1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ebrill 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berchnogaeth gyhoeddus o eiddo manwerthu a masnachol? OAQ52058
Nodir yr egwyddorion arweiniol ar gyfer perchnogaeth Llywodraeth Cymru o eiddo yn ein strategaeth rheoli asedau corfforaethol. Bydd gan gyrff cyhoeddus eraill eu strategaethau asedau perthnasol eu hunain. Wrth gwrs, ers dod â Maes Awyr Caerdydd yn ôl i berchnogaeth y Llywodraeth, bu'n llwyddiant rhyfeddol, ac edrychaf ymlaen at awyren gyntaf Qatar Airways yn cyrraedd yr wythnos nesaf.
Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at weld y teithiau Qatar hynny yn cychwyn. Prif Weinidog, ar 11 Ebrill, dywedodd Ken Skates na fu unrhyw drafodiad yn gysylltiedig â gorsaf fysiau arfaethedig Caerdydd a fyddai'n creu rhwymedigaeth ar gyfer treth dir y dreth stamp na threth trafodiadau tir. Ac eto, ar 18 Ebrill, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r safle yn ddiweddar gan Gyngor Caerdydd am £12 miliwn. A wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno, cyfnewid a chwblhau cytundeb mor fawr a chymhleth mewn llai nag wythnos, neu a yw rywsut wedi ceisio osgoi ei huwch-dreth ei hun o 6 y cant ar drafodiadau tir?
Na, ni chafwyd mantais dreth gennym o o ganlyniad i gwblhau'r trafodiad hwn o dan SDLT yn hytrach nag LTT. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod o hynny.
Ar yr un pwnc hwn, sy'n amlwg o ddiddordeb mawr i mi, a allwch chi esbonio pam y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd â'r bartneriaeth darparu'r metro arfaethedig hon, o gofio bod nifer fawr o gwmnïau masnachol wedi elwa ar adleoli i'r Sgwâr Canolog a byddwn i wedi disgwyl iddyn nhw wneud yr enillion cynllunio angenrheidiol i adeiladu'r orsaf fysiau yn rhan hanfodol o wneud hyn yn llwyddiant?
Bu'n rhaid i ni ymyrryd gan ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod y metro yn llwyddiannus. Mae gennym ni weledigaeth i'r safle o gwmpas Caerdydd Canolog ddod yn ganolfan drafnidiaeth integredig i ddarparu integreiddiad di-dor rhwng trenau, bysiau, coetsys a'r metro, gan ganiatáu mynediad rhwydd i gerddwyr a chyfleusterau storio i feicwyr, a chyfleusterau ar gyfer tacsis a cheir preifat wrth gwrs, gan ein bod ni'n gwybod mai canolfan drafnidiaeth integredig yw'r ffordd fwyaf effeithiol o lawer i sicrhau y bydd pobl yn defnyddio'r system yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n briodol i'r Llywodraeth gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu calon ein prifddinas er budd pobl Caerdydd ond, wrth gwrs, pobl sy'n byw ymhellach i ffwrdd ac yn gweithio yn y ddinas bob dydd hefyd.