– Senedd Cymru am 3:55 pm ar 23 Mai 2018.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Llywydd, diweddariad ar sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Llywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy mwriad i y prynhawn yma yw i ddiweddaru Aelodau ar ethol senedd ieuenctid gyntaf Cymru, yn enwedig i ddweud wrth Aelodau y byddwn ni'r wythnos nesaf yn Eisteddfod yr Urdd yn lansio'r ymgyrch gofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiad cyntaf senedd ieuenctid Cymru. Bydd y senedd yma yn rhoi llais democrataidd, cenedlaethol i bobl ifanc Cymru ac yn eu galluogi i nodi a chodi ymwybyddiaeth o faterion dadleuol a ddewisir ganddyn nhw i'w trafod.
Bydd y cyfnod cofrestru yn agored i bob person ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 18 mlwydd oed ac ar agor o ddiwedd mis Mai yr wythnos nesaf tan ganol Tachwedd. Ym mis Medi eleni, bydd pobl ifanc yn gallu rhoi eu hunain ymlaen i sefyll ar gyfer eu hethol. Bydd yr etholiad ar-lein yn cael ei gynnal dros gyfnod o dair wythnos ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod cyntaf senedd ieuenctid Cymru ym mis Chwefror 2019.
Bydd 60 o aelodau senedd ieuenctid Cymru. Bydd 40 ohonyn nhw yn cael eu hethol drwy system y cyntaf i’r felin drwy system bleidleisio electronig ym mhob un o’r 40 etholaeth etholiadol yng Nghymru. Bydd 20 ohonyn nhw yn cael eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y senedd.
Cyhyd ag y gwyddom, ein senedd ni fydd y senedd ieuenctid gyntaf i ethol ei chynrychiolwyr yn ddemocrataidd yn ei hetholiad cyntaf, ac mae hynny’n dipyn o gyflawniad.
Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod Cynulliad yma heddiw mor awyddus ag yr wyf fi i sicrhau bod pobl ifanc yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau yn ymwybodol o’r cyfleoedd cyffrous a gyflwynir gan y fenter yma. Bydd amrywiaeth eang o adnoddau ar gael i chi er mwyn hwyluso’r gwaith o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yn eich ardaloedd. Gobeithio y gwnewch chi fwrw ati i hyrwyddo'r senedd o'r wythnos nesaf ymlaen.
Mae llawer o sefydliadau ieuenctid cenedlaethol a phobl ifanc eu hunain wedi helpu i lunio ein cynlluniau ac wedi cytuno i barhau i’n cefnogi ar ein taith. Rwyf am gofnodi fy niolch o waelod calon iddyn nhw am eu hymroddiad parhaus ac am rannu eu harbenigedd a fydd, heb os, yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y cam nesaf o’r prosiect yma.
Nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Drwy ein gwaith gydag ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid, grwpiau cynrychiadol ac unigolion allweddol hefyd, rydym am gyrraedd cynifer o bobl ifanc â phosib. Rwy’n hyderus y bydd y rhaglen ymgysylltu y mae ein tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi’i datblygu yn ysbrydoli pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau gwirioneddol neu rwystrau canfyddedig i gymryd rhan yn y broses yma.
Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gweithredu prosiect mor uchelgeisiol yn ddatblygiad sylweddol i ni. Noda Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i’r farn honno gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ar unrhyw fater sy’n effeithio arnynt.
Yng nghyd-destun ein gwaith fel deddfwrfa, mae sefydlu senedd ieuenctid yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau i bleidleiswyr heddiw a phleidleiswyr yfory—i bob dinesydd yma yng Nghymru—ac mae gan bob un ohonynt lais yn ein democratiaeth ni yma yng Nghymru.
Diolch. Mae gennyf nifer o siaradwyr. A gaf fi ofyn i bob siaradwr roi cyflwyniad byr i'w cwestiynau ac yna cawn weld sut y mae pethau'n mynd? Ond mae yna nifer o siaradwyr a fyddai'n hoffi siarad am y mater pwysig hwn. Darren Millar.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am ei datganiad heddiw? Bydd yn cofio ein bod ni, fel gwrthblaid, wedi cyflwyno ein dadl ar sefydlu senedd ieuenctid yn ôl ym mis Hydref 2016. Hoffwn dalu teyrnged i gyd-Aelodau ym mhob plaid sydd wedi cefnogi'r fenter hon. Yn wir, dylwn hefyd gofnodi ein diolch i Gomisiynydd Plant Cymru, wrth gwrs, am y rôl enfawr y mae hi wedi'i chwarae yn helpu i berswadio pob un ohonom pa mor bwysig yw sefydlu senedd ieuenctid. Credaf mai ychydig flynyddoedd yn ôl oedd hi pan ddywedodd y Cenhedloedd Unedig fod Cymru yn un o chwe gwlad yn unig yn y byd heb gorff seneddol i ieuenctid, felly rwy'n credu bod y cam hwn rydym wedi'i gymryd fel Cynulliad Cenedlaethol yn un pwysig, ac rwy'n falch iawn eich bod chi fel Llywydd wedi mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn ac wedi troi'r olwynion fel ein bod yn awr wedi cyrraedd y pwynt lle bydd pobl yn gallu cofrestru i bleidleisio. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ein bod yn rhoi llais i blant a phobl ifanc ym myd gwleidyddiaeth a'n bod yn eu cynnwys yn y broses ddemocrataidd, a chredaf y bydd yr addysg a fydd yn gysylltiedig â'r senedd ieuenctid yn sicr yn helpu i hyrwyddo cyfranogiad yn y dyfodol.
A gaf fi ofyn ychydig o gwestiynau? Roedd yr ymgyrch ar gyfer y cynulliad plant a phobl ifanc, a luniodd ei adroddiad 'Ymgynnull am Gymru' nifer o flynyddoedd yn ôl, yn dweud bod 92 y cant o bobl ifanc o blaid sefydlu senedd ieuenctid ond bod 85 y cant o bobl hefyd o blaid rhoi sail statudol iddi. Rwy'n meddwl tybed a allai fod cyfle, gyda'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywydd wedi nodi y gallai gael ei chyflwyno o'i swyddfa ac o'r Comisiwn yn y dyfodol, i roi sail statudol i'r senedd ieuenctid hon fel bod yn rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, gael un ar bob adeg yn y dyfodol, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o hyder i bobl ifanc ein bod yn o ddifrif ynglŷn â'r ffordd rydym yn ymgysylltu â hwy.
Fe gyfeirioch chi at 20 o sefydliadau partner a fydd yn helpu i sicrhau bod gennym gynrychiolaeth amrywiol yn y senedd ieuenctid newydd. A allwch ddweud wrthym beth yw'r sefydliadau hynny? Rwy'n tybio y byddwn yn gallu cael rhestr o'r rheini fel y gallwn geisio ymgysylltu â hwy fel Aelodau Cynulliad ac annog pobl i gyflwyno eu hunain fel ymgeiswyr posibl i'w penodi i'r senedd ieuenctid. A allwch ddweud wrthym hefyd sut y cyllidir y senedd ieuenctid? Yn amlwg, rydym angen sicrhau bod gan y senedd adnoddau digonol os yw am fod yn llwyddiant. Rwy'n tybio ein bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, drwy ein prosesau cyllidebol, wedi sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael ar gyfer y gwaith hwn ar unwaith, ond yn amlwg mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr y bydd ganddynt ddigon o adnoddau yn y dyfodol fel y bydd, pan fydd yn ymgynnull, yn gallu cyfleu'r negeseuon hynny yn ôl i ni a seneddwyr eraill ar lefel y DU hefyd. Diolch.
Diolch i chi, ac rwy'n falch fod pob plaid wleidyddol yma wedi cefnogi'r datblygiad o ethol ein senedd ieuenctid gyntaf. Fel rydych wedi dweud, mae'r comisiynydd plant wedi bod yn allweddol wrth fynd ar drywydd a dadlau dros gael senedd ieuenctid yma, ac mae'r comisiynydd plant wedi gweithio gyda ni ar ddatblygu'r manylion ynglŷn â hyn, fel y mae llawer o'i rhwydweithiau pobl ifanc a phobl ifanc eu hunain sy'n gweithio gyda'r comisiynydd plant wedi'i wneud wrth roi cyngor inni drwy gydol y broses hon.
Nid ein bwriad ar hyn o bryd yw gosod senedd ieuenctid ar sail statudol. Rwy'n ymwybodol fod rhai'n dadlau o blaid hynny, ac mae hwnnw'n fater y credaf y byddwn yn edrych arno yn y dyfodol. Ond beth am ddechrau a sefydlu ein senedd ieuenctid gyntaf a pheidio â chaniatáu i'r potensial i'w rhoi ar sail statudol ohirio'r broses o sefydlu'r senedd ieuenctid gyntaf. Byddwn yn cadw hynny dan arolwg yn y dyfodol.
I egluro'r 20 aelod ychwanegol at y 40 o'r etholaethau, bydd 10 sefydliad partner yn ethol dau yr un ac yn cynnig enwau dau aelod yr un. Mater i'r sefydliadau partner hynny—sefydliadau pobl ifanc; gallant fod yn genedlaethol neu'n lleol—fydd cynnig eu henwau fel sefydliadau partner posibl. Bydd gennym feini prawf wedyn i benderfynu pwy fydd y sefydliadau partner hynny ar gyfer y senedd ieuenctid gyntaf hon, ac rwy'n gobeithio, rhyngof fi, y comisiynydd plant a, gobeithio, Cadeirydd y pwyllgor plant yma yn y Cynulliad, y gallwn ddewis y 10 sefydliad partner mwyaf perthnasol, mwyaf arloesol a mwyaf cynrychiadol ar gyfer y senedd ieuenctid gyntaf.
Neilltuwyd cyllideb at y diben hwnnw o gyllid y Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiwn. Mae'n £65,000 ar gyfer eleni a bydd yn £50,000 ar gyfer blynyddoedd heb etholiad yn y dyfodol. Mae'n adnodd sylweddol i ni, ond wrth gwrs, er mwyn i bobl ifanc gymryd rhan yn y Cynulliad, bydd angen iddynt allu teithio o wahanol lefydd ledled Cymru lle maent yn eu cynrychioli i'r Cynulliad a chael gofal priodol yng nghyd-destun eu hethol yn aelodau o'r senedd ieuenctid gyntaf un.
A gaf i ddiolch i'r Llywydd am ei datganiad? Yn amlwg, rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod y senedd ieuenctid ar fin dod i fodolaeth, ac mi wnawn ni bopeth y gallwn ni, rydw i'n gwybod, i gefnogi yr ymdrechion i hwyluso hynny ac i sicrhau ei fod e'n digwydd, oherwydd mae angen i hwn fod yn arf i rymuso llais pobl ifanc yng Nghymru, fel rydw i'n siŵr y bydd e, ac rydym ni wedi dadlau, nifer ohonom ni, wrth gwrs, bod angen grymuso llais pobl ifainc o fewn democratiaeth.
Rydym ni fel plaid wedi bod yn dadlau am ostwng oed pleidleisio i 16. Rydym ni wedi dadlau hefyd dros gryfhau addysg dinasyddiaeth mewn ysgolion drwy'r cwricwlwm newydd, a bydd hwn yn gyfle arall, rydw i'n meddwl, i helpu i godi ymwybyddiaeth a chyfleoedd i bobl ifanc i gyfranogi. Ond nid ydw i'n hapus i stopio yn fanna. Rydw i nid yn unig eisiau gweld y senedd yma yn trafod ac yn datblygu syniadau ac yn cynnig polisïau; rydw i eisiau i ddylanwad y senedd ieuenctid yma gael ei deimlo y tu hwnt i feinciau'r senedd ieuenctid—ar y meinciau fan hyn ac mewn mannau eraill.
Felly, mi ofynnaf i fy nghwestiwn cyntaf: ym mha ffordd rydych chi'n teimlo y bydd yna gyfle i'r senedd ieuenctid fwydo yn ffurfiol i mewn i drafodaethau pwyllgorau a dadleuon yn y Senedd yn fan hyn? A ydym ni eisiau gweld adroddiadau yn cael eu cynhyrchu? A fydd yna gyfle i aelodau'r senedd ieuenctid i annerch y Senedd yma, neu bwyllgorau? Hynny yw, rydw i yn teimlo bod angen ffurfioli'r prosesau yma er mwyn gwir rymuso llais pobl ifanc yn y cyd destun yma.
A'r ail gwestiwn sydd gyda fi ydy: wrth gwrs, rydym ni'n sôn am ystod oedran eang o 11 i 18, ac mae yna beryg, wrth gwrs, y byddai lleisiau, efallai, y garfan hŷn o fewn y grŵp oedran yna yn boddi ychydig ar y lleisiau iau. Felly, pa brosesau bydd yn eu lle i sicrhau tegwch a chydraddoldeb, efallai, os liciwch chi, i'r rhai ifancaf o fewn y sbectrwm oedran yna? Diolch.
Wel, rydw i'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn sy'n cael ei osod allan gan Llyr; yr hyn rydym ni eisiau ei gyflawni fan hyn yw i rymuso pobl ifanc i fedru datgan eu llais yn glir ar unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb ac o flaenoriaeth iddyn nhw. Ac, felly, y cwestiwn yw: beth fydd y berthynas rhwng y senedd ieuenctid a'n Senedd ni a'r amrywiol bwyllgorau yn y Senedd? Nid wyf fi'n credu mai fi, na ni fan hyn, sydd biau'r ateb i hynny, ond y bobl ifanc fydd yn y senedd ieuenctid gyntaf. Rydw i'n credu y dylem ni, fel mater o egwyddor, ganiatáu i'r bobl ifanc hynny benderfynu ar sut maen nhw eisiau dylanwadu ar ein polisïau ni, sut maen nhw eisiau dylanwadu ar ein prosesau ni, pa fath o waith cysylltu maen nhw eisiau ei wneud gyda'r amrywiol bwyllgorau a phynciau a deddfwriaeth sy'n mynd drwy'r lle yma. Y cyfan ddywedaf i yw: rydw i'n gobeithio y byddwn ni, fel Aelodau, fel pwyllgorau, fel Llywodraeth, i gyd yn agored i gydweithio ac i wrando ar ein pobl ifanc ni.
Mae'n gwestiwn diddorol ynglŷn ag a fydd y rhai ifancaf yn cael eu gorddylanwadu gan y rhai hŷn. Fy mhrofiad i fan hyn o'r Senedd hŷn—os caf i alw'r Senedd yma'n hynny—yw nad yw'r rhai ifancaf ddim yn cael eu boddi allan gan y rhai hŷn yn yr oedran uwch, ac rydw i'n rhyw synhwyro, gobeithio, na fydd hynny, yn sicr, ddim yn wir yn y senedd ieuenctid hefyd, ac rydw i'n gobeithio y bydd pob un, o'r cychwyn cyntaf, yn cael eu trin yn gyfartal.
Hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn heddiw. Mae'n gyffrous iawn gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud a graddau'r cynigion a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael llais go iawn yn y senedd ieuenctid newydd hon. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd a'i thîm am eu holl waith, oherwydd gwn fod maint y logisteg yn hyn wedi bod yn heriol iawn, ond hefyd diolch i'r bobl ifanc ar hyd a lled Cymru sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth heddiw. Rwy'n wirioneddol falch fod rhan o'r cynlluniau hyn yn cynnwys cynigion i gael pobl ifanc o'r sefydliadau partner, oherwydd fel y dywedais o'r blaen, er ei bod yn wych fod gennym bobl ifanc hyderus, huawdl yng Nghymru, rhaid inni wneud yn siŵr fod hon yn senedd sy'n llais i'n holl bobl ifanc, gan gynnwys ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig, a byddai'n fraint cael chwarae rhan yn hynny.
Mae gennyf ambell gwestiwn. Y cyntaf yw: i'r bobl ifanc sydd allan yno yn awr yn meddwl, 'Wel, a yw hyn yn rhywbeth y dylwn geisio bod yn rhan ohono?', pa lwybrau sydd ar gael iddynt gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn y cwestiynau y gallai fod angen iddynt eu gofyn er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus yn ei gylch? Rwyf hefyd yn cymryd, fel y mae gennym gyfleoedd ardderchog ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, y bydd pethau'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer y bobl ifanc lwyddiannus i'w helpu i wneud y gwaith newydd a phwysig hwn. Buaswn yn ategu sylwadau Llyr am yr angen i edrych ymhellach a thu hwnt i hyn i ymgorffori rôl pobl ifanc cyn belled ag y gallwn yn ein hymarfer yma, a buaswn yn ddiolchgar am eich sicrwydd y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch yn ei gadw dan arolwg.
Ac yn olaf hoffwn ddweud: a gytunwch ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yn awr yn y sefydliad hwn i wneud popeth a allwn i hyrwyddo'r fenter hon ac i sicrhau bod cynifer o bobl ifanc yn pleidleisio ac yn ystyried sefyll etholiad i'r sefydliad newydd hwn a fydd yn rhoi llais go iawn i bobl ifanc yng Nghymru o'r diwedd?
Diolch am eich cydweithrediad hyd yma ar hyn a'r rôl a chwaraeodd eich pwyllgor hefyd yn dadlau dros y datblygiad hwn. Diolch ichi hefyd am gydnabod pa mor fawr yw'r hyn sydd gennym ger ein bron. Dyma gofrestr electronig sydd â phleidlais electronig ar gyfer pob unigolyn ifanc rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru, ac felly mae logisteg hyn yn fenter sylweddol i ni fel Cynulliad. Rydym angen cefnogaeth pob Aelod Cynulliad yma i fod yn rhan o'r gweithgarwch hyrwyddo mewn perthynas â chofrestru i bleidleisio, ac ysbrydoli pobl ifanc wedyn wrth inni ddod ar eu traws, neu wrth inni ddod i wybod amdanynt, neu sefydliadau partner yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, i ddatblygu'r syniad yn eu hardaloedd er mwyn inni hyrwyddo hyn yn ein gwahanol ardaloedd.
Mae ein gwaith allgymorth—ein rhaglen addysgol—bellach yn barod ar gyfer gweithio gydag ysgolion, colegau a sefydliadau pobl ifanc ledled Cymru er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd a fydd ar gael. Ond ar y pwynt a wnewch, Lynne, yn yr ystyr y bydd yna bob amser bobl ifanc huawdl yn ein holl etholaethau a'n rhanbarthau a fydd yn gweld hyn ac yn bachu ar y cyfle ac yn manteisio arno ar unwaith, rydym am i'r Cynulliad hwn—cynulliad a senedd y bobl ifanc—gynrychioli pawb. Felly, bydd y 10 sefydliad partner sy'n ethol pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol—pobl nad oes ganddynt gyfrwng amlwg i ganfod eu ffordd tuag at y math hwn o gyfle yn draddodiadol—yn galluogi'r bobl ifanc hynny i gael eu hethol i'r senedd ifanc gyntaf yma yng Nghymru.
Yna, wrth gwrs, pan gânt eu hethol, bydd angen i rai rhwng 11 a 18 mlwydd oed—seneddwyr ifanc—gael eu cefnogi yn eu gwaith. Bydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn y Siambr hon. Y bwriad ar hyn o bryd yw cael tri chyfarfod dros gyfnod o ddwy flynedd yn y Siambr hon, ond nid dyna'r unig waith y bydd y seneddwr ifanc yn rhan ohono. Bydd llawer ohono'n cynnwys gweithio'n rhanbarthol gydag Aelodau etholedig rhanbarthol eraill, gan adrodd yn ôl i bobl ifanc yn eu hardaloedd a thrafod polisïau gyda phobl ifanc yn eu hardaloedd, a bydd angen iddynt gael eu cefnogi yn y gwaith hwnnw. Felly bydd llawer o ffocws gwaith addysgol a gwaith allgymorth y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y gorffennol ac rydym yn gyfarwydd ag ef bellach yn cynnwys blaenoriaethu'r gwaith o gefnogi'r 60 seneddwr ifanc, ond hefyd eu perthynas â phobl iau yn fwy eang yn eu cymunedau.
Felly, o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw, ac agor y drws ar y gofrestru o'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n bwysig fod pob un ohonom yn hyrwyddo'r senedd ieuenctid newydd yng Nghymru a'r gobaith yw y bydd llawer o bobl yn cofrestru a llawer o bobl yn dangos diddordeb mewn dod yn aelodau.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lywydd, am eich datganiad heddiw. Soniasoch fod cefnogaeth drawsbleidiol wedi bod i'r syniad o senedd ieuenctid yn y gorffennol ac yn wir, mae'n parhau. Mae UKIP yn parhau i fod yn gefnogol i'r syniad. Rydych yn cydnabod bod llawer o heriau a phroblemau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru heddiw, ac mae cael cyfrwng cyfathrebu rheolaidd rhwng y Cynulliad ar y naill law a math o adain ieuenctid y Cynulliad ar y llall yn beth da. Nawr, rwy'n sylweddoli ein bod wedi cael fforymau ieuenctid blaenorol fel y Ddraig Ffynci, a wnaeth waith gwerthfawr, ond nad oedd yn senedd ieuenctid yn hollol, felly rydym yn anelu tuag at rywbeth newydd.
Roeddwn yn mynd i ofyn i chi, Lywydd, sut y gwelwch y senedd ieuenctid yn datblygu yn y dyfodol, ond wrth gwrs, fe wnaethoch y pwynt yn gynharach mai un o'r pethau rydych eu heisiau yw i'r senedd ei hun—y senedd ieuenctid, i roi ei henw arall iddi—eich bod am i'r corff ei hun wneud awgrymiadau ynglŷn â sut y maent yn gweld eu rôl yn y dyfodol, a chredaf fod hynny'n syniad da iawn. Felly, efallai y bydd hynny'n cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei ddweud ar y pwynt hwn, ond os oes gennych fwy o eglurder eich hun ynglŷn â sut y rhagwelwch y senedd ieuenctid yn datblygu yn y dyfodol, byddai'n ddiddorol inni glywed hynny heddiw.
Soniasoch hefyd am bwysigrwydd amrywiaeth, sy'n rhywbeth sy'n rhaid inni ei gadw mewn cof hefyd, a soniasoch hefyd rwy'n credu am raglen ymgysylltu. Felly, os oes gennych unrhyw beth arall i'w ddweud wrthym am y rhaglen ymgysylltu, byddai hynny hefyd yn ddefnyddiol.
Mae gennym rywbeth ar fin digwydd yn y pwyllgor cydraddoldebau a llywodraeth leol, sef ymchwiliad i'r ymddieithrio sy'n digwydd oddi wrth wleidyddiaeth ymhlith amryw o grwpiau. Credaf mai un o'r themâu yr ydym yn ymdrin â hi yw thema gyffredinol ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth ymhlith yr ifanc, a oedd yn awgrym a ddaeth yn wreiddiol gan Jack Sargeant, a sylwaf ei fod yma, felly efallai y bydd yn ymhelaethu ar hyn. Ond tybed a allai ein hymchwiliad helpu yn y gwaith rydych yn ei wneud gyda datblygu'r senedd ieuenctid. Felly, arhosaf i weld datblygiadau pellach. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am gefnogaeth UKIP i sefydlu'r senedd ieuenctid a'r materion a nodwyd gennych, ac yn benodol y mater ynghylch y berthynas rhwng y senedd ieuenctid a'n Senedd ni. Fel y dywedais yn gynharach, mater i'r senedd ieuenctid yw penderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun a'i ffyrdd ei hun o weithio a sut y mae am i'r berthynas honno ddigwydd. Ond credaf mai'r pwynt pwysig o ran pwyllgorau, y Siambr hon a Llywodraeth yn ogystal, pan fyddwch yn gwneud gwaith lle rydych eisiau barn pobl ifanc, neu'n dymuno cael barn pobl ifanc, eich bod yn gwneud y cynnig i'r senedd ieuenctid ei drafod, a gallant benderfynu, 'O na, nid oes gennym ddiddordeb yn hynny o gwbl ac nid ydym am gynnig unrhyw farn ar hynny. Mae gennym flaenoriaeth wahanol', o leiaf bydd y sianeli cyfathrebu ar agor ar y ddwy ochr. Ond mater i'r senedd ieuenctid fydd penderfynu ar ei blaenoriaethau ei hun.
Mae'r ffaith bod y pwyllgor yr ydych yn aelod ohono yn gwneud y gwaith ar ymddieithrio ymhlith pobl ifanc yn y broses wleidyddol yn gyd-ddigwyddiad diddorol ac rwy'n siŵr y bydd y bobl ifanc a gaiff eu hethol i'r senedd ieuenctid gyntaf â diddordeb mewn rhannu eu safbwyntiau. Mae'n debygol mai pobl ifanc sydd heb ddieithrio ydynt, ond byddant yn gwybod am lawer o bobl ifanc o'u cwmpas nad ydynt yn cymryd rhan i'r un graddau â hwythau. Felly, rwy'n gobeithio ei bod yn broses ddwy ffordd rhwng y senedd ieuenctid a'r Senedd hon o ran y modd y dylanwadwn ar ein gilydd, ac yn enwedig y modd y gall pobl ifanc ddod i gael dylanwad uniongyrchol ar y ddeddfwriaeth, a'r polisi a'r dadleuon a gawn yma yn y Cynulliad hwn.
Diolch. Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i'r Llywydd am gyflwyno'r datganiad gwirioneddol bwysig hwn heddiw? A diolch i chi, Gareth, yn fyr, am y sylw yno. Mae gwaith y pwyllgor llywodraeth leol a'r ymchwiliad sy'n mynd i ddigwydd yn hollbwysig i ddeall y rheswm pam y mae pobl wedi ymddieithrio oddi wrth wleidyddiaeth i'r fath raddau, ac rwy'n credu, yn drawsbleidiol yn y Siambr hon, fod angen inni ddeall y rhesymau am hynny. Afraid dweud, fel yr Aelod Cynulliad ieuengaf yma yn y Siambr hon, fy mod bob amser yn falch o glywed am gamau a gymerir i ymgysylltu â'r genhedlaeth iau a chenedlaethau'r dyfodol. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed y Llywydd yn sôn nad yw'r genhedlaeth iau yn y Siambr hon yn cael eu dylanwadu'n ormodol gan y genhedlaeth hŷn. Gallaf weld Bethan Sayed yn gwenu yno hefyd, felly mae hynny'n dda.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly fe geisiaf frysio. Roeddwn am sôn am un neu ddau o bwyntiau. Yn gyntaf, ar ymgyrchu ac ymgynghori, a fyddai'r Llywydd yn cytuno y dylai'r senedd ieuenctid gael strwythurau ar waith sy'n caniatáu iddi gynrychioli barn pobl ifanc ar draws Cymru a'i haelodau, rhanddeiliaid a gwneuthurwyr penderfyniadau lleol yn ogystal, ac ar y lefel genedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft cyflwyno maniffesto efallai sy'n amlinellu eu brîff, eu credoau a'u dyheadau fel Senedd ac fel cynrychiolwyr eu hardaloedd?
Yn ail, hoffwn ddweud y gallai'r senedd ieuenctid fod yn gyfle gwych hefyd ar gyfer hyfforddiant a chydnabyddiaeth. Felly, a fyddech yn cytuno y gallai'r senedd ieuenctid gynnal rhaglenni hyfforddiant i rymuso pobl ifanc a chael pobl ifanc i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i sicrhau newid diwylliant—newid diwylliant mewn bywyd go iawn?
Felly, unwaith eto, yn fyr iawn gan fy mod yn gwybod efallai fod yna Aelodau eraill yn dymuno siarad, hoffwn groesawu'r datganiad gan y Llywydd y prynhawn yma ac edrychaf ymlaen at y cam nesaf yn y broses o sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Diolch.
Wel, diolch ichi am hynny. Chi yw ein Haelod Cynulliad ieuengaf, Jack Sargeant, ac rwy'n gobeithio mai chi fydd yn mynd ati'n fwyaf brwd i sicrhau bod gan bobl eich cenhedlaeth ac ychydig yn iau na'ch cenhedlaeth chi ddiddordeb mewn dod yn aelodau o'r senedd ieuenctid gyntaf yma, ond yn yr un modd, rwy'n gobeithio y bydd y rhai hynaf o'ch plith chi yma hefyd yn mynd ati'n frwd i hyrwyddo'r gwaith o ethol senedd ieuenctid.
Rydych yn crybwyll posibilrwydd diddorol iawn o senedd ieuenctid yn datblygu ei maniffesto ei hun, ei set ei hun o syniadau polisi i'w dilyn, ond hefyd i fynd ar eu trywydd gyda ni fel Senedd yn ogystal. Fel y dywedais yn gynharach, mater i'r senedd ieuenctid fydd penderfynu sut y gwnaiff ei gwaith, ond rwy'n siŵr y bydd eisiau myfyrio ar y trafodaethau y mae'n eu cael gyda ni fel Aelodau etholedig. Rwy'n siŵr y ceir perthynas yn gynnar iawn rhwng Aelod Cynulliad etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy a'r aelod etholaeth dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn y senedd ieuenctid, fel i'r gweddill ohonom. Felly, bydd cael y drafodaeth honno yn rhanbarthol ac ar sail etholaeth yn bwysig yn y berthynas sy'n datblygu rhyngom fel Aelodau Cynulliad a hwythau fel seneddwyr ifanc.
Bydd sicrhau bod y gwaith a wnawn gyda'n seneddwyr ifanc, fod hyfforddiant a chymorth ar eu cyfer, ac y gallant ddod yn hyrwyddwyr ymgysylltiad gwleidyddol yn eu hardaloedd eu hunain wedyn er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o seneddwyr, y rhai a fydd yn eu dilyn, a'r gwaith a wnânt yn eu hysgolion a'u colegau hefyd—bydd hyn i gyd yn agor trafodaeth ac ymgysylltiad gwleidyddol nad ydym wedi'i gael yng Nghymru gyda phobl ifanc. A gall hyn oll fod yn bosibl gyda sefydlu, ethol ein senedd ieuenctid gyntaf yma—.
Hoffwn i groesawu'r datganiad yma heddiw. Pan ges i fy ethol yn 2007 fel yr Aelod ifancaf ar y pryd—mae Jack a Steffan wedi cymryd y fantell honno oddi wrthyf i—gwnes i gychwyn yn syth i geisio ymgyrchu am senedd ieuenctid go iawn i Gymru, oherwydd roeddwn i'n parchu'r ffaith bod Funky Dragon yn gweithredu, ond roeddwn i eisiau cael rhywbeth ar ochr seneddol y Senedd yma—strwythur ar wahân fel bod y bobl ifanc yn gallu teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol o Lywodraeth yn lle eu bod nhw'n cael yr arian yn syth o Lywodraeth—eu bod nhw'n gallu bod yn fwy critigol a sgrwtineiddio'r Llywodraeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd y bobl ifanc hyderus, newydd yma yn gallu gwneud hynny.
Nid yw hyn yn gonsérn i fod yn negyddol, ond roeddwn i eisiau gofyn i'r Llywydd y cwestiwn ynglŷn â phleidiau gwleidyddol. Pan oeddwn i'n sefyll fel llywydd undeb Aberystwyth, nid oedd gofyniad ar bobl ifanc roi pa blaid roedden nhw'n ymwneud â hi, ac weithiau roedd pobl yn ennill etholiadau efallai na fyddai wedi ennill etholiadau oherwydd y ffaith nad oedden nhw'n rhoi enw plaid gerbron ar y ticed pleidleisio. Felly, rydw i eisie deall: os bydd yna bobl ifanc sydd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol—sydd yn beth da, rydw i'n credu, gan eu bod nhw yn weithredol—sut ydym ni yn mynd i fod yn ymwybodol o hynny? Sut mae'r bobl ifanc hynny yn mynd i fod yn ymwybodol o'r agenda gwleidyddol, neu ideolegol efallai, sydd tu ôl i resymeg pobl ifanc dros sefyll? Rydw i'n credu bod hynny'n bwysig, fel bod pobl ifanc sydd yn pleidleisio ar-lein yn deall yn iawn beth maen nhw'n pleidleisio amdano.
Ar y mater o bleidleisio ar-lein, byddai diddordeb gyda fi mewn trio ffeindio mas beth rydym ni'n gallu dysgu fel Senedd, yma, er mwyn gallu pleidleisio ar-lein yn y dyfodol. Fe wnes i ddod â dadl fer, flynyddoedd yn ôl nawr, yma yn y Senedd, ynglŷn â cheisio newid yr hyn rydym ni'n ei wneud o ran pleidleisio, a hynny er mwyn ennyn mwy o bobl i bleidleisio ar systemau ar-lein. Wedi'r cyfan, rydym ni'n bancio ar-lein, ac rydym ni'n gwneud lot fawr o bethau ar-lein, ond nid ydym yn gallu pleidleisio ar gyfer y Senedd yma ar-lein.
Y cwestiwn olaf sydd gen i yw: rydw i wedi clywed beth rydych chi'n ei ddweud o ran gweithio'n lleol, ond rydw i eisiau deall mwy ynglŷn â hynny, oherwydd rydw i'n credu beth sy'n really cyffrous am y cyfle yma yw sut y bydd yr aelodau etholedig ifanc yn gallu gweithio gyda grwpiau lleol, a gweithio gyda grwpiau amgylcheddol neu grwpiau ymgyrch lleol, er mwyn ysbrydoli pobl ifanc yn y dyfodol i sefyll fel aelodau o'r senedd ieuenctid, a hefyd weithiau, wedyn, i feddwl am sut y gallen nhw sefyll ar gyfer y Senedd yma. Beth sydd yn bwysig yw bod y Senedd yma yn cael trosolwg oed, trosolwg amrywiol, fel ein bod ni yn gallu bod yn gynrychiolwyr cryf o'r hyn sydd yn digwydd yma yng Nghymru, ac yr un sydd yn bwysig ar gyfer y senedd ieuenctid. Felly, rydw i'n cefnogi beth sydd yn digwydd yma, ac yn gobeithio y bydd yn llwyddiannus.
Diolch, Bethan. Mae'n hyfryd bod rhai o'r Aelodau ifancaf sydd gyda ni yn y Senedd yma wedi bod yn bobl sydd wedi arwain ar y drafodaeth ar sicrhau cael senedd ieuenctid. Rydw i'n ddiolchgar i Bethan a phawb arall sydd wedi sicrhau bod y drafodaeth yna wedi aros ar dop yr agenda, a hefyd i ddatgan y bydd gan y senedd ieuenctid eu barn eu hunain—amrywiol farn hefyd—ac fe fydd yn rhydd iddyn nhw gael eu barn eu hunain, ac i'r farn yna fod yn anghyffyrddus ac yn annisgwyl i ni, fel Aelodau Cynulliad neu fel Llywodraeth, ar ba bynnag bwynt ac ar ba bynnag bwnc y byddan nhw'n ei ddewis.
Mae'r ffaith bod yna system bleidleisio electronig yn gyffrous iawn. Rydw i'n really falch ein bod ni wedi llwyddo i sefydlu hynny. Pa mor hir y gwneith hi gymryd i ni sefydlu system o bleidleisio electronig ar gyfer etholiadau cyffredinol llywodraeth leol a Llywodraeth genedlaethol yma yng Nghymru? Mae hwnnw'n fater tu hwnt i sgôp fy natganiad i'r prynhawn yma.
O ran ymwneud pobl ifanc â phleidiau gwleidyddol, pan wnaethom ni ymgynghori â phobl ifanc ynglŷn â'r senedd ieuenctid, roedd yna farn gref yn yr ymgynghoriad yna nad oedden nhw eisiau i bleidiau gwleidyddol berchnogi'r gyfundrefn yma o senedd ieuenctid, neu hyd yn oed i bleidiau gwleidyddol i herwgipio, bron, y senedd ieuenctid. Ac felly, nid ydym ni wedi creu cyfundrefn sydd yn hyrwyddo hynny—[Torri ar draws.]
Ceisio profi eich bod yn dal yn ifanc yno, David Rees. [Chwerthin.]
Mi fydd unrhyw un sydd yn cofrestru i fod yn ymgeisydd i'r senedd, fe fyddan nhw yn rhoi at ei gilydd faniffesto byr iawn yn amlinellu yn fyr iawn eu blaenoriaethau nhw, ac fe fydd yr hawl ganddyn nhw i ymhelaethu yn y crynodeb hynny, wedyn, eu diddordebau, eu diddordebau pwnc a'u diddordebau gwleidyddol, a'u gwerthoedd, ac yn y blaen. Bydd hynny yn fater iddyn nhw ar y pwynt yna.
Ac wedyn ein bwriad ni yw ein bod ni'n rhoi cyfle i'r aelodau hefyd gwrdd yn rhanbarthol—logistically, mae hynny gymaint yn haws i'w wneud ar adegau—fel eu bod nhw'n gallu gwneud gwaith mwy manwl, mwy dwys, gyda grwpiau ieuenctid a grwpiau eraill, ac i ddatblygu syniadau sydd yn dod o'u hardaloedd a'u rhanbarthau yn ogystal hefyd, fel ein bod ni yn gwneud y gwaith sydd ddim dim ond amboutu cwrdd yn y lle yma dair gwaith dros ddwy flynedd, ond sydd yn dipyn ehangach na hynny, ac yn rhoi cyfle llawer yn fwy llawn i'r aelodau etholedig ifanc hynny.
Diolch, Llywydd.