2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis canser y prostad? OAQ52016
Disgwylir y bydd byrddau iechyd yn darparu gofal yn unol â chanllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal mewn perthynas ag atgyfeirio pan fo amheuaeth o ganser a diagnosis o ganser y brostad. Nodir ein dull o gynorthwyo a chefnogi byrddau iechyd yn y cynllun cyflawni canser ar gyfer Cymru.
Y mis diwethaf, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sganio MRI amlbarametrig—neu mpMRI—ar gyfer cleifion y GIG yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Yn dilyn hynny, ysgrifenasoch at glaf yn dweud bod bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu sganiau mpMRI yn unol â chanllawiau cyfredol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer canser y prostad. Dywed y canllawiau y dylid ystyried MRI amlbarametrig
'ar gyfer dynion â biopsi craidd 10-12 uwchsain trawsrectol negyddol i benderfynu ar ba un a oes angen biopsi arall.'
Roedd un o'r dynion hynny roeddech yn ysgrifennu atynt yn un o lawer o ddynion sydd wedi cysylltu â mi yng ngogledd Cymru i ddweud na chawsant gynnig sgan mpMRI yn dilyn biopsi negyddol oni bai eu bod yn talu tua £1,000 i'w gael mewn ysbyty preifat. O gofio mai Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r unig ganolfan yng Nghymru a gymerodd ran yn astudiaeth PROMIS Cymru a Lloegr—astudiaeth ddelweddu MRI y prostad—a ganfu nad yw'r biopsi uwchsain trawsrectol poenus a gynigir gan Betsi Cadwaladr ond 47 y cant yn gywir, tra bo'r sgan mpMRI dros 90 y cant yn gywir, sut y sicrhewch fod dynion yng Nghymru yn cymryd rhan neu'n manteisio ar y prosiect ymchwil £75 miliwn a lansiwyd gan Brif Weinidog y DU, a fydd yn recriwtio 40,000 o ddynion i gymryd rhan mewn treialon i gael diagnosis a thriniaethau gwell ar gyfer y clefyd drwy ddefnyddio sganiau mpMRI?
Mae'r cynllun peilot rydych yn cyfeirio ato yn Lloegr yn gynllun peilot sydd ar waith yn Llundain yn unig, felly nid yw'n gynllun peilot cenedlaethol ar gyfer Lloegr yn gyfan beth bynnag. Mae gennym gynlluniau peilot ar waith yma yng Nghymru mewn amryw o fyrddau iechyd. Fel rwy'n dweud, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth sy'n unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Disgwylir y bydd canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn cael eu diweddaru ym mis Ebrill 2019. Os oes gennym fwrdd wroleg Cymru—unwaith eto, ein clinigwyr yma yng Nghymru—os ydynt yn dod i gonsensws clinigol cyn hynny, gallwn wneud dewisiadau gwahanol ar draws y gwasanaeth, ond ar hyn o bryd, mae'r ddarpariaeth yn seiliedig ar dystiolaeth. Mewn gwirionedd, mae cyfradd foddhad cleifion canser y prostad yng Nghymru yn uchel. Rwy'n fodlon fod byrddau iechyd yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud, ond wrth gwrs, bydd gennym bob amser fwy i'w ddysgu o gynlluniau peilot ym mhob rhan o'r wlad, fel yn wir y bydd gan gynlluniau peilot yn ngogledd Cymru lawer i'w ddysgu i weddill y wlad mewn amryw o feysydd; er enghraifft, ym maes gwahanol y treial parafeddygol uwch yng ngogledd Cymru, lle bydd gwersi i'w dysgu i weddill y wlad o hynny. Mae'n hollol arferol i gael cynlluniau peilot ar gyfer dysgu ganddynt ac yna gwella'r gwasanaeth cyfan—dyna'n union a wnawn gyda chanser y prostad yn ogystal.
Mae'r hyn sydd newydd gael ei amlinellu mewn perthynas â Betsi Cadwaladr hefyd yn wir am Hywel Dda, ac mae gennyf etholwr sydd newydd gael ei hysbysu bod yn rhaid iddo dalu £1,000 am sgan MRI amlbarametrig. Y rheswm am hynny, fel y dywedwch, yw bod canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn sôn am sgan o'r fath yn dilyn biopsi, ond mae gennym fyrddau iechyd yng Nghymru—Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan—sy'n cynnig y sganiau hyn fel adnodd diagnostig rheolaidd, fel sydd newydd gael ei amlinellu, gyda chyfraddau canfod gwell o tua 93 y cant, a llai o risg o waedu, haint a sepsis yn sgil defnyddio peth o'r offer mwy ymyrrol ar gyfer canser y prostad yn dilyn lefelau uchel o antigenau prostad-benodol.
Nid wyf yn deall—ysgrifennais atoch mewn perthynas â'r etholwr hwn—pam fod gennym loteri cod post o'r fath ar ddiagnosis canser y prostad yng Nghymru. Oes, mae gennym ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ond gofynion sylfaenol yw'r rheini. Gan fod gennym dri bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n cynnig mwy, does bosibl na ddylai pob un o'r byrddau iechyd hyn yng Nghymru gynnig mwy, oherwydd fel y dywedwch yn eich llythyr ataf, ceir tystiolaeth sy'n dangos bod hwn yn arfer da. Wel, os yw'n arfer da ac os oes tystiolaeth i'w gefnogi, cynigiwch ef i bawb ac i fy etholwyr i yn Hywel Dda yn ogystal.
Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i Mark Isherwood, mae yna gynlluniau peilot ar waith yng Nghymru. Os oes consensws clinigol newydd yn seiliedig ar dystiolaeth, yng Nghymru, gallwn gyflawni newid ar draws y system gyfan. Dyna ein sefyllfa ar hyn o bryd. Mae yna gynlluniau peilot yn y tri bwrdd iechyd a grybwyllwyd gennych. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny'n tyfu, a byddwn wedyn yn gallu dewis ar sail y dystiolaeth ac ar sail y cyngor clinigol gorau. Tan hynny, nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog iechyd yn dweud eu bod yn dymuno cyfarwyddo'r gwasanaeth iechyd i gynnig gwasanaeth nad yw'n seiliedig ar y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau sydd ar gael.