– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 6 Mehefin 2018.
Rŷm ni’n symud ymlaen i’r ddadl fer—felly, os gwnaiff Aelodau adael y Siambr yn gyflym ac yn dawel, os ydych yn dymuno gadael, er mwyn i’r ddadl fer gael cychwyn. Rydw i’n galw ar Neil McEvoy i gyflwyno’r ddadl fer.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rydw i’n sefyll yma fel Cymro sy’n ymladd dros ddemocratiaeth yma yng Nghymru.
Mae ar Gymru angen Senedd y bobl, un sofran sy'n deddfu er lles cenedlaethol Cymru. Mae'n hen gysyniad a elwir yn ddemocratiaeth. Yn y ddadl hon mae gennym ddemocratiaeth uniongyrchol ar waith. Roeddwn am i'r cyhoedd benderfynu beth y dylid ei drafod heddiw, felly, ar gyfryngau cymdeithasol gofynnwyd i etholwyr ddweud wrthym beth yr oeddent am ei drafod. Cafwyd llwyth o sylwadau diddorol gan etholwyr, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. Siaradodd George Atkinson am yr angen i ddatganoli'r cyfryngau a phlismona; mae Chris Piper eisiau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o awdurdod ym maes cyfraith a threfn; mae Matt Davies a Sue Fortune eisiau gweld gwell cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru; ac mae Joanne Davies yn galw am waharddiad ar gynhyrchion nad ydynt yn fioddiraddadwy. Roeddent oll yn awgrymiadau gwych. Ond daeth y sylw mwyaf poblogaidd gan y Welsh Independence Memes for Angry Welsh Teens —ac mae gennym rai o'r rheini yma weithiau. Roeddent am drafod Cymru sofran.
Felly, teitl y ddadl heddiw yw 'Cymru sofran: adeiladu'r wlad falch, sofran ac unedig y gall Cymru fod ac y dylai fod'. Hoffwn ychwanegu heddiw, 'y genedl fydd Cymru'. Cefais fy nghynghori gan yr adran ymchwil nad oes unrhyw gofnod o drafodaeth ffurfiol ar sofraniaeth Cymru yn y Cynulliad hwn cyn hyn. Wel, mae'n hen bryd, onid yw? Rwy'n falch o fod yr AC cyntaf i gyflwyno dadl fer ar sofraniaeth Cymru, ac rwy'n fwy balch byth mai'r cyhoedd a roddodd hyn ar yr agenda heddiw. Mae ymgyrchu ar lawr gwlad yn hanfodol i ddemocratiaeth yng Nghymru, a dyna pam rwyf fi yma.
Mae ymraniad mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw rhwng y rhai sy'n gweld Caerdydd fel ein prifddinas ddihafal a'r rhai sy'n gweld Llundain felly. Gwn lle rwy'n sefyll. Mae gan Gymru hanes gwych. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop i gael system cyfraith sifil o dan Hywel Dda mor bell yn ôl â'r ddegfed ganrif. Roedd Owain Glyndŵr, y gweledydd mawr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, yn gweld Cymru fel gwlad â lle iddi yn y byd, gyda Senedd a sefydlodd ymhell cyn i Seneddau ddod yn norm. Yn ystod y chwyldro Americanaidd, roedd mwy o lofnodwyr y datganiad annibyniaeth yn hanu o Gymru nag o unrhyw wlad arall. Terfysgoedd Beca yn y gorllewin: ar y diwrnod hwn yn 1839, dinistriwyd y tollborth yn Efailwen. Cawsom wrthryfel Merthyr a'r Siartwyr yng Nghasnewydd—Cymry bob un yn awchu am sofraniaeth.
Rwy'n credu mewn sofraniaeth, ac rwyf am fyw mewn Cymru sofran, lle rydym yn sofran fel unigolion, fel cymunedau ac fel cenedl. Mae sofraniaeth yn golygu dod â llywodraethu yn agosach at y bobl, gwneud Llywodraeth yn beiriant ar gyfer dymuniadau a dyheadau pobl. Mae Llywodraeth dda, democratiaeth dda, yn ffordd o sianelu syniadau ac egni pob un ohonom. Nid corff oeraidd sydd ond yn dweud wrth bobl beth i'w wneud ydyw. Mae pawb yma yn berchen ar dŷ, ond a oes unrhyw un yma yn gadael i'w cymydog drws nesaf reoli eu cyllideb, cadw eu cyflogau, rhoi'r arian mewn cyfrif banc na allwch gael mynediad ato, gwrthod gadael i chi siarad â'ch cymdogion, a siarad â'ch cymdogion ar eich rhan? Wrth gwrs nid yw hyn yn digwydd ar lefel unigol, felly pam rydym yn caniatáu iddo ddigwydd ar lefel genedlaethol?
Gall Cymru sefyll ar ei thraed ei hun, ond yn fwy na hynny, mae gennym ddyletswydd a chyfrifoldeb i lywodraethu ein gwlad ein hunain. Ceir 100 o genhedloedd sofran yn y byd sy'n llai na Chymru. Mae gan bump allan o 10 o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn y byd boblogaeth lai na Chymru. Mae gan bob un o'r gwledydd cyfoethocaf y pen yn 10 uchaf y byd boblogaeth o dan 6 miliwn, ac mae gan saith gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd boblogaeth lai na ni yng Nghymru. Yng Nghymru, oherwydd bod ein heconomi'n wael, rhaid i'n pobl ifanc dalentog ac economaidd weithgar adael. Yn eu lle daw pobl hŷn, economaidd anweithgar oherwydd bod Cymru'n lle rhatach a harddach ar gyfer ymddeol.
Y peth gorau y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn yw dod yn gyfoethog. Bydd Senedd Cymru sofran yma yng Nghaerdydd yn galluogi Cymru i ddod yn gyfoethog. Mae sofraniaeth yn broses sydd eisoes wedi dechrau. Rhaid inni ddal ati ac ysgwyddo rhagor o bwerau, a herio San Steffan. Gallai Cymru sofran gael trethi teg, gyda threth gwerth tir. Gallem ddeddfu ar ddosbarthiad tir radical a theg. Gallem gynhyrchu incwm ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru gyda threth dwristiaeth. Gallai Senedd wirioneddol sofran rymuso pobl i greu busnesau a gwneud yn siŵr fod modd gwneud busnes yn hawdd a chyflym yng Nghymru. Gellid ystyried isafswm incwm o ddifrif. Gallem ofalu am angen a pheidio â chosbi pobl am fod yn dlawd.
Rydym yn bobl mor entrepreneuraidd. Cafwyd y cytundeb £1 miliwn cyntaf ar y blaned yng Nghaerdydd, dafliad carreg o'r Cynulliad hwn, yn yr hen Gyfnewidfa Lo. Yn y gorffennol, pan oedd ein plant angen addysg, ni oedd y cyntaf i sefydlu ysgolion—Griffith Jones a'i ysgolion cylchynol enwog, a sicrhaodd mai Cymru oedd y wlad fwyaf llythrennog yn y byd erbyn 1761. Hefyd, sefydlodd gweithwyr sefydliadau ledled ein cenedl, gyda theatrau a llyfrgelloedd, a ffyrdd o helpu ei gilydd. A phwy all anghofio llwyddiant glofa'r Tŵr yn y cyfnod modern—pobl yn dod at ei gilydd, yn gweithio gyda'i gilydd, yn bachu ar eu cyfle ac yn llwyddo. Roedd glofa'r Tŵr wedi'i dynghedu i gau hyd nes i'r gweithwyr gymryd meddiant arno fel cwmni cydweithredol, a gwnaeth elw am flynyddoedd. Nid oes unrhyw un yn mynd i newid Cymru ar ein rhan; rhaid inni ddod at ei gilydd a'i wneud ein hunain.
Mae'r sefyllfa ôl-Brexit ar gyfer ffermio yng Nghymru yn edrych yn llwm. Gallai senedd sofran gymryd yr awenau drwy wneud canabis yn ddiwydiant tyfu newydd. Mae cymaint o ffyrdd o ddefnyddio'r planhigyn yn feddyginiaethol, ac mae'n ddiwydiant sy'n dod i'r amlwg mewn sawl rhan o'r byd. Gallai Cymru sofran reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain, ac yn hollbwysig, gallai gael incwm ohonynt. Cefais ddigon ar weld ein hadnoddau naturiol yn cael eu hysbeilio a'u rhoi ymaith. Caiff ein dŵr ei gymryd a'i werthu yn ôl i ni. Caiff ein tai eu prynu'n un fflyd a'u rhentu yn ôl i ni. Mae'n bryd cael economi gylchol, cael lleoliaeth, a rhoi diwedd ar neoryddfrydiaeth a diwedd ar galedi.
Mae Estonia sofran newydd gyflwyno teithio am ddim i bawb yn y wlad honno. Pam? Am fod 75 y cant o'r boblogaeth wedi pleidleisio o'i blaid. Daw sofraniaeth ag opsiynau yn ei sgil. Yng Nghymru ar hyn o bryd, nid oes gennym bŵer hyd yn oed i sicrhau bod ein plant yn gallu teithio i'r ysgol yn ddiogel, oherwydd ni allwn ddeddfu ar roi gwregysau diogelwch ar fysiau gwasanaeth. Byddai gan Gymru sofran awdurdodaeth gyfreithiol annibynnol. A byddai gan bawb ran mewn Cymru sofran, byddai gan bob dinesydd hawliau a chyfrifoldebau, gyda chydraddoldeb radical i bawb. Mae gan bob talaith yn UDA gyfansoddiad, felly pam na chaiff Cymru un? Gellid seilio'r system cyfiawnder troseddol ar degwch ac adsefydlu—dim carcharu mawr, llai o garcharorion, ond cadernid pan fo angen.
Gallai Cymru sofran gael rheolaeth dros bolisi ynni. Rydym eisoes yn fwy na hunangynhaliol gyda thrydan. Gallem fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, morlynnoedd llanw—nid niwclear—a gallem allforio trydan, unwaith eto gan sicrhau elw. Gallai Senedd Cymru sofran greu chwyldro gwyrdd gydag ynni, ynni glân, sy'n costio ceiniogau inni bob mis yn hytrach na'r ffortiwn fach y mae'n ei gostio nawr. A byddai hynny'n cael effaith ganlyniadol o ran gwneud ein diwydiannau a'n busnesau yn fwy cystadleuol. Gallai Cymru sofran ailddyfeisio ac adfywio mwyngloddio, ond mewn ystyr rithiol, drwy fwyngloddio arian digidol, gan wneud elw mewn diwydiant newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae gan Gymru gymaint o botensial. Rydym yn genedl gref a gwydn, fel y profodd yr 800 mlynedd diwethaf. Yn yr ynysoedd hyn, mae angen inni droi democratiaeth ar ei ben—o'r gwaelod i fyny yn lle o'r brig i lawr. Dylem alluogi seneddau sofran yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gyda democratiaeth bellach yn dod i'r amlwg drwy'r seneddau hynny: adnewyddu democrataidd o gymunedau i fyny, datganoledig eu natur. Ar rai materion, byddai'n gwneud synnwyr i'n gwledydd rannu sofraniaeth, ond mater i bobl y gwledydd hynny fyddai penderfynu hynny.
Fe ddof i ben gyda stori am daith bws yr euthum arni yng Ngwlad yr Iâ, lle roeddem yn pasio mynyddoedd. Gallwn eu gweld ar y chwith, a chododd y tywysydd y meicroffon i egluro mai Gwlad yr Iâ, yn 1935, oedd y wlad dlotaf yn Ewrop. Roeddent mor dlawd bryd hynny fel bod pobl yn byw mewn ogofâu yn y mynyddoedd y pwyntiai atynt. Ond wedyn, eglurodd, yn 1944, daeth Gwlad yr Iâ yn wlad sofran, gan roi diwedd ar dra-arglwyddiaeth Denmarc. A dywedodd, fod ganddynt lywodraeth yng Ngwlad yr Iâ bryd hynny yn gwneud penderfyniadau er budd pobl Gwlad yr Iâ, yn cynllunio ar gyfer Gwlad yr Iâ ac nid Denmarc. Dywedodd gyda balchder mai Gwlad yr Iâ bellach yw un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd fesul y pen o'r boblogaeth. Nawr, ni chredai neb ar y bws hwnnw fod y fenyw yn genedlaetholwr, ac nid oedd hi'n honni mai dyna oedd hi. Dynes normal oedd hi, dynes a oedd eisiau'r gorau i'w theulu, i'w chymuned ac i'w gwlad, fel y pob un ohonom sy'n credu mewn sofraniaeth i Gymru. Diolch yn fawr.
Credaf eich bod wedi rhoi munud o'ch amser i Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, oherwydd credaf yn gryf fod y sylfeini yno ar gyfer cenedl sofran yma yng Nghymru. Rydym wedi treulio'r rhan orau o awr y prynhawn yma yn trafod pa mor gyfoethog ydym ni yma yng Nghymru o ran ynni. Rydym yn allforio trydan. Rydym yn cynhyrchu ddwywaith cymaint ag a ddefnyddiwn, ac eto wrth gwrs rydym yn gorfod talu mwy am ein trydan ein hunain nag eraill yn y DU. Yn yr un modd gyda dŵr; rydym yn genedl sy'n gyfoethog o ran dŵr ond mae'r dŵr rydym yn ei allforio yn rhatach yn y pen draw i'r rhai sy'n defnyddio dŵr Cymru nag a dalwn amdano ein hunain mewn gwirionedd.
Rydym yn genedl sy'n gyfoethog o ran bwyd yn ogystal. Mae oddeutu 95 y cant o arwynebedd tir Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae gennym hinsawdd i allu manteisio i'r eithaf ar y potensial hwnnw, ac eto rydym yn gweld banciau bwyd yn codi ledled y wlad a gwelwn y BMJ yn rhybuddio mai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn y DU o bosibl fydd diffyg maethiad ymhlith plant—mewn gwlad sy'n gyfoethog o ran bwyd. Nawr, beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym am y sefyllfa sydd ohoni?
Ond beth, hefyd, y mae'n ei ddweud wrthym am y potensial sydd gennym fel cenedl? Cyfoethog o ran ynni, cyfoethog o ran dŵr, cyfoethog o ran bwyd: arian cyfred y dyfodol. Mae rhyfeloedd yn cael eu hymladd o gwmpas y byd am yr asedau hyn, ac mae digonedd ohonynt gennym, ac mae hynny'n golygu y gallwn sefyll gyda balchder ar ein traed ein hunain a pheidio â gorfod derbyn pobl yn dweud wrthym ein bod yn rhy fach neu'n rhy dlawd.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Lywydd. Roeddwn yn cytuno â llawer yn araith Neil McEvoy, ac a dweud y gwir doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Ond rhestrodd nifer fawr o bethau rwyf innau hefyd yn cytuno'n sylfaenol â hwy, ac roeddwn yn cytuno'n sylfaenol â llawer a ddywedodd Llyr hefyd. Ond rydym yn anghytuno'n sylfaenol yn wleidyddol ynghylch annibyniaeth. Nid wyf yn cytuno y byddai Cymru'n well yn annibynnol. Rwyf o'r farn, fel y mae Llywodraeth Cymru, fod llwybr datganoli o fewn y Deyrnas Unedig, ac o fewn Ewrop pe bawn yn cael dewis, yn ffordd well. Ond yn y bôn, cytunaf yn sylfaenol gyda llawer o'r syniadau a gyflwynwyd yn yr araith, ac yn enwedig gyda barn gadarn Llyr ynghylch ynni a dŵr.
Barn gadarn iawn Llywodraeth Cymru yw bod y setliad datganoli yn broses, a bod llawer iawn mwy i'w wneud o ran yr hyn y gall Cymru ei benderfynu yma. Ond rwy'n credu yn y bôn fod bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig o fudd i'n heconomi mewn ffyrdd sylfaenol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae o fudd i'n heconomi yn deillio o'r ffaith ei bod bob amser wedi bod yn ailddosbarthol. Cyfrannodd Cymru swm enfawr o'i chyfoeth i lwyddiant y Deyrnas Unedig, ac yn enwedig Llundain a de-ddwyrain Lloegr fel y prif ganolfannau masnachu dros y blynyddoedd, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y dylai llawer o'r llwyddiant hwnnw gael ei ailddosbarthu yn ôl i Gymru pan fo'i angen.
Credaf mai dyna'r gwahaniaeth gwleidyddol sylfaenol. Nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r pwyntiau sy'n ymwneud â dŵr ac ynni. Mae'r Llywodraeth yma yn awyddus iawn i gael y pwerau angenrheidiol i wneud llawer o bethau gwirioneddol ddiddorol, arloesol, a derbyniol yn gymdeithasol gyda phŵer a dŵr. Rhestrodd Neil McEvoy nifer o bethau yr oeddwn yn cytuno ag ef yn eu cylch o ran yr hyn y gallem ei wneud yng Nghymru, a buaswn yn dweud, mewn gwirionedd, ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r pethau y mae Neil McEvoy yn eu rhestru. Rwy'n siŵr na fydd yn cytuno â mi ynglŷn â hynny, ond credaf, er enghraifft, ein bod wedi cael llwyddiant mawr gyda mewnfuddsoddi yma, ac mae llawer iawn o'r llwyddiant hwnnw yn deillio o'r ffaith ein bod yn gallu ymateb i anghenion busnesau'n gyflym ac yn sydyn—un o'r pethau a grybwyllwyd gennych, er enghraifft.
Cawsom nifer o lwyddiannau eraill, Lywydd, ac rwy'n meddwl y byddai llawer o bobl yn yr ystafell hon yn awr, a'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, yn cytuno â hynny. Ond nid yw'r cyhoedd ehangach yng Nghymru wedi cytuno mewn polau piniwn blaenorol—er y cytunaf nad yw wedi'i gyflwyno mewn refferendwm—y byddai annibyniaeth yn fuddiol i Gymru ar hyn o bryd. Credaf fod y dull datganoli wedi bod yn wych hyd yn hyn. Roeddwn yn gadarn o'i blaid pan fethodd yn ôl yn y 1970au, ac rwy'n dangos fy oed yn y fan hon, ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd datganoli ei le haeddiannol o'r diwedd yma yng Nghymru gyda sefydlu'r Cynulliad. Mae'r daith hyd yma wedi bod yn un dda. Ceir problemau gyda'r setliad datganoli presennol ac rydym oll yn gyfarwydd â hwy—yr ymylon brau ynghylch ynni, rhai o'r pethau dŵr y mae pobl wedi'u hawgrymu, rhai o'r materion a awgrymodd Neil McEvoy mewn perthynas â theithio, er enghraifft, a rhai o'r problemau lle mae'r setliad yn anodd ei ddeall ar gyfer pobl Cymru, ynglŷn â pham y gallwn ac na allwn wneud rhai pethau.
Lywydd, gwn eich bod yn frwd iawn ynglŷn â'r comisiwn cyfiawnder rydym yn edrych arno. Fel y gŵyr pawb, mae'r Llywodraeth wedi gofyn inni ystyried datganoli polisi cyfiawnder troseddol yn arbennig, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny fy hun, oherwydd mae'r hyn y bu modd ei wneud yn yr Alban ynghylch polisi dedfrydu ac adsefydlu troseddwyr yn wirioneddol ddiddorol. Felly, pan allwch gamu'n ôl oddi wrth beth o'r polisi dedfrydu sydd gan Lywodraeth Dorïaidd bresennol y DU, y credaf ei fod yn hynod annoeth ac y dengys yr holl dystiolaeth nad yw'n gweithio, a chyrraedd system sy'n llawer mwy blaengar yn gymdeithasol, fe gewch ganlyniad llawer gwell ar gyfer eich pobl. Hoffwn yn fawr iawn weld hynny'n cael ei ddatganoli.
Ond mae gennym bethau llwyddiannus o ran polisi tramor yn ogystal—ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica lwyddiannus. Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael cysylltiadau cryf â gwledydd ledled Affrica is-Sahara, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog pobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau yn ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a pheidio â gwrthod y cyflawniad hwnnw a dechrau eto.
Rydym yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn undeb y Deyrnas Unedig, ac rydym yn parhau i fod yn gyfranogwr gweithredol yn undeb Ewropeaidd y dyfodol. Gobeithio y gallwn gyrraedd setliad, ac mae Cymru wedi bod yn allweddol iawn yn y trafodaethau ar hyn, a fydd yn caniatáu inni gael fframwaith cyfansoddiadol da yn y DU ac yn Ewrop. Nid yw'n golygu bod y status quo cyfansoddiadol yn iawn. Nid wyf yn credu bod status quo cyfansoddiadol ein perthynas bresennol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn iawn er enghraifft, a'r dicotomi hwnnw a oedd gennym, yn Ewrop neu allan, fel pe na bai unrhyw ddewis arall, yw un o'n hanawsterau.
Rwy'n credu bod y ffaith fod y ddadl hon wedi cael ei llunio yn y ffordd ddu a gwyn honno yn beth anodd. Credaf ei bod yn sgwrs fwy hyblyg ynglŷn â beth y gallai sofraniaeth ei olygu mewn gwirionedd ar gyfer democratiaeth o'r gwaelod i fyny, fel y dywedodd Neil McEvoy. Nid yw'n golygu annibyniaeth lawn o reidrwydd ar gyfer pob gwlad unigol. Soniodd am Unol Daleithiau America a chyfansoddiad y taleithiau, ond wrth gwrs maent wedi dod at ei gilydd mewn ffederasiwn i roi cryfder iddynt yn y byd, a dyna'r setliad datganoli, setliad y ffederasiwn ffederal, y byddai'n well gennyf fi a'r Llywodraeth ei weld.
Rydym wedi cyflwyno'r cynigion hynny droeon yn y Siambr hon, felly nid wyf am eu hailadrodd yn awr, ond byddwn yn parhau i edrych ymlaen fel rhan lwyddiannus o undeb y Deyrnas Unedig a byddwn yn canolbwyntio ein sylw, ein hadnoddau a'n galluoedd ar yr heriau gwirioneddol, fel Brexit, sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Nid wyf yn meddwl y dylem ddargyfeirio ein sylw ar hyn o bryd drwy sôn am chwalu'r Deyrnas Unedig. Dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein gallu i aros yn unedig gyda'n gilydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn fy marn bersonol i.
Daw hynny â thrafodion y dydd i ben.