1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ebrill 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint? OAQ52054
Ceir nifer o gynhyrchion i gynorthwyo'r sector. Er enghraifft, drwy'r banc datblygu, mae cronfa datblygu eiddo Cymru yn cynnig cyfleoedd tai fforddiadwy i adeiladwyr cartrefi sy'n fusnesau bach a chanolig eu maint, ac mae ein rhaglen ymgysylltu ag adeiladwyr tai hefyd yn gweithio gyda chwmnïau bach i ddatblygu cymorth wedi'i dargedu.
Fy mhryder i yw bod y diwydiant adeiladu tai yn cael ei reoli gan nifer fach iawn o gwmnïau mawr iawn, sy'n creu cartél i bob pwrpas, yn cadw prisiau yn artiffisial o uchel, ac yn atal adeiladu'r llu o gartrefi fforddiadwy sydd eu hangen, gan nad yw o fudd iddynt fodloni galw yn yr hirdymor oherwydd y bydd hynny'n achosi prisiau i ostwng. Yr ateb, rwy'n credu, yw marchnad dai estynedig, lle gall busnesau bach lleol sy'n sensitif i anghenion eu cymunedau ffynnu a thyfu, ac rwy'n bwriadu cynnal grŵp trawsbleidiol yn ddiweddarach eleni i ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o hynny. Ond hoffwn wybod beth mwy all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddatblygu'r uchelgais hwnnw ac i dyfu'r sail adeiladu tai busnes bach hwnnw.
Wel, a gaf i dynnu sylw at ddau beth yn arbennig? Soniais am y rhaglen ymgysylltiad adeiladu tai. Nawr, rydym ni'n gweithio gyda datblygwyr preifat, gan gynnwys BBaChau, i ddeall ac, wrth gwrs, mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n eu hwynebu o ran adeiladu mwy o dai. Adlewyrchir y berthynas honno yn y cyhoeddiad diweddar i wneud cronfa datblygu eiddo Cymru bedair gwaith yn fwy, i £40 miliwn. Bydd hwnnw'n cael ei ailgylchu dros oes 15 mlynedd y cynllun presennol i fuddsoddiad amcangyfrifedig o £270 miliwn. Ond rydym hefyd eisiau cynorthwyo adeiladwyr lleol yn benodol i adeiladu'r cartrefi y mae pobl eu hangen trwy bartneriaeth newydd rhwng cynghorau'r Cymoedd a Banc Datblygu Cymru a fydd yn adeiladu ar y gronfa. I roi dim ond un enghraifft, mae menter ar waith yn Rhondda Cynon Taf i roi parseli bach o dir cyhoeddus ar gael ac felly, wrth gwrs, maen nhw'n fwy deniadol a hygyrch i ddatblygwyr sy'n BBaChau.
Prif Weinidog, yn ôl y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, gallai Llywodraeth Cymru gefnogi adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint trwy orfodi awdurdodau lleol i gyflymu'r cynnydd o ran darparu eu cynlluniau datblygu a'u cyflenwadau tir pum mlynedd. Datgelodd y gyd-astudiaeth o dir sydd ar gael ar gyfer tai mai dim ond chwech awdurdod lleol oedd â chyflenwad pum mlynedd o dir tai a oedd yn barod i'w ddatblygu er gwaethaf y ffaith fod hyn yn ofyniad polisi cynllunio allweddol gan Lywodraeth Cymru. Prif Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn bodloni gofyniad eich Llywodraeth ac yn cynyddu'r safleoedd tai y gellir eu darparu sydd ar gael yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw bod â chynllun datblygu ar waith ac i fodloni'r gofynion o ran cyflenwad tai. Y broblem, wrth gwrs, yw os nad oes cynllun datblygu ar waith, yna nid oes unrhyw ganllawiau ar waith. Y broblem wedyn yw ei fod yn troi'n rhywbeth tebyg i ysgarmes wedyn. Nid yw hynny er budd neb. Mae dau beth, fodd bynnag, yn bwysig. Yn gyntaf oll, mae'n gwbl hanfodol bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd. Nid yw ffiniau gwleidyddol artiffisial yn cael eu cydnabod gan y farchnad dai. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar y de-ddwyrain, ni allwn neilltuo trefniadau cynllunio ar sail ffiniau awdurdodau cynllunio lleol yn unig. Felly, bydd cydweithio yn arbennig o bwysig. Ond hefyd, wrth gwrs, i ddychwelyd at y pwynt a wneuthum yn flaenorol, un peth yw cael cyflenwad o dir ar gyfer y dyfodol, ond peth arall yw sicrhau bod y tir hwnnw ar gael mewn parseli sy'n ddigon deniadol i BBaChau allu cystadlu.
Jest yn parhau â'r thema yma, buaswn i eisiau gwybod a fyddai modd rhoi ffafriaeth bosibl i gwmnïau tai eco. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sydd angen edrych arno o ran cynaliadwyedd y farchnad ac o edrych i wneud ein tai yn fwy cynaliadwy. A oes modd i chi edrych i mewn i hyn fel Llywodraeth er mwyn sicrhau y byddai cynlluniau o'r fath yn cael rhyw fath o flaenoriaeth?
Diddorol. Fel rheol, wrth gwrs, yn y gorffennol, mae hwn wedi cael ei ddelio gyda rheoliadau adeiladu, ynglŷn â'r safonau sy'n cael eu mabwysiadu ynglŷn â thai yn y ffordd honno. Mae'r system gynllunio yn delio â'r ffordd y mae tir yn cael ei ddefnyddio ac nid beth sy'n digwydd ar y tir ynglŷn â safonau adeiladu unwaith mae tai yn cael eu hadeiladu. Ond, wrth ddweud hynny, rwy'n credu bod hynny'n syniad sydd yn werth ei ystyried, ac efallai os gallaf i ysgrifennu yn ôl at yr Aelod gyda mwy o fanylion, fe wnaf i hynny.