Cydlyniant Cymunedol yn Ne Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn y dyfodol i wella cydlyniant cymunedol yn ne Cymru? OAQ52260

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir pedwar amcan y byddwn ni'n mynd ar eu trywydd: yn gyntaf, datblygu cydlyniant cymunedol ar lefel genedlaethol; yn ail, cymorth cydlyniant ar lefel ranbarthol ar gyfer grwpiau sydd ar wahân; yn drydydd, integreiddio newydd-ddyfodiaid; ac, yn bedwerydd, lliniaru tensiynau a mynd i'r afael â throseddau casineb.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae plismona yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau yn gydlynol ac yn mwynhau ansawdd bywyd da, ac mae ein heddluoedd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, iechyd, tai ac, yn wir, y sector gwirfoddol mewn partneriaeth agos, gan adlewyrchu'r ffaith bod y rhan fwyaf o waith yr heddlu yn ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig. O gofio hynny, a'r achos cryf iawn dros ddatganoli plismona sy'n dilyn ohono, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod problemau perthnasol yn cael eu rhagweld a'u harchwilio o ran datganoli plismona yn y dyfodol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:59, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae e'n iawn wrth ddweud bod gennym ni safbwynt hirsefydlog o gefnogi datganoli plismona ac, wrth gwrs, bydd y comisiwn ar gyfiawnder yn ystyried materion pellach. Mae'n bwysig, wrth gwrs, datganoli ai peidio, ein bod ni'n gweithio gyda'r heddlu. Rydym ni'n gwneud hynny, boed drwy'r fforwm argyfyngau sifil, boed drwy grwpiau eraill, er enghraifft ystyried cymorth i ddioddefwyr, gan ein bod ni wedi ymrwymo i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr troseddau casineb. Felly, rydym ni wedi darparu cyllid i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i weithredu canolfan genedlaethol hysbysu a chymorth troseddau casineb. Bydd y cyllid hwnnw'n parhau hyd at 2020 o leiaf, a cheir arwyddion cadarnhaol o hyd bod dioddefwyr yn dod ymlaen a'u bod yn fwy hyderus o ran hysbysu.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:00, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae sefydliadau trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau a mynd ati i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn ogystal â darparu cyswllt rhwng cyrff y sector cyhoeddus a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Er mwyn iddyn nhw lwyddo, maen nhw angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei strategaeth i wella cydlyniant cymunedol yn defnyddio ac yn cynorthwyo'r trydydd sector yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried yw pa un a ddylem ni ddiweddaru'r cynllun cydlyniant cymunedol ar gyfer yr haf eleni i gymryd cynnydd diweddar i droseddau casineb a'r heriau newydd i gydlyniant cymunedol yng Nghymru i ystyriaeth. Gallaf gadarnhau ein bod ni'n bwriadu cyhoeddi cynllun cydlyniant cymunedol a'r cynllun cyflenwi ar fynd i'r afael â throseddau casineb, fel y bydd y cynlluniau hynny, wrth iddynt gael eu datblygu, yn cymryd tystiolaeth newydd ac amgylchiadau newydd i ystyriaeth.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:01, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n sicr bod mwy y gellir ei wneud yn hyn o beth, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n ystyried bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod troseddau casineb wedi cynyddu gan ugain y cant yng Nghymru mewn blwyddyn yn unig. Mae mwyafrif y 2,941 o droseddau a gofnodwyd—ac rydym ni'n gwybod y bydd llawer mwy o ddigwyddiadau nas adroddir amdanynt—yn ymwneud â hil neu grefydd, ac os cyfunwch chi hyn â graffiti Natsïaidd sydd wedi ymddangos yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn y misoedd diwethaf, mae darlun sy'n peri gofid mawr yn dechrau dod i'r amlwg. Rydym ni hefyd yn gwybod bod menywod Mwslimaidd yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan droseddau casineb. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni: beth all eich Llywodraeth ei wneud i ddarparu cymorth wedi ei dargedu, yn enwedig i fenywod Mwslimaidd, ond i bawb arall sy'n dioddef troseddau casineb a gwahaniaethu hefyd, a sut y gall Llywodraeth Cymru herio'r broblem gynyddol hon o droseddau casineb yn uniongyrchol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais yn gynharach, rydym ni'n ariannu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, a dywedais yn gynharach tan pryd y byddai'r cyllid hwnnw'n parhau—2020 o leiaf. A gaf i ymuno â hi o ran gresynu'r weithred o beintio sloganau hiliol ar adeiladau, yn enwedig, ond nid yn unig, yng Nghasnewydd? Gwn y bydd hi yn rhannu fy nghondemniad cryf o hynny. Pan ddaw i hysbysu am droseddau, wrth gwrs, ceir dwy ffordd o edrych ar y mater: yn gyntaf, os bu cynnydd yn nifer y troseddau a adroddwyd, efallai fod lefel wirioneddol y troseddau wedi cynyddu, ond efallai hefyd fod pobl yn fwy parod i ddod ymlaen i hysbysu am droseddau. Mae bob amser yn anodd cael at wraidd yr ystadegau. O'n safbwynt ni, rydym ni'n credu bod mwy o bobl yn dod ymlaen. Nid oes digon eto sy'n hysbysu am droseddau casineb, a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i gefnogi Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, fel y dywedais, a hefyd, wrth gwrs, i weld sut y gallwn ni werthuso'r cynllun cydlyniant cymunedol ymhellach er mwyn bod yn fwy effeithiol.