– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 25 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth. Ac rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud ei ddatganiad, Mick Antoniw.
Diolch i chi, Lywydd. Chwe wythnos yn ôl, ar 7 Mawrth, trafododd y Cynulliad hwn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)'. Roedd ein hymchwiliad a ragflaenodd yr adroddiad hwnnw'n ystyried priodoldeb cwmpas a natur y pwerau dirprwyedig a ddarparwyd yn y Bil i Weinidogion y DU a Chymru, a'r gweithdrefnau y dylid eu defnyddio i graffu ar y ddeddfwriaeth ddirprwyedig honno. O gofio hynt y Bil drwy Dŷ'r Arglwyddi, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y gwelliannau y credem y dylid eu gwneud i'r Bil, ac yn mynd i'r afael â chwestiynau a godwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr at y Llywydd ar 16 Ionawr.
Roedd ein hadroddiad yn gwneud saith o argymhellion, gyda phedwar ohonynt yn argymell gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ac am y rheswm hwnnw, roeddem yn credu ei bod yn bwysig ac yn briodol clywed barn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr argymhellion hynny, ac felly roedd y cynnig a oedd yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol nodi adroddiad y pwyllgor hefyd yn gofyn iddo gymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7. Ac ar 7 Mawrth, cafodd y cynnig ei gymeradwyo'n unfrydol—ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau.
O ganlyniad, ar 22 Mawrth, ysgrifennodd y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn tynnu ei sylw at yr argymhellion yn ein hadroddiad, ac yn dweud y dylai dderbyn y llythyr fel hysbysiad ffurfiol o safbwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran pa welliannau y dylid eu gwneud i'r Bil mewn perthynas â gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan ei ddarpariaeth.
Mae'n bosibl nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, yn dilyn y digwyddiadau rwyf wedi'u crynhoi, fod Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor. Yn ogystal, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â'n hadroddiad ar y Bil ymadael â'r UE a darpariaethau pwyllgor sifftio'r Bil. Yn y ddau ddarn o ohebiaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod argymhelliad 2 ein hadroddiad—y dylai argymhelliad y pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio pan fo'r Cynulliad yn penderfynu fel arall.
Ar 17 Ebrill, ysgrifennais at y Prif Weinidog i gael eglurhad ar y rhesymau dros y dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu. Yn benodol, gofynnais a allai egluro pam, ar ôl iddo anfon llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 5 Chwefror yn dweud mai mater i'r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar faterion sy'n ymwneud â'r pwyllgor sifftio, ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ar 29 Mawrth yn gwrthod argymhelliad a oedd wedi cael ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithrediad y pwyllgor sifftio hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi ymateb i'r llythyr a anfonais ar 17 Ebrill y bore yma, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, a nodaf y sylwadau y mae wedi'u gwneud.
Rwy'n cydnabod bod arweinydd y tŷ, yn ystod dadl y Cyfarfod Llawn, wedi dweud wrth y Cynulliad Cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru yn cadw ei safbwynt ar argymhelliad 2 yn ôl hyd nes y byddai wedi'i ystyried yn drylwyr. Fodd bynnag, ni cheisiodd arweinydd y tŷ ddiwygio'r cynnig i adlewyrchu'r safbwynt hwnnw, a gafodd, fel y nodwyd eisoes, ei gymeradwyo'n unfrydol gan y tŷ cyfan.
Heb niweidio ewyllys y Llywodraeth—neu heb niweidio ewyllys unrhyw Lywodraeth—ni ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod mewn sefyllfa lle mae'n mynegi safbwynt ffurfiol, hollbleidiol, sydd wedyn, neu'n fuan iawn ar ôl hynny, yn cael ei gwestiynu mewn llythyr nad yw'r Cynulliad cyfan yn ymwybodol ohono.
Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Prif Weinidog yn fy llythyr ato ein bod ni, fel pwyllgor, yn bryderus yn gyffredinol ynglŷn â throsglwyddo pŵer o ddeddfwrfeydd i swyddogion gweithredol. Mae'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r materion hyn yn tanseilio braint y ddeddfwrfa. Yn yr un modd, mae'n drysu rolau seneddau a llywodraethau ac yn gwneud y trafodion yn y lle hwn yn anos i aelodau o'r cyhoedd eu deall, a hynny ar draul datganoli.
I wneud pethau'n waeth, yn anffodus, mae dull Llywodraeth Cymru a'r dryswch ynglŷn â rolau bellach wedi cael eu cynnwys mewn memorandwm atodol gan Lywodraeth y DU ar bwerau dirprwyedig yn y Bil ymadael â'r UE. Cafodd y memorandwm ei gyhoeddi ddydd Llun yr wythnos hon, ac mae'n datgan,
Mae Llywodraeth Cymru, ar ôl ceisio barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gofyn am i weithdrefn y pwyllgor sifftio fod yn gymwys lle mae Gweinidogion Cymru yn gosod offerynnau negyddol o dan eu pwerau Atodlen 2.
Ymddengys, felly, fod Llywodraeth y DU wedi cael ei dylanwadu gan safbwyntiau Llywodraeth Cymru yn hytrach na'r Cynulliad Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ar y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys i'r broses o graffu ar y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Felly, croesawaf y llythyr a gefais y bore yma gan y Llywydd, sy'n nodi ei bod yn rhannu pryderon y pwyllgor ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwn.
A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am geisio amddiffyn breintiau'r Cynulliad hwn mor gadarn? Credaf ei bod yn enghraifft arall o'r Weithrediaeth yn mynd yn rhy bell. Dywedwyd wrthym ar ddechrau datganoli y byddem yn gwneud pethau'n wahanol. Byddem yn mabwysiadu'r pethau gorau yn nhraddodiad seneddol Prydain, ond byddem yn sicrhau ein bod yn agored a'n bod yn craffu, yn enwedig ar—yn eironig iawn—is-ddeddfwriaeth. Ac yn awr rydym yn gweld Llywodraeth Cymru yn cyflawni gweithred hynod elyniaethus.
Nid oeddent yn barod i ddadlau eu hachos yn agored, er gwaethaf y ffaith bod hon yn egwyddor hirsefydlog iawn gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn yr ystyr y dylem fod yn gosod y gweithdrefnau ar gyfer y math hwn o is-ddeddfwriaeth a materion hanfodol eraill. Ond o ddifrif, peidio â dadlau'r achos, caniatáu i'r cynnig fynd rhagddo a pheidio â'i wrthwynebu, ond wedyn, mynd ati'n fwriadus i ofyn i Lywodraeth y DU beidio â gweithredu ar ein hargymhelliad. Ac yn wir, nid ydym yn gwybod a ddywedwyd wrthynt beth oedd ein hargymhelliad hyd yn oed oherwydd roedd yr ateb a gawsom yn rhyfedd iawn o ran y sylw a ddarllenwyd gan Mick Antoniw.
Fel y dywedais, mae hyn yn rhan o batrwm cyffredinol gan Lywodraeth Cymru pan fo'n ceisio gosod a marcio ei gwaith cartref ei hun o ran y gweithdrefnau a ddylai fod yn gymwys. A'r amddiffyniad arall yw, 'Wel, mae'r Gweinidogion yn dilyn canllawiau'r Cwnsler Cyffredinol', fel pe bai'r Cwnsler Cyffredinol yn gyfrifol am y math o weithdrefnau y dylai'r ddeddfwrfa eu cymhwyso wrth graffu ar ddeddfwriaeth. Mae'n ddryswch rhyfeddol, ac mae bellach yn bodoli yn y rhan bwysicaf o'r cyfansoddiad, pan fo cymaint o gyfreithiau a oedd o'r blaen wedi'u trosglwyddo i Frwsel yn dychwelyd yma.
Rwy'n credu ei fod yn ofnadwy mewn gwirionedd. A gaf fi sicrhau Mick Antoniw y caiff ein cefnogaeth yn llawn yn ei holl ymdrechion fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i fwrw ymlaen â'r mater hwn a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?
Diolch i chi am y sylwadau hynny, ac rwy'n credu eu bod yn sicr yn adlewyrchu'r safbwyntiau y gobeithiaf fy mod wedi eu mynegi, er nad ydym wedi cael cyfle i gael trafodaeth fanwl ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd, yn amlwg. Pan gyflwynwyd yr adroddiad, gwyrais rhag neges y blaid mewn gwirionedd a gwneud sylw penodol iawn y credwn ei fod yn bwysig, sef: nid lle'r Llywodraeth yw penderfynu ar y system ar gyfer craffu arni hi ei hun. Mae'n rhan sylfaenol o'r ddeddfwrfa. Ac rwy'n credu bod ymateb y Llywodraeth ar y pryd yn gefnogol i hynny mewn gwirionedd. Cydnabyddir hynny. Dyna, bron, yw rheolaeth y gyfraith mewn seneddau. Felly, nid yw'r datganiad hwn yn ymwneud yn gymaint â natur rwymol rôl pwyllgor sifftio; mae'n ymwneud, mewn gwirionedd, â'r egwyddor lle mae'r Llywodraeth yn cytuno, rydym i gyd yn cytuno, mai lle'r Cynulliad yw penderfynu ar y system ar gyfer craffu ar waith y Llywodraeth, a phan dramgwyddir yn erbyn hynny, mae'n sicr yn ddyletswydd arnaf fi, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a'i aelodau, i gamu ymlaen a thynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater o egwyddor.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnaed ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn y llythyr ataf, ond nid wyf yn credu bod amser yn cyfiawnhau tramgwydd o'r fath. Pan ofynnwyd i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol graffu, er enghraifft, ar y Bil parhad ar fyr rybudd, nodaf fod Aelodau wedi mynd i gryn drafferth i sicrhau eu bod ar gael ac wedi rhoi amser i gyflawni'r broses honno mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn na fydd hyn yn digwydd eto.
A gaf fi groesawu'r datganiad gan Gadeirydd ein pwyllgor, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw? Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd a'r rhai a fynegwyd gan David Melding, cyd-Aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Mae hwn yn fater difrifol—mater hollol ddifrifol—oherwydd, ac nid wyf am ailadrodd yr hanes eto, ond yn amlwg, mae yna bob amser densiwn rhwng llywodraethau a'u deddfwrfeydd unigol. Diau y byddwn yn clywed, yn hwyrach y prynhawn yma, am densiwn y pwerau a gollwyd rhwng y lle hwn a San Steffan, ond mae hwn yn fater o bwerau a gollwyd rhyngom ni a'r Llywodraeth—cipio pŵer yn fewnol, os mynnwch chi, rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad ei hun.
Mae argymhelliad 2, a basiwyd yn unfrydol yma, yn dweud
'Dylai’r argymhelliad a wneir gan y pwyllgor sifftio o dan argymhelliad 1 fod yn orfodol, oni bai fod y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall. Dylid adlewyrchu’r gofyniad hwn ar wyneb y Bil.'
Mae'n rhaid i mi ddweud nad hwn yw'r darn mwyaf radical o ddeddfwriaeth i ni ei basio yn y lle hwn. Rydym wedi cytuno'n unfrydol ac mae'n rhoi'r cyfrifoldeb yn gadarn ar ysgwyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle y dylai fod, o ran pwysigrwydd gwaith craffu yn y lle hwn. Mae'n ddigon anodd sicrhau bod gwaith craffu'n cael ei gyflawni'n ddigon manwl fel ag y mae, gyda'r gwahanol bwysau sydd arnom, ac yn amlwg, tua 40 yn unig o Aelodau'r Cynulliad sy'n gallu cymryd rhan yn y broses graffu honno yn gyfreithlon, ac yna pan fydd pethau'n cael eu cymryd oddi arnom, pethau y credem eu bod wedi'u cytuno'n flaenorol, nid yw hynny'n gwneud synnwyr.
Hefyd, mewn gohebiaeth, mae wedi creu embaras, nid yn unig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ond hefyd, buaswn yn dadlau, i'r Llywydd yma, ein bod wedi cytuno ar safbwynt a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi darganfod wedyn fod y safbwynt a gytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiystyru gan y Prif Weinidog yma heb drafod gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, mae'n bwynt dadleuol i ofyn pa werth y gallwn ei roi ar bleidleisiau unfrydol sy'n cael eu bwrw a'u pasio yn y ddeddfwrfa hon pan fo'r Prif Weinidog wedyn yn gallu gwrthod un o'r prif argymhellion a basiwyd yn unfrydol, a hynny heb rybudd, fel y dywedodd Mick Antoniw.
Y pwynt pwysig arall, mewn perthynas â'r Bil ymadael â'r UE ei hun, a diau y byddwn yn trafod hwnnw'n fwy manwl yn y datganiad nesaf, yw bod blaenafiaeth Gweinidogion Cymru dros y ddeddfwrfa yma yn y Senedd, o ran y broses sifftio, wedi gwneud ei ffordd i femorandwm atodol Llywodraeth y DU ar bwerau dirprwyedig yn y Bil ymadael â'r UE ei hun. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae'n tanseilio'r prosesau gwneud penderfyniadau yn y Cynulliad hwn y mae pawb ohonom yn Aelodau balch ohono.
Rwy'n gofyn am sicrwydd. Nodaf yr holl gyfathrebiadau sydd wedi cael eu hanfon a'r ymddiheuriadau, ond yn y pen draw, nid yw hyn yn ddigon da ac mae'n arwydd gwael o'r ffordd y mae gweddill y negodiadau'n mynd rhagddynt o ran y Bil ymadael â'r UE yn ei gyfanrwydd os na allwn wneud y pethau hyn yn gywir.
Gall y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymateb mewn argyfwng. Gwnaethom hynny o fewn un diwrnod gyda'r Bil parhad, er nad oedd David Melding, i fod yn deg, ar sail polisi—er nad yw'n fater cyfreithlon ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—wedi cymryd rhan lawn yn y weithdrefn honno. Llwyddasom i unioni sefyllfa frys mewn un diwrnod. Felly, nid yw dadl y Prif Weinidog fod brys y sefyllfa'n drech na'n hargymhelliad yn dal dŵr, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach ar y mater. Diolch yn fawr.
Diolch ichi am y sylwadau hynny. Mae hwn yn fater o egwyddor gyfansoddiadol mewn perthynas â gwahanu pwerau. Gwyddom fod pob un ohonom wedi pryderu'n ddifrifol ynghylch y trosglwyddo pwerau difrifol iawn a'r ffordd y bydd yn rhaid arfer pwerau o ganlyniad i'r Bil ymadael a'r datblygiadau'n ymwneud â Brexit. Mae pawb ohonom wedi mynegi'r pryderon difrifol ac wedi cydnabod yr heriau gwirioneddol a'r peryglon sy'n bodoli mewn perthynas ag arfer pwerau Harri VIII.
Mae'r rheswm dros gyflwyno'r datganiad hwn heddiw yn syml iawn: mae'n fater o bwys a'r perygl, pe na bai'n cael ei herio yn y cyfnod hwn, yw y byddai cynsail yn cael ei sefydlu. Felly, fy ngobaith yw y cydnabyddir yr egwyddor hon o wahanu pwerau a hefyd na ddylai'r hyn a ddigwyddodd osod cynsail mewn perthynas ag unrhyw faterion yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag arfer pwerau Harri'r VIII.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor.