Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch am yr atebion a roddwyd gennych. Hoffwn eglurhad pa un a oeddech yn golygu y byddai Rhosydd Baglan yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw restr sydd gennych. Credaf mai dyna sy'n peri'r dryswch. Heb ystyried y trafodaethau ystyrlon, a allwch gadarnhau ar gyfer y cofnod hyd yn oed pe baech, er enghraifft—nid y buaswn yn hapus â hyn—yn llunio rhestr a fyddai'n awgrymu y dylid ystyried ardaloedd eraill yn ne Cymru, na fyddech wedyn yn cynnwys Rhosydd Baglan ar y rhestr honno? Rwy'n deall eich bod wedi cyfarfod ag AC, David Rees, a chynghorwyr eraill o Bort Talbot, lle y dywedoch yn y cyfarfod hwnnw fel rwy'n deall, er nad oeddwn yn bresennol i allu dyfynnu ohono, y byddech chi felly yn tynnu Rhosydd Baglan oddi ar y rhestr honno. Ond yn y llythyr dilynol at y cynghorydd hwnnw, ni roesoch hynny ar bapur. Felly, os na lwyddoch i wneud hynny bryd hynny, a allwch chi wneud hynny yma heddiw, fel y gallwn fod yn glir ynglŷn â'n cyfeiriad gyda'r ymgyrch, os nad unrhyw beth arall?