9. Dadl Fer: Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan?

– Senedd Cymru am 6:22 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:22, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Siân Gwenllian i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi—Siân.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr. Y pwnc ydy a fyddai caniatáu i Aelodau’r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd, ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan. Rwy’n falch o arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma. Mae Jane Hutt a Julie Morgan yn awyddus i gyfrannu hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu cyfraniadau nhw.

Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i arwain ddadl fer yn y Siambr yma am yr angen i wella cydraddoldeb rhywedd a chynrychiolaeth o grwpiau lleiafrifol yn y Cynulliad yma. Rwy'n grediniol bod cael mwy o ferched—yn wir, nifer cydradd o ferched—mewn swyddi lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn bwysig wrth inni ymgyrraedd at genedl o gydraddoldeb, at y math o genedl ffeministaidd mae eraill wedi sôn sydd angen ei chreu yma yng Nghymru. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am ymchwil a wnaed sy’n dangos bod materion sy’n bwysig i fywydau bob dydd merched, a materion y dylid canolbwyntio arnyn nhw o ran creu cydraddoldeb, yn llawer mwy tebygol o gael eu codi mewn trafodaethau gan ferched. Mae anelu at gynrychiolaeth gydradd mewn bywyd cyhoeddus, felly, yn helpu i wella bywydau menywod yn gyffredinol. Nid dyna’r unig elfen sydd angen inni roi sylw iddo fo—a hynny o bell, bell ffordd. Nid ydw i ddim yn trio dweud hynny, ac rwy'n gwbl ymwybodol o’r rhychwant eang o waith sydd angen digwydd. Dyna pam yr hoffwn i weld cynllun gweithredu cenedlaethol ar gydraddoldeb rhywedd. Ond, mae o'n un elfen, ac yn elfen y gallwn ni fel aelodau etholedig ddylanwadu arni hi os ydym yn dymuno gwneud hynny.

Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i sôn am waith panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad, sef 'Senedd sy’n Gweithio i Gymru', a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017. Rwy'n credu y byddai mabwysiadu’r holl argymhellion sydd yn yr adroddiad yn helpu i greu Cynulliad mwy cyfartal ac amrywiol, ac y dylid parhau i geisio consensws o gwmpas yr adroddiad hwnnw. Yn y ddadl ddiwethaf, mi wnes i dynnu sylw at argymhellion yn ymwneud â'i gwneud hi’n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cwotâu er mwyn cael nifer cydradd o ymgeiswyr. Heddiw, rwyf i am hoelio sylw ar un arall o argymhellion y panel hwnnw a oedd hefyd yn rhan o’r gwaith o ystyried sut i wella amrywiaeth yn y Cynulliad. Yn ôl yr adroddiad:

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:25, 13 Mehefin 2018

'Gallai galluogi ymgeiswyr sy’n sefyll dros yr un blaid neu fel ymgeiswyr annibynnol sefyll i’w hethol ar sail trefniadau rhannu swydd arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o gynrychiolwyr yn y Cynulliad. Gallai’r hyblygrwydd i sefyll ar sail rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.'

Mae’r Athro Rosie Campbell a’r Athro Sarah Childs—y ddwy a rannodd swydd, fel mae'n digwydd, fel aelodau o’r panel arbenigol—wedi cyfrannu llawer at y drafodaeth am rannu swyddi. Fe gyfrannodd y ddwy at waith a wnaed gan y Fawcett Society ar y posibilrwydd o Aelodau Seneddol yn rhannu swyddi, gan dynnu sylw at y manteision. Ac, yn 2012, fe gyflwynodd John McDonnell AS Fil rheol 10 Munud i Dŷ’r Cyffredin a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol iddo fo. Ond, yn ystod etholiad cyffredinol 2015, fe wrthodwyd rhoi caniatâd i ddwy aelod o'r Blaid Werdd a oedd yn gobeithio sefyll i gael eu hethol i Senedd y Deyrnas Unedig gan rannu swydd.

Mae’r wir dweud mai cyfyng fu’r drafodaeth ar rannu swyddi mewn seddau etholedig, ac roeddwn i'n falch iawn, felly, o weld argymhelliad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn y Cynulliad. Mae yn gyfle i ni gael y drafodaeth yn y fan yma. Ffurf ar weithio yn hyblyg yw rhannu swydd. Yn syml iawn, mae’n galluogi i ddau gyflogai rannu cyfrifoldebau a dyletswyddau un swydd llawn amser. Nid yw'n gysyniad newydd; mae'n deillio o'r 1970au ac mae rhannu swydd wedi cynyddu yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, yn enwedig mewn rhai swyddi rheolaethol, ac ar draws pob math o yrfaoedd. Ac mae llawer o enghreifftiau o arfer da. 

Mewn adroddiad o’r enw 'Working Families', bu ymchwilwyr yn edrych ar 11 achos o rannu swydd. Roedd y swyddi hyn yn cynnwys prif weithredwr o ymddiriedolaeth iechyd, ditectif arolygydd, rheolwr siop fawr, cyfarwyddwr yn y gwasanaeth sifil, pennaeth adran mewn banc rhyngwladol, rheolwr gyda bwrdd dŵr a phrif weithredwr elusen. O edrych yn fyr ar un o’r rhain, fe fu cyfarwyddwyr ar y cyd y Bwrdd Astudiaethau Cyfiawnder yn rhannu swydd â’i gilydd, a hynny am dros 20 mlynedd—a hynny mewn saith swydd i gyd. Roedd hyn yn llwyddiant mawr. Roedd ganddyn nhw werthoedd tebyg a’r un agwedd tuag at waith ac at arweinyddiaeth, ond personoliaethau gwahanol, ac roedden nhw yn defnyddio cryfderau ei gilydd. Roedd rhannu swydd yn werthfawr iddyn nhw o ran trafod a chefnogi ei gilydd, ac fe oedd rhannu swydd yn hybu dull mwy cydweithredol o arwain a oedd o fudd i’r tîm cyfan, gan annog dirprwyo, ac felly yn creu cyfleon grymuso ar gyfer eraill yn y tîm.

Rwy'n credu y byddai yna fanteision amlwg o gyflwyno rhannu swydd ar ein cyfer ni fel Aelodau Cynulliad. Mae ymgyrchwyr hawliau anabledd yn gweld manteision amlwg i rannu swyddi, ac mae eraill yn gweld y gallai rhai mewn swyddi proffesiynol barhau i gynnal eu sgiliau fel doctoriaid, athrawon, gwyddonwyr ac ati tra eu bod hefyd mewn rôl etholedig—gyda lleihad mewn risg petaen nhw’n colli eu seddi, a hynny'n gwneud rhoi eu henwau nhw ymlaen yn y lle cyntaf, felly, yn fwy deniadol. 

Roedd adroddiad y panel arbenigol yn nodi mai’r egwyddor arweiniol ganolog ar gyfer rhannu swydd yw y dylai partneriaid sy’n rhannu swydd gael eu trin fel petaen nhw'n un person. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai partner yn ymddiswyddo, y byddai yna ragdybiaeth awtomatig y byddai’r llall hefyd yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad. Hefyd, mi fyddai angen eglurder a thryloywder o ran y tâl a’r cymorth ariannol ar gyfer trefniant rhannu swydd o’r fath. Fe wnaeth adroddiad y panel arbenigol argymell mai’r egwyddorion wrth wraidd trefniadau o’r fath yw y dylai ymgeiswyr egluro wrth bleidleiswyr y cytundeb sydd rhyngddyn nhw i rannu’r swydd, ac y dylai’r Aelodau hynny sy’n rhannu’r swydd beidio ag achosi unrhyw gostau ychwanegol sy’n uwch na chostau un Aelod Cynulliad.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:30, 13 Mehefin 2018

Mae gan rannu swydd fanteision amlwg o ran creu cyfleon i ferched sydd â dyletswyddau gofalu—am blant ifanc neu am aelodau oedrannus o’r teulu. Gan mai merched, o hyd, ydy'r prif ofalwyr, ydy’r mwyafrif o ofalwyr, fe allai creu cyfleon i gyfuno dyletswyddau gofalu efo gweithio fel Aelod Cynulliad arwain at gynyddu’r nifer y menywod yma yn y Cynulliad. Gallai rhannu swydd fod yn opsiwn llawer iawn haws i'w amgyffred os ydych chi'n fenyw efo plant bychain, ac yn enwedig os ydych chi'n byw ymhell o Fae Caerdydd ac angen treulio cyfnod o bob wythnos i ffwrdd o gartref.

Sut fyddai fo’n gweithio, felly, o ran Aelodau Cynulliad yn rhannu swydd? Rhai o'm syniadau i ydy'r rhain, a rhai sy'n syniadau sydd wedi deillio o waith Cymdeithas Fawcett. Mae'r rhain yn bethau inni gnoi cil amdanyn nhw, yn amlwg, os ydym ni eisiau mynd ar hyd y trywydd yma. Ond, i ddechrau, byddai angen i’r ddau berson gyflwyno eu hunain fel un tîm o’r cychwyn cyntaf. Mi fyddai angen i’r ddau ymgeisydd gael eu barnu gan eu pleidiau i fod yn gymwys ag efo’r cymwysterau priodol—y ddau fel ei gilydd. Wrth gael eu dethol gan eu pleidiau, ac eto wrth gael eu hethol, byddai angen cyflwyno datganiad clir a chynhwysfawr am yr hyn maen nhw yn credu ynddo fo, eu blaenoriaethau nhw, eu hamcanion nhw, sydd wedi eu cael eu cytuno ar y cyd. Dylai ymgeiswyr ar gyfer rhannu swydd fanylu ar y rheolau a fyddai'n cael eu mabwysiadu ar gyfer pennu eu trefniadau gwaith o ddydd i ddydd.

Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, nad oes dim angen bod yn rhy benodol. Mae hyblygrwydd yn hollbwysig o ran y trefniadau gwaith. Efallai eu bod nhw yn gweithio rhannau gwahanol o’r wythnos, gwahanol rannau o’r flwyddyn seneddol, gweithio yn yr etholaeth, neu yng Nghaerdydd, rhannu gwaith etholaeth ar y penwythnos ar rota, rhannu portffolios, rhannu ymgyrchoedd. Byddai’r patrwm gwaith yn gallu amrywio yn ôl amgylchiadau a newid dros amser. Gallai un deithio i’r Senedd ganol bob wythnos a gwneud y gwaith yn fan hyn yn y Siambr ac ar bwyllgorau; gallai’r llall wneud y gwaith achos yn yr etholaeth. Ond, mewn gwirionedd, mater o drafodaeth fyddai fo, gyda hyblygrwydd yn nodwedd gwbl ganolog.

Byddai hyn yn gallu newid dros amser hefyd: efallai Aelod efo dyletswyddau gofal dros blant bychain yn treulio mwy o amser yn yr etholaeth ar y cychwyn, ond y patrwm hwnnw yn newid dros amser. Mi fyddai hi'n ffordd dda i ddenu merched efo plant at y swydd, a gall y rhannu swydd ddod i ben wrth i’r dyletswyddau gofal leihau, gan roi cyfnod o fentora a magu hyder a fyddai’n gwneud ymgeisio i fod yn Aelod Cynulliad yn y lle cyntaf yn llawer iawn mwy deniadol i lawer iawn mwy o bobl, yn cynnwys, wrth gwrs, merched.

Byddai dau berson yn rhannu’r gwaith o gynrychioli eu hetholwyr. Un bleidlais fyddai gan y ddau Aelod Cynulliad, ac fe ddylai’r cyhoedd fod yn glir pwy fydd yn pleidleisio a phryd. Byddai'r Aelodau Cynulliad yn ennill neu golli etholiad fel un, ac yn cael eu dal i gyfrif fel un gan yr etholwyr. Mi fyddai, wrth gwrs, angen cytuno protocol ar gyfer delio efo unrhyw wahaniaethau barn. Mae hyn yn bwysig, ond mae yna ffordd o'i gwmpas o. Mae cael y cyfathrebu yna yn glir o'r cychwyn, wrth gwrs, yn bwysig. A chofiwch, wrth gwrs, fod Aelodau pleidiau gwleidyddol yn atebol i’w pleidiau, ac mae gan y pleidiau ddulliau o ddelio efo a datrys anghydfod, petai'r math yna o sefyllfa yn codi. Y cyfathrebu clir rhwng y ddau sydd am rannu swydd, rhwng y ddau a’u pleidiau a rhwng y ddau a’u hetholwyr—mae hynny'n gwbl greiddiol i lwyddiant wrth rannu swydd.

Ac mae hi’n ddigon hawdd tynnu sylw at rai o’r problemau, ac rydw i'n gweld bod y busnes pleidleisio yma yn gallu bod yn un o'r meini tramgwydd, ond un mater ydy hwnnw. Mae'n ddigon hawdd tynnu sylw at y broblem, ond rydw i'n meddwl bod eisiau gwyntyllu'r cysyniad yn fanwl iawn, oherwydd rydw i'n credu bod angen troi pob carreg yn yr ymdrech i greu cenedl o gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Gall hyn fod yn rhan fechan o’r jig-sô—rhan fechan iawn—ond rhan o'r jig-sô sydd ei angen, ac mae gennym ni yma yn y Cynulliad gyfle i’w ystyried o fel rhan o’r pecyn o ddiwygiadau etholiadol sydd yn cael eu trafod ar hyn o bryd. Felly, ystyriwn a thrafodwn a down i benderfyniad, gobeithio, a fydd yn caniatáu inni symud i'r cyfeiriad yma. Diolch. 

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 6:35, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, a llongyfarchiadau i Siân Gwenllian am gael y ddadl hon ac am ganolbwyntio sylw ar y maes pwysig hwn. Rwyf am siarad yma heddiw oherwydd fy mod am roi fy nghefnogaeth lwyr i—wel, rwyf am weld rhannu swydd yn cael ei gyflwyno yma ar gyfer Aelodau etholedig. Credaf fod Siân wedi gwneud gwaith da iawn yn egluro a'r holl anawsterau—wel, nid anawsterau, ond yr holl bethau cadarnhaol—a'r math o feysydd y byddai'n rhaid inni edrych arnynt pe baem yn cyflwyno hyn.

Nawr, gwn nad oes unrhyw enghreifftiau yn San Steffan, ac yn sicr nid oes unrhyw enghreifftiau yma nac mewn llywodraeth leol, nid wyf yn credu, o bobl yn sefyll etholiad gyda'r bwriad o rannu swydd mewn gwirionedd, ond ceir enghreifftiau o swyddogion gweithredol yn gwneud hynny. Er enghraifft, yng nghyngor Abertawe, mae dau gynghorydd yn rhannu swydd y portffolio cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r enghraifft yn Wandsworth, lle mae dau ddirprwy arweinydd Llafur yn rhannu swydd, sydd i'w weld yn gynnydd da iawn. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei ystyried yma hefyd. Felly, er nad oes gennym unrhyw bobl etholedig yn yr ystyr honno, ceir symudiad tuag ato gyda rhannu'r swyddi gweithredol hyn.

Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud ein Cynulliad yn fwy cynrychioliadol, fod gennym bobl anabl, menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu, dynion sydd â chyfrifoldebau gofalu, a dim ond un o'r pethau y gallwn ei wneud i alluogi hynny i ddigwydd yw hyn. Felly, rwy'n cefnogi argymhelliad y panel arbenigol yn gryf, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu symud gyda'n gilydd a gweithio tuag at wneud hwn y lle cyntaf yn y DU lle mae gennym gynghorwyr ac Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol ar sail rhannu swydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Iawn. Un eiliad, Jane—o, rydym wedi mynd dros yr amser. Na, fe adawaf i Jane Hutt gael munud, felly munud.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Neu oddeutu hynny; efallai na fyddaf yn gallu cyfrif. Ewch chi.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Rwy'n wirioneddol falch o ddweud ychydig o eiriau o blaid Siân Gwenllian yn y ddadl hon. Gwnaeth i mi gofio am lyfr a ysgrifennais, Making Opportunities—A Guide for Women and Employers, pan oeddwn yn gyfarwyddwr Chwarae Teg. Credwch neu beidio, mae 26 mlynedd ers i mi ysgrifennu a chyhoeddi'r llyfr, a cheir penodau ar bopeth sydd angen i ni ei wybod a phopeth yr ydym yn dal i geisio ei wneud o ran ceisio gwneud Cymru yn lle mwy cynrychioliadol—penodau ar recriwtio a chadw, gofal plant. Ceir pwyntiau diddorol, wrth gwrs, drwy'r llyfr ynglŷn â sut y gallwn wneud Cymru'n fwy cynrychioliadol yn ein gweithle, ac fe ddarllenaf ddarn o'r bennod ar rannu swydd:

'Gwelir rhannu swyddi fel atyniad mawr wrth recriwtio a chadw gweithwyr sy'n fenywod, yn enwedig i rai sy'n cael neu wedi cael seibiant swydd neu yrfa. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan gyflogeion gwrywaidd fel ffordd o gyfuno cyfrifoldebau cartref a gwaith, ac arallgyfeirio profiadau gwaith.

Felly, efallai y gallaf estyn hwn i'r bwrdd taliadau wrth iddynt edrych ar faterion ymarferol. Ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn bwrw ymlaen â hyn. Rydych wedi gwneud llawer o waith yn egluro sut y gallem fynd i'r afael â hyn, ac rwy'n credu ei bod yn enghraifft dda o sut y gallwn ymateb i'r panel arbenigol, ac rwy'n cefnogi eich dadl a'ch bwriadau heddiw yn llwyr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

Galwaf ar y Llywydd i ymateb i'r ddadl. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl yma i'r Siambr ac am roi'r cyfle inni drafod y mater diddorol a phwysig yma, ac am y sylwadau cefnogol sydd wedi cael eu rhoi hefyd gan ddwy Aelod arall. Fel sydd wedi cael ei esbonio eisoes, mae'n amserol iawn fod Siân Gwenllian wedi dewis codi'r mater yma nawr, gan y bydd Comisiwn y Cynulliad cyn bo hir yn dechrau'r broses o drafod pa elfennau o agenda diwygio etholiadol y Cynulliad y dylid eu datblygu, a phryd y dylid gwneud hynny—ai erbyn 2021 ynteu erbyn 2026?

Bydd angen i unrhyw benderfyniad ynghylch unrhyw elfen o ddiwygio etholiadol sicrhau consensws eang ar draws y Siambr yma, wrth gwrs, a bydd angen mwyafrif o ddau draean o bleidleisiau'r Aelodau i hynny—ychydig bach yn fwy na beth sydd yn y Siambr ar y pwynt yma.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 13 Mehefin 2018

Mae Siân wedi dewis canolbwyntio ar un elfen bwysig o'r agenda yma, elfen sy'n sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Cynulliad Cenedlaethol, ac yn sgil hynny, mae wedi codi'r cwestiwn a allai caniatáu i Aelodau Cynulliad rannu swydd arwain at greu Cynulliad sy'n fwy cydradd o ran rhywedd. Bydd yr Aelod, fel mae hi wedi disgrifio, yn ymwybodol bod hwn yn fater a godwyd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn ei adroddiad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Mae adroddiad y panel yn cyfeirio at y ffaith mai:

'Un o'r egwyddorion sy'n rhan o ethos y Cynulliad yw y dylai gweithio mewn modd sy'n ystyriol o deuluoedd fod yn rhan annatod o'i ddiwylliant a'i weithdrefnau, cyn belled â phosibl.'

O'r cychwyn cyntaf, rydym wedi llunio a dilyn amserlen fusnes a gwaith sy'n ymdrechu i adlewyrchu'r egwyddor yma. Fodd bynnag, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, yn rhannol o ganlyniad i faterion capasiti a rhagor o gyfrifoldebau, nad ydym bob amser wedi cadw at ein gair ar hynny. Y gwir yw, fel mae adroddiad y panel arbenigol yn ei awgrymu, ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gan Aelodau yn y lle yma o ran eu diwrnodau gwaith, ac mae hyn yn cael ei ategu, yn fy marn i, gan y gofynion a'r cyfrifoldebau cynyddol ar sefydliad nad oes ganddo ddigon o Aelodau.

Mae'r effaith a gaiff hyn wedi'i nodi mewn nifer o adroddiadau ac astudiaethau, er enghraifft y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor yn 2014 i werthuso'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll i'w hethol i'r Cynulliad. Roedd yr astudiaeth yma yn ystyried yr effaith ar unigolion a'u teuluoedd o gael eu hethol i'r sefydliad yma a sut y gallai'r ffactorau hyn atal pobl eraill a hoffai sefyll i gael eu hethol. Mae'r atebion posibl yn niferus, wrth gwrs, ac yn esgor ar wahanol gymhlethdodau, ond mae'n werth ystyried pob un os ydym am sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Senedd genedlaethol.

Yn rhannol â hyn mewn golwg, fe wnaeth y panel arbenigol archwilio'r potensial i ymgeiswyr gael eu dewis a sefyll i'w hethol ar sail trefniant rhannu swydd. Cyfeiriodd y panel at ddadleuon a wnaed mewn pamffled gan Gymdeithas Fawcett, a oedd yn dweud y byddai rhannu swydd yn gam cymesur tuag at ei gwneud yn bosib i fwy o bobl ystyried sefyll i'w hethol ac i wneud cynrychiolaeth seneddol yn fwy amrywiol. Yn ogystal, daethpwyd i'r casgliad y gallai rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.

Argymhelliad y panel, felly, oedd y dylid newid gweithdrefnau a chyfraith etholiadol i alluogi ymgeiswyr i sefyll i'w hethol ar sail trefniadau tryloyw rhannu swydd, ac fe osododd y panel rai egwyddorion cyffredinol eang iawn y gellid eu dilyn i gyflawni hyn. O ganlyniad, penderfynodd Comisiwn y Cynulliad fod yr argymhelliad yn un diddorol ac y byddai'n werth ei gynnwys fel pwnc yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw rhwng Chwefror ac Ebrill eleni, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi'r prif ymatebion cychwynnol cyn toriad yr haf.

Mae'r gwaith hwn yn gofyn am ddadansoddiad manwl er mwyn sicrhau ei fod yn gallu llywio penderfyniad yr Aelodau. Gallaf gadarnhau yma heddiw, fodd bynnag, fod y Comisiwn wedi cael dros 3,200 o ymatebion i'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hynny'n destun calondid, bod yna ymateb sylweddol wedi digwydd i'r ymgynghoriad. Rydw i'n edrych ymlaen, felly, i ddarllen rhai o'r sylwadau i'r ymgynghoriad a chlywed sylwadau'r Aelodau ar y maes polisi cymharol gymhleth hwn. Mae'n fater sy'n sicr yn cynnig cyfleoedd, ond nid oes gennyf amheuaeth hefyd ei fod yn esgor ar nifer o heriau ymarferol, gwleidyddol a chyfreithiol.

Un rheswm dros hyn, fel y nodwyd yn adroddiad y panel, yw'r penderfyniad ar achos yn yr Uchel Lys yn 2015 na chaniateir rhannu swydd ar gyfer etholiadau San Steffan yn ôl y gyfraith etholiadol. Fel y mae, byddai hynny hefyd yn wir ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yma. Yn yr achos penodol hynny, fe wnaeth dwy fenyw gais i swyddog canlyniadau etholaeth Basingstoke i sefyll ar y cyd ar gyfer etholiad San Steffan ar ran y Blaid Werdd, fel y cyfeiriodd Siân Gwenllian ynghynt. Fe wrthodwyd y cais yma gan y swyddog canlyniadau ac fe heriwyd y penderfyniad yn aflwyddiannus yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Mae'r cyngor cyfreithiol cychwynnol rwyf i wedi'i gael hefyd yn bwrw amheuaeth ynghylch cymhwysedd y Cynulliad hwn i wneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i weithredu polisi o'r fath, yn enwedig pe byddai'r Aelodau yn dymuno i Aelod Cynulliad sy'n rhannu swydd gael bod yn Weinidog neu Ysgrifennydd Cabinet.

O safbwynt mwy ymarferol, mae'n wir o hyd nad oes cynsail yn unrhyw le arall o Aelodau etholedig yn rhannu swydd. Mae yna enghreifftiau oddi fewn i Senedd Ewrop nad ydynt yn annhebyg i drefniant o'r math yma, ond maent yn drefniadau o fewn pleidiau gwleidyddol yn hytrach na threfn etholiadol statudol. Rydw i'n ymwybodol, er enghraifft, o Aelodau Senedd Ewrop yn ildio'u sedd yn ystod y tymor a hynny er mwyn galluogi'r person nesaf ar y rhestr i ymgymryd â'r rôl am weddill y tymor. Yn etholiadau Ewrop yn 2014, enillodd cynghrair Dewis y Bobl o Galicia un sedd. Penderfynodd y gynghrair y dylid caniatáu i un Aelod wasanaethu am ran o'r tymor ac Aelod arall wasanaethu am ran arall y tymor—Ana Miranda Paz—ac mae hi yn awr newydd gael ei hethol am ail gyfnod y tymor seneddol Ewropeaidd wrth i'r Aelod arall sefyll lawr er mwyn caniatáu iddi hi gael ei hethol. Job share o fath gwahanol, wrth gwrs, ond job share, serch hynny, mewn rhyw ffordd.

Fel y soniais, sefydlwyd y drefn yma oddi fewn i gynghrair neu blaid wleidyddol yn hytrach na thrwy osod deddfwriaeth ac mae hynny dipyn yn wahanol i sefyllfa lle mae dwy neu ddau wleidydd yn cael eu hethol i gyflawni un rôl. Yn sicr, er mwyn i hyn weithio, byddai angen i etholwyr gael sicrwydd mewn perthynas ag ymarferoldeb rhannu swydd, yn enwedig o ran pwy sy'n ysgwyddo'r atebolrwydd a chyfrifoldeb, ac o ran costau.

Mae cwestiynau i'w gofyn hefyd ynghylch a fyddai creu cyfraith i ganiatáu rhannu swydd o anghenraid yn arwain at bleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu ymgeiswyr sy'n rhannu swydd. Mater o wleidyddiaeth yw hynny; nid mater o gyfraith.

Nid oes dim o'r pethau hyn yn esgus dros beidio gweithredu, wrth gwrs, nac ychwaith yn rheswm dros ddiystyru'r syniad yn llwyr. Mae'n destun balchder gen i fod y Cynulliad yma yn un sydd yn arloesol ac yn feiddgar, ond byddai angen gwneud gwaith sylweddol cyn y gallai Comisiwn y Cynulliad, yr Aelodau a'r  etholwyr fod yn hyderus y gallai polisi o'r fath gael ei weithredu'n effeithiol. Nawr, wrth gwrs, mae'r pwerau ar etholiadau'r Cynulliad yma'n gorwedd yn y Cynulliad yma, ac rŷm ni'n gallu cael trafodaeth o'r math arloesol, diddorol yma lle, mewn Cynulliadau cynt, fe fyddem ni wedi trafod rhywbeth na fyddai'n bosib i ni ei gyflawni fel Cynulliad.

Felly, rydw i'n ddiolchgar am y drafodaeth sydd yn cychwyn heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gosod cynsail clir i'r Cynulliad yma i fod yn feiddgar yn sut rŷm ni'n dyfeisio ein systemau etholiadol i'r dyfodol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:47, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:48.