3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
4. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer rheoli asbestos ar ystâd y Cynulliad? OAQ52003
Un eiliad. Diolch ichi am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau ar gyfer rheoli asbestos, ac mae'n cadw cofrestr asbestos ar gyfer pob adeilad ar ei ystâd. Cynhaliwyd arolygon ac adolygiadau asbestos manwl yn 2002 a 2014, ac mae'r cofrestr asbestos yn cadarnhau nad oes deunydd asbestos yn bresennol ar yr ystâd. Adolygir y gofrestr yn flynyddol a chyfeirir ati cyn cychwyn ar waith neu brosiectau perthnasol.
Iawn, diolch ichi am yr ateb hwnnw, oherwydd mae'n amlwg eich bod yn ymwybodol fod yna 3,000 o wahanol ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos ar draws y wlad, ac rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar asbestos, sy'n edrych yn bennaf ar asbestos mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill. Felly, roeddwn o'r farn ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y dylid ei wneud ar ein hystâd ein hunain os ydym yn edrych ar hyn mewn mannau eraill. Felly, rwy'n falch o glywed yr hyn a ddywedwch am y gofrestr; mae angen inni reoli'r risg yn briodol. Mae'r risg yn galw am weithdrefnau manwl i sicrhau bod arferion gweithio diogel yn cael eu gosod mewn cynlluniau rheoli asbestos, ac nid wyf yn siŵr mai am hynny roeddech chi'n sôn, ond os mai dyna ydyw, a allech gadarnhau hynny, a bod gennym gynlluniau rheoli o'r fath ar waith.
Hoffwn ddweud wrth Dawn fod y gofrestr asbestos yn cael ei hadolygu'n flynyddol fel rhan o gydymffurfiaeth a gweithdrefnau statudol, felly credaf fod hynny'n ateb eich cwestiwn. Yn ôl yr adolygiadau a'r arolygon manwl a gynhelir, y diweddaraf yn 2014, ni chanfuwyd unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos naill ai yn Nhŷ Hywel nac yn y Senedd, nac mewn unrhyw ddeunyddiau adeiladu chwaith. Diolch.
Diolch yn fawr iawn.