1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.
1. Sut y mae'r Prif Weinidog yn asesu cynnydd o ran cyflawni'r ymrwymiadau sy'n ymwneud â datblygu economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu? OAQ52286
Wel, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein dull o adeiladu economi gref trwy baratoi busnesau ar gyfer y dyfodol a grymuso ein lleoedd a'n pobl i fod yn fwy cynhyrchiol.
Nododd un o argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru',
'Mae perygl gwirioneddol bod creu Byrddau Rhanbarthol a strwythurau i’w cefnogi yn ychwanegu lefel ychwanegol o fiwrocratiaeth i ddatblygiad economaidd yng Nghymru.'
Rydym ni'n deall erbyn hyn y bydd gan y gogledd, y de-orllewin y canolbarth, a rhanbarth Dwyrain De Cymru, swyddog rhanbarthol i oruchwylio'r bargeinion dinesig a thwf. A allai'r Prif Weinidog roi syniad o sut y mae'r penodiadau hyn yn mynd rhagddynt, a hefyd amlinellu'r hyn y mae'n ei gredu fydd eu cylch gwaith llawn?
Rwy'n deall bod tri yn eu swyddi erbyn hyn. Gofynnodd y cwestiwn am y strwythur. Wel, lle mae gennych chi fargen rhanbarthol, mae angen strwythur rhanbarthol i sicrhau'r fargen honno; allwch chi ddim dibynnu ar awdurdodau lleol unigol i'w wneud gan weithio ar eu pennau eu hunain, ond, trwy weithio gyda'i gilydd, a chyda lefelau eraill o Lywodraeth, gallant sicrhau'r canlyniad gorau i'r bobl sy'n byw yn yr ardal honno.
Prif Weinidog, mae'n bosibl y bydd y don newydd o ddatblygiadau technolegol ym meysydd roboteg a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith enfawr ar swyddi, ac mae hwn yn ddarn o waith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Nawr, rwyf i'n sicr eisiau gweld economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan awtomatiaeth. Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi penodi Phil Brown i gyflawni darn o waith yn y maes hwn, ond nid yw hynny'n golygu na all gwaith barhau nawr, cyn iddo adrodd. A oes gennych chi swyddog arweiniol yn gweithio ar hyn o fewn Llywodraeth Cymru, a, chan fod hwn yn faes sy'n croesi'n briodol ar draws nifer o bortffolios ar draws Ysgrifenyddion Cabinet, pwy yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n arwain yn y maes hwn?
Wel, o ran arloesi digidol, Julie James sydd â'r swyddogaeth honno yn amlwg. Mae hyn yn fwy na dim ond mater o ddatblygu economaidd, wrth gwrs. Mae pobl yn tueddu i weld arloesi fel bygythiad i swyddi. Nid oes rhaid iddo fod. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddeall bod cyfleoedd ar gael o ran gweddnewid y ffordd, er enghraifft, y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio. Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Lanelli wedi ei wneud yn eglur iawn ar nifer o achlysuron. Felly, nid yw'n fater o ddatblygu economaidd yn unig, er ei fod yn rhan bwysig o'r dyfodol, ond mae'n torri ar draws llawer iawn o feysydd Llywodraeth, a dyna pam, wrth gwrs, y mae angen i rywun â chyfrifoldeb traws-lywodraethol yn y maes hwnnw ymdrin ag ef.