– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 23 Mai 2018.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf wneud y cynnig heddiw yn fy enw i ac agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Fel y dywedasoch, rhan un ydyw, ac mae mwy o waith i'w wneud.
Cyn dechrau trafod cynnwys yr adroddiad hoffwn gofnodi ein diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn. Yn benodol, rydym yn ddiolchgar iawn i'r rheini a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig, i Aston Martin a Toyota am gynnal ein hymweliadau i weld gweithgaredd eu busnes ac i ddeall y pryderon sydd ganddynt am eu perthynas yn y dyfodol i'r sector modurol, a hefyd i bawb a ddaeth i'n cynhadledd rhanddeiliaid, lle y cafodd 28 o sefydliadau gwahanol eu cynrychioli. Hefyd hoffwn gofnodi ein diolch i'r tîm clercio a'r holl staff cymorth i'r pwyllgor y mae eu gwaith bob amser yn caniatáu inni gynnal a llunio'r adroddiadau ar y lefel y gobeithiwn ei wneud. Hebddynt byddem mewn helynt mawr, ac rwy'n siŵr y byddai Cadeirydd pob pwyllgor yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Lywodraeth Cymru am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â ni ar y pwnc hwn.
Fodd bynnag, hoffwn gofnodi fy siom ynglŷn â methiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymateb i fy llythyr yn amgáu'r adroddiad a nodai nifer o feysydd lle byddem yn croesawu mwy o wybodaeth ganddo. Wrth inni symud ymlaen, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n ystyrlon â'r Cynulliad hwn i sicrhau canlyniad sydd o fudd i bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Ddirprwy Lywydd, mae Cymru bob amser wedi bod yn genedl sy'n edrych allan, ac wedi'i chysylltu'n rhyngwladol. Mae'n deg dweud bod rhai wedi'i ofni bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â gwrthod y traddodiad balch hwn. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, roedd yr ofnau hyn yn ddi-sail. Er bod Cymru yn gadael yr UE, rydym yn glir nad yw'n gadael Ewrop.
Ddirprwy Lywydd, beth bynnag fydd canlyniad terfynol y trafodaethau rhwng y DU a'r UE, mae'r 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio yn enghraifft o sut y gallwn elwa o'r bartneriaeth gref drwy weithio gyda'n gilydd. Mae ein hadroddiad yn edrych ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol ac yn ailddatgan y farn y dylid ystyried Brexit fel ailgyfluniad o hen berthynas ynghyd â dechrau perthynas newydd.
Gan droi yn awr at yr adroddiad ei hun, bydd yr Aelodau'n gweld ei fod yn gyfraniad helaeth ac awdurdodol i'r ddadl ynglŷn â natur perthynas y genedl hon ag Ewrop yn y dyfodol. Gwn y bydd gan lawer o fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor themâu a materion arbennig y maent am fynd ar eu trywydd yn eu cyfraniadau. Felly rwy'n bwriadu cadw fy sylwadau at rai o'r themâu ehangach yn yr adroddiad.
Rydym yn gwneud cyfanswm o 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynglŷn â ble y dylai ganolbwyntio ei dylanwad mewn perthynas â safbwynt negodi'r DU, a pherthynas Cymru â'r UE yn y dyfodol ar ôl Brexit. Rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am dderbyn pob un o'r 18 argymhelliad—12 wedi'u derbyn yn uniongyrchol a chwech mewn egwyddor—ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad Ysgrifennydd y Cabinet y prynhawn yma pan fydd yn codi i siarad.
Mae ein set gyntaf o safbwyntiau ac argymhellion yn edrych ar fynediad at y farchnad sengl a threfniadau ar gyfer trefniadau tollau'r DU yn y dyfodol. Beth bynnag fydd yn digwydd yn y Senedd neu Lywodraeth y DU ynglŷn â'r materion hyn, mae ein hadroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom a barn rhanddeiliaid yng Nghymru. Cafwyd ymdeimlad clir o'r dystiolaeth fod yr agwedd bwysicaf ar y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn ymwneud â masnach. Mae'n hanfodol felly fod y berthynas yn y dyfodol yn darparu masnach ddiffrithiant—ie, diffrithiant—heb rwystrau tariff a di-dariff.
Ymhellach, nodwn yn ein hadroddiad fod y dystiolaeth yn blaenoriaethu'n bendant iawn y dylid cynnal safonau rheoleiddio cyfatebol dros yr ymwahanu rheoleiddiol oddi wrth Ewrop ar ôl Brexit. Clywsom bryderon yn benodol o'r sectorau ffermio, pysgodfeydd a bwyd mewn perthynas â'n cysylltiadau masnachu yn y dyfodol. Gallai'r heriau i'r sectorau hyn drwy osod rhwystrau di-dariff newydd ar ôl Brexit, megis archwiliadau iechyd planhigion ac anifeiliaid, beryglu allforion cig oen, cig eidion, pysgod cregyn o Gymru—rhywbeth rwy'n sicr nad oes neb yma am ei weld.
Gan droi at dollau, nodwn yn ein hadroddiad y gallai trefniant tollau newydd gyda'r UE, sy'n adlewyrchu'r trefniadau presennol yn fras, helpu i leihau'r perygl o oedi oherwydd tollau ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd. Wrth i'r amser fynd heibio, ac wrth i'r angen am frys gynyddu, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion credadwy ar y trefniadau tollau rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol. Mae'n hanfodol fod y mater yn cael ei ddatrys mewn ffordd sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau ar ddwy ochr Môr Iwerddon a dwy ochr y Sianel. Yn anffodus, rydym yn dal i weld Llywodraeth yn San Steffan nad yw'n gallu cytuno ar ffordd ymlaen ar y mater hwn, ac sy'n creu mwy o bryder ymysg rhanddeiliaid Cymru ynglŷn â natur ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.
Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys mewnfudo a rhyddid i symud. Rydym yn cydnabod yn ein hadroddiad fod hwn yn fater pwysig i lawer yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ond nodwyd gennym hefyd y rôl y mae dinasyddion yr UE yn ei chwarae yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn gweithio yn ein busnesau preifat. Rydym yn croesawu'r pwyslais a roddir ar sicrhau cytundeb cynnar ar ddyfodol hawliau dinasyddion gan y tasglu Brexit, Senedd Ewrop a thîm negodi'r DU, ac rydym yn croesawu'r cytundeb cam 1 yn hynny o beth.
Gan edrych ymlaen, rydym am weld eglurder gan Lywodraeth y DU ar yr amserlenni ar gyfer newid i system fewnfudo yn y dyfodol ar y cyfle cyntaf. Yn bersonol, rwy'n gobeithio na welwn hyn yn cael ei ohirio hyd nes y gwneir y penderfyniadau ar y cytundeb terfynol a geir rhwng y DU a'r UE.
Ddirprwy Lywydd, fel rwy'n dweud yn y rhagair i'r adroddiad, ni ellir diystyru'n rhy hawdd y 45 mlynedd diwethaf o gydweithredu ac integreiddio. A thema allweddol yn ein hymchwiliad oedd yr angen i sicrhau cydweithrediad ac ymgysylltiad parhaus â rhai o asiantaethau a rhaglenni'r UE ar ôl Brexit. Credwn ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru fapio pa asiantaethau Ewropeaidd y mae wedi eu nodi fel rhai pwysig i barhau i gyfranogi ynddynt ar ôl Brexit, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet pa bryd y cawn fanlion yr ymarfer mapio hwnnw. Rydym hefyd wedi nodi rhai asiantaethau ein hunain, yn enwedig yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd a Chanolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, y cafwyd ateb gan Lywodraeth Cymru yn ei gylch yn ei hymateb i'r adroddiad. I'r perwyl hwnnw, mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn ceisio eglurder yn awr pa un a yw'r UE yn barod i gynnig aelodaeth gysylltiol o'r cyrff hyn i'r DU, neu fath o berthynas sy'n gallu bodoli wedyn.
Rydym hefyd yn nodi'r rhan bwysig a gwerthfawr y mae cydweithredu yn y meysydd addysg wedi ei chwarae, yn enwedig drwy'r rhaglen Horizon 2020 ac Erasmus+. Credwn y byddai parhau i gydweithredu yn y meysydd hyn ar ôl Brexit yn fuddiol i Gymru ac i'r UE. Ar ben hynny, rydym yn croesawu'r cyfeiriadau a wnaed at gydweithredu posibl mewn meysydd ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth y DU, Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop—mae pob un yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i hyn yn y trafodaethau.
Y thema olaf yr edrychwyd arni yn yr adroddiad oedd perthynas Cymru yn y dyfodol â rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol ar ôl i'r DU adael yr UE. Nododd llawer o'n rhanddeiliaid bwysigrwydd parhau i fod yn rhan o'r rhwydweithiau hyn ar ôl Brexit. Mewn tystiolaeth, tynnodd rhanddeiliaid ein sylw at y rôl unigryw a gwerthfawr y gall cymryd rhan mewn rhwydweithiau Ewropeaidd ei chynnig o ran gwersi polisi a chydweithredu ar draws yr holl sectorau hynny. Fel pwyllgor, rydym yn falch o'r effaith gadarnhaol yn y ddau gyfeiriad y mae ymgysylltu o'r fath wedi'i chael yn y gorffennol a gobeithiwn weld y cysylltiadau hyn yn tyfu o nerth i nerth yn y dyfodol.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y gallai fod gan Gymru lai o ran yn llawer o'r rhwydweithiau hyn yn y dyfodol o ganlyniad i Brexit. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym am ei weld ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'r gymdeithas sifil ehangach, yn rhoi camau ar waith i liniaru risg y lleihad hwn lle y bo'n bosibl yn y dyfodol. Yn ein hadroddiad, clywsom am y rôl bwysig a bennwyd yn natganiad Cynhadledd Rhanbarthau Arforol Ymylol Caerdydd i ddatblygu perthynas nid yn unig drwy rwydweithiau ond yn uniongyrchol â gwledydd, rhanbarthau a dinasoedd unigol yn Ewrop. Rydym yn llwyr gydnabod y rôl bwysig y bydd y cysylltiadau hyn yn eu chwarae yn y dyfodol ac yn gobeithio archwilio'r mater ymhellach wrth inni gychwyn ar ail ran ein gwaith.
Pan fyddwn yn edrych tua'r dyfodol, ni allwn anwybyddu perthynas Cymru â'n cymydog agosaf yn yr UE, sef Iwerddon. Ar ôl ystyried effaith Brexit ar fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod ein hadroddiad ar borthladdoedd, roeddem hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y berthynas hon, gan alw yn yr adroddiad hwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn parhau i gryfhau a datblygu'r berthynas honno ar ôl Brexit.
Mae hefyd yn bwysig i ni fel pwyllgor fod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu diogelu mewn unrhyw berthynas yn y dyfodol. I'r perwyl hwnnw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau hyn wrth inni adael yr UE. Rwy'n falch o nodi bod Tŷ'r Arglwyddi wedi cytuno i welliant i'r Bil ymadael â'r UE i geisio ymgorffori siarter hawliau sylfaenol Ewrop yng nghyfraith y DU. Rwy'n gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn derbyn y gwelliant hwnnw.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym un neges gyffredinol i'n ffrindiau a'n partneriaid ar draws Ewrop: mae gan Gymru draddodiad balch fel cenedl sy'n edrych allan i'r byd, a nod ein hadroddiad yw bod yn gyfraniad defnyddiol i'r trafodaethau sy'n dechrau o ddifrif ar ein perthynas yn y dyfodol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru, cymdeithas sifil a ni fel Cynulliad Cenedlaethol adeiladu'r cysylltiadau hyn a meithrin y berthynas hon yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y gwaith hwnnw maes o law. Diolch yn fawr.
Wrth dderbyn argymhellion 1 a 4 ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd ei safbwynt:
'bod yn rhaid inni barhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl, ac rydym eto i'n hargyhoeddi bod aros y tu allan i Undeb Tollau gyda'r UE o fudd inni, o leiaf hyd y gellir ei ragweld.'
Fodd bynnag, fel y clywsom gan felin drafod polisi Open Europe ym Mrwsel, byddai'n rhyfedd pe bai'r DU yn yr undeb tollau. Fel Twrci, byddai'r UE yn negodi cytundebau masnach gyda thrydydd partïon heb y DU wrth y bwrdd. Roeddent hefyd yn dweud, os yw'r DU yn y farchnad sengl, y byddai'n rhaid iddi dderbyn yr holl reolau heb allu pleidleisio arnynt. Ac fel y dywedodd dirprwy gynrychiolydd parhaol y DU i'r UE wrthym, bellach mae gan 27 Llywodraeth yr UE well dealltwriaeth o ble mae eu buddiannau economaidd eu hunain, a buddiannau eu sectorau eu hunain, o ran mynediad at farchnad y DU.
Felly mae angen ateb arbennig a gwahanol arnom, yn hytrach na rhywbeth a wnaed o'r blaen yn unig. Mae o fudd i bawb ohonom gael hyn yn iawn. Er enghraifft, dywedodd cynrychiolwyr o dalaith Bremen yn yr Almaen wrthym fod 10 y cant i 15 y cant o gynnyrch domestig gros pob un o 16 talaith yr Almaen yn agored i farchnad y DU.
Dywedodd llysgenhadaeth Canada wrthym fod 70 y cant o'u masnach drawsffiniol gyda'r UDA yn cael ei gludo gan lorïau, gyda rhaglenni cliriad diogelwch ar gyfer lorïau a gyrwyr a rhaglen eManifest ar gyfer nwyddau, yn darparu, ac rwy'n dyfynnu, system effeithlon a chyflym iawn.
Mae gan Dwrci gytundeb undeb tollau gyda'r UE, er ei bod yn parhau y tu allan i'r UE. Nid yw Swistir yn y farchnad sengl na'r undeb tollau, ac eto caiff ffin Twrci ei phlismona'n llawer mwy helaeth na'r un gyda'r Swistir. Yn wir, mae 10 gwaith cymaint o bobl yn teithio rhwng y Swistir a'r UE ag sy'n teithio rhwng ynys Iwerddon a'r DU. Caiff y ffin â'r Swistir ei chroesi gan oddeutu 2.4 miliwn o bobl bob dydd. Mae Swistir yn gwerthu mwy na phum gwaith cymaint y pen i'r UE na Phrydain.
Comisiynodd pwyllgor materion cyfansoddiadol Senedd Ewrop adroddiad, 'Smart Border 2.0—Avoiding a Hard Border on the Island of Ireland for Customs Control and the Free Movement of Persons', gan gyn-gyfarwyddwr Sefydliad Tollau'r Byd, Lars Karlsson, sydd wedi ymweld â 169 o wledydd, wedi gweithio mewn mwy na 120 ohonynt a gweld mwy na 700 o ffiniau. Fe'i cyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, ac mae'n cynnig model cydweithredu ar dollau, gan gyfuno dulliau cyfnewid data uwch ac elfennau technegol newydd, gan gynnwys rhaglen masnachwr cymeradwy newydd, cynllun teithiwr cymeradwy newydd ac ymagwedd wahanol tuag at ddiogelwch. Dywedodd fod darparu ffiniau bron yn ddiffrithiant yn real, ac nid yn ffuglen wyddonol ar gyfer y dyfodol ac nad ydym yn sôn am seilwaith enfawr, fel tai a mannau croesi ffiniau.
Dywedodd hefyd y byddai cenhedlaeth newydd o ffiniau doeth ar ôl Brexit yn rhoi mantais ychwanegol i Brydain ar lwyfan y byd ac yn gwneud y DU 'yn bartner masnachu deniadol iawn'.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
A yw'n ymwybodol y byddai hyn yn haws o lawer i'w weithredu ar ffin Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon nag ydyw yn y Swistir? Soniodd yr Aelod fod 10 gwaith y nifer o bobl yn croesi ffin y Swistir, ond o ran nwyddau, mae'r ffigur ar gyfer y nwyddau sy'n croesi ffin Gogledd Iwerddon oddeutu un rhan o gant o'r nwyddau sy'n croesi ffin y Swistir.
Ydy, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda'r holl boblogaeth ar ddwy ochr y ffin honno i roi'r sicrwydd y maent ei angen iddynt, lle rwy'n credu bod rhai pobl yn ceisio gwneud iddynt boeni mwy nag sydd angen.
Wrth dderbyn ein hargymhelliad 2, mae Llywodraeth Cymru yn datgan ei bod yn
'gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddiogelu'r enw da sydd gan Gymru yn rhyngwladol am safonau lles anifeiliaid, safonau amgylcheddol a safonau bwyd uchel—ni ddylai'r rhain gael eu haberthu trwy ganiatáu mewnforion rhad.'
Fel y nododd Ysgrifennydd Brexit y DU yn glir ym mis Chwefror, ni fydd y DU yn gostwng safonau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn cystadlu yn y farchnad Ewropeaidd, a chynigiodd system o gyd-gydnabyddiaeth. Ymhellach, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi arian cyfwerth â chyllideb gyfredol yr UE sy'n cefnogi ffermio ac economïau gwledig, ond mae angen inni weld mwy o'r £350 miliwn blynyddol sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd o dan bolisi amaethyddol cyffredin yr UE yn mynd i'r rheng flaen.
Er ein bod yn croesawu'r cytundeb cyfnod 1 mewn perthynas â hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw ac yn gweithio yn yr UE, nododd ein hadroddiad bryderon y gallai ansicrwydd gael effaith ar nifer y gwladolion o'r UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gadael y DU, gan gyfeirio, er enghraifft, at dystiolaeth gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain a Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos yn glir ei hymrwymiad parhaus i fodloni anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, a disgwylir Papur Gwyn ôl-Brexit cyn toriad yr haf ym mis Gorffennaf ar y mater hwn.
Fel Senna the Soothsayer yn Up Pompeii!, ymddengys bod y lle hwn weithiau yn llawn o broffwydi gwae yn pregethu, 'Mae'r diwedd gerllaw'. Wel, yn groes i ragfynegiadau'r proffwydi gwae, mae'n bryd gwneud i Brexit weithio dros Gymru yn Ewrop, ond nid yr UE, fel rhan o DU fyd-eang sy'n edrych tuag allan.
A allaf i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, am ei agoriad bendigedig, sy'n rhoi crynodeb da iawn o'r adroddiad yma, sydd hefyd yn un fendigedig, mae'n rhaid dweud?
Rydw i'n siarad ar ran Plaid Cymru heddiw gan nad yw Steffan Lewis yma, a oedd yn aelod o'r pwyllgor pan gafodd yr adroddiad yma ei baratoi. Gan nad oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor—dim ond eilydd ddigon tila ydw i i Steffan, wedi bod mewn un cyfarfod—rydw i am ddefnyddio fy nghyfraniad y prynhawn yma i drafod yr argymhellion yn benodol, a rôl Llywodraeth Cymru o hyn allan yn gwireddu'r argymhellion hyn, a hefyd sut y gall y Llywodraeth weithredu ewyllys y Cynulliad o ran ein safbwynt ni ar beth ddylai perthynas Cymru fod â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Mae argymhelliad 1 a 4 yn galw, heb yr union eiriad wrth gwrs, am aelodaeth o’r farchnad sengl ac undeb dollau oherwydd dyna’r unig ffordd y mae’n bosibl cyflawni beth mae’r argymhellion yn alw amdano. Rydw i'n falch o weld fod y Llywodraeth yn ei hymateb i’r argymhellion hyn wedi gosod dadl gref dros aros yn yr undeb tollau. Mae Llywodraeth Prydain yn rhwygo ei hun yn ddarnau, wrth gwrs, dros y cwestiwn o undeb tollau, ac er bod y Blaid Lafur yn Llundain wedi cynnig datrysiad, sef creu undeb tollau newydd, mae beth mae’r Blaid Lafur yn gobeithio ei gyflawni fel rhan o’r undeb tollau newydd yma, sef fod Llywodraeth Prydain yn cael ei dweud ar unrhyw gytundebau masnach newydd a bod Prydain hefyd yn cael ei heithrio o reolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus, heb gynsail chwaith. Nid oes cynsail i hynny oherwydd, fel rydym ni wedi ei glywed, mae Twrci mewn undeb tollau gyda’r Undeb Ewropeaidd, ond nid ydynt yn cael eu cynrychioli mewn unrhyw drafodaethau masnach na chwaith eu heithrio o reolau cystadleuaeth masnach Ewrop. Felly, rydym eto i weld unrhyw gynigion rhesymol gan naill ai’r Llywodraeth na chwaith yr wrthblaid yn San Steffan.
Mae argymhelliad 10 yn nodi:
'Os na chytunir ar Horizon 2020 nac unrhyw raglen olynol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd y gallai ddarparu cymorth parhaus i sefydliadau Cymru gydweithio â chymheiriaid Ewropeaidd ar ôl Brexit.'
Mae hwn yn un o’r prif bwyntiau y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod gan busnesau a phrifysgolion Cymru fynediad i rai o brif brosiectau ymchwil a datblygu y byd. Mae’n ansicr hyd yma beth fydd perthynas Prydain gyda Horizon Europe, sef rhaglen olynol Horizon 2020, a fydd yn lot mwy ac yn werth dros €96 biliwn o’i gymharu â’r €77 biliwn sydd yn cael ei wario ar Horizon 2020. Mae’n bosibl y bydd gennym fynediad llawn i bob ffrwd o’r cynllun, ond mi fyddai'n rhaid i ni dalu’n ddrud am hynny.
Fe ddychwelaf yn awr at argymhelliad 2, a dyfynnaf yn uniongyrchol o'r adroddiad:
'Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arni i sicrhau bod buddiannau'r diwydiannau ffermio, pysgota a bwyd yn cael eu diogelu yn ystod y broses ymadael.'
Wel, pob lwc gyda hynny, rwy'n dweud, oherwydd mae'r argymhelliad hwnnw'n mynd i fod yn her i Lywodraeth Cymru yn awr, oherwydd, yn dilyn y bleidlais cydsyniad deddfwriaethol ar welliannau cymal 11, mae Llywodraeth Cymru wedi ildio rheolaeth ar yr agenda honno, wedi ildio dylanwad, gan y bydd pwerau yn y meysydd datganoledig hyn yn cael eu rhewi am saith mlynedd a gellir eu newid heb ein cydsyniad ni yma yng Nghymru. Fel y mae cyngor cyfreithiol y Cynulliad ei hun yn ei ddweud, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol, bydd y Bil ymadael â'r UE
'fel y'i diwygiwyd, yn dal i ganiatáu i gymhwysedd y Cynulliad gael ei gyfyngu heb ei ganiatâd, ac nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn rhoi sicrwydd pendant na fydd hyn yn digwydd.'
Fel y dywedodd yr arbenigwr amaethyddol, yr Athro Tim Lang, yn y pwyllgor materion allanol yr wythnos hon mewn ymateb i gwestiwn gan Jenny Rathbone, gan gyfeirio at y bleidlais cydsyniad deddfwriaethol yma ar 15 Mai, er bod yr Alban wedi sefyll yn gadarn, ystyrir bod Cymru bellach, ac rwy'n dyfynnu, yn 'steamrollable'—ydy yn wir, ac ar y cyrion.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn, sy'n amlwg yn yr ymatebion cadarnhaol iawn i'r argymhellion. Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion sy'n ymwneud â'n cyfranogiad yn rhwydweithiau'r UE, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i sicrhau bod mynediad at y rhwydweithiau hyn yn parhau er budd y gymdeithas sifil a sefydliadau anllywodraethol.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi nodi'r dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a'r Mudiad Meithrin am ymgysylltiad cymdeithas sifil Cymru ar dirwedd cymdeithas sifil yr UE, ac mae hyn yn agor mynediad nid yn unig at ddatblygu polisi gwaith trawswladol o fudd i Gymru a'r UE fel ei gilydd, ond mynediad hefyd at ffrydiau cyllido pwysig.
Roeddwn yn falch o ddefnyddio tîm o'r hyn a elwais yn 'llysgenhadon cyllido'r UE' mewn rôl weinidogol flaenorol—Hywel Ceri Jones, Grahame Guilford a Gaynor Richards—a nododd amrywiaeth eang o gronfeydd yr UE wedi'u rheoli'n ganolog a ffrydiau a rhwydweithiau cyllid eraill sydd ar gael i sefydliadau Cymreig. Rwy'n gobeithio bod eu gwaith a'u hargymhellion yn dal i fod yn ffynhonnell ddilys o wybodaeth ac arweiniad i hysbysu a chynorthwyo'r rhwydweithiau hynny wrth inni adael yr UE.
Mae yna bryder dwfn ynglŷn ag effaith andwyol colli ffrydiau ariannu, yn enwedig, sydd wedi galluogi ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gymryd rhan mewn rhwydweithiau trawswladol. Mewn ymateb i argymhelliad 14, mae'n ddefnyddiol clywed y bydd cymdeithas sifil Cymru yn gallu troi at y gronfa bontio Ewropeaidd fel y nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Mae'n galonogol gweld hefyd fod trefniadau cymorth mwy hirdymor wedi'u nodi yn yr ymateb, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni fel pwyllgor ymgysylltu a chyfrannu at lunio'r trefniadau hynny ar ôl y cyfnod pontio.
Fel David Rees, hoffwn dynnu sylw'r Cynulliad heddiw at bwysigrwydd argymhelliad 18 yn ein hadroddiad, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i ddiogelu'r hawliau dynol a safonau cydraddoldeb y mae dinasyddion Cymru wedi elwa arnynt drwy fod yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Yn y dystiolaeth, rhoesom sylw i ystod o gysylltiadau dwyochrog rhwng Cymru a'r UE, yn cynnwys nid yn unig rhwydweithiau amgylcheddol ond rhwydweithiau a diddordebau cydraddoldeb. Cyfeiria'r adroddiad at dystiolaeth gan Chwarae Teg, pan dynnodd Natasha Davies sylw at rôl aelodaeth o'r UE yn diogelu ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, a dywedodd wrthym na ddylai fod unrhyw gyfyngu ar yr hawliau hyn ar ôl Brexit. Ategodd Stonewall Cymru y pryderon hyn, gan ein hatgoffa bod cyfraith yr UE wedi gwarantu hawliau y gellid eu tanseilio gan arwain at risg bosibl i bobl LGBT yn y dyfodol.
Mae'n bwysig, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb a chyfle i ddiogelu a datblygu ein rôl fel cenedl flaengar, sy'n ymgysylltu'n rhyngwladol. Rhaid inni beidio â sefyll ar y cyrion wrth i drafodaethau cyfnod 2 fynd rhagddynt. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd a bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein hymdrechion yn y pwyllgor i annog yr UE a'i sefydliadau i ymgysylltu â sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol yng Nghymru wrth i ni symud tuag at Brexit.
Mae nifer o'r gymdeithas sifil yng Nghymru yn ymwneud ag arloesi drwy weithredu cymdeithasol, ac yn aml iawn yn cael eu cefnogi gan gronfeydd yr UE, er mwyn grymuso aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas, a chryfhau a hyrwyddo cydraddoldebau a diogelu ein hamgylchedd. Felly, i gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gwneud cyfiawnder â phawb sydd ar flaen y gad yn y gymdeithas sifil yn cynnal hawliau dynol yn ogystal â'r rhai sy'n ein hysbysu ac yn ein harwain ar y dystiolaeth hanfodol a gawsom fel pwyllgor wrth inni geisio eu cynrychioli a rhoi llais iddynt ar y cam hollbwysig hwn o drafodaethau'r UE a chyfnodau pontio yn y dyfodol.
Credaf ei bod yn glod i'r pwyllgor materion allanol, er gwaethaf y teimladau cryf iawn ar y materion dan sylw mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ei fod yn gyson yn cynhyrchu adroddiadau teg, cytbwys ac awdurdodol. Hoffwn ganmol, yn arbennig, David Rees am ei gadeiryddiaeth o'r pwyllgor hwn a'r ffordd y mae wedi cyfeirio ei waith. Rwy'n cytuno'n arbennig gyda'r pwynt a wnaeth ar ddechrau ei araith y prynhawn yma, fod Cymru'n gadael yr UE ond nid yw'n gadael Ewrop. Ar yr ochr hon i'r ddadl, rydym yn aml yn cael ein disgrifio fel Little Englanders, neu Little Wales-ers neu beth bynnag ac yn tueddu i fod â rhyw fath o feddylfryd y gwersyll, ac yn canolbwyntio'n llwyr ar Brydain, ond wrth gwrs mae Brexit yn rhoi cyfle inni ganolbwyntio ar y byd ehangach yn ogystal ag ar gynnal ein cysylltiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Un o'r problemau sydd gennym, rwy'n credu, wrth gynhyrchu adroddiadau fel hyn yw bod y dystiolaeth a ddaw i law, a siarad yn gyffredinol, yn tueddu i fod ynghylch buddiannau cynhyrchwyr, ac mae buddiannau cynhyrchwyr yn gyffredinol yn tueddu i ffafrio'r status quo oherwydd eu bod yn ymdrin, wrth gwrs, â'r hyn y maent yn ei wybod a'r hyn y maent wedi'i brofi ac maent am barhau â hynny er mwyn parhau â'r drefn y maent yn gweithredu oddi tani ar hyn o bryd. Mae'r dyfodol yn anhysbys, mae'n ansicr—er y gallai fod cyfleoedd gwell o dan gyfundrefn wahanol—ond nid yw'r rheini'n hysbys ar hyn o bryd ac felly mae rhywfaint o ddyfalu ynghlwm wrth hynny. Ond yn bersonol credaf nad oes gan Gymru ddim i'w ofni hyd yn oed o sefyllfa 'dim bargen', pe bai'r negodiadau presennol yn arwain at hynny. Rwy'n meddwl bod Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn anodd iawn i gael y fargen orau i Brydain yn sgil ei sylw diddiwedd i'r syniad o ryw fath o undeb tollau. Mae hynny'n chwarae'n syth i mewn i ddwylo'r UE, oherwydd os yw'r UE yn credu ein bod yn awyddus iawn i gynnal sefydliadau presennol a ffyrdd presennol o fasnachu â'n gilydd, nid oes ganddynt unrhyw gymhelliant o gwbl i ymrwymo i fath gwahanol o berthynas fasnachu, a fyddai'n well i ni ar bob sail.
Mae polisi yr UE o negodi dilyniant, fel y'i disgrifiwyd gan Yanis Varoufakis, Gweinidog cyllid Gwlad Groeg gyda phrofiad enfawr o ymdrin â Chomisiwn yr UE ynglŷn â'r ateb a geisiwyd i broblemau dyledion Gwlad Groeg—. Nododd y perygl o beidio ag ystyried y berthynas fasnachu yn y dyfodol ar yr un pryd â'r holl agweddau eraill ar ein perthynas â'r UE a'r angen i'w negodi. Mae hynny wedi cynyddu'r ansicrwydd a achoswyd ac nid yw'n ddim mwy na pharhad o ymgyrch prosiect ofn a welsom drwy gydol ymgyrch y refferendwm ac sy'n dal i fod yn amlwg iawn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni beidio â gorliwio manteision undeb tollau. Credaf y dylem gadw mewn persbectif beth yn union yw natur y fasnach a wnawn gyda'r UE. Os na fyddai gennym gytundeb masnach, faint o anhawster y byddai cwmnïau o Gymru yn ei gael i werthu i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd? Rydym yn dechrau, wrth gwrs, o sefyllfa lle rydym nid yn unig yn cyd-fynd yn rheoleiddiol â'r UE, ond o dan yr un gyfundrefn mewn gwirionedd. Felly, yn y dyfodol, os oes unrhyw wyro rheoleiddiol yn mynd i fod, mae hwnnw'n fater ar wahân a gaiff ei drafod, gyda'i holl fanteision ac anfanteision, ar yr adeg honno.
Ond o ran cyfundrefn dariffau'r UE, credaf ei bod hi'n bwysig nodi, pe na baem yn gallu ymrwymo i gytundeb masnach rydd â'r UE, y byddai'r tariffau a fyddai'n berthnasol i gynhyrchwyr Cymru yn gyffredinol yn fach iawn. Mae amaethyddiaeth yn fater cwbl wahanol, ond yn achos nwyddau a weithgynhyrchir yn benodol, mae'r rhain yn fach iawn. Mae'r ddogfen a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Y Polisi Masnach: Materion Cymru' yn eglur iawn ar hyn. Os edrychwn yn Atodiad A ar dudalen 23 y ddogfen hon, y meysydd masnach sydd o fwyaf o ddiddordeb a phwysigrwydd i Gymru yw pethau fel nwyddau trydanol a thelathrebu, cynhyrchion amrywiol a weithgynhyrchir, cynhyrchion metel sylfaenol amrywiol, cynhyrchion cemegol amrywiol. Mae gan bob un o'r rhain dariffau posibl o lai na 5 y cant. Mae cerbydau yn achos gwahanol eto. Yn gyffredinol mae'r maes hwnnw oddeutu 10 y cant, ond rhaid inni gofio, os byddwn yn ddarostyngedig i dariffau ar ein hallforion i'r UE, maent hwythau wrth gwrs yn ddarostyngedig i'r gwrthwyneb, a chan fod gennym ddiffyg masnach sylweddol yn y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, hwy a fyddai'n waeth eu byd yn y pen draw. Pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, byddai'r incwm tariff i'r Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd rywbeth yn debyg i £13 biliwn y flwyddyn, ond ni fyddai'r incwm tariff i'r UE ond yn £5 biliwn y flwyddyn. Felly, byddem yn llawer iawn gwell ein byd.
Nid oes neb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin am weld rhwystrau masnach neu rwystrau tariff rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, a byddai inni barhau i fasnachu mor ddiffrithiant â phosibl o fudd i bawb, ond yr UE piau'r cam nesaf. Hwy sy'n gosod y rhwystrau ac yn creu'r anawsterau rhag llunio cytundeb synhwyrol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod parhad ymgyrch prosiect ofn yn ei gwneud yn llawer anos i gael y synnwyr cyffredin y mae pawb sy'n pryderu am fuddiannau Cymru am ei weld.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i’r pwyllgor am eu holl waith yn helpu i ystyried y drafodaeth bwysig hon, sef y berthynas fydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ar ôl Brexit. Mae llawer o’r Aelodau o rannau gwahanol y Siambr hon yn gyffredinol â’r un farn, fel dywedodd David Rees pan oedd e’n siarad yn gyntaf: bod Cymru yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ond ni ddylem ni ymadael ag Ewrop. Ond, yn ymarferol, bydd yr egwyddor honno yn cael ei datblygu gan y cyd-destun ehangach yn yr adroddiad hwn. Dirprwy Lywydd, yn yr amser cyfyngedig sydd ar gael heddiw, nid oes modd i mi osod ateb Llywodraeth Cymru i bob un o’r 18 argymhelliad gan y pwyllgor, ond mae’r ymateb hwnnw ar gael i’r Aelodau yn ein hymateb ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 21 Mai.
Byddaf yn dechrau, fodd bynnag, gyda’r gyfres gyntaf o argymhellion, gan eu bod yn mynd i wraidd ein galwad am sicrhau Brexit sy’n rhoi anghenion swyddi a'n heconomi yn gyntaf.
Yn hanfodol i hynny, Ddirprwy Lywydd, mae'r trafodaethau dros berthynas tollau'r DU a'r UE yn y dyfodol, ac rydym yn parhau i wthio am gyfranogiad llawn a dirwystr yn y farchnad sengl, yn syml oherwydd ei fod yn hanfodol i fuddiannau Cymru. Mae 60 y cant o allforion nwyddau adnabyddadwy o Gymru yn mynd i'r UE, ac yn 2017 cododd y ffigur i dros 77 y cant ar gyfer allforion bwyd a diod a 90 y cant ar gyfer ŵyn a allforir. Byddai gosod unrhyw dariffau ar rwystrau di-dariff yn anfanteisiol iawn i fusnesau yng Nghymru, gan eu rhoi o dan anfantais gystadleuol o gymharu â chystadleuwyr o'r UE.
Mae'r adroddiad materion allanol a deddfwriaeth ychwanegol yn gofyn inni bwyso ar Lywodraeth y DU i gael mynediad ffafriol i'r farchnad er mwyn diogelu buddiannau ffermio, pysgota a bwyd. Roedd Dr Lloyd wedi cyffroi i'r fath raddau ynglŷn â hynny fel ei fod wedi ailadrodd cyfres o fythau i fynd ochr yn ochr ag ef. Gwyddom fod yn rhaid inni barhau i wneud yr achos dros fuddiannau ffermio, pysgota a bwyd Cymru a chynigion credadwy ar gyfer trefniadau tollau yn y dyfodol ym mhob fforwm sydd ar gael, ac mae'r adroddiad yn ychwanegu at yr achos o blaid dull cadarnhaol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'n partneriaeth economaidd yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae trefniadau tollau yn ganolog i'r prosbectws hwnnw. Yn syml iawn, nid yw honiadau Llywodraeth y DU y bydd partneriaethau tollau neu rwyddhad eithaf neu atebion arloesol yn lleihau'r tarfu ar economi y DU yn y dyfodol yn dal dŵr. Nid yw hynny'n dweud nad oes ganddynt gyfraniad i'w wneud, ond nid yw'r syniad y byddant yn datrys y broblem, ac yn datrys y broblem, yn bwysicaf oll, ar ynys Iwerddon, yn gredadwy. Byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i gael y cynigion tollau mwy credadwy hynny, yn ffurfiol drwy strwythur y cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol ac mewn trafodaethau dwyochrog i amddiffyn economi Cymru, oherwydd mae angen i Gymru aros mewn undeb tollau. Mae'r dystiolaeth, fel y dywedodd David Rees, yn pwyntio'n ddiamwys i'r cyfeiriad hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n troi o gwmpas trefniadau ymarferol yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE. Yn unol ag argymhelliad 6, er enghraifft, rydym yn parhau i wneud yr achos fod busnesau, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a phrifysgolion Cymru yn dibynnu ar ein gallu i ddenu pobl o'r tu hwnt i'n ffiniau ein hunain i adeiladu eu dyfodol yma yng Nghymru. I gyfeirio at ddwy enghraifft yn unig: mae'r holl filfeddygon galwedigaethol sy'n arolygu cig yng Nghymru—pob un ohonynt—yn dod o'r tu allan i'r DU, yn raddedigion o'r UE, a ganed mwy na chwarter, 27 y cant, y rhai a gyflogir yn sectorau cynhyrchu bwyd a diod Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae adroddiad y pwyllgor yn amlygu'r pwyslais a roddir ar hawliau dinasyddiaeth gan dasglu Brexit Senedd Ewrop, ac yn briodol mae'n nodi bod cytundeb ar y mater hwn o fudd i bawb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar amserlenni ar gyfer cyhoeddi ei Phapur Gwyn hirddisgwyliedig ar fewnfudo, yn y gobaith y bydd yn cyflwyno cynnig credadwy, gan ganiatáu amser i fusnesau ac eraill ymateb ac addasu i unrhyw gyfyngiadau annymunol yn y dyfodol. Mae perfformiad Llywodraeth y DU yn y maes hwn wedi bod yn arbennig o ansicr. Trefnwyd yn wreiddiol i'r Papur Gwyn ar fewnfudo gael ei gyhoeddi yn ystod yr haf y llynedd. Cafodd hynny ei ohirio tan ddiwedd yr hydref y llynedd ac yna ei ohirio ymhellach hyd at ddiwedd y flwyddyn. Comisiynwyd y pwyllgor cynghori ar fewnfudo i lunio adroddiad erbyn mis Medi eleni. Roedd hynny o leiaf yn agor y drws ar y posibilrwydd y byddai polisi'n cael ei lywio gan dystiolaeth. Rwy'n gweld adroddiadau yn awr fod yr Ysgrifennydd Cartref newydd yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ym mis Awst, gan sathru ar holl ymdrechion cynifer o fusnesau ac eraill i ddarparu gwybodaeth i ymarfer y pwyllgor cynghori ar fewnfudo.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am droi yn awr at yr hyn a ddywed yr adroddiad am faterion hanfodol trefniadau diogelu'r cyhoedd ac iechyd cyhoeddus ar ôl Brexit. Fel y cydnabu'r pwyllgor, mae cydweithrediad drwy'r UE cyfan yn hanfodol i ffyniant a diogelwch Cymru. Ym maes iechyd, nid yw clefydau'n cydnabod ffiniau cenedlaethol. Mae'r adroddiad yn amlygu'r budd diamwys y mae parhad aelodaeth y DU, neu ei chyfranogiad mewn asiantaethau sy'n ymwneud â maes atal clefydau ac iechyd y cyhoedd yn Ewrop yn ei ddwyn i bawb. Pe bai unrhyw gytundeb yn y dyfodol yn lleihau'r posibilrwydd o gydweithredu rhwng GIG Cymru a'r Ganolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop, er enghraifft, gallai achosi oedi wrth gofnodi ac olrhain clefyd, amharu ar yr ymateb i achosion, lleihau effeithiolrwydd o ran parodrwydd i gynllunio ac ymateb i bandemig, ac arwain at fylchau sylweddol yn y wybodaeth am glefydau heintus.
Wrth gwrs, mae ein diddordeb mewn parhau i gydweithredu gyda'r UE yn mynd ymhell y tu hwnt i faterion iechyd. Mae gwasanaethau arloesi, er enghraifft, yn elwa'n eithriadol o fynediad at asiantaethau a rhaglenni'r UE, gan ganiatáu ymchwil a phartneriaethau cydweithredol trawsffiniol sy'n galluogi sefydliadau ymchwil Cymru i chwarae eu rhan ar lwyfan y byd. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i gefnogi parhad ym muddsoddiad Cymru yn rhaglenni a rhwydweithiau allweddol yr UE. Mae cefnogaeth y Llywodraeth i'r argymhellion hyn mewn egwyddor yn unig yn adlewyrchu natur anhysbys rhai o'r materion technegol pwysig mewn perthynas â chymhwysedd aelodaeth. Ni wyddom eto, er enghraifft, a ganiateir buddsoddiad gan wladwriaeth is-genedlaethol mewn rhai o raglenni'r UE yn y dyfodol wedi i'n haelodaeth ddod i ben. Dyna pam, yn ein hymateb, ein bod yn pwysleisio'r manteision i'r DU gyfan o ymdrech ar ran Llywodraeth y DU i sicrhau cyfranogiad yn y rhaglenni sy'n olynu Horizon 2020, Erasmus+ ac ati.
Yn y cyfamser, ac er mwyn cefnogi cyfranogiad sefydliadau Cymru mewn rhaglenni a rhwydweithiau Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gronfa bontio Ewropeaidd. Bydd yr adnodd hwn, wedi'i gefnogi gan fewnbwn cychwynnol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu inni gefnogi ymgysylltiad yn y dyfodol wedi i'r cyfnod pontio ddod i ben. Bydd y gronfa'n cael ei datblygu mewn partneriaeth â busnesau Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau allweddol eraill, o'r math a nodwyd gan Jane Hutt, er enghraifft, mewn cymdeithas sifil er mwyn darparu cymorth wedi'i dargedu ac wedi'i addasu i anghenion buddiolwyr. Rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y byddwn yn cyhoeddi'r gyfran gyntaf o brosiectau yn fuan iawn gyda rhagor i ddilyn yn y misoedd sydd i ddod.
Gadewch, Dirprwy Lywydd, i mi ddweud hwn yn gwbl glir: bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i amddiffyn swyddi a busnesau Cymru yn ystod y trafodaethau ynghylch ymadael a’r cyfnod pontio, a thu hwnt i hynny mewn unrhyw berthynas fasnachu newydd gyda’n partneriaid rhyngwladol.
Dirprwy Lywydd, mae’r darlun hwn yn symud yn gyflym, a bydd hyn yn parhau dros weddill y flwyddyn galendr hon a thu hwnt hefyd. Nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn bwriadu cynnal ei ddiddordeb yn y maes yma, ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â'r pwyllgor yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor, David Rees, i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Efallai y caf ymdrin â'i ymatebion ef yn gyntaf. Rwy'n falch iawn ei fod yn y bôn wedi cefnogi popeth a ddywedwn yn yr adroddiad ac yn cydnabod bod yr hyn rydym yn ei ddweud yn faterion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â hwy fel cenedl, yma yng Nghymru ond hefyd yn y DU yn ogystal.
Rwy'n cytuno gyda'r pwynt am egwyddorion. Rwy'n deall y manylion technegol na wyddys amdanynt a allai godi oherwydd bod cymaint o ansicrwydd yn dal i fodoli hyd nes y byddwn yn gwybod mwy o fanylion am gytundeb terfynol. Rwy'n derbyn hynny, ond mae'n dal i fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd ar ôl y rheini wrth inni fynd ar drywydd cytundeb terfynol sy'n gweithio i Gymru mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddem am i chi ei wneud i ni, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r gronfa bontio Ewropeaidd a ddisgrifiwyd gennych a'r lwfans o arian ar gyfer y sefydliadau y soniodd Jane Hutt amdanynt i ganiatáu'r ymgysylltiad hwnnw ag Ewrop yn y dyfodol. Mae hynny'n hanfodol oherwydd bod cynifer o sefydliadau wedi agor y cysylltiadau hynny, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn parhau gyda'r rheini ac yn elwa ohonynt yn y dyfodol. Mae'n bwysig iawn ar gyfer hynny.
Fe af ymlaen at rai o'r Aelodau, ac rwyf am ymdrin â chyfraniad Jane yn gyntaf am mai dyna'r hawsaf. Tynnodd Jane ein sylw'n glir at golli'r ffrydiau ariannu, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd yn rhoi rhyw gysur inni wybod bod cyfleoedd yno i hynny ddod drwodd. Ond mae ar gyfer y darlun yn y tymor hwy, oherwydd nid yw hwnnw, fel y gwyddom, yn ddim ond cronfa bontio ac nid o reidrwydd yn hirdymor, felly mae angen inni edrych ar hynny. Ac nid ydym eto'n gwybod beth y mae'r DU yn mynd i wneud ynglŷn â sicrhau arian yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd ac i ganiatáu'r math hwnnw o ymgysylltiad. Felly, mae hynny'n rhywbeth sy'n dal i fod gennym, ac mae'n bwysig. Gwn y bydd Jane yn parhau i dynnu sylw at yr agenda cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn ehangach, i sicrhau nad ydym yn colli'r hyn enillwyd o dan yr UE.
Dai Lloyd—a gaf fi dynnu sylw at y ffaith bod Steffan wedi cael effaith enfawr ar ein pwyllgor, a gwn am ei frwdfrydedd ynghylch edrych ar berthynas Cymru nid yn unig â'r UE ond â'r byd yn ehangach yn ogystal, ac edrychaf ymlaen at ei gael yn ôl cyn gynted â phosibl i'r pwyllgor? A gaf fi eich cywiro? Fe ddywedoch chi mewn gwirionedd mai argymhellion 1 a 4 oedd aelodaeth lawn o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Na, nid dyna roeddent yn ei ddweud; yr hyn roeddent yn ei ddweud, yn y bôn, oedd ein bod eisiau trefniant tollau a fyddai'n caniatáu inni gael cytundebau tebyg, a lle byddai gennym, unwaith eto, fynediad dirwystr i'r farchnad. Felly, nid yw'n hollol yr un fath â'r derminoleg a ddefnyddioch chi. Roeddwn am wneud hynny'n glir. Ar y materion a godwyd gennych, mae angen inni sicrhau bod gennym raglenni cydweithredol. Mae rhaglen fframwaith 9, sy'n un o'r rhaglenni i ddilyn Horizon 2020—mae angen defnyddio'r arian hwnnw yng Nghymru; mae angen inni gael mynediad ato, mae angen i'n prifysgolion allu cael mynediad ato ac mae angen i'n diwydiannau ymchwil gael mynediad ato, felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i ymchwilio i hynny. Ac er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi sôn am faterion y DU, mae'n dal i fod yn bwysig i Gymru edrych ar bob cyfle a gawn i gymryd rhan mewn rhaglen o'r fath.
Neil Hamilton, a gaf fi ddiolch i chi am eich geiriau caredig yn gyntaf oll? Gallai fod y peth caredicaf y byddaf yn ei ddweud heddiw. Ond rydych yn gywir; rhoddir buddiannau cynhyrchwyr yn dystiolaeth ac maent yn pryderu ynglŷn â newid, oherwydd eu bod yn poeni am eu proffidioldeb, maent yn poeni am eu dyfodol, maent yn pryderu am fywoliaeth eu gweithwyr. Mae yna faterion sy'n eu poeni pan na fyddant yn gwybod beth sy'n digwydd—dealladwy. Felly, mae hynny'n bwysig. Ni allwn guddio hynny. Nid wyf yn credu mai prosiect ofn yw hynny; realiti'n unig yw hynny. I ble'r ydym yn mynd? Beth sy'n digwydd? Credaf mai dyna'r broblem. Rydych yn dweud nad ydynt yn meddwl gormod am drefniadau tollau. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae busnesau'n dweud y gwrthwyneb yn llwyr wrthym. Maent eisiau gwybod am drefniadau tollau, maent eisiau gwybod am y tariffau ac maent eisiau gwybod am y rhwystrau di-dariff. Mae angen iddynt wybod ble maent yn mynd.
Roeddem yn siarad ddydd Llun yn ein pwyllgor ac roedd pobl yn dweud nad yw ffermwyr yn arbennig yn sôn ynglŷn â beth sy'n digwydd y flwyddyn nesaf; maent yn siarad am beth sy'n digwydd mewn pum neu chwe blynedd, ynglŷn â'r hyn y maent yn ei gynllunio, sut y byddant yn arallgyfeirio eu trefniadau, eu busnesau, mewn pum neu chwe blynedd—mae angen iddynt ei wneud yn awr. Felly, mae'r ansicrwydd hwnnw'n broblem iddynt. Rydych yn dweud nad oes unrhyw un eisiau rhwystrau—rwy'n cytuno'n llwyr—ac mai'r UE piau'r cam nesaf ar hynny. A gaf fi atgoffa pawb yn y Siambr hon fod yr UE yn fwy pryderus, ar hyn o bryd, ynglŷn â'r fframwaith ariannol amlflwydd a'r cyfnod nesaf o saith mlynedd nag y maent ynghylch Brexit? Maent yn edrych ar eu cyllidebau y gwyddant eu bod yn gyfyngedig heb arian y DU, ac maent yn bryderus iawn am hynny. Gyda Brexit, mae'n debyg ein bod wedi mynd i lawr y rhestr yn ddramatig yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, gallech ddweud mai mater i'r UE ydyw, ond nid wyf yn meddwl eu bod yn poeni amdanom ni; mae ganddynt broblemau eraill y maent yn mynd i'r afael â hwy, ac mae angen iddynt edrych ar hynny. Rwyf bob amser yn ceisio cynhyrchu adroddiadau cytbwys yn ogystal.
Pwysleisiodd Mark y tollau, fel y byddech yn disgwyl iddo wneud, ac ateb arbennig sy'n addas ar gyfer y DU. Rwy'n deall hynny. Soniodd am lorïau a thechnoleg rhwng UDA a Chanada. A gaf fi nodi, a'i atgoffa o'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw yn y pwyllgor Brexit yn San Steffan? Bydd yr ateb 'max fac' sy'n cael ei argymell gan Lywodraeth y DU yn costio £20 biliwn y flwyddyn i fusnesau ac yn cymryd pum mlynedd i weithio'n llawn mae'n debyg. Dyna'r hyn a ddywedodd Prif Weithredwr Cyllid a Thollau EM heddiw. Felly, nid yw'r syniad hwn y gallwn gael ateb technolegol yfory yn realistig, ac nid fi sy'n dweud hynny, nid y byd busnes, ond yr unigolyn sy'n siarad am ei gasglu mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]
Na. Dim ymyriadau, oherwydd nid oes amser gan yr Aelod. Mae'n mynd i ddirwyn i ben yn awr.
Rwy'n mynd i ddirwyn i ben. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i graffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y misoedd nesaf. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth sy'n llifo; mae'n symud yn barhaus. Rydym wedi mwynhau'r ddadl heddiw. Rydym yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at y sgwrs genedlaethol ar hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.