3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest? 169
Diolch. Mae arweinydd y tŷ, fel Gweinidog arweiniol Llywodraeth Cymru ar gyfer Swyddi Gwell yn Nes at Adref, wedi cyflwyno nifer o sylwadau i Lywodraeth y DU, ac yn benodol i'r Gweinidog cyflogaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn nodi pryderon difrifol Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r cynnig hwn.
Diolch am hynny, ac fe ymunaf â fy nghyd-Aelodau—Julie Morgan, Lynne Neagle, John Griffiths, Jayne Bryant a Dawn Bowden—sydd wedi mynegi pryderon am yr effaith yn eu hetholaethau, a diolch hefyd i Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol sydd wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym y wybodaeth lawn ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd yma. Cafwyd llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac nid oedd ei esboniad mor llawn ag y byddem wedi hoffi iddo fod. Yng Nghaerffili, mae gennym 225 aelod o staff a gyflogir yn nghanolfan budd-daliadau Caerffili. Mae nifer o fy etholwyr yn gweithio ar safleoedd eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau yn etholaethau fy nghyd-Aelodau, ac rwy'n weddol siŵr y bydd yr Aelodau eraill yn dymuno mynegi pryderon—rhai nad wyf wedi'u crybwyll heddiw. Bydd cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau ar Stryd y Castell yn enwedig yn effeithio'n andwyol ar gyflogaeth a nifer yr ymwelwyr â chanol tref Caerffili. Bydd yn mynd â swyddi o ardal sy'n agos at fannau preswyl, yn agos at siopau, ar adeg pan ydym yn ceisio rhoi hwb i ganol tref Caerffili. Mae hyn yn mynd yn gwbl groes i gyhoeddiad cadarnhaol iawn heddiw am dwristiaeth yng nghastell Caerffili, ac ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i sut y bydd trigolion yng Nghaerffili yn cyrraedd y safle hwn mewn car.
Yn y llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, roeddent yn dweud eu bod eisiau cadw cynifer â phosibl o gydweithwyr Adran Gwaith a Phensiynau—cadw cynifer â phosibl o gydweithwyr. Mae'n amlwg, felly, eu bod yn rhagweld y byddant yn colli rhai pobl na fydd yn gallu cyrraedd y lleoliad newydd. Felly, byddwn yn gweld gweithwyr newydd yn cael eu recriwtio yn y lleoliad newydd, ond yn bendant ni fyddant yn swyddi newydd. Bydd yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i bobl o Gaerffili gyrraedd yno, ac felly, mae'n ddatganiad camarweiniol i hyd yn oed awgrymu y byddai unrhyw un o'r rhain yn swyddi newydd.
Bydd yn rhaid i'r rheini nad ydynt yn cytuno â chael safle newydd deithio i'r gwaith, fel y dywedais, mewn car, ac mae tagfeydd ym masn Caerffili eisoes yn broblem. Buaswn yn bryderus iawn i weld problemau'n cael eu hychwanegu at hynny. Hefyd, mae'n mynd yn groes i'n huchelgais ein hunain i sicrhau swyddi gwell yn nes at adref, a'r hyn a oedd yn peri pryder i mi yn arbennig oedd bod llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yn siarad am weithio gyda strategaeth 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Yn bendant nid yw'n gwneud hynny. Mewn gwirionedd, mae'n gwneud y gwrthwyneb llwyr i hynny. A chefais fy nharo gan y ffaith bod y llythyr cyntaf a gefais gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan Lywodraeth y DU, wedi'i gyfeirio at David Hefin AC, sy'n awgrymu nad ydynt yn gwybod fawr ddim am waith y Cynulliad hwn, gan ei gwneud yn fwy gwarthus byth eu bod yn ceisio clymu'r cyhoeddiad hwn wrth strategaeth nad ydynt, yn ôl pob tebyg, yn gwybod dim amdani.
Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y bydd swyddi cynaliadwy sy'n talu'n dda yn aros yn ein trefi yn y Cymoedd, ond hefyd, i balu'n ddyfnach i'r hyn sy'n digwydd yma mewn gwirionedd, a'r materion y credaf yn siŵr y byddai fy nghyd-Aelodau eisiau eu codi yn rhan o'r cwestiwn hwn?
Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â phwysigrwydd cael y mathau hyn o swyddi yng nghanol ein trefi, o ran nifer y bobl sy'n dod i ganol trefi a sicrhau bod gennym ganol trefi bywiog. Felly, mae'r newyddion hwn yn siom fawr. Cytunaf yn llwyr â'ch sylwadau ynglŷn â Swyddi Gwell yn Nes at Adref, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gwnaeth Julie James ei ddwyn i sylw yr Adran Gwaith a Phensiynau yn un o'i llythyrau cynharach, lle y dywed,
Mae'r penderfyniadau hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Swyddi Gwell yn Nes at Adref a byddant yn effeithio ar rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gynorthwyo pobl i gael gwaith yn yr ardaloedd hyn ac rydym hefyd yn darparu buddsoddiad strategol i ddenu swyddi da gyda llwybrau gyrfaol clir i weithwyr yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Felly, mae adleoli staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghwmbrân a swyddfeydd eraill sydd wedi'u clustnodi ar gyfer cau yn symud llawer o swyddi da yn gwbl groes i'r polisi hwn.
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr â'ch asesiad o'r sefyllfa, o ran ei fod yn gwrthwynebu'n fawr yr hyn y ceisiwn ei gyflawni ar gyfer y Cymoedd.
Rydych yn gywir, David Hefin, nad yw'r Torïaid yn deall y Cymoedd o gwbl, ac am y rheswm hwn tynnodd Julie James fap o'r Cymoedd allan er mwyn dangos i Damian Hinds mewn cyfarfod nad yw trafnidiaeth yng Nghymoedd de Cymru mor syml ag y byddech yn dychmygu. Ond roedd hi'n amlwg nad oedd y dadleuon hyn ynglŷn â pha mor anodd yw hi i staff allu cyrraedd safle Trefforest yn ei argyhoeddi, felly ni chawsant unrhyw effaith ar y penderfyniad a wnaed.
O ran unrhyw golledion swyddi posibl, buaswn yn rhoi ymrwymiad Llywodraeth Cymru y byddem yn gweithio'n rhagweithiol gydag unigolion drwy ein rhaglen ReAct, a rhaglenni eraill, er mwyn cynorthwyo pobl i gael gwaith newydd, ond yn amlwg nid dyma ble yr hoffem fod.
Hoffwn ategu, Weinidog, ei bod hi'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth y DU yn chwilio am amddiffyniad gwleidyddol am y penderfyniad a wnaethant drwy geisio ei egluro, yn rhannol o leiaf, yn nhermau cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ar leoliad swyddi ac adleoli swyddi i'r Cymoedd, oherwydd, yn ogystal â Swyddi Gwell yn Nes at Adref yn symud i'r cyfeiriad croes i'r sail resymegol honedig honno, mae gennym hefyd, wrth gwrs, bolisi Llywodraeth Cymru i adfywio canol trefi a dinasoedd. Yng Nghasnewydd, er enghraifft, lleolir tua 370 o swyddi yn Sovereign House yng nghanol y ddinas, yn y swyddfa budd-daliadau a fyddai'n cael ei hadleoli. Felly, byddai hynny wedyn yn mynd yn groes i bolisi o geisio dod o hyd i ddefnydd ar gyfer y safleoedd canol dinas hyn, a hefyd yn mynd â gwariant allan o'r economi leol. Felly, byddai'n gwbl groes i elfen bwysig o bolisi Llywodraeth Cymru, ac yn effeithio'n fawr ar economi canol dinas Casnewydd.
Diolch yn fawr iawn, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael pobl i fyw a gweithio yng nghanol ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd bywiog iawn. Felly, unwaith eto, cytunaf yn llwyr â'r sylwadau hynny a'r pryderon a fynegwyd gennych, am yr effaith y gallai colli cynifer o swyddi o leoliad canol tref ei chael ar allu busnesau bach, er enghraifft, yn yr ardal i aros yn gynaliadwy.
Mae hefyd yn groes i'n gwaith gyda thasglu'r Cymoedd. Oherwydd, unwaith eto, dywedodd Julie James wrth Damian Hinds fod swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu gweinidogol ym mis Medi 2016 i weithio gyda chymunedau yng Nghymoedd de Cymru dros dymor y Cynulliad hwn, gyda ffocws ar greu swyddi o ansawdd da yn y Cymoedd, ac mae'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i allu cael y swyddi hynny wedi'u nodi fel blaenoriaeth gynnar. Ac roedd hi'n glir iawn pan ddywedodd,
Mae'r camau yr ydych yn eu hargymell yn tanseilio'r dull polisi hwn yng Nghymru, sy'n ymwneud â sicrhau bod rhan o'r twf a welwyd i'r de o goridor yr M4 yn cael ei dwyn i mewn i'r Cymoedd, ac fe'ch anogaf i ailystyried eich argymhellion i ddiogelu swyddi yn y cymunedau hyn.
Felly, mae eich asesiad fod Llywodraeth y DU yn ceisio cuddio y tu ôl i bolisi Llywodraeth Cymru yn gywir unwaith eto, ond rydym wedi bod yn glir iawn gyda hwy drwy'r cyfan fod yr hyn y maent yn ei awgrymu mewn gwirionedd yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru.
Weinidog, mae'r penderfyniad i agor canolfan newydd ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhrefforest wedi cael ei groesawu gan arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn dod fel y mae wedi cyhoeddiadau y bydd pencadlysoedd Trafnidiaeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Awdurdod Cyllid Cymru oll yn cael eu lleoli yno—yn fwy tebygol, po fwyaf o gyflogaeth y mwyaf o draffig a'r mwyaf o bopeth, datblygiad a fydd yn mynd i'r ardal honno, sy'n newyddion da.
A wnaiff y Prif Weinidog groesawu sicrwydd yr adran y bydd yn edrych ar rolau eraill ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Merthyr Tudful, Cwmbrân a Chaerffili nad ydynt yn gallu adleoli i Trefforest? A wnaiff hi ymgymryd i drafod camau gyda'i chyd-Aelodau i liniaru unrhyw golledion swyddi posibl, megis trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn lleddfu'r effaith ar y cymunedau hynny, yn enwedig yng Nghymoedd y de-ddwyrain a'r cylch? Diolch.
Credaf mai'r peth lleiaf y gallai cyflogwr cyfrifol ei gynnig fyddai dod o hyd i swyddi eraill ar gyfer pobl sydd wedi canfod bod eu swyddi wedi'u symud i le sy'n gwbl anymarferol iddynt fynd iddo. Bydd yn rhaid wynebu rhai heriau trafnidiaeth, heb amheuaeth, o ran sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd y safle newydd yn Nhrefforest, a dyna un o'r rhesymau pam yr oedd Julie James mor glir ynglŷn â darparu'r map i Weinidog Llywodraeth y DU. Rydym wedi cael peth cadarnhad, yn yr wythnos diwethaf yn unig, o'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn dweud y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cymorth gyda chostau teithio am gyfnod o dair blynedd, ar gyfer costau ychwanegol at y costau presennol. Ond unwaith eto, ychydig iawn o gysur y mae hynny'n ei gynnig i bobl sy'n wynebu eu swyddi'n cael eu symud i rywle y tu hwnt i'w rhwydweithiau eu hunain, a lle y gwelant amharu ar eu hymrwymiadau gofalu ac ati.
Credaf fod bwriadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer yr adleoli hwn wedi bod yn hysbys ers peth amser, ond ni fyddem yn gwybod am y safle arfaethedig oni bai bod y wybodaeth wedi'i datgelu heb ganiatâd—yn awr y mae'n cael ei gadarnhau. Mae'n amlwg, o dan y cynnig hwn, yn fy etholaeth i yn unig, y byddwn yn colli mwy na 250—260 o swyddi, yn wir—o Ferthyr, i Drefforest. A hoffwn ailadrodd yn union yr hyn y mae Hefin a John eisoes wedi'i ddweud am hynny. Oherwydd, er nad yw'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn cael eu colli i'r sefydliad, maent yn cael eu hadleoli, a bydd y trefi y maent yn cael eu hadleoli ohonynt yn cael eu niweidio'n economaidd heb rithyn o amheuaeth. Ni allwch dynnu 260 o swyddi o dref fel Merthyr a disgwyl na fydd unrhyw effaith o gwbl.
Er bod staff yn cael cynnig adleoli, i lawer ni fydd yn opsiwn, oherwydd yr amserau teithio ychwanegol a'r costau sydd ynghlwm wrth symud, a'r anawsterau y mae'n mynd i'w hachosi i rai â chyfrifoldebau gofalu, er enghraifft. Ac mae etholwyr eisoes wedi sôn wrthyf nad ydynt yn mynd i allu symud am y rhesymau hynny. Ac yn wir, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau eu hunain wedi nodi wrth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol fod o leiaf 600 o'r staff hynny yn mynd i fod 'y tu hwnt i symudedd' fel y maent yn ei alw; mewn geiriau eraill, dyna'r rhai na fydd modd eu hadleoli—ceir 600 o staff na fydd modd eu hadleoli. Felly, yn amlwg byddai gennym ddiddordeb mewn gwybod beth fydd yn digwydd iddynt hwy.
Fel Hefin, synnais innau hefyd weld y llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau at Aelodau'r Cynulliad yr effeithir ar eu hetholaethau—fe gawsant fy enw'n gywir, o leiaf—yn dweud bod y symudiad yn cefnogi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', ac y byddai'r rhain yn dod â swyddi i'r Cymoedd. Rwyf wedi ysgrifennu'n ôl at yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthynt—
A wnewch chi ddod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
—beth sydd ei angen ar ein strategaeth mewn gwirionedd, fel eu bod yn gwybod nad mater o adleoli swyddi sydd eisoes yn bodoli ydyw, ond eu rhoi mewn lleoedd mwy hygyrch mewn gwirionedd.
Y cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn oedd, yn gyntaf, a yw'r Adran Gwaith a Phensiynau mewn gwirionedd wedi trafod y cynlluniau ar gyfer adleoli gyda Llywodraeth Cymru, cynlluniau sydd i'w gweld fel pe baent yn seiliedig ar brosiect menter cyllid preifat, neu brosiect a ariennir gan PFI, sydd, fel y gwyddom, yn y tymor hir yn mynd i fod yn faich enfawr ar bwrs y wlad. Ac yn olaf, os gallech ailadrodd—. Credaf eich bod wedi sôn yn gynharach am rai o'r dulliau cymorth a allai fod ar gael—y rhaglen ReAct, ac ati. Beth y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y bobl hynny—y 600 o bobl—sy'n amlwg yn mynd i gael eu dadleoli ac nid eu hadleoli o ganlyniad i'r symud?
Diolch ichi am y cwestiynau hynny ac mewn gwirionedd, eironi mawr yn hyn yw'r ffaith bod rhai o'r lleoedd y bydd swyddi'n symud ohonynt yn ganolfannau strategol mewn gwirionedd yn nhasglu'r Cymoedd. Felly, mae'n ddadl gwbl hurt fod Llywodraeth y DU mewn unrhyw ffordd yn ceisio cefnogi'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni ar gyfer cymunedau'r Cymoedd.
Rydych chi'n gywir hefyd fod y newyddion wedi dod yn amlwg yn gyntaf ar ôl cael ei ddatgelu heb ganiatâd. Ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw rybudd yn ei gylch, felly roedd arweinydd y tŷ yn glir iawn ei bod yn hynod o siomedig nad ymgynghorodd Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru i geisio atebion amgen cyn gwneud penderfyniadau. Ac ar bob pwynt mae hi wedi bod yn glir iawn ei bod yn awyddus i'w swyddogion weithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar atebion amgen, gan gynnwys, er enghraifft, cydleoli lle bo hynny'n ymarferol gyda Llywodraeth Cymru. Ond unwaith eto, ni chafodd y cynigion hyn i helpu ac i weithio ar y cyd mo'u derbyn.
Mae'r problemau trafnidiaeth yn real iawn o ran gallu pobl i symud o'ch cymuned i Drefforest i wneud eu gwaith. Rydym newydd gael y datganiad ar benderfyniad Virgin i gau eu ffatri yn Abertawe, a chynnig swyddi i bobl yn Manila. Wel, waeth i Drefforest fod yn Manila i rai pobl sydd yn y sefyllfa hon, oherwydd mae'n hollol anymarferol.
Gwn fod Julie James wedi cynnig cynnal trafodaethau i edrych ar bethau fel opsiynau trafnidiaeth cymunedol ac ati, ond eto ymdrechion bach iawn yw'r rhain y gallwn eu gwneud i geisio gwneud y sefyllfa'n well. Ond ar bob cam, rydym wedi gwrthwynebu'r symud.
Hoffwn ddiolch i Hefin David am godi'r mater hwn ac fel y dywedwyd, nid oes unrhyw amheuaeth fod hyn yn mynd yn groes i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer swyddi yn nes at adref. Bydd yn golygu adleoli 365 o swyddi o galon Casnewydd, a bydd effaith ganlyniadol ar yr economi leol ac ar nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas. Mae'r staff yn Sovereign House yn haeddu gwell, fel y mae'r holl staff mewn swyddfeydd eraill sy'n cau yng Nghymru.
Nid yw'r swyddi sy'n symud i Drefforest yn swyddi newydd. Mae'n ymddangos bod y penderfyniad hwn wedi ei wneud gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o amseroedd cymudo'r staff y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd, nac o ddaearyddiaeth Cymru. Gallai ychwanegu o leiaf awr ychwanegol bob ffordd ar deithio ar y trên o Gasnewydd roi pwysau enfawr ar rieni a neiniau a theidiau, a phobl â chyfrifoldebau gofalu. I rai sy'n teithio mewn car, rwy'n deall mai lle parcio i 450 o geir yn unig sydd yn y cais cynllunio yn Nhrefforest, sydd i'w weld yn gwbl annigonol i'r 1,700 o bobl a fydd yn gweithio yno.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi methu â chydnabod y baich ariannol ychwanegol y bydd y gweithwyr hyn yn ei wynebu oherwydd y teithio pellach, er fy mod yn clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud heddiw mai am gyfnod dros dro y bydd hynny. Ond nid oes amheuaeth gennyf fod hyn yn bradychu'r gweithlu profiadol a ffyddlon yng Nghasnewydd. A yw'r Gweinidog yn ymwybodol o unrhyw asesiad effaith ar gydraddoldeb gan Lywodraeth y DU, a beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r gweithwyr a'r teuluoedd a fydd yn dwyn baich y penderfyniad ofnadwy hwn?
Diolch ichi am y cwestiwn. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw asesiad effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU, ond rwy'n siŵr fod hyn yn rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn mynd ar ei drywydd gyda hwy gan fod y newyddion yn ffurfiol bellach ynglŷn â'r cau arfaethedig a symud swyddi. Rwy'n rhoi sicrwydd i chi y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth i weld beth yn fwy y gallwn ei wneud i gefnogi'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt ac yn enwedig yr unigolion nad yw symud i Drefforest yn mynd i fod yn opsiwn ymarferol iddynt.
Effeithir ar 714 o staff o safle Gabalfa yn fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, a cheir nifer fawr o'r rheini sydd ag anableddau ac sydd â chyfrifoldebau gofalu, felly mae pryder aruthrol ynglŷn â sut y maent yn mynd i ymdopi â'r symud. A all y Gweinidog ganfod pam nad oes ymgynghoriad eisoes wedi dechrau gyda'r staff? Oherwydd, fel y gwyddom, crybwyllwyd hyn ers peth amser, ac mae angen cymaint o amser â phosibl ar y staff i baratoi ar gyfer y symud, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai ofyn pam nad yw'r ymgynghoriad hwn eisoes wedi dechrau gyda fy etholwyr a'r 1,700 o bobl eraill sy'n dioddef yn y modd hwn.
Y mater arall, wrth gwrs, yw colli arbenigedd. Deallaf o siarad ag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol fod y staff eisoes o dan straen o ran ymdopi â'r newidiadau i fudd-daliadau lles y maent yn eu gwneud. Felly, beth y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cadw'r arbenigedd, oherwydd byddwn yn sicr o golli llawer o bobl pan fydd y symud hwn yn digwydd? Ac a allai gadarnhau, yn y ffigurau a gafodd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fod holl gostau'r symud hwn wedi cael eu hystyried? Oherwydd bydd yna gostau diswyddo gwirfoddol, costau diswyddo gorfodol posibl, recriwtio staff newydd, costau hyfforddi staff newydd, costau budd-daliadau i unrhyw un sy'n methu dod o hyd i waith arall, a'r effaith hefyd ar gymunedau lleol yn sgil colli'r swyddi yn yr ardaloedd hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar yr ardaloedd hynny.
Mae'n ymddangos yn bolisi hollol wallgof i symud swyddi o leoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac yn dioddef, ac mae dweud ei fod yn mynd i gyd-fynd â thasglu'r Cymoedd, credaf fod hynny'n gwbl warthus. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymdrin â'r materion hyn a hefyd y mater a grybwyllodd Dawn ynglŷn ag a yw'r adeilad yn cael ei adeiladu drwy gontract PFI.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Yn sicr fe roddaf ymrwymiad i chi y byddaf yn archwilio, ochr yn ochr â'r asesiad effaith a grybwyllodd Jayne Bryant, yr asesiadau effaith eraill a awgrymwyd gennych, a hefyd costau'r symud. Yn sicr, byddwn yn gweithio gyda Julie James er mwyn cael y math o wybodaeth sydd ei hangen arnom bellach, a byddaf i neu Julie yn ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â chanlyniad yr ymchwiliadau hynny.
Cytunaf ei bod yn gwbl annheg fod Llywodraeth y DU yn cadw staff yn y tywyllwch ynglŷn â hyn ac yn rhoi cyfnod o ansicrwydd iddynt, yn y bôn, rhwng nawr a 2021. Nid wyf yn credu ei bod yn fwriad gan Lywodraeth y DU i ddechrau ymgynghori â staff tan yn llawer agosach at yr amser. Deallaf hefyd eu bod yn edrych ar symud fesul cam, ond unwaith eto, pan fydd gennym fwy o fanylion a mwy o wybodaeth am hyn, byddwn yn fwy na pharod i'w rannu gyda'r Aelodau.
Ceir un agwedd a fydd yn ddiddorol i Julie Morgan yn enwedig, a hynny mewn gohebiaeth yr wythnos diwethaf gan Esther McVey, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau i Brif Weinidog Cymru. Mae'n dweud y bydd capasiti i 100 o staff yr Adran Gwaith a Phensiynau adleoli i ganolfan y Llywodraeth sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, yn y Sgwâr Canolog. Felly, gallai hynny fod o ddiddordeb arbennig i Julie.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Diolch.