– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 12 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, ac rwy'n galw arni hi i wneud ei datganiad ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru)—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Ddoe, gosodais Fil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i wneud datganiad am y Bil. Bydd Aelodau yn gwybod ein bod yn ymrwymedig i gael gwared ar rwystrau o ran cael mynediad a gallu symud o fewn y sector rhentu preifat. Mae 'Ffyniant i Bawb', ein strategaeth genedlaethol, yn cydnabod na all pobl fyw yn dda heb gartrefi fforddiadwy o ansawdd da. Rydym yn awyddus i wneud rhentu yn breifat yn ddewis cadarnhaol sydd ar gael yn eang. I'r perwyl hwnnw, rwy'n credu ei bod yn rhaid i unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â rhentu fod yn rhesymol, yn fforddiadwy ac yn dryloyw.
Yn anffodus, mae tystiolaeth yn dangos bod y ffioedd a godir ar hyn o bryd gan asiantau gosod tai yn aml yn rhwystr sylweddol i lawer o denantiaid. Mae hynny'n arbennig o wir am bobl sy'n byw ar incwm llai, gan gynnwys cyplau ifanc sy'n dechrau ar eu bywyd gyda'i gilydd, myfyrwyr sy'n byw ar incwm cyfyngedig, neu rieni sengl sy'n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd, er enghraifft. Gall ffioedd arwain at unigolion neu deuluoedd yn benthyca arian oddi ar ffrindiau neu berthnasau, yn cael trafferth i dalu biliau, neu'n mynd i ddyled. Efallai eu bod yn mynd i orddrafft neu, yn yr achosion gwaethaf, fe allen nhw droi at fenthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr carreg y drws. Fe wyddom fod tenantiaid yn aml yn cael yr un yr un lefel o wasanaeth gan asiantau, ond eu bod yn gweld amrywiaeth eang yn yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw ei dalu. Mae'n amheus a yw'r costau a delir yn gyson â'r ffioedd y mae'n ofynnol i denantiaid eu talu. A, beth bynnag, mae landlordiaid hefyd yn talu asiantau am osod tai ac am wasanaethau rheoli eiddo. Mae'r gofyniad i dalu'r ffioedd hyn yn ei gwneud yn anoddach hefyd i gynllunio ar gyfer tenantiaeth, ac mae hynny wedyn yn effeithio ar fforddiadwyedd a hygyrchedd y sector rhentu preifat. Nid yw tenantiaid fel arfer yn herio neu fargeinio gydag asiantau, yn aml am eu bod yn daer am ddod o hyd i gartref yn wyneb cystadleuaeth gan denantiaid eraill. Mae tenantiaid hefyd mewn sefyllfa lle nad oes ond un asiant rheoli ar eiddo bron yn ddieithriad, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond talu'r ffi y mae'r asiant hwnnw'n ei ofyn os ydyn nhw'n awyddus i rentu'r eiddo.
I ymateb i'r pryderon hyn, bydd y Bil yn gwneud y costau y bydd y tenantiaid yn eu hwynebu yn y dyfodol yn llai o lawer ac yn haws eu deall. Cafodd y Bil ei ddrafftio yng ngoleuni Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac felly mae'n berthnasol i ddeiliaid contract. Ni fydd tâl yn cael ei godi arnyn nhw mwyach am fynd i weld eiddo gyda rhywun, am gael rhestr eiddo, nac am lofnodi contract. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw dalu am adnewyddu tenantiaeth mwyach. Ac ni fyddan nhw'n gweld ystod o wasanaethau yn cael ei hychwanegu at eu contract fel ffioedd wrth ymadael pan fyddan nhw'n symud allan mwyach. Bydd taliadau yn llawer mwy rhagweladwy, yn gyfyngedig i'r rhent, adneuon diogelwch, blaendaliadau cadw a diffygdaliadau. Rwy'n disgwyl na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o ddeiliaid contract ond meddwl am dalu eu rhent a dod o hyd i flaendal diogelwch. Mae'r Bil yn gwarantu hefyd na fydd blaendaliadau cadw ddim mwy na rhent un wythnos. Dyma'r gyfradd y mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn ei thalu ar hyn o bryd, ond fwyf eisiau sicrhau bod y costau a wynebir ganddynt ar ddechrau eu contract i rentu cyn lleied ag y bodd modd. Yn yr un modd, mae'r rhan fwyaf o denantiaid ar hyn o bryd yn talu rhywbeth sy'n cyfateb i fis o rent fel blaendal diogelwch, a chredaf fod hynny'n rhesymol. Fodd bynnag, mae'r Bil yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau ynglŷn â maint y blaendal diogelwch. Mae'r amddiffyniad hwn wedi'i ddarparu i sicrhau ein bod yn gallu osgoi cynyddu costau i lefel afresymol.
Bydd llawer o asiantau a landlordiaid yn cydnabod diben y Bil, a fydd yn sicrhau ein bod yn gweld y newid mewn arfer yn y sector rhentu preifat yr wyf yn gwybod bod Aelodau wedi galw amdano. Os, yn y dyfodol, y bydd asiant neu landlord yn gofyn am daliadau sydd wedi'u gwahardd—hynny yw, taliadau ac eithrio'r taliadau a ganiateir—byddant yn cyflawni trosedd. Rydym hefyd wedi rhoi pwerau i awdurdodau tai lleol ymchwilio i droseddau ac erlyn pobl sy'n rhwystro'r ymchwiliadau hynny, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.
Mae goblygiadau cyflawni trosedd yn ddifrifol. Gall awdurdodau tai lleol gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £500 i fodloni atebolrwydd i unigolyn y credant ei fod wedi cyflawni trosedd o ofyn am daliad gwaharddedig. Os na thelir y gosb, gellid dilyn hynny gan erlyn drwy'r llys ynadon. Bydd unigolyn sy'n euog o'r drosedd o ofyn am daliad gwaharddedig yn agored i ddirwy yn dilyn euogfarn ddiannod. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru am euogfarn, sef yr awdurdod trwyddedu dynodedig o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, cyn gynted ag y daw'n ymwybodol o'r euogfarn. Gall torri'r gwaharddiad ar ffioedd olygu atal trwydded i waith gosod neu reoli eiddo. Felly, mae er lles yr unigolyn i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Bil. Gadewch i mi fod yn glir iawn: gallai asiantau a landlordiaid roi eu busnes yn y fantol os cânt eu heuogfarnu o gyflawni trosedd.
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Bil hwn i'w graffu gan y Cynulliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymgysylltu â'r Cynulliad a phwyllgorau'r Cynulliad dros y misoedd nesaf ar y Bil yr wyf yn gobeithio fydd yn garreg filltir bwysig o ran gwella bywydau cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru sy'n rhentu yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy led groesawu'r fenter ddeddfwriaethol hon? Mae'n dilyn gweithrediad mesur tebyg yn yr Alban o 2012, a cheir deddfwriaeth arfaethedig yn San Steffan; credaf fod honno wedi'i lansio'r mis diwethaf. Felly, mae angen cyhoeddus eglur i ddiwygio yn y maes cyfreithiol hwn, a bydd y Bil yn ceisio creu sector a marchnad rhentu preifat sy'n fwy tryloyw, ac rydym ni yn cefnogi'r nodau hynny.
Mae marchnad y sector preswyl preifat yn cynnig dewis pwysig o ran tai ac ar hyn o bryd mae'n cynrychioli oddeutu 15 y cant o'r cyflenwad o anheddau yma yng Nghymru, ac mae hwnnw wedi mwy na dyblu yn ei faint ers y flwyddyn 2000. Mae arolwg diweddar o rentwyr preifat yn awgrymu bod bron i draean o aelwydydd sy'n rhentu eu cartref yn breifat yn gwneud hynny drwy asiant gosod tai. Felly, mae llawer o bobl yng Nghymru—oddeutu 57,000 o aelwydydd—yn byw mewn cartrefi a osodwyd drwy asiantau, felly mae'n sector sylweddol iawn. Bydd mwyafrif helaeth y tenantiaid hynny wedi talu ffioedd gosod. Y llynedd, talodd traean o denantiaid dros £200 i asiantau gosod mewn ffioedd i ddechrau tenantiaeth, ac mae hyn yn golygu y byddai rhentu cartref tair ystafell wely cyffredin, er enghraifft, yng Nghaerdydd, yn golygu talu mwy na £1,600 mewn costau sefydlu, gan gynnwys rhent ymlaen llaw a bond. Felly, mae angen newid sylweddol ledled y sector—nid wyf yn credu y gellir gwadu hynny—ac rydym mewn sefyllfa dda erbyn hyn i wneud y newidiadau hyn gan ein bod hefyd wedi cael newid yn y strwythurau ffioedd o ganlyniad i'r Ddeddf rhentu cartrefi, a chredaf ei bod hi'n bryd inni symud tuag at ddiwygiadau mwy cynhwysfawr. Felly, rydym ni yn cefnogi'r egwyddor.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Llywodraeth—ac, yn wir, yn y broses graffu, i'r pwyllgor—edrych ar y profiad yn yr Alban. Rwy'n gwybod bod eu sefyllfa gyfreithiol nhw yn wahanol, ond ers i waharddiad effeithiol—roedd un yn bodoli o'r blaen yn dechnegol—ar lawer o'r ffioedd hyn ddod i rym, bu, yn y 12 mis ar ôl y gwaharddiad, gynnydd mewn rhenti o 4.2 y cant, yn ôl data Llywodraeth yr Alban ei hun. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â'r ffordd y caiff rhai o'r costau hyn eu hailgylchu yn y system. Felly, mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, gwahaniaethu rhwng y costau hynny sydd yn gyfreithlon oddi wrth y rhai—os gallaf ddefnyddio'r ymadrodd priodol yn cyd-destun hwn—sydd yn ceisio rhent; maen nhw'n mynd ag arian oddi ar bobl sydd mewn sefyllfa fregus, a chan hynny codir tâl arnynt am bob mathau o bethau ychwanegol ar ddechrau tenantiaeth, neu beth bynnag. Felly, mae hi'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n dysgu o brofiad.
Credaf fod rhai dulliau amgen rhesymol wedi eu codi, a chredaf y dylem ni yn ysbryd craffu agored, edrych ar y rhain. I sôn am rai yn unig—a chredaf fod hyn wedi'i godi mewn deddfwrfeydd eraill—ceir y dewis amgen o ymestyn y gost, pan fo'r ffioedd hynny sy'n cael eu hystyried yn ddilys yn cael eu talu efallai dros gyfnod y denantiaeth neu chwe mis cyntaf y denantiaeth, fel nad oes y baich echrydus hwn ar y cychwyn, sydd yn creu sefyllfa anodd iawn i nifer o aelwydydd, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn angen ariannol, er enghraifft. Ond, yn anochel, mewn newid mawr eich sefyllfa bywyd, mae costau mawr ymlaen llaw yn anodd eu rheoli.
Credaf fod y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl hefyd wedi cymryd rhan yn y broses hon ac wedi cynnig rhai dewisiadau eraill i'w hystyried. Mae rhai o'r rhain yn rhai y gellid eu cynnwys hyd yn oed os oes gennym ddull sy'n llawer mwy seiliedig ar reoleiddio, ond maen nhw wedi annog y Llywodraeth i ddefnyddio'r pwerau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, er enghraifft, fel bod y ffioedd yn cael eu harddangos yn fwy amlwg, ac os ydynt yn cael eu harddangos yn fwy amlwg credaf fod modd herio'r rhai sydd yn amlwg yn annheg. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol. Rwy'n credu y dylem ni fod yn agored i'r rhai yn y sector sy'n ymwneud yn helaeth â hyn, ac mae hynny'n cynnwys asiantaethau rheoli, gan fod llawer ohonyn nhw yn gwneud gwaith rhagorol iawn ac maen nhw'n bwysig ar gyfer sicrhau bod y farchnad yn gweithio'n effeithiol, ond hefyd y landlordiaid sydd eu hunain yn chwilio am system sydd â lefel briodol a chostau teg a system farchnad sy'n rhesymol yn eu golwg nhw. Oherwydd, yn y diwygiad hwn, rydym ni'n rhyw geisio newid y cydbwysedd tuag at landlordiaid yn ceisio'r costau hynny ac yn negodi gwasanaethau effeithiol gydag asiantaethau gosod, felly mae angen edrych ar hynny.
A gaf i ddod i derfyn? Rwyf i o'r farn fod hwn yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth. Rwy'n siŵr y caiff gefnogaeth eang, ond, yn amlwg, bydd eisiau i ni ei archwilio yn llwyr a gweld sut y gallem ni ddatblygu pethau gan fod y ddadl wedi dechrau erbyn hyn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau a'r cwestiynau yna ac am eich cydnabyddiaeth ar ddechrau eich cyfraniad fod yna, mewn gwirionedd, angen cyhoeddus am y ddeddfwriaeth hon, sydd wedi'i gydnabod ledled y DU ac yn sicr angen cyhoeddus i gynyddu'r tryloywder o fewn y sector a galluogi pobl i symud i mewn i'r sector a rhwng gwahanol eiddo o fewn y sector hefyd, oherwydd ar hyn o bryd mae'r ffioedd yn rhwystr i wneud hynny.
Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd sut mae'r sector rhentu preifat yn rhan gynyddol bwysig o'r dirwedd tai yma yng Nghymru, gan sôn fod maint y sector wedi dyblu ers y flwyddyn 2000, gan gynrychioli 15 y cant o'r farchnad dai yma yng Nghymru erbyn hyn, ac rydym yn cydnabod y daw hynny'n gynyddol bwysig gyda threigl y blynyddoedd hefyd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni yn parhau â'r gwaith yr ydym wedi ei ddechrau drwy ein Deddf rhentu cartrefi a darnau eraill o ddeddfwriaeth a pholisi i sicrhau bod y sector yn un deniadol, ei fod yn hygyrch, a'i fod yn deg a thryloyw. Ac mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth yn gydnaws iawn â'r math o ymagwedd yr wyf i wedi ceisio ei chael hyd yn hyn. Roeddech chi hefyd yn rhoi rhai enghreifftiau o'r mathau o raddfeydd y ffioedd y gallai fod yn rhaid i bobl eu talu cyn cael gafael ar dŷ. Ar gyfer tŷ tair ystafell wely yng Nghaerdydd, byddai'n rhaid i bobl sicrhau dros £1,000 ymlaen llaw, sy'n swm enfawr o arian. Gallasai fod yn waharddol i nifer fawr o deuluoedd allu codi arian o'r fath yn y lle cyntaf.
Felly, caiff yr angen cyhoeddus hwn ei gydnabod ledled y DU, ac rydym yn edrych yn ofalus iawn ar y sefyllfa yn yr Alban, sydd wedi pasio deddfwriaeth ddwywaith ar y mater hwn, fel y dywedwch: unwaith, y tro cyntaf, nad oedd yn effeithiol ac, yn ail, yn ôl yn 2012, er mwyn tynhau'r rheolau a'i wneud yn ddarn mwy llym a chydlynol o ddeddfwriaeth. Mae'n ffaith, yn dilyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn yr Alban, y bu cynnydd yn lefel y rhent a delid gan bobl. Rwy'n gwybod bod yna hefyd bwyllgor craffu yn San Steffan a oedd yn edrych yn benodol ar hynny ac ni allodd ganfod tystiolaeth bendant fod y ddeddfwriaeth yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnydd mewn ffioedd, ond, serch hynny, mae'n rhywbeth yr ydym yn effro iawn iddo—y ffaith y gallai fod cynnydd posibl yn lefel y rhent, dylwn ddweud, yn hytrach na ffioedd, o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Fodd bynnag, yn yr un modd, yn ein hymgynghoriad, rydym yn deall bod pobl yn cydnabod y gallasai fod cynnydd yn y rhent, ond, mewn gwirionedd, byddai cynnydd bach yn y rhent yn fwy deniadol iddyn nhw allu cynllunio cyllidebau eu haelwydydd ac ati, felly mae'n rhywbeth yr ydym ni'n effro iddo ac yn rhywbeth y gwn y bydd pwyllgorau yn ymddiddori'n fawr ynddo.
Rwyf wedi cael trafodaeth heddiw, mewn gwirionedd, gyda Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl ynglŷn â'u pryderon penodol yn sgil y ddeddfwriaeth hon. Yn amlwg, maen nhw'n dod o safbwynt cryf o gynrychioli eu haelodaeth ac ni fyddem yn dymuno gweld landlordiaid yn dioddef anfantais oherwydd y darn hwn o ddeddfwriaeth. Mae'n debygol y bydd ffioedd landlordiaid yn cynyddu; mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym yn ei gydnabod o fewn ein hasesiad rheoleiddio o ganlyniad i asiantau yn ceisio adennill eu harian o rywle arall. Ond, hefyd, mae gan landlordiaid bŵer sylweddol yn yr ystyr eu bod fel arfer yn gallu siopa o gwmpas i ddod o hyd i asiantau gosod tai y byddan nhw'n teimlo eu bod yn eu cynrychioli orau ac yn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn rhoi gwerth am arian. Gwn fod y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi cyflwyno cynlluniau eraill hefyd fel—neu gynlluniau awgrymedig eraill—cynllun o fath yswiriant, er enghraifft. Rwy'n credu pa lwybr bynnag y byddwn yn ei ddatblygu—ac mae ein llwybr arfaethedig ni, wrth gwrs, yn y Bil—bydd yn rhaid iddo fod yn un nad yw'n rhoi pobl sydd ar incwm isel o dan anfantais, oherwydd dyna'n union beth yr ydym yn ceisio ei osgoi.
Roeddech chi'n sôn am Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, ac mae honno, eto, yn un o'r cynigion sydd gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn y gwaith papur y maen nhw wedi'i gyflwyno o ran y Bil hwn. Ni fyddai'r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr yn gallu cyflawni'r hyn y credwn sydd ei angen arnom ni i wneud y sector rhentu preifat yn fforddiadwy a hygyrch, oherwydd un peth yw tryloywder, ond nid yw o reidrwydd yn golygu tegwch.
Mae taliadau y mae deiliaid contract yn eu hwynebu yn rhwystr sylweddol i nifer o denantiaid, ac ni fyddai Deddf 2015 yn gallu mynd i'r afael â bodolaeth ffioedd mawr ymlaen llaw na ffioedd adnewyddu, y mae ein deddfwriaeth ni yn ceisio ymdrin â nhw hefyd. Wedi dweud hynny, yn amlwg, rwyf wir yn croesawu'r ymgysylltiad a gawsom gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, a'r holl gyrff cynrychioliadol eraill wrth gyrraedd y fan hon gyda'r Bil, a'r sylwadau adeiladol y maen nhw wedi eu gwneud yn ein proses ymgynghori. Rwy'n siŵr y bydd y math hwn o ymgysylltu yn parhau wrth inni symud drwy'r broses graffu.
Mae Plaid Cymru ers peth amser wedi galw am i'r camau hyn gael eu cymryd, ac rwy'n falch ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r Bil hwn ac am yr hysbysiad ymlaen llaw a roddodd am yr wybodaeth hon. A hoffwn ddiolch iddi am roi o'i hamser i drafod hyn gyda mi yr wythnos diwethaf, er nad wyf wedi darllen popeth eto o ran y memorandwm esboniadol, ond byddaf yn mynd ag ef gartref—i'w ddarllen yn y gwely.
Mewn egwyddor, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen sydd i'w groesawu: nid ffodd o fyw ddewisol yw rhentu mwyach, ond rheidrwydd ar gyfer byw i lawer o bobl, yn enwedig pobl iau. O ystyried cyflwr cyfredol y farchnad dai a'r amodau economaidd y mae llawer o bobl yn eu canfod eu hunain ynddyn nhw, gallai rhentu fod yn ofyniad am oes i rai, a'r hyn sy'n bwysig i'w gydnabod yw nad yw rhentu yn ddewis rhad. Gall y gost sy'n gysylltiedig â symud i gartref sector rhentu preifat fod yn grocbris. Roedd rhestriad a welais yng Nghaerdydd y bore 'ma ddiwethaf yn pennu tâl o £318 ar gyfer y tenant cyntaf, ynghyd â £18 ar gyfer pob tenant ychwanegol neu warantwr, heb unrhyw sôn am unrhyw daliadau ychwanegol ar gyfer gwiriadau credyd na gwasanaethau parhaus, ac roedd un arall a welais yn ddiweddar yn cynnwys ffi o 30 y cant o'r rhent misol a ffioedd ychwanegol fesul tenant ar gyfer gwiriadau credyd. Mae hwn yn rhwystr mawr i bobl, yn enwedig y rhai heb unrhyw gynilion na'r gallu i gael credyd.
Rydym yn gweld methiant yn y farchnad, fel yr wyf wedi'i weld yn eich dogfen eisoes, a phan fo methiant yn y farchnad, mae angen ei gywiro gan Lywodraeth neu gan y sector ei hun, a chan nad yw'r sector wedi bod yn barod i newid, mae angen ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ni fyddaf yn mynd drwy'r holl ystadegau sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat nawr, gan ein bod wedi trafod hyn yn helaeth, ac rwy'n siŵr y gwnawn ni eto. Felly, hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar rai agweddau ar y Bil y credaf eu bod yn aneglur.
Bydd diffygdaliadau yn parhau i fod wedi'u caniatáu o dan y Bil, ac mae gennyf rai pryderon ynglŷn a hynny. Rwy'n deall bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi bod ymatebwyr yn dymuno i'r rheini barhau, ond rwy'n bryderus y byddai'r refeniw a gollid drwy ddiddymu ffioedd ymlaen llaw yn cael ei adennill yn y modd hwn dros gyfnod y contract. Os bydd rhywun yn difrodi eiddo yn ystod y contract, dylid codi arno i dalu am drwsio'r difrod, ond pa mor aml y gellid codi tâl yn ychwanegol i'r gwaith atgyweirio o dan y Bil hwn? Beth os oes rhwymedigaeth gontractiol ar gyfer—ac rwy'n dyfynnu—cynnal a chadw yr eiddo yn briodol? Gallai hynny fod yn oddrychol, a gallai arwain at ffioedd annheg, felly hoffwn i'r Gweinidog ailystyried hyn o bosibl yn ystod y Cyfnod Pwyllgor, neu o leiaf i fod yn agored i egluro'r taliadau hyn ac eraill sy'n ymwneud â thenantiaid sydd ar fai.
A allwch chi egluro'r trefniadau ynglŷn â thenantiaethau sy'n methu heb unrhyw fai ar y tenant? A fydd y landlord neu'r asiantaeth yn cael cadw cyfran o'r blaendal hwnnw? Rwy'n croesawu'r pwerau rheoleiddio o dan y Bil sy'n ceisio sicrhau na fydd blaendaliadau diogelwch yn codi o ganlyniad i'r Bil hwn. Ond efallai y gallwch chi gadarnhau pa un a fydd hwn yn gap chwe wythnos neu'n gap pedair wythnos. Mae hi'n eglur yn y Bil beth fydd y taliadau a ganiateir a pha rai na chaniateir, ond hoffwn ichi gadarnhau beth fydd y sefyllfa yn gysylltiedig â gwasanaethau parhaus. Er enghraifft, os bydd tenant yn colli allweddi, neu os oes newid yn y manylion neu amgylchiadau personol, a fydd ffioedd yn cael eu caniatáu? Rwy'n deall ei bod yn rhesymol i denant ddisgwyl talu am set arall ar ôl colli allweddi, ond eto i gyd, hoffwn fod yn sicr na fydd costau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau o'r fath yn codi nac yn afresymol.
Rwy'n deall mai'r pryder mwyaf gyda'r ddeddfwriaeth hon yw ailddosbarthu costau i denantiaid. Tybed a allech chi wneud sylw ar yr enghraifft o'r Alban, lle er bod ffioedd wedi'u diddymu yn 2012, bu cynnydd rhent cyfartalog o 5 y cant dros y pedair blynedd nesaf, o'i gymharu â 9 y cant ledled y DU. Felly, mewn gwirionedd, roedd yr Alban yn is na gweddill y DU. A gaf i ofyn a ydych chi'n disgwyl i landlordiaid drosglwyddo'r cyfan neu rai o'r costau hynny sy'n gysylltiedig â diddymu ffioedd i denantiaid yng Nghymru, ac os felly a ydych chi wedi ystyried hyn ai peidio, yn enwedig o ystyried pobl yn adnewyddu contract na fyddan nhw'n gweld cymaint o fudd yn y ddeddfwriaeth hon o'u cymharu â'r rhai sy'n symud yn aml?
Ond roeddwn i'n awyddus i orffen ar addysg ariannol. Sylwais o ddechrau'r memorandwm esboniadol ar fforddiadwyedd ac ar bobl yn gorfod cael benthyciadau, ac rwy'n cydnabod ein bod yn ceisio goresgyn y rhwystrau hynny i ryw raddau yn y ddeddfwriaeth hon, er y gallai fod canlyniadau anfwriadol. Ond nid wyf i wedi'i ddarllen i gyd i ddeall pa un a ydych chi'n mynd i ymestyn addysg ariannol neu gymorth i denantiaid fel y byddan nhw'n gallu deall hyn, ac yn gallu grymuso eu hunain i wneud unrhyw gwynion pan fo angen gwneud hynny, a sicrhau eu bod yn y pen draw yn gallu fforddio parhau â'r denantiaeth. Rwy'n credu lle y gwelwn y posibilrwydd o drafod cynhwysiant ariannol, y dylem wneud hynny, a chredaf y gall y Bil hwn fod yn llwybr arall i allu gwneud hynny.
Rwy'n diolch yn fawr i chi am y sylwadau yna a hefyd yn cydnabod fod cyflwyno deddfwriaeth i'r perwyl hwn yn ymrwymiad maniffesto gan Blaid Cymru. Gan ei fod yn rhywbeth y mae'r Blaid Geidwadol yn ei wneud yn Lloegr, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae UKIP wedi siarad o'i blaid o'r blaen, rwy'n credu mai da o beth yw bod gennym gonsensws trawsbleidiol ar y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, er fy mod yn llawn ddisgwyl y craffu cadarn a ddaw wrth i ni symud pethau ymlaen drwy'r Cynulliad.
Gallai fod yn ddefnyddiol pe byddwn ond yn amlinellu peth o grynodeb y costau yr ydym wedi'i gyhoeddi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, ac mae hynny'n dangos, mewn gwirionedd, sut y byddem yn disgwyl i gael gwared ar y ffioedd a godir ar denantiaid effeithio ar rannau eraill o'r sector, megis landlordiaid ac asiantau gosod tai. Rydym yn amcangyfrif y costau a'r manteision i denantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, dros gyfnod o bum mlynedd, inni gael dealltwriaeth dda o sut y gallai pethau effeithio ar y gwahanol fuddiannau amrywiol.
Credwn y disgwylir i denantiaid fod yn arbed rhwng £16.7 miliwn a £38.6 miliwn dros y cyfnod hwn drwy beidio â gorfod talu rhai ffioedd asiantau gosod eiddo mwyach. Felly, yr amcangyfrif hanfodol yw y byddai £24.1 miliwn yn cael ei arbed i denantiaid. Er hynny, rydym yn cydnabod y gallen nhw weld cynnydd yn y rhent yn sgil y Bil yn ystod blwyddyn gyntaf ei weithredu. Rydym yn amcangyfrif y bydd hynny tua £2.9 miliwn. Ond, wedyn, rydym yn rhagweld y bydden nhw'n arbed £7.5 miliwn dros y cyfnod oherwydd nad oes rhaid talu'r ffioedd gosod hynny mwyach. Ac felly, amcangyfrifir y byddai arbediad net i denantiaid o oddeutu £4.6 miliwn.
Gallai fod costau i asiantau gosod o hyd at £6.6 miliwn yn y flwyddyn gyntaf, ond eto, gellid gwrthbwyso'r rhain drwy gynyddu'r ffioedd i landlordiaid gan tua £5 miliwn, sy'n gadael cost net i asiantau gosod tai o £1.6 miliwn. Rydym yn disgwyl i gostau i landlordiaid yn y flwyddyn gyntaf fod yn £5.8 miliwn efallai, naill ai drwy beidio â gallu codi ffioedd, neu drwy gostau uwch y byddant yn eu gweld oddi wrth asiantau gosod. Ond yna, gellid gwrthbwyso'r rhain efallai gan £2.9 miliwn drwy gynyddu'r rhent, felly amcangyfrifir y bydd y gost net i landlordiaid oddeutu £2.9 miliwn.
Felly, mae'n sicr yn un o'r sefyllfaoedd hynny pryd, pan fyddwn yn cymryd camau yn un rhan o'r sector, ceir goblygiadau canlyniadol eraill. Ond rydym wedi ceisio dod i ddealltwriaeth dda o'r hyn y gallai'r rheini fod, drwy'r ymchwil annibynnol a wnaethom, ochr yn ochr ag ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom hefyd.
O ran diffygdalu, credaf ei bod yn iawn y dylai landlordiaid allu adennill costau neu adennill arian pan geir fod eu tenantiaid wedi torri eu contract. Roeddech chi'n rhoi'r enghraifft o golli allweddi fel ffordd y gallai landlordiaid geisio ennill rhywfaint o'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth y tenantiaid. Byddai cost yr allweddi coll ar wyneb y contract hwnnw, felly fe ddylai fod tryloywder gwirioneddol dda, i'r dyfodol, er mwyn i ddeiliaid contract ddeall yn union beth fyddai'r gost iddyn nhw pe byddent yn methu â chyflawni eu contract mewn unrhyw ffordd.
Roeddech chi'n gofyn am flaendaliadau diogelwch a faint y gallen nhw fod. Wnaethom ni ddim ymgynghori yn benodol ar ba lefel y dylid gosod blaendaliadau diogelwch yn y broses ymgynghori, ac felly nid ydym yn awgrymu rhoi ffigur ar wyneb y Bil. Nawr, dyna un o'r ffyrdd y mae ein deddfwriaeth ni yn wahanol i'r ddeddfwriaeth yn Lloegr. Un o'r pethau yr wyf yn amheus iawn ohonynt yw peidio â rhoi lefel y blaendal diogelwch ar wyneb y Bil, oherwydd fe allem ni, yn anfwriadol, gael y canlyniad o godi lefel wirioneddol y blaendaliadau diogelwch hefyd, oherwydd ceir—. Fy nealltwriaeth i o hyn yw ei fod oddeutu pedair neu bum wythnos. Felly, yn Lloegr, lle mae gennych chi chwe wythnos ar y Bil, fe allech chi o bosibl wthio'r gost honno i fyny, sy'n rhywbeth nad ydym ni'n dymuno ei wneud. Fe geir pwerau i wneud rheoliadau, serch hynny, yn y Bil. Felly, yn y dyfodol, pe byddem o'r farn fod blaendaliadau diogelwch yn codi yn annerbyniol ac yn mynd yn anfforddiadwy, gellid dwyn deddfwriaeth yn ei blaen, yn dilyn ymgynghoriad, ar hynny hefyd.
O ran newid manylion, mae hwn eto yn faes arall lle mae ein deddfwriaeth ni yn wahanol i'r hyn a welir yn Lloegr. Yn Lloegr, ceir tâl ar wyneb y Bil, lle byddai tâl o £50 neu 'gostau rhesymol' y gellid eu codi ar gyfer cyd-denant newydd, er enghraifft, yn cael ei ychwanegu at yr enwau o fewn cytundeb tenantiaeth. Nid ein cynnig ni yw ychwanegu hynny ar wyneb ein Bil, gan ein bod yn credu y byddai'n anodd ei reoli, ar y dechrau ac yn yr hirdymor hefyd, a gallai'r hyn yn hollol y mae 'rhesymol' yn ei olygu arwain at anghydfodau diangen rhwng landlordiaid a deiliaid contract, gan nad yw'n waith enfawr na beichus ychwanegu deiliad contract newydd at fanylion contract.
O ran y gwahaniaethau eraill rhwng y ddeddfwriaeth a welwn dros y ffin yn Lloegr, ceir rhai trefniadau gorfodi sy'n amrywio'n fawr iawn. Eto, rwy'n siŵr y bydd pwyllgorau â diddordeb arbennig yn yr ymagweddau amrywiol a gymerwyd yn ein gwahanol wledydd.
Rwyf i o'r farn fod addysg yn bwysig iawn, ar gyfer tenantiaid—a chredaf fod gwaith llawer mwy eang i'w wneud, mewn gwirionedd, o ran tenantiaid a chynhwysiant ariannol—ond hefyd o ran y landlordiaid ac asiantau gosod tai a fydd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth. A dyma pam mae Rhentu Doeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn, gan ein bod erbyn hyn mewn cysylltiad uniongyrchol â thros 90,000 o landlordiaid a thros 2,500 o asiantau gosod, y gall pob un ohonynt gael gwybodaeth gyfredol, o ansawdd da a chyngor gan Lywodraeth Cymru am eu cyfrifoldebau. Ond rwy'n credu bod llawer i'w ddysgu yn y sector rhentu preifat o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd yn y sector rhentu cymdeithasol, o ran cefnogi tenantiaid i ddeall eu cyfrifoldebau ariannol yn well a'r cyfleoedd ehangach ar gyfer gweithgareddau cynhwysiant ariannol. Gwnaed argraff fawr arnaf gan beth o'r gwaith yr ydym wedi'i weld yn digwydd ymhlith landlordiaid cymdeithasol o ran cefnogi tenantiaid gyda llythrennedd ariannol, cynhwysiant digidol ac amrywiaeth eang o bethau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddem fel arfer yn ei ystyried fel dim ond mater o dai, oherwydd y pwysigrwydd y mae'n ei roi ar helpu pobl i gadw a chynnal eu tenantiaeth.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch hefyd am y briffio yn gynharach. Fel yr oeddech chi'n sôn, rydym ni, UKIP, wedi bod yn gefnogol o'r math hwn o symudiad. Fe wnaethom ni drafod y mater ffioedd asiantaethau gosod yn un o'n dadleuon ein hunain y llynedd, felly mae hwn yn faes yr ydym yn cydymdeimlo a'r problemau a wynebir gan denantiaid yn y sector rhentu preifat. Ar yr achlysur hwnnw, cefnogodd y tair gwrthblaid symud tuag at ryw fath o gyfyngiad ar ffioedd asiantaethau gosod. Felly, mae'n dda gweld bod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad hwnnw erbyn hyn.
Bu llawer o broblemau gyda'r pethau sy'n cael eu galw'n aml yn 'daliadau gweinyddol'—term sy'n aml yn derm 'cynnwys popeth' i gwmpasu amrywiaeth o ffioedd sydd weithiau yn amheus. Ambell waith, fel yr oeddech chi'n sôn yn eich datganiad, mae'n ymddangos bod y tâl gweinyddu yn llawer uwch na'r gwir gost a fydd ar yr asiant gosod tai am gyflawni'r gwasanaeth arbennig hwnnw. Efallai'n fwy gofidus, nid yw tenantiaid weithiau—neu, i ddefnyddio eich terminoleg eich hun, deiliaid contract—hyd yn oed yn deall am beth y maen nhw'n talu oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n fater allweddol bod llawer o'r taliadau hyn nad ydynt yn dryloyw iawn. Roeddwn yn falch eich bod wedi defnyddio'r term hwnnw yn eich datganiad.
Ar y llaw arall, rydym yn ymwybodol hefyd bod yn rhaid cael ymagwedd gytbwys, ac rydych chi wedi crybwyll bod y Gymdeithas Landlordiaid Cofrestredig yn ymwneud yn helaeth â'r ymgynghoriad, a chredaf mai da o beth yw hynny, oherwydd rwy'n tybio, mewn ffordd, bod dwy ochr i bob stori. Mae angen inni gael sector rhentu preifat gan fod mwy a mwy o denantiaid mewn gwirionedd yn cael eu denu, weithiau oherwydd rheidrwydd ariannol, i'r sector hwn, a hefyd gan ddiffyg dewisiadau eraill. Felly, mae angen i ni weld sector rhentu preifat ac nid ydym yn dymuno gwneud y rheoliadau mor feichus fel na all landlordiaid nac asiantaethau gosod eiddo ffynnu, cyn belled, hynny yw, â bod eu ffioedd yn ddilys a'u bod yn dryloyw. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, wrth i ni fwrw ymlaen â'r Bil hwn, rhag cael canlyniadau anfwriadol. Gwn fod ambell un wedi defnyddio'r ymadrodd hwnnw eisoes heddiw.
Yr un amlwg, mae'n debyg, yw, wrth i daliadau gael eu gwahardd, y bydd rhenti yn codi yn hytrach. Gwn mai'r Alban yw'r enghraifft amlwg, o gofio eu bod eisoes wedi symud i gyfyngu ar ffioedd asiantaethau gosod. Felly, mae'n ddiddorol fod yna rywfaint o amwysedd o ran y naratif o'r Alban ynglŷn â pha un a yw rhenti wedi codi yno o ganlyniad i gyfyngu ar ffioedd asiantaethau gosod. Neu ai'r gwir yw nad ydyn nhw wedi codi cymaint ag y maen nhw yn Lloegr? Felly, credaf fod angen i ni edrych yn fanwl ar y dystiolaeth o'r Alban oherwydd ei bod yn ymddangos bod anghydfod eisoes ynglŷn â beth yw'r dystiolaeth mewn gwirionedd.
Soniodd David Melding am y gost ymlaen llaw ar denantiaid, ac un o'r pethau y mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi galw amdanynt yw rhyw fath o gynllun yswiriant ynglŷn â blaendaliadau—un broblem yw bod tenantiaid yn aml yn talu blaendal ar gyfer symud i eiddo newydd tra eu bod nhw'n dal i aros am y blaendal yn ôl o'u hen eiddo. Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn gweld y posibilrwydd o gynllun yswiriant fel y gellid trosglwyddo'r blaendaliadau hyn rhwng y landlordiaid. Felly, tybed pa ystyriaeth a roddwyd gennych i'r cynnig penodol hwnnw.
Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn galw hefyd am fwy o hyblygrwydd ynglŷn â bondiau lle mae gan denantiaid, er enghraifft, bethau fel anifeiliaid anwes. Credaf fod hyn yn mynd yn broblem fawr. Mae llawer o bobl yn awyddus i gadw anifeiliaid anwes, sydd yn ddigon teg, ac mae llawer o landlordiaid yn anfodlon derbyn tenantiaid sydd ag anifeiliaid anwes. Mae angen i ni wneud yn siŵr y gall pobl a chanddynt anifeiliaid anwes gael tenantiaeth. Felly, efallai y bydd angen weithiau i landlordiaid allu codi tâl ychwanegol o ran y bond i dalu am bethau fel cost glanhau pan ddaw'r denantiaeth i ben, oherwydd yn amlwg, os ydych chi'n cadw ci, yna mae'n debyg y bydd yn effeithio ar y gost o lanhau. Felly, credaf fod angen i ni edrych ar bethau felly o ran y ddeddfwriaeth.
Cododd Bethan Sayed y mater addysg ariannol, y mae hi wedi ei godi'n aml, a chredaf eich bod wedi crybwyll y gellid cynnwys hynny gyda Rhentu Doeth Cymru. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod sut bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar led, pe gallech roi bod mwy o ystyriaeth i hynny i'r dyfodol. Rwy'n gwybod eich bod yn ymddangos yn eiddgar amdano, ond hoffwn gael ychydig mwy o fanylion ar hynny wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau yna. Gallai fod yn ddefnyddiol pe byddwn yn dychwelyd at fater yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu o ddeddfwriaeth yr Alban o ran ein dull o weithredu yma yng Nghymru. Mae'n ffaith fod rhenti wedi codi yn y 12 mis cyntaf yn dilyn cyflwyno Deddf Tai ar Rent Preifat (yr Alban) 2011. Roedd honno'n diwygio Deddf Rhenti (yr Alban) 1984, y cyfeiriais ati o'r blaen, ac yn y bôn roedd yn gwahardd codi pob taliad ar denantiaid ac eithrio rhent a blaendal ad-daladwy.
Fodd bynnag, nid yw'r dystiolaeth yn bendant fod rhenti wedi codi o ganlyniad uniongyrchol i'r newid yn y gyfraith, ac fel y dywedais, archwiliwyd y mater gan ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i'r sector rhentu yn yr Alban ym mis Mawrth 2015. Methodd hwnnw â darganfod tystiolaeth ddigonol i egluro cynnydd o'r fath. Nododd y pwyllgor fod ffactorau ehangach yn ddylanwad posibl ar y cynnydd, gan gynnwys newidiadau yn y boblogaeth a diffyg cyflenwad o eiddo yn y sector rhentu preifat. Ystyrid bod gweithrediad y farchnad ar y pryd—felly, niferoedd yr asiantau gweithredol, hyd tenantiaethau, newidiadau yn sut yr oedd asiantau yn gweithio, rheolau ynglŷn â diogelu blaendaliadau a safonau iechyd a diogelwch uwch—i gyd yn ystyriaethau perthnasol hefyd fel na ellid eu gwahanu oddi wrth Ddeddf 2011.
Felly, rwy'n siŵr y bydd y profiadau yn yr Alban a'r ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy'r broses yn Lloegr yn bethau fydd pwyllgorau yn awyddus i graffu arnyn nhw. Ond, y—dim ond i dawelu meddyliau'r Aelodau—mae'n wir hefyd ein bod wedi edrych yn fanwl iawn hefyd ar brofiad yr Alban a'r broses pwyllgor yn Lloegr, ac rydym wedi edrych yn fanwl ar yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i'r cynnig deddfwriaethol yn Lloegr hefyd, gan ein bod yn awyddus i ddysgu oddi wrth y dystiolaeth orau sydd ar gael i ni.
O ran yr effaith ar gost rhentu, eto, mae'n ddiddorol, pan edrychwch chi ar y farchnad bresennol, nid oes unrhyw wir wahaniaeth rhwng y gost y disgwylir i denantiaid ei thalu i landlordiaid sy'n gosod yn annibynnol a'r rhai sy'n gosod drwy asiantau gosod. Nid oes gwahaniaeth gwirioneddol o ran faint o rent y mae pobl yn ei dalu, pa un a ydynt yn talu costau ychwanegol enfawr ai peidio neu'n talu dim neu ychydig iawn o gostau ychwanegol. Felly, nid oes y fath honno o wahaniaeth eglur yno ychwaith.
O ran gorfodi a darparu gwybodaeth, caiff hynny ei wneud drwy Rhentu Doeth Cymru. Fel y dywedaf, mae gennym ddata gwirioneddol dda a pherthynas dda gyda'r sector erbyn hyn, diolch i hwnnw. Mae hynny hefyd yn ein gosod ni ar wahân i Loegr hefyd gan nad oes ganddyn nhw unrhyw gorff cyfatebol o'r fath. Felly, fel dewis olaf, os mynnwch chi, os nad yw landlordiaid ac asiantau gosod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon a ddim yn talu dirwy, pe byddent i fod i dalu dirwy, y gosb eithaf yma yng Nghymru fyddai y gellid diddymu eu gallu i rentu cartrefi, ac mae hwnnw'n anghymhelliad difrifol o ran peidio â chydymffurfio â'r gyfraith hefyd.
Felly, mae gan y ddeddfwriaeth, fel y'i gosodwyd gerbron y Cynulliad, bwyslais cryf iawn ar orfodi, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Mae hi hefyd yn caniatáu i'r awdurdodau tai lleol gadw unrhyw arian y gallant eu sicrhau gyda dirwyon i'w hailfuddsoddi yn eu gweithgareddau gorfodi. Unwaith eto, dyna wahaniaeth arall rhwng ein dull ni yma a'r dull gweithredu yn Lloegr. Rydym yn gofyn i awdurdodau tai lleol fod yn gyrff gorfodi ar gyfer hyn, ond yn Lloegr safonau masnach sydd yn gwneud hynny. Unwaith eto, rydym o'r farn mai hyn sydd yn adlewyrchu orau ein lefelau neilltuol o arbenigedd, y berthynas arbennig sydd gennym, a'r ffaith fod awdurdodau tai lleol, yn ein barn ni, yn y sefyllfa orau i fod y rhai sydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth tai yma yng Nghymru.
Nid wyf yn dymuno gwneud pethau'n fwy beichus i landlordiaid, ac nid wyf yn dymuno gwneud pethau'n fwy beichus i denantiaid. Yr hyn yr ydym ei eisiau, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod gennym system sydd mor dryloyw a hawdd ei deall ag y bo modd. Credaf y gallwn yn sicr wneud hynny drwy weithio'n agos gyda'r bobl sy'n cynrychioli landlordiaid a hefyd drwy Rhentu Doeth Cymru.
Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth heddiw yn fawr iawn. Mae'n syndod i mi bob amser cymaint o bobl—pobl ifanc yn arbennig—sydd yn y pen draw wedi symud i mewn i'r farchnad rhentu preifat a fyddai, yn naturiol, un genhedlaeth, neu dwy neu dair cenhedlaeth yn ôl, wedi symud tuag at brynu tŷ. Credaf nad yw hwnnw yn newid er gwell mewn cymdeithas o reidrwydd.
Fel llawer o gydweithwyr yma, bûm yn galw am ddiwedd ar ffioedd gosod am nifer o flynyddoedd. Nid oes llawer o bethau y gallai uno Gareth Bennett, Bethan Sayed, Jenny Rathbone a minnau, ond mae hwn yn un ohonynt. Credaf fod hynny mewn gwirionedd yn dangos ehangder y gwrthwynebiad i ffioedd asiant gosod yn y Cynulliad hwn. Maen nhw'n annheg ac yn anghyfiawn, ac fe gânt eu talu gan y rhai sy'n lleiaf abl i fforddio'r gost. Cefnogaf yn llwyr y cynnig i roi terfyn ar ffioedd asiantau gosod eiddo a'i gwneud yn drosedd i godi'r ffioedd hynny.
Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi ymwrthod â'r hyn, yn fy marn i, oedd yn wrthwynebiad ffôl, ac economaidd anllythrennog, a leisiwyd ganddynt y llynedd, sef y byddai rhoi terfyn ar ffioedd gosod yn cynyddu rhenti ac maen nhw wedi peidio â mynegi hynny erbyn hyn. Wrth gwrs na fydd hynny'n eu cynyddu. Do, bu cynnydd yn yr Alban, fel y dywedodd David Melding, ond credaf fod Bethan Sayed wedi crynhoi hynny yn dda iawn: bu cynnydd yn Llundain, yn Lloegr, ac yng Nghymru hefyd. Mae rhenti yn codi bob blwyddyn. Nid oes a wnelo hynny ddim a pha un a oes gennych chi ffioedd gosod ai peidio; maen nhw'n cynyddu oherwydd y prinder tai sy'n bodoli. A dyna lle mae'r broblem: mae prinder tai.
Ond os yw pobl wir yn credu mai ffioedd asiantau gosod yw'r ateb i renti llai, pam na wnân nhw gefnogi hynny pan fyddwch chi'n prynu tŷ, rydych chi'n talu ffioedd yr asiant eiddo? Byddai hynny'n gostwng prisiau tai, oni fyddai? Ac yn dilyn y rhesymeg honno, yna, yn amlwg, dylai ffioedd yr asiant eiddo gael eu talu gan y prynwr ac nid y gwerthwr. Ond, na, nid yw pobl yn mynd i awgrymu hynny, oherwydd na fyddai'r bobl sy'n prynu tai yn prynu. Ni fyddai pobl sy'n gwerthu yn gallu gwerthu. Yn anffodus, yn y sector rhentu preifat, mae pobl yn gorfod talu, neu fel arall byddant yn ddigartref.
Felly, croesawaf y ddarpariaeth ar gyfer trefniadau gorfodi drwy gyfrwng awdurdodau lleol a chosb dirwy benodedig. Mae gennyf un cwestiwn: a yw'r Llywodraeth wedi ystyried esgynnydd dirwy ar gyfer y rhai sy'n torri'r gyfraith yn barhaus? Oherwydd un o'r pethau yr wyf yn eu hofni yw y bydd rhai pobl yn ystyried hwn yn bris gwerth ei dalu. Dim ond yn achlysurol y bydd yn digwydd. Mae'n eithaf tebyg i'r bobl hynny sy'n parcio lle na ddylen nhw ac yn derbyn dirwy yn rhan o gost parcio lle na ddylent wneud hynny. Bydd pobl yn torri llawer o gyfreithiau pan na chânt eu dal yn aml iawn na chael dirwy fawr iawn, a pan fyddwch yn mantoli'r gost, gallai fod mantais economaidd o wneud hynny. Felly, a allwn ni gael esgynnydd yn rhan o hyn? Felly, mae'n debyg iawn y byddai un pris y tro cyntaf y cânt eu dal, ond os byddwn yn ei ddyblu yr eildro ac wedyn dyblu hwnnw y trydydd tro, yn debyg i'r modd y maen nhw'n ymdrin â'r bobl sy'n tipio'n anghyfreithlon, ac yn cael dirwy, ond os byddan nhw'n dal ati i fynd yn ôl, mae'r ddirwy yn cynyddu'n wastadol, ac er efallai na fydd y ddirwy gyntaf yn fawr iawn, erbyn iddyn nhw gyrraedd y drydedd neu'r bedwaredd, byddan nhw'n sylweddoli bod tipio anghyfreithlon yn eithriadol o gostus. Felly, a gawn ni esgynnydd?
Diolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau yna ac am y cwestiwn hefyd.
Roeddwn i'n meddwl bod y gymhariaeth â gofyn i'r rhai sy'n prynu tai dalu ffioedd yr asiant eiddo yn fath dadlennol iawn o gymhariaeth. Yn sicr, mae'n rhoi hyn mewn persbectif hefyd. Ac, fel y mae Mike Hedges yn gwbl gywir yn nodi, mae'r ffioedd hyn ar denantiaid yn ffioedd a delir fynychaf gan y rhai sy'n lleiaf abl i'w talu. Ac, fel y mae eraill wedi ei ddweud, bydd y sector rhentu preifat yn gynyddol bwysig o ran diwallu'r angen am dai, ond hefyd o ran lleihau'r pwysau difrifol hwnnw sydd ar ein sector rhentu cymdeithasol hefyd.
O ran y camau gorfodi, mae hynny wedi ei fodelu yn unol â threfniadau sydd ar hyn o bryd ar waith am ddiffyg cydymffurfiad o ran gofynion trwyddedu o dan Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a, hyd yma, nifer cymharol fechan o achosion o dorri trefniadau trwyddedu sydd wedi arwain at gosbau. Felly, mae hynny'n awgrymu bod cydbwysedd call wedi'i daro yn ein dull o weithredu hyd yma. Ac mae'n werth cydnabod hefyd bod y rhan fwyaf o landlordiaid yn gweithio yn ôl ysbryd a llythyren y ddeddf, ac mae bron yr holl asiantau a landlordiaid bellach wedi'u cofrestru gan Rhentu Doeth Cymru. Felly, pan ddaw'r Bil i rym, byddem yn disgwyl lefelau uchel tebyg o gydymffurfiad.
Rydym o'r farn y bydd effaith sylweddol, nid yn unig yn sgil y cosbau ariannol yn y Bil, ond yn sgil y canlyniadau i landlord neu asiant os cânt eu heuogfarnu o drosedd. Caiff euogfarnau o dorri cyfraith tai neu landlord a thenant eu cynnwys yn y meini prawf ar gyfer Rhentu Doeth Cymru fel yr awdurdod trwyddedu, a ddynodwyd o dan adran 3(1) Deddf 2014, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid ei gymryd i ystyriaeth wrth ystyried pa un a yw unigolyn yn unigolyn addas a phriodol i gael ei drwyddedu o dan ran 1 y Ddeddf. Felly, mae hwnnw'n rhwystr cryf iawn, iawn o ran peidio â chydymffurfio â'r Bil. Er hynny, rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn craffu'n fanwl ar y lefel yr ydym wedi gosod y ddirwy honno o fewn y ddeddfwriaeth, a bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed argymhellion y pwyllgor o ran unrhyw esgynnydd dirwyon.
Diolch i'r Gweinidog.