Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ynddo'i hun, mae'r adroddiad hwn a'r ffaith bod ei holl argymhellion wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru yn un peth, ac mae'n iawn fod yna lefel uchel o ddadansoddi a chraffu wrth inni anelu tuag at Brexit. Pe bai cymaint o graffu wedi bod ar y newid a oedd yn digwydd wrth arwain tuag at unol daleithiau Ewrop, byddai'r DU wedi gwneud y penderfyniad synhwyrol i adael amser maith yn ôl. Ond nid oedd fawr ddim craffu neu ddadleuon, os o gwbl, yn y fan hon neu yn San Steffan pan oedd pwerau ychwanegol yn cael eu rhoi i ffwrdd, i raddau helaeth am fod pob plaid yn y Siambr hon ar y pryd yn cefnogi integreiddio pellach, er ei bod hi bellach yn amlwg nad oedd y cyhoedd yng Nghymru yn ei gefnogi.
Mae'r adroddiad yn synhwyrol ac yn werthfawr, wrth gwrs, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar gynnwys prosesau cyfathrebu'r Llywodraeth hon â'r rhanddeiliaid perthnasol a'r cyhoedd. Ceir llawer yn y lle hwn ac eraill a fydd yn gwneud popeth a allant i anwybyddu ewyllys y pleidleiswyr a cheisio gwrthdroi'r penderfyniad democrataidd a wnaed yn y refferendwm, neu'n ceisio gadael yr UE mewn enw'n unig. Fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth yn defnyddio ei chysylltiad â rhanddeiliaid i barhau ei phrosiect ofn i ennyn cefnogaeth i'r Brexit mwyaf meddal a diystyr sy'n bosibl. Yn eu trafodaethau, rwy'n tybio y byddant yn ceisio paentio darlun o sefydlogrwydd o fewn yr UE nad yw'n bodoli o gwbl.
Mae'r rhai sydd am aros yn ceisio dadlau y byddai gadael yn creu ansicrwydd, tra'n anwybyddu'r gwir amlwg y byddai aros hefyd yn creu ansicrwydd. Gyda'r holl symudiadau tuag at fwy o integreiddio gwleidyddol, mwy o bwerau'n cael eu hildio i Frwsel, byddin yr UE ac ati, nid oedd opsiwn 'status quo' ar y papur pleidleisio, ac nid oes opsiwn o'r fath yn awr chwaith.
Mae'r syniad y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau gwrthrychol a diduedd ar oblygiadau'r senarios Brexit amrywiol yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Nid ydynt wedi llwyddo i ddweud unrhyw beth cywir am y senarios Brexit amrywiol hyd yn hyn, ac maent wedi rhoi eu hunain yn y sefyllfa hon drwy gychwyn ar brosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Aethant dros ben llestri i'r fath raddau gyda'u darlun o anobaith fel bod yn rhaid iddynt barhau gyda'r naratif hwnnw wrth adrodd yn ôl i'r lle hwn neu rywle arall rhag inni weld eu bod yn anghywir unwaith eto. Os ânt yn ôl at fusnesau a dweud, 'Gwyddom ein bod wedi dweud wrthych y byddai pleidleisio dros adael yn drychinebus, ond mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy'n wir,' byddent yn colli'r ychydig hygrededd a allai fod yn weddill ganddynt.
Nid yw'r Llywodraeth hon byth yn cyfaddef ei bod yn anghywir, ac mae hyn ar ei fwyaf amlwg pan fyddant yn ceisio dweud dros beth y pleidleisiodd y bobl a beth na phleidleisiodd y bobl drosto. Yn hytrach na derbyn bod y cyhoedd yn anghytuno â hwy, maent yn ceisio ailddiffinio beth oedd pobl Cymru yn ei fynegi drwy'r bleidlais i adael i'w gadw'n unol ag agenda wleidyddol eu plaid.
Felly, yn olaf, pa un a yw'n fater o archwilio senario 'dim bargen', cyhoeddi'r naw dadansoddiad sector, gwell cyfathrebu â sefydliadau, cyhoeddi canllawiau neu unrhyw un o'r argymhellion eraill, mae'r adroddiad a'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor yn un peth, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr ei bod yn rhoi ewyllys pobl Cymru o flaen ei balchder cleisiog ac agenda wleidyddol eu plaid wrth gyflawni'r argymhellion. Diolch.