond yn ddigon diddorol, mae'r cyfarfod i drafod hynny ar gyfer y Cymoedd ddydd Llun.
Diolch i arweinydd y tŷ.