Bwydo ar y Fron

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar fwydo ar y fron? OAQ52244

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:22, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig ar 11 Mai ynghylch argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen ar fwydo ar y fron. Un o'r argymhellion oedd creu cynllun gweithredu cenedlaethol ar fwydo ar y fron a grŵp trosolwg strategol i gefnogi ei gyflawniad. Disgwyliaf i'r gwaith ar weithredu'r cynllun gweithredu ddechrau ym mis Gorffennaf 2018.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Un o'r materion sy'n peri pryder yw mai 60 y cant o fenywod yn unig, ar ôl rhoi genedigaeth, sy'n dechrau bwydo ar y fron, ac mae'n gostwng i lai na 30 y cant erbyn yr archwiliad chwe wythnos. Felly, yn amlwg, mae gennym fynydd serth iawn i'w ddringo. Cafwyd rhai pwyntiau diddorol gan y grŵp gorchwyl a gorffen ynghylch un neu ddau o bethau yr hoffwn eich holi amdanynt. Un yw: un o'r rhesymau pam fod pobl yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yw oherwydd cwlwm tafod na wnaed diagnosis ohono, felly roeddwn yn falch iawn o weld bod Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi darparu clinig cwlwm tafod dan arweiniad bydwraig ers 2005, gan fod hynny'n hollbwysig i sicrhau bod diagnosis cywir o gwlwm tafod yn cael ei wneud a'i fod yn cael ei drin yn gyflym iawn. Felly, hoffwn wybod pa wasanaethau ar gyfer cwlwm tafod sy'n bodoli ledled Cymru, gan ei bod yn ymddangos ei fod i'w weld yn fwyfwy cyffredin.

Yr ail bwynt: o ystyried y datgysylltiad enfawr rhwng y niferoedd a ddylai fod yn bwydo ar y fron a'r niferoedd sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd, ac yng nghyd-destun y ffaith bod 26 y cant o blant yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, tybed pa ymgysylltiad a fu rhwng y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydliadau trydydd sector, oherwydd deallaf nad oedd unrhyw un o'r trydydd sector yn aelodau o'r grŵp. Sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymgysylltu â'r sector gwirfoddol a'r sector cymunedol i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru, yn debyg i'r hyn y mae bwrdd Aneurin Bevan yn bwriadu ei wneud gyda system y grwpiau cyfeillion cefnogol, gan ei bod yn ymddangos i mi fod angen hynny er mwyn brwydro yn erbyn y gwrthwynebiad a'r rhagfarn yn erbyn bwydo ar y fron?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:24, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Rydym yn cydnabod nad yw cyfraddau cychwyn a chyfraddau parhau ar gyfer bwydo ar y fron cystal ag yr hoffem iddynt fod, ac nid her i famau yw hon; mae'n her ehangach i bob un ohonom sy'n ymwneud nid yn unig â bod yn bartneriaid cefnogol, ond â bod yn fwy cefnogol ynghylch yr amgylchedd a grëir, lle mae llawer o fenywod yn osgoi bwydo ar y fron o ganlyniad i agweddau pobl eraill. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol, unwaith eto, â'n her gymdeithasol i ail-normaleiddio bwydo ar y fron. Mae'n weithgaredd hollol normal ac mae'r ffaith nad yw llawer o bobl yn ei weld felly yn broblem fawr i bob un ohonom.

Ond gan droi at eich dau bwynt, ynglŷn â chwlwm tafod, yn dibynnu ar y diffiniad a ddefnyddir, mae gan rhwng 3 y cant a 10 y cant o fabanod fath o gwlwm tafod, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi'r enghraifft o ymarfer da yng ngogledd Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd materion fel cwlwm tafod yn cael eu cynnwys yn y cynllun gweithredu sy'n cael ei ddatblygu. Gallwch ddisgwyl gweld rhywbeth penodol ynddo ar gwlwm tafod pan gaiff y cynllun gweithredu hwnnw ei ddarparu. Byddwn hefyd yn cynnwys rhywbeth am rôl cyfeillion cefnogol a grwpiau gwirfoddol, i weld sut y gellir eu hymgorffori ymhellach yn narpariaeth y gwasanaeth. Mae nifer o bobl yn y grŵp arbenigol wedi ymwneud yn uniongyrchol â chyfeillion cefnogol a grwpiau gwirfoddol hefyd, ac mewn gwirionedd, mae'r adroddiad yn sôn am y rhagoriaeth a'r ymarfer da sy'n bodoli. Ond eto, cysondeb y cymorth hwnnw yw'r hyn rydym am geisio gwneud rhywbeth amdano. Mae hyn wedi deillio o gydnabyddiaeth nifer o bobl nad ydym wedi cyrraedd lle yr hoffem fod—y grŵp gorchwyl a gorffen, nifer o bobl yn y grŵp hwnnw—a byddwn yn parhau i gydnabod bod mwy o lawer gennym i'w wneud. Mae'n dda i famau, mae'n dda i fabanod. Yn y pen draw, mae'n dda i bob un ohonom.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, un agwedd neu ganlyniad i'r ffaith y byddaf yn dad cyn bo hir yw bod fy nghyd-Aelodau bellach yn neilltuo pob cwestiwn sy'n ymwneud â babanod a phlant a phob agwedd ar iechyd plant ar fy nghyfer. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi derbyn hynny. Wel, am heddiw, beth bynnag.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynllun da wedi bod yng Nghasnewydd yn ddiweddar: cynllun llwyddiannus sydd wedi annog siopau lleol, caffis ac ati i arddangos sticer yn y ffenestr sy'n dangos eu cefnogaeth i fwydo ar y fron. Efallai ei fod yn gynllun bach, ond mae wedi cael cryn effaith yn yr ardal honno. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth rydych yn ei rhoi i adeiladu rhwydweithiau gyda darparwyr iechyd a chymunedau lleol, fel y gall busnesau ddangos eu cefnogaeth yn y ffordd honno a gallwn gynyddu cyfraddau mewn ffordd naturiol a blaengar?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:27, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaethoch, ac rwy'n falch iawn o weld eich bod yn cefnogi'r pwynt a wnaed yn y Siambr hon gan Jayne Bryant eisoes, ar yr un cynllun yn union. Mae'n bwysig fod—. Mae normaleiddio bwydo ar y fron yn rhywbeth y mae gan fusnesau ran i'w chwarae ynddo, yn bendant. Rhai o'r pethau sy'n fy nghythruddo fwyaf am straeon am fwydo ar y fron yw pan fo busnesau wedi gofyn i bobl adael eu safle. Felly, dyna ran o'r her i bob un ohonom, o ran sicrhau, yn amlwg, fod yr amgylchedd yn iawn, ond y pwyntiau a godwyd gan Jenny Rathbone hefyd ynglŷn â sut y mae darparu cymorth i fenywod, i deuluoedd, i gychwyn bwydo ar y fron, a pharhau i wneud hynny. Nid yw'n wir fod hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn naturiol ac yn hawdd i bawb. Mae angen cefnogaeth ar rai pobl, ac fel tad heb fod mor newydd â hynny, rwy'n cydnabod bod y gefnogaeth a gawsom gan y gwasanaeth iechyd ac ar sail wirfoddol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n teulu ni.