1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Mai 2018.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cefnffyrdd yn Nwyrain De Cymru? OAQ52110
Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi ein hymrwymiadau o ran gwelliannau i gefnffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys y de-ddwyrain.
Diolch. Mae'r newidiadau diweddar i gylchfan Rechem yr A4042 ym Mhont-y-pŵl wedi achosi tarfu enfawr i drigolion lleol a chymudwyr, ac rwyf i wedi derbyn nifer fawr iawn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch yr oediadau mawr yn ogystal ag ofnau ynghylch diogelwch y ffordd. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion Llywodraeth Cymru am gytuno i gyfarfod â mi yn ddiweddarach y prynhawn yma i drafod newidiadau arfaethedig a allai ddatrys yr hyn sy'n cael ei cyflwyno gan ddatblygwr yr ystâd dai gyfagos. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru, gan weithio'n agos â'r datblygwyr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn ystyried hyn yn fater o flaenoriaeth, ac y bydd system newydd yn cael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl?
Ydy, fel y deallaf, fel y dywedasoch nawr, Lynne Neagle, mae'r swyddogion trafnidiaeth yn cyfarfod â chi ar ôl y sesiwn hon i drafod y mater yn fanylach, ac rydym ni wedi derbyn nifer o bryderon ynghylch y cynllun ffordd newydd ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol a'r datblygwr sy'n gyfrifol am wneud y gwaith a'i ddyluniad i roi sylw i'r sefyllfa fel mater o frys. Rwy'n deall ei bod yn debygol y bydd yn rhaid newid y marciau ffordd a gyflwynwyd yn ddiweddar i wella llif y traffig, a bydd hyn yn cymryd peth amser i'w wneud oherwydd yr archwiliadau diogelwch y mae angen eu cwblhau. Felly, yn y cyfamser, bydd y terfyn cyflymder 40 mya dros dro yn parhau, a bydd lonydd newydd a ddarparwyd yn parhau i fod ar gau i draffig er mwyn cynnal diogelwch. Mae'r gwaith yn cael ei wneud i gynyddu capasiti'r gylchfan, fel y gwn y mae hi'n ei wybod, i ddarparu ar gyfer y datblygiadau newydd yn yr ardal. Mae'r swyddogion yn fwy na hapus i weithio gyda chi i ddatrys y problemau.
Y prosiect i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yw'r cynllun adeiladu ffyrdd mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth raglen gynhwysfawr ac adolygiad cost o'r prosiect oherwydd yr oedi o ran targedau cwblhau a chanddynt oblygiadau cost sylweddol. A wnaiff y Prif Weinidog dros dro nodi'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, ac a wnaiff hi ymrwymo ei Llywodraeth i wneud datganiad yn y Cynulliad ar y mater pwysig hwn cyn gynted ag y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau?
Gwnaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos i mi ei fod yn fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau trwy gyfrwng datganiad.
Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o sgandal iechyd y cyhoedd yr A472 rhwng Crymlyn a Hafodyrynys. Nid yw'n gefnffordd Llywodraeth Cymru, ond roeddwn i'n meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ei hailddosbarthu fel cefnffordd Llywodraeth Cymru. Mae'n llwybr pwysig, wedi'r cyfan, i'r rhanbarth ac i'r ardal, ond yn bwysicach, gydag adnoddau Llywodraeth Cymru, efallai y gellid datrys problemau iechyd y cyhoedd y gefnffordd honno yn well.
Mae gen i ofn nad oes gen i unrhyw fanylion am y ffordd y mae'r aelod yn sôn amdani. Byddwn yn fwy na pharod i wneud yn siŵr yr ysgrifennir ato gyda'r manylion.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn croesawu'r manteision economaidd posibl y mae Trago Mills yn amlwg yn mynd i'w cynnig i Ferthyr Tudful a'r cyffiniau, ond mae ei leoliad yn uniongyrchol oddi ar gylchfan Cyfarthfa ar yr A470 yn achos pryder parhaus. Aeth rheolaeth agoriad Trago Mills y penwythnos diwethaf yn dda iawn mewn gwirionedd ac rwy'n meddwl ei fod yn dda iawn yn gyffredinol, ond mae'r traffig yn parhau i fod yn drwm iawn yn yr ardal, o gofio bod gennym ni barc manwerthu Cyfarthfa yn union gyferbyn hefyd, ac rwy'n siŵr bod y penwythnos gŵyl y banc hwn sydd ar fin dod yn mynd i fod yn dipyn o hunllef i fyny yn y fan honno. Rwy'n credu bod y broblem i raddau helaeth oherwydd y ffaith y rhoddwyd caniatâd cynllunio i ddatblygu Trago Mills tua 20 mlynedd yn ôl pan oedd traffig yn llawer ysgafnach ac nad oedd y datblygiadau manwerthu eraill yno.
Felly, a allwch chi fy sicrhau i o ddau beth, os gwelwch yn dda: un yw y bydd ateb parhaol hirdymor i leddfu'r pwysau i drigolion lleol yng Nghyfarthfa; ac a allwch chi hefyd gadarnhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu'r terfynau amser ar ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau o'r fath, nad ydynt yn rhoi unrhyw ystyriaeth i amgylchiadau yn newid mewn ardal dros gyfnod mor hir o amser?
Diolch am godi hynna. Rydym ni'n gwbl ymwybodol o bwysigrwydd coridor strategol yr A470. Mae'r darn o'r ffordd o gwmpas Trago Mills wrthi'n cael ei ymchwilio a'i arfarnu y unol â gofynion canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, a adnabyddir fel WelTAG. Mae seibiant yn yr astudiaethau ar hyn o bryd tra bod y patrymau traffig a'r galw ansefydlog yn dychwelyd i'r amodau cyfartalog ar ôl agor siop Trago Mills, y gwyddom ei fod wedi cynyddu galw yn sylweddol.
Disgwylir i'r cyfnod ymsefydlu bara tua chwe mis, ac ar yr adeg honno bydd yr astudiaeth yn ailddechrau trwy brofi tueddiadau a ragwelir gyda'r rhai sy'n hysbys ar ôl agor Trago Mills. Bydd y profion sensitifrwydd yn hysbysu'n well priodoldeb yr atebion tymor hwy a gynigir. Ar ôl i'r astudiaethau cyfnod 2 ar hyd y coridor gael eu cwblhau a'u harfarnu, bydd ymyraethau trafnidiaeth i fynd i'r afael â thagfeydd yn cael sylw. Disgwylir i hynny gael ei gwblhau erbyn dechrau 2019, a cheir mesurau tymor canolig i fwrw ymlaen â nhw yn y cyfamser.
Mater i awdurdodau cynllunio lleol ei ystyried yw'r mater ynghylch y terfynau amser ar gyfer caniatâd cynllunio yn ymwneud â datblygiadau mawr. Gwn fod gan Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr y bydd yr awdurdod lleol a chithau yn ymateb i hwnnw. Yn yr achos hwn, fel y gwyddoch, gwnaed y penderfyniad ynghylch caniatâd cynllunio ym 1994 gan awdurdod cynllunio Morgannwg Ganol ac roedd yn cynnwys gwelliannau i'r briffordd a oedd yn briodol i raddfa'r datblygiad ar y pryd, ond, fel y mae'r Aelod wedi ei amlygu, mae'r sefyllfa honno wedi newid i raddau helaeth iawn. Felly, bydd yr astudiaethau yn llywio gwelliannau i'r ffordd ar ôl i'r traffig ymsefydlu unwaith eto.