2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
7. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran annog cysylltiadau cadarnhaol rhwng pobl ifanc a'r heddlu yn ne Cymru? OAQ52317
Mae cyllid Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, yn darparu ymyrraeth gynnar a phrosiectau dargyfeiriol ar gyfer pobl ifanc mewn cymunedau.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Heddlu Gwent wedi bod yn treialu cynllun arloesol gyda thair ysgol yng Nghasnewydd, lle mae 58 disgyblion o ysgolion cynradd Millbrook, Pillgwenlly a Ringland wedi dod yn aelodau o'r Heddlu Bach. Mae'r plant, gyda chaniatâd, yn mynd allan i helpu swyddogion mewn digwyddiadau cymunedol a byddant yn dechrau trafodaethau i addysgu eu cyfoedion gartref, yn yr ysgol, a chyda'u ffrindiau. Ac yn wir, heddiw, mae ysgol gynradd Pillgwenlly wedi bod allan yn gwirio'r cyfyngiadau cyflymder yn eu hardal. Mae'r cynllun yn gyfle gwych i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o heddlu a gweision cyhoeddus, ac mae'n cael effaith amlwg ar y plant sy'n rhan o'r cynllun, gydag athrawon a rhieni yn cofnodi newidiadau mawr yn llawer ohonynt, ac mae'n boblogaidd iawn. Ac nid cyfle ar gyfer gwella'r berthynas â'r heddlu yn unig yw hyn; mae'r effaith ar y plant hynny, yn ddi-os, yn para gydol oes, gan hyrwyddo dinasyddiaeth dda. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar yr arferion rhagorol hyn sy'n digwydd gyda Heddlu Gwent, a'r ysgolion hyn, ac edrych ar beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ymestyn cyrhaeddiad prosiectau fel hyn ymhellach drwy ein holl gymunedau?
Yn hollol. Lywydd, mae'r prosiect yng Nghasnewydd yn un gwych, a chredaf ei fod yn dyst i greadigrwydd yr heddlu, gan weithio gyda sefydliadau gwahanol yn y ddinas i ddarparu yn union y math hwnnw o broses. Rwy'n talu teyrnged i Heddlu Gwent yn y ffordd y maent wedi gweithio i gyflawni hyn. Yn ogystal â chyfarfod â chomisiynydd de Cymru, cyfarfûm â chomisiynydd Gwent ddwywaith yr wythnos diwethaf hefyd, unwaith yn fy etholaeth ac unwaith yma. Mae'r sgyrsiau a gawn yn rhai cadarnhaol iawn ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y caiff gwaith yr heddlu ei integreiddio yng ngwaith gwasanaethau eraill, gan gyflawni yn union fel y mae'r Aelod dros Orllewin Casnewydd yn ei awgrymu. Hoffwn yn fawr dalu teyrnged i waith Heddlu Gwent—y dyfeisgarwch, y creadigrwydd—ond hefyd o ran y dull sy'n ymwreiddio'r cysyniad o ddinasyddiaeth weithredol yr oeddem yn ei drafod yn flaenorol, ac ymdeimlad o ddinasyddiaeth ac ymdeimlad o bobl yn ein cymunedau yn gallu mynd ati eu hunain i wella ac i fod o fudd i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Dyma'n union y math o fenter yr ydym am ei chefnogi a'i chynnal yn y dyfodol.
Tybed a fedrwch chi roi ystadegau inni am yr hyn sydd yn digwydd o ran stopio a chwilio pobl ifanc yma yng Nghymru hyd yn hyn. Mae ymchwil rydw i wedi’i ddarllen yn dangos bod pobl ifanc yn dueddol o eisiau mynd ati i dorri’r gyfraith neu gymryd rhan mewn gweithred droseddol oherwydd y ffaith eu bod nhw wedi cael triniaeth wael gyda’r heddlu o ran stopio a chwilio. A hefyd, mae yna sectorau gwahanol o gymdeithas yn fwy tueddol o gael eu stopio—dynion Asiaidd neu ddu, er enghraifft—ac mae hwn yn gwneud iddyn nhw deimlo fel nad ydynt yn rhan o’r gymdeithas oherwydd yr agwedd negyddol wedyn maen nhw’n ei datblygu tuag at yr heddlu. Sut ydych chi’n gallu ennyn cymdeithas lle mae'r heddlu a phobl ifanc yn teimlo fel eu bod nhw ar yr un lefel, a bod yna feithrin rhywbeth positif rhyngddynt, yn lle bod yna deimlad bod yr heddlu yn eu herbyn nhw mewn nifer o agweddau ar gymdeithas?
Rydw i’n cyd-weld â dadansoddiad yr Aelod dros Orllewin De Cymru, ond a gaf fi ddweud hyn? Yn gyntaf, nid yw'r heddlu wedi’i ddatganoli, felly mae ein gallu i ddylanwadu ar y pethau yma yn gallu cael ei amharu arno fe, ambell waith, ond rydw i'n gweld bod yr heddlu yn gweithio’n galed iawn i estyn mas i rannau gwahanol o’r gymdeithas. Mae yna enghreifftiau arbennig o dda yn Heddlu Gwent o'r gallu i wneud hynny. Hefyd, rydw i wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd mae heddlu’r de yn delio gyda'r pethau yma hefyd. Felly, mae gen i hyder bod gennym ni'r arweinyddiaeth yn ei lle yn yr heddlu i allu cyrraedd y nod y buasech chi a minnau'n ei rannu. Ond, y pwynt sylfaenol yw hyn: nes bod yr heddlu'n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus Cymreig, wedi'i ddatganoli i'r lle yma, mae'n mynd i fod yn anodd iawn i ni ddatblygu'r math o bolisïau holistig sydd eu hangen arnom ni.
Yn olaf, Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. O fod eisiau datganoli plismona i Gymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet serch hynny'n cefnogi parhad y model comisiynydd heddlu a throseddu etholedig? Mae'n iawn i gymeradwyo Heddlu Gwent a Jeff Cuthbert am y cynllun penodol hwn, ond a yw'n cydnabod bod natur atebol ac etholedig y rôl honno'n hanfodol ar gyfer yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn?
Gwelaf fod y rôl wedi darparu atebolrwydd. Gwelaf hynny a chredaf fod hynny'n bwysig, ond rydym newydd fod yn trafod dyfodol llywodraeth leol yn ogystal, a gresynaf yn fawr iawn at y mewnbwn uniongyrchol a gollir gan lywodraeth leol i blismona yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn sôn am ddatganoli pwerau i'r lle hwn. Rydym mewn gwahanol leoedd yma; rwyf wedi treulio fy oes gyfan fel oedolyn yn ymgyrchu dros ddatganoli a datganoli pwerau i Gymru. Ond nid wyf am eistedd yma yn bod yn gyfrifol am adeiladu gwladwriaeth unedol yng Nghymru ychwaith. Yr hyn yr hoffwn allu ei wneud yw sicrhau datganoli o fewn Cymru, ac mae hynny'n golygu edrych yn greadigol ar sut y gallwn gynnwys llywodraeth leol yn rhai o'r union benderfyniadau y gallai'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru fod yn cyfeirio atynt. Yn sicr, ym mhrofiad fy etholaeth i, gwn fod yr heddlu'n dibynnu'n helaeth iawn ar waith cynghorwyr lleol ac ar allu cynghorwyr lleol i drosglwyddo negeseuon cryf i'r heddlu. Felly, pan ddatganolir plismona i Gymru, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cael sgwrs gyfoethog a da ynglŷn â sut y gallwn sicrhau atebolrwydd, ac rwy'n glir yn fy meddwl fy hun, pa swyddogaeth bynnag neu ba strwythur bynnag a ddarparwn, ni all yr atebolrwydd gychwyn a gorffen yn y lle hwn; mae'n rhaid iddo fod yn atebolrwydd yn lleol yn ogystal ag atebolrwydd yn genedlaethol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.