– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 3 Gorffennaf 2018.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar gyfeiriad y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (yr Alban). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 7 Mehefin, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn dweud fy mod i wedi gwneud cais i'r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn atgyfeiriad Bil Ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban). Rwyf wedi derbyn cadarnhad bod modd i mi, ynghyd â Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, gymryd rhan, sy'n golygu y bydd dadansoddiad a rhesymeg y Goruchaf Lys yn seiliedig ar farn pob rhan unigol o'r Deyrnas Unedig.
Yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni gan yr holl bartïon i'r trafodion, ffeiliais fy achos ysgrifenedig â'r Goruchaf Lys ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Gadewch imi fod yn glir: nid yw cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'n Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Fel y gwyddoch, drwy'r newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chytundeb rhynglywodraethol, rydym wedi sicrhau amddiffyniadau ar gyfer datganoli yng Nghymru ac wedi gwneud yn siŵr bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn aros yn ddatganoledig.
Fodd bynnag, mae materion a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol ac Adfocad Cyffredinol yr Alban yn eu hachos hwy yn codi cwestiynau ynghylch pob un o'r setliadau datganoli yn y DU ac nid ydynt yn gwbl gyfyngedig i Fil yr Alban nac i setliad datganoli yr Alban. Felly, mae ein cyfranogiad yn achos yr Alban gerbron y Goruchaf Lys yn crybwyll y materion hyn sydd yn ymestyn y tu hwnt i setliad yr Alban ac sy'n ymwneud â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol ar ôl Brexit, ac mae'n hanfodol felly bod gan Gymru lais. Rwy'n dymuno bod yn glir na fyddaf yn trafod y materion penodol sy'n arbennig i Fil yr Alban a setliad datganoli yr Alban, yr ymdrinnir â nhw, wrth gwrs, gan Arglwydd Adfocad yr Alban ac Adfocad Cyffredinol yr Alban. Mae fy achos ysgrifenedig felly yn canolbwyntio ar y pedwar mater a ganlyn.
Yn gyntaf, rwy'n ymdrin â'r cwestiwn o ba effaith y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar gymhwysedd y Cynulliad. Rwy'n dadlau'n gryf y bydd gadael yr UE yn golygu na fydd y pwerau hynny mewn meysydd datganoledig, sy'n eistedd ar hyn o bryd gyda'r UE—er enghraifft o ran cymorth amaethyddol—yn cael eu cyfyngu mwyach gan gyfraith yr UE. Fel y mae'r Goruchaf Lys ei hun wedi nodi yn achos Miller, bydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gwella cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Mater i'r Cynulliad yw penderfynu os yw'n dymuno 'cyfuno' rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU neu beidio.
Mae'r ail fater yn ymwneud ag ymarferoldeb deddfwriaethol ymadael. Mae fy achos yn nodi bod deddfu ar gyfer canlyniadau domestig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, pan fo'r canlyniadau hynny yn ymwneud â materion nad ydynt wedi'u cadw, yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn llwyr ac nid o fewn cymal cadw'r cysylltiadau rhyngwladol.
Yn drydydd, rwy'n dadlau ei bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad yn llwyr i ddeddfu cyn ymadael er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol y mae angen iddynt fod ar waith o'r diwrnod cyntaf ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn wir, pe gellid dweud bod y math hwn o ddeddfwriaeth yn torri cyfyngiad cyfredol cyfraith yr EU, byddai'r un peth yn wir am allu'r Senedd i ddeddfu'n gyfreithiol yn y fath fodd cyn diddymu Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972, bwriad sydd wrth wraidd Deddf Ymadael â'r UE Llywodraeth y DU ei hun.
Mae'r pedwerydd pwynt yn fy achos yn ymdrin â chwmpas pŵer y llysoedd i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad y tu allan i'r hyn y darperir yn benodol ar ei gyfer dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel yr eglurodd y Goruchaf Lys yn achos AXA, lle ceir deddfwrfeydd datganoledig a etholwyd yn ddemocrataidd yn gweithredu o fewn cwmpas y fframweithiau datganoli a osodwyd gan y Senedd, ni all llysoedd adolygu eu deddfau ac eithrio ar sail gyfyngedig iawn, a dim ond lle mae hawliau sylfaenol neu hanfod rheol y gyfraith yn y fantol. Roedd yr enghreifftiau a roddodd y llys yn yr achos hwnnw yn cynnwys Deddf a fyddai'n diddymu'r hawl i adolygiad barnwrol, er enghraifft, neu a fyddai fel arall yn diddymu'r hawliau sylfaenol. Yn amlwg, nid yw Bil parhad yr Alban yn ddeddfwriaeth o'r fath eithafol hwnnw.
Rwy'n gobeithio bod hyn yn egluro fy rhan i yn y trafodion hyn. Nid fy ngwaith i, fel y mae rhai yn anghywir—yn wir, yn rhyfedd iawn—wedi awgrymu, yw cefnogi'r Twrnai Cyffredinol a'r Adfocad Cyffredinol yn eu cyfeiriad o Fil yr Alban, ond yn hytrach i wneud yn siŵr bod llais Cymru i'w glywed ar y cwestiynau ehangach hyn, wrth i ddatganoli gael ei amddiffyn gerbron y Goruchaf Lys. A rhag bod unrhyw un yn aneglur ynghylch fy sefyllfa i o ran Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), byddaf yn ailadrodd fy mod yn parhau'n hyderus 100 y cant bod y Ddeddf o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Pe na byddai'r Twrnai Cyffredinol wedi tynnu'n ôl ei gyfeiriad yn dilyn casgliad llwyddiannus y cytundeb rhynglywodraethol, byddwn wedyn wedi amddiffyn y Ddeddf yn llawn gerbron y Goruchaf Lys. Nawr bod yr holl bartïon wedi ffeilio eu hachosion, rydym yn aros am y gwrandawiad, a gynhelir ar 24 a 25 Gorffennaf, a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau Cynulliad am unrhyw ddatblygiadau.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n derbyn y pwynt bod hwn yn gyfeiriad pwysig, er nad yw'n un gweithredol i Lywodraeth Cymru, gan eu bod yn awr wedi dod i gytundeb, a chytundeb cadarn iawn, yn fy marn i, â Llywodraeth y DU. Ein safbwynt ni bob amser, yr ochr hon i'r Cynulliad, oedd bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn parhau i fod yn amddiffyniad allweddol, ond ceir amwysedd ynddi, yn enwedig pan fo'r Llywodraeth o'r farn y gall wrthod cydsyniad yn afresymol, ac rwy'n credu mai dyna y mae llawer ohonom yn credu yw'r sefyllfa yn yr Alban. Ond mae hynny'n ein harwain ni i dir mwy dadleuol, does dim amheuaeth am hynny.
Mae sut yr ymdrinnir ag anghydfodau awdurdodaeth yn bwysig iawn mewn ffurfiau datganoledig o Lywodraeth ac mae rhaid i bob system feddu ar fecanweithiau cadarn o wneud hyn. A byddwn i'n dadlau bod gan y Goruchaf Lys hanes da o neilltuo'r amser a'r ystyriaeth angenrheidiol er mwyn datrys yr anghydfodau hyn. Mae'r un presennol yn amlwg yn fater anodd iawn iddynt ei ystyried, oherwydd mewn gwirionedd roedd Llywydd yr Alban mewn gwirionedd yn credu bod eu Bil y tu allan i'w hawdurdodaeth. Mae hwn yn amlwg yn ffactor allweddol ac mae angen ei ddatrys, er fy mod yn nodi'r hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol wrth amddiffyn Deddf Cymru.
Wrth i lywodraethu'r DU ddod yn fwy arwyddocaol o ganlyniad i adael yr UE, bydd angen yr eglurder mwyaf ar y ffiniau rhwng deddfu yn y DU a deddfu datganoledig, yn enwedig oherwydd, yn anochel—ac mae hyn yn wir ym mhob cyfundrefn ddatganoledig—ceir llawer iawn o feysydd o gyfrifoldeb a rennir, neu o leiaf bydd gweithredoedd un Llywodraeth yn effeithio ar un arall, weithiau i'r fath raddau y gall amharu ar y gallu gwirioneddol i ddeddfu mewn maes polisi penodol. Mae'r rhain yn faterion hollbwysig; rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Mae gennyf hyder y bydd y Goruchaf Lys yn ystyried yn effeithiol ac y bydd yr hyn y maent yn ei benderfynu o gymorth mawr i'r cyfansoddiad Prydeinig sy'n esblygu, yn enwedig yng ngoleuni her Brexit. Felly, nid oes gennyf gwestiwn penodol i'r Cwnsler Cyffredinol heblaw i ddweud, yn amlwg, y byddaf yn dilyn y trafodion yn ofalus pan fyddant yn dechrau ar eu trafodaethau yn ddiweddarach y mis hwn.
Diolch i'r Aelod am hynny ac am ei sylwadau. Byddwn yn dweud fy mod yn credu bod hwn, fel y mae'n ei ddweud yn ei gwestiwn, yn llwybr, sydd, yn amlwg, wedi'i bennu mewn statud er mwyn egluro materion o gyfraith gyfansoddiadol. Nid oedd y rheswm am yr ymyriad yn ymwneud mewn gwirionedd ag agweddau penodol ar Fil yr Alban. Yn amlwg, mater i Arglwydd Adfocad yn yr Alban yw gwneud yr achos er mwyn amddiffyn Bil yr Alban. Fy sylwadau fy hun oedd fy sylwadau am gymhwysedd yn hynny o beth. Ond aeth y ffordd y gosododd y Twrnai Cyffredinol yr achos â ni y tu hwnt, yn fy marn i, i faterion cul yn ymwneud â Bil yr Alban ac, yn wir, hyd yn oed i setliad datganoli'r Alban ei hun. Yn amlwg, yn enwedig ar ôl i'r Ddeddf Cymru ddiwethaf ddod i rym, ceir mwy o debygrwydd nag oedd yn y gorffennol. Felly, y dull o weithredu yr wyf wedi'i gymryd, a siarad yn gyffredinol, yw peidio ag ailadrodd y pwyntiau a wnaeth yr Arglwydd Adfocad wrth amddiffyniad Bil yr Alban, ond yn hytrach, cyfyngu'r achos ar ran Llywodraeth Cymru i egwyddorion cyfansoddiadol ehangach sy'n effeithio ar y setliad datganoli yma yng Nghymru. Roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig tynnu'r pwyslais at hynny, mewn gwirionedd, i sicrhau bod pryderon Llywodraeth Cymru a'r lle hwn, rwy'n gobeithio, wedi eu clywed mewn cyd-destun a oedd yn berthnasol ac yn benodol i brofiad Cymru a setliad Cymru.
Fe fyddai'n cymryd bargyfreithiwr o fri, a dweud y gwir, i lunio cwestiynau ar sail y datganiad yma, ond wedi dweud hynny, mae gen i ychydig o bwyntiau, ac un cwestiwn o leiaf. A gaf i yn gyntaf oll wneud y pwynt nad Llywodraeth yr Alban sydd wedi gwrthod cydsynio, wrth gwrs, i'r Ddeddf yma, ond Senedd yr Alban, gan gynnwys ei blaid yntau, y Blaid Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd yn yr Alban? Felly, mae'r achos yma yn un o bwys i gyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol, ac er fy mod i'n derbyn yn llwyr yr hyn mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei ddweud—nad yw ei ymyrraeth ef yn ymwneud â'r cwestiwn yna, achos mae e wedi osgoi y dyfarniad rhwng y ddwy farn ynglŷn â chymhwysedd y Bil yma cyn belled â'r Alban—. Mae'n bwysig yn wleidyddol, serch hynny, fod y mater yma yn cael ei ddatrys a bod Senedd yr Alban yn cael eu cefnogi yn y ffordd maen nhw'n datgan eu priod hawliau nhw. Dyna sut rydym yn datblygu grymoedd seneddol, yn ôl traddodiad yr ynysoedd hyn, mae'n rhaid dweud.
A gaf i hefyd ddweud yn fras iawn fy mod i a Phlaid Cymru yn cytuno â'r pedwar maes mae wedi dewis ymyrryd yn eu cylch? Maen nhw’n bwysig i'r Cynulliad hwn, neu'r Senedd hon fel y bydd. Mae'r un sydd yn deillio o'r hyn ddigwyddodd yn achos AXA yn hynod bwysig, rydw i'n meddwl, achos mae'n gwneud yn glir ac yn cryfhau a chefnogi penderfyniadau cynt ynglŷn â lle mae llysoedd yn ymyrryd ynglŷn â Seneddau sydd wedi'u datganoli, sy'n bwysig, ac mae'r Bil yn codi rhai o'r cwestiynau yma. Felly, mae'n briodol bod y Cwnsler Cyffredinol wedi bod yn rhan o'r broses yn y Goruchaf Lys o ran Llywodraeth Cymru ac o ran cyfansoddiad Cymru yn y darn yna.
Y prif bwynt sy'n cael ei godi yw'r pwynt cyntaf mae'n ei wneud. Mae e'n dweud ei fod e'n rhan o'r achos yma oherwydd ei fod e'n credu bod cymhwysedd y Cynulliad hwn yn ehangu wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, gan fod deddfwriaeth Ewropeaidd, wrth gwrs, yn diflannu, ac rydym yn gwneud un o ddau beth: rydym naill ai'n datgan—fel rŷm ni wedi gwneud yn ein Bil parhad ein hunain, neu hwnnw sydd bellach yn Ddeddf, Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018—bod y ddeddfwriaeth honno'n parhau neu rŷm ni'n dod, naill ai ein hunain neu â chytundeb â rhai eraill, i roi deddfwriaeth arall yn ei lle. Felly, mae'n bwysig bod hynny yn cael ei ddatgan. Nawr, yn ei ddatganiad, mae'n disgrifio hwnnw fel:
'"cyfuno" rhai o'r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU'.
Ond, yn rhyfedd iawn, wedi cael y gwahoddiad yma i redeg ras fel sbrint, mae e wedi dewis clymu y Cynulliad hwn mewn rhyw fath o ras deircoes gyda Llywodraeth San Steffan, achos dyna beth mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ei wneud, wrth gwrs, am saith mlynedd, sef cyfyngu ein gallu ni i ddefnyddio'r grym newydd yma sydd yn llifo i'r Cynulliad, ond yn hytrach drwy gytundeb sydd wedi'i gytuno rhwng dwy Lywodraeth, a fydd ddim yn eu lle fel yr un ddwy Lywodraeth ymhen saith mlynedd, i wneud y cyfan ar y cyd.
Mae gyda fe, wrth gwrs, ddehongliad gwahanol i fi a Phlaid Cymru ynglŷn ag a fydd hyn yn fygythiad i'r lle hwn, ond pan yw'n defnyddio'r gair 'bizarrely' yn ei ddatganiad, neu, i ddefnyddio tafodiaith Ceredigion, yn gomig efallai, Llywydd—beth sydd yn gomig yn y datganiad a'i gred yntau yn y materion yma yw bod gyda ni eisoes enghreifftiau o le nad yw Llywodraeth San Steffan yn dilyn ysbryd y cytundeb rhynglywodraethol. Mae sôn am Fil pysgodfeydd, mae sôn am Fil amaeth—mae papurau sy'n cael eu trafod ddiwedd yr wythnos yma ynglŷn â'r cytundeb masnach rŷm ni'n mynd i gael gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl y pwyllgor materion allanol a wnaeth gyfarfod ddoe, heb gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru eto. Dim ond y penawdau, yn fras iawn, sydd wedi cael eu rhannu. Felly, nid yw'n ymddangos i fi fod y cytundeb rhynglywodraethol yma, sydd yn sail, wrth gwrs, i'r ffaith nad yw'r Ddeddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn rhan o'r achos yn y Goruchaf Lys—nid yw'n ymddangos i fi fod y Llywodraeth wedi paratoi cytundeb digon cryf, ond rydw i wedi gwneud y pwyntiau yna o'r blaen, ac rydw i jest yn manteisio ar y cyfle i'w hailwneud nhw a'u hailddatgan nhw, sy'n dod â fi at yr un cwestiwn.
Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â Bil yr Alban a rôl y Cwnsler Cyffredinol, ond wedi dweud hynny, mae e'n gwybod nad yw ein Deddf ni ddim yn rhan o'r broses yma oherwydd ei bod hi wedi—wel, nid yw eto wedi ei diddymu, ond oherwydd bod yr ewyllys i'w diddymu wedi ei mynegi fel rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol. Beth, felly, nawr fydd y camau y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i ddiddymu ein Deddf ninnau? A fydd yna ymgynghoriad dros yr haf ar y camau hynny? A fydd yna gyfle eto i'r Cynulliad hwn drafod ac ailedrych ar y cytundeb rhynglywodraethol, a sut mae am weithio dros yr haf o ran nifer y penderfyniadau pwysig rydw i newydd eu hamlinellu? Beth, felly, fydd y terfyn i'r Cynulliad hwn ynglŷn â phenderfynu diddymu'r Ddeddf ai peidio?
Diolch i'r Aelod am sawl sylwad ar feysydd eang, a'r cwestiwn ar y diwedd. Fe wnaf i drio sicrhau fy mod yn cyfeirio fy ateb at y prif bwyntiau a wnaeth. Wrth gwrs, rwy'n derbyn mai cydsyniad Senedd yr Alban, nid y Llywodraeth, oedd y cwestiwn.
Mae'r datganiad yma'n gyfle i fi fod yn eglur nad o blaid achos Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yma. Fe wnaethpwyd sylwadau gan bobl ar feinciau ei blaid e yn San Steffan mai hynny oedd yn digwydd. Wel, nid dyna sy'n digwydd o gwbl. Rwy'n gobeithio bod hynny'n glir iawn o'r hyn rwyf wedi ei esbonio yn y datganiad yn gynharach.
O ran y pwynt ynglŷn â'r egwyddor gyfansoddiadol a drafodwyd yn AXA, mae'n bwysig ein bod ni yn cael sicrwydd ar yr egwyddor honno.
Mae'r ffordd mae'r cwestiwn yma yn dod o flaen y Goruchaf Lys yn berthnasol, hynny yw mae'n dod trwy gyfeiriad at y Goruchaf Lys. Mae cwestiwn technegol yn codi yn sgil hynny, pa un a fyddai'r egwyddor gyffredinol yn ddilys yn y cyd-destun hwnnw neu beidio. Ond yn llawer pwysicach na hynny, mae'r ffaith bod y safon sy'n rhaid ei gyrraedd er mwyn i'r llys allu ymyrryd yn llawer iawn uwch na'r math o beth sydd gyda ni mewn golwg fan hyn, fel y byddai'n addas o fewn y setliad datganoli.
Rwyf wedi trafod sawl gwaith â'r Aelod y gwahaniaeth barn sydd gyda ni ar y cytundeb rhynglywodraethol. Jest er mwyn bod yn hollol glir ag e—os ydy e'n credu bod posibilrwydd o ryw 20 pŵer yn cael eu cytuno i gael eu rhewi yn lleihad ar bwerau y lle yma, beth felly yw'r dadansoddiad o'r dros 40 o bwerau sydd yn dod i'r lle yma heb unrhyw fath o gyfyngiad o gwbl ar y pwerau hynny? Rwyf jest ddim yn cydnabod y dadansoddiad hwnnw fel un sydd yn cyfyngu ar bwerau y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru hefyd. Ac i fod yn berffaith eglur, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu yn unol â'r cytundeb ymhob maes, ac i sicrhau eu bod nhw'n cadw i lythyren ac ysbryd y cytundeb ar bob achlysur.
Fe wnaeth e ofyn am y camau sydd yn briodol i'w cymryd o dan y cytundeb hwnnw er mwyn diddymu Deddf—bellach—parhad y Senedd hon. Mae cytundeb o fewn y cytundeb hwnnw i ni gymryd camau nawr i sicrhau bod hynny yn digwydd. Y peirianwaith ar gyfer hynny yw ein bod ni'n gosod regulations o flaen y Senedd mewn drafft am 60 diwrnod tra bod y Senedd yn eistedd, hynny yw ddim dros gyfnod yr haf. Bydd rhaid i'r Senedd gael dadl a chytuno ar y rheoliadau hynny cyn eu bod nhw'n dod yn gyfraith. Fe'u gosodwyd nhw ar 8 Mehefin. Oherwydd cyfnod yr haf, ni fydd yn bosibl cael trafodaeth ar y rheini tan ddechrau mis Hydref, ac felly, ar ôl hynny, bydd y broses yn mynd rhagddi, ar ôl i’r Cynulliad gael cyfle i drafod a phenderfynu ar y rheini. Mae’n rhaid i fi fod yn glir unwaith eto: nid oes cyfyngiad yn y cytundeb hwnnw i fi fel Cwnsler Cyffredinol rhag cymryd y cam rwyf i wedi’i gymryd i ymyrryd yn yr achos hwn. Ni fuaswn i’n ei wneud e petaswn i ddim yn golygu bod egwyddorion ehangach yn y fantol, ac rwyf felly wedi cymryd y cam pwysig hwn.
Croesawaf y datganiad. Mae'n berffaith resymol, yn fy marn i, fod y Cwnsler Cyffredinol yn ceisio ymyrryd yn yr achos hwn yn sgil yr achos a ddygwyd gan Arglwydd Adfocad yr Alban. Mae datganoli yn broses esblygol ac yn anochel fe fydd ansicrwydd ac amwysedd a grëir gan y ddeddfwriaeth sy'n sylfaenol i'w gyflawni. Fe wnaethom ni symud o sail pwerau a roddir i sail pwerau a gedwir yn ôl, ac mewn ffordd mae hynny efallai yn darparu mwy o waith ar gyfer cyfreithwyr i ddatod pa feysydd o amheuaeth a fydd yn parhau i gael eu cadw yn ôl wrth i brofiad bywyd arwain at broblemau ymarferol sydd angen eu datrys. Felly, rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gymryd rhan yn y trafodion hyn. Yn wir, mae'n hanfodol ein bod yn datrys yr amwyseddau sydd ynghlwm wrth achos yr Alban.
Hoffwn roi canmoliaeth yma i Lywodraeth Cymru, fel yr wyf wedi ei wneud o'r blaen, o'i chymharu â Llywodraeth yr Alban, eu bod wedi cymryd ymagwedd ymarferol at ymadael â'r UE a heb geisio ei droi'n rhyw fath o gêm bêl-droed wleidyddol fel sydd wedi digwydd yn yr Alban. Rwy'n sylweddoli bod pleidiau eraill y tu ôl i'r penderfyniad i wrthod cydsyniad deddfwriaethol yn yr Alban yn ogystal â chenedlaetholwyr yr Alban, ond rwy'n credu, er bod y sefyllfa yn yr Alban yn wahanol gan fod datganoli wedi mynd ymhellach yn yr Alban, serch hynny, mae'r dadleuon y maen nhw'n eu cynhyrchu yn dwyllodrus ac wedi'u cynllunio'n sylfaenol i atal y broses ymadael. Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd safbwynt gwahanol, ac mae'n synhwyrol eu bod yn rhoi llais i Gymru yn y llys hefyd.
Credaf hefyd fod y pedwar mater y nododd y Cwnsler Cyffredinol eu bod yn rhai y mae angen eu datrys yn gwestiynau hanfodol yn yr achos hwn. Rwy'n cytuno'n llwyr â barn y Llywodraeth y dylai'r holl bwerau sydd ar hyn o bryd wedi'u breinio ym Mrwsel ddod i Gymru dan y setliad datganoli a chael eu breinio yma, ac mae wedi bod erioed, yn fy marn i, yn baradocs bod rhai sy'n cwyno bod y broses ddatganoli yn cael ei thanseilio mewn gwirionedd yn sôn am bwerau nad oes gennym y pwerau i'w defnyddio ar hyn o bryd beth bynnag. Felly, credaf mai'r pwynt pwysig a wnaeth y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach oedd bod ymadael â'r EU yn hyn o beth o bosibl yn gwella cymhwysedd y Cynulliad hwn. Mae'n rhoi mwy o bŵer inni. Efallai nad yw'n mynd mor bell ag yr hoffai Plaid Cymru. Rwy'n deall yn llwyr eu gwrthwynebiadau a'u hamheuon; mae ganddynt hawl i wneud y pwyntiau hynny oherwydd nad ydynt yn credu yn y Deyrnas Unedig fel y strwythur gwleidyddol y byddwn yn parhau i fodoli o'i fewn. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y farn honno yn cael ei mynegi ac y dylid rhoi'r dadleuon hyn gerbron y Cynulliad hwn ac y dylai'r Llywodraeth amddiffyn ei hun yn erbyn y dadleuon hynny. Mae'n bwysig iawn bod hyn yn cael ei wneud yn y modd mwyaf agored a thryloyw posibl.
Credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn bod pwerau'r llys i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad yn cael eu mireinio ymhellach drwy achosion o'r math hwn. Mae'n anochel y bydd meysydd o ansicrwydd sydd angen eu datrys, ac mae proses y gyfraith gyffredin yn gweithio drwy gyfraith achos, felly gallwn adeiladu corpws o gyfraith gyfansoddiadol, nid yn unig drwy statud, ond mewn gwirionedd yn fwy sylfaenol yng nghyfyngau'r gyfraith drwy achosion unigol sy'n troi dros gyfnodau hir o amser yn egwyddorion cyfreithiol a chonfensiynau. Felly, credaf fod hyn yn gam anochel yn y broses ddatganoli a hefyd yn y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n un yr wyf yn ei groesawu, a dymunaf yn dda i'r Cwnsler Cyffredinol yn ei eiriolaeth dros Gymru yn yr achos.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Credaf mai holl bwynt datganoli yw galluogi gwahanol rannau o'r DU gyrraedd canlyniadau gwahanol a gwahanol gasgliadau ynghylch sut i fynd ati gyda'r math hwn o gwestiwn, a dyna beth ddigwyddodd, yn y pen draw, yn yr achos hwn. Cymerodd Llywodraeth yr Alban, Senedd yr Alban, farn wahanol yn y pen draw i'r hyn y gwnaethom ni yma yng Nghymru, ac mae hynny yn elfen annatod o natur datganoli ac, yn wir, os ydych chi'n ddatganolwr, mae'n rhywbeth i'w ddathlu. Mae ystyriaethau gwahanol yn berthnasol, ond roedd Llywodraeth Cymru yn glir o'r dechrau mai ein prif amcan oedd sicrhau gwelliannau priodol i'r Ddeddf ymadael â'r EU, fel y mae yn awr, a bod y Bil parhad yn ffordd o sicrhau cynnydd mewn perthynas â hynny.
Byddwn hefyd yn dweud ein bod wedi elwa, drwy gydol hyn, ar gydweithio'n agos â Llywodraeth yr Alban wrth ddatblygu cytundeb rhynglywodraethol, ac wedi hynny, hefyd. Rwy'n credu mai hwn fydd dechrau proses hirach, wrth i bob rhan o'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd; bydd y math hwnnw o gydweithio a chydweithredu rwy'n meddwl, yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda wrth inni symud ymlaen dros y misoedd, ac yn ddiau, y blynyddoedd nesaf.
O ran y pwynt y mae'n ei wneud, mewn gwirionedd, sy'n adleisio'r pwynt yn achos Miller y Goruchaf Lys, h.y. heb ymyriad deddfwriaethol, mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ymestyn cymhwysedd yn yr ardaloedd datganoledig hynny yn hytrach nag yn ei gyfyngu. Mae'r ddadl bod angen Deddf Seneddol cyn y gall deddfwrfa ddatganoledig weithredu mewn maes lle caiff cyfraith yr UE ei thynnu'n ôl yn amlwg yn y bôn yn groes i'r sylw hwnnw. Ond byddwn hefyd yn nodi bod y cytundeb rhynglywodraethol—fel y cafodd ei lunio yn wreiddiol, a oedd ag ymosodiad ehangach o lawer, mewn gwirionedd, ar y setliad datganoli—wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU fel un a oedd, dan gonfensiwn Sewel, yn ofynnol iddo gael cynnig cydsyniad deddfwriaethol, sy'n awgrymu cydnabyddiaeth ar ei rhan hi fod lefel sylfaenol o gymhwysedd, hyd yn oed mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, credaf fod hynny'n mynd yn groes i sut y mae'r Twrnai Cyffredinol yn cyflwyno ei achos yma, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gorchfygu mewn perthynas â hynny pan roddir ein dadleuon gerbron y Goruchaf Lys.
Hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Mae'n ddiddorol iawn deall y sefyllfa ar gyfer yr angen hwnnw i ymyrryd, ac rwy'n cefnogi eich pwyntiau yn llwyr. Rwy'n deall yr angen i wahanu'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi penderfynu mewn gwirionedd ar gydsyniad, yn seiliedig ar y cytundeb a'r gwelliannau, a Senedd yr Alban, fel y dywedodd Simon Thomas yn gwbl briodol, yn gwneud penderfyniad arall.
Ond rydych yn canolbwyntio hefyd ar y goblygiadau i ddatganoli a hawliau'r Senedd hon i wneud penderfyniad ar gymwyseddau datganoledig, yr oeddech chi'n credu ein bod o fewn ein hawliau i'w wneud ar y Bil penodol hwn. A ydych chi wedi asesu beth petai'r Alban hefyd o fewn ei hawliau, a bod y Goruchaf Lys yn dyfarnu bod yr Alban yn gywir i gyflwyno'r Bil hwnnw, ac felly, yn ei gyfreithloni? A pha faterion, felly, y byddwn yn eu hwynebu yng Nghymru o'u cymharu â'r hyn y bydd yr Alban yn ei wynebu? Bydd gan yr Alban wahanol bwerau a deddfau oherwydd bydd hynny wedi ei gymeradwyo, o'i gymharu â'r hyn y bydd Cymru nawr yn gweithredu oddi tano, ac felly gallai'r materion fframweithiau y byddwn yn eu trafod fod o dan wahanol senarios o ganlyniad i hynny. A ydych wedi gwneud yr asesiad hwnnw eto?
Wel, mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi ei bod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y trafodaethau fframwaith cyffredin hynny beth bynnag, felly, yn ymarferol, bydd hynny ar gael fel mecanwaith ar gyfer pob rhan.
Yn amlwg, bydd y Ddeddf tynnu'n ôl yn gymwys i bob rhan o'r DU, i ddweud yr hyn sy'n amlwg. Fel y mae pethau heddiw, nid oes unrhyw Ddeddf mewn grym yn yr Alban sy'n torri ar draws hynny. Yn amlwg, wrth inni gymryd camau i ddiddymu'r Ddeddf yn y fan hon yn y Cynulliad, ni fydd unrhyw ddeddfwriaeth yma yng Nghymru ychwaith. Felly, bydd, os mynnwch chi, gyfle tebyg i bawb ledled pob rhan o'r DU. Yn amlwg, gallai hynny newid pe bai'r Bil yn yr Alban yn dod yn gyfraith
Rwy'n credu, oherwydd natur yr achosion sydd wedi eu rhoi, a'r dadleuon a roddwyd mewn ymateb, nad yw dyfalu ynghylch union gydbwysedd hynny, a sut yr ymdrinnir ag ef gan y Goruchaf Lys, yn rhywbeth sydd yn fy marn i yn arbennig o synhwyrol nac yn bosibl, fwy na thebyg, ar hyn o bryd. Ond yn amlwg byddwn yn adolygu hynny a byddwn yn edrych ar sut y gwneir cyflwyniadau yn y Goruchaf Lys, a byddwn yn cymryd safbwynt ac yn ymateb yn unol â hynny.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.