2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer hawl ddigolledu gyfreithiol o dan Gonfensiwn Sewel? OAQ52095
A buaswn yn gwerthfawrogi ateb nad yw'n dweud wrthyf nad wyf yn deall y mater, os gwelwch yn dda.
Er bod y Goruchaf Lys wedi dweud nad yw confensiwn Sewel yn rhwymol yn gyfreithiol, mae hefyd wedi pwysleisio bod y confensiwn yn chwarae rhan sylfaenol yng nghyfansoddiad y DU. Rydym yn disgwyl i'r Senedd barchu ewyllys y Cynulliad, a pheidio â bwrw ymlaen â deddfwriaeth sy'n addasu cymhwysedd y Cynulliad, neu'n effeithio ar faterion datganoledig, heb gydsyniad y Cynulliad.
Cadarnhaodd achos Miller yn erbyn y Goron nad yw confensiwn Sewel yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Yn wir, ar o leiaf saith achlysur, mae San Steffan wedi gorfodi deddfwriaeth ar Gymru heb ei chydsyniad. O dan y cytundeb Llafur-Torïaidd ar y Bil ymadael, ceir diffiniad newydd o 'gydsyniad'. Defnyddir dadleuon semantaidd gan Weinidogion i ddadlau bod y diwygiad hwn i'r Bil yn cyfateb i ofyniad am gydsyniad i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Mewn gwirionedd, mae'r gwelliant yn dweud yn benodol os caiff cynnig yn gwrthod cydsyniad ei basio yn y Cynulliad hwn, gall y Senedd barhau i osod ei deddfwriaeth. A all y Cwnsler Cyffredinol roi enghraifft arall imi yn y ddeddfwriaeth lle mae 'na' yn golygu 'ie'?
Roedd dyfarniad Miller yn glir iawn nad oedd confensiwn Sewel yn draddodadwy, ni allai fod yn sail i'r cais yn y llys. Ond roedd hefyd yn glir iawn fod iddo'r pwys gwleidyddol cryfaf posibl, ar wahân i fod ar gael fel sail i gais. Ac fel y soniais yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, roedd y Goruchaf Lys yn ystyried honno fel nodwedd barhaol o'r setliad datganoli. Cyn i gonfensiwn Sewel gael ei ymgorffori mewn statud, roedd wedi'i ddefnyddio tua 100 o weithiau, rwy'n credu—y ceisiadau a wnaed i'r Siambr hon—ac ni chawsant eu diystyru gan Senedd y DU pan dderbyniodd y Llywodraeth yn y DU fod angen cydsyniad. Felly, mae cryfder confensiwn Sewel wedi'i hen sefydlu.
Mae'r pwynt y mae'n ei wneud yng nghyswllt y penderfyniad cydsynio—mae'r iaith yn y gwelliant yn cyfeirio at benderfyniad cydsynio, h.y. y pwynt pan fo'r Cynulliad hwn neu Senedd yr Alban yn gwneud penderfyniad naill ai i roi cydsyniad neu i beidio â chydsynio. Mae hynny'n ymwneud ag amserlennu sut y gall y Gweinidogion yn San Steffan gyflwyno rheoliadau yno. Mae'n gwbl glir yn y cytundeb rhynglywodraethol y bydd rheoliadau'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel, h.y. na fydd Senedd y DU fel arfer yn ceisio deddfu heb gael cydsyniad y lle hwn.