6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Carillion a Capita

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:40, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddwyd yr ail adroddiad rwyf am dynnu sylw'r Cynulliad ato y diwrnod ar ôl yr adroddiad ar yr ymchwiliad i Carillion, ac fe'i lluniwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae'n nodi methiant llwyr ar ran y GIG yn Lloegr a Capita i ddeall y gwasanaethau yr oeddent yn ceisio'u trawsnewid. Yn un o'i gasgliadau mwyaf syfrdanol, mae'r adroddiad yn dweud y gallai bywydau fod wedi'u rhoi mewn perygl yn y ffordd garbwl y cyflawnwyd swyddogaethau corfforaethol y GIG, ac roedd yn ffodus na ddigwyddodd hynny. Yng Nghymru, rydym wedi mynd ati'n rhagweithiol i osgoi cyfranogiad dwfn y sector preifat yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond rydym wedi bod yn bragmatig. Wedi'r cyfan, nid ydym yn elyniaethus tuag at y sector preifat—mae llawer y gall gwasanaethau cyhoeddus ei ddysgu o'u cymhelliant a'u harloesedd—ond rydym yn glir fod gwasanaethau cyhoeddus yno i wasanaethu'r cyhoedd, ac nid y cyfranddalwyr. Mae'r gwerthoedd hyn yn ganolog i'r rheswm dros eu creu, a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni.

Cyfeiriwyd at ddatganoli fel labordy polisi, gan ganiatáu i wahanol rannau o'r DU ddilyn cyfeiriadau polisi gwahanol ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Yn yr ysbryd hwnnw, mae'r cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hwn. Gan ddechrau yn gyntaf gydag adroddiad Carillion, yr hyn a'm trawodd oedd nid yn unig y diwylliant corfforaethol pwdr, ond methiant llwyr rhwystrau a gwrthbwysau mewnol ac allanol a oedd i fod wedi'u cynllunio i atal camymddygiad o'r maint hwn. O KPMG, Deloitte a Ernst & Young—tri o'r pedwar cwmni cyfrifyddiaeth mawr, sydd gyda'i gilydd yn monopoleiddio'r farchnad archwilio a 'ffioedd proffidiol' yn cael eu talu i bob un ohonynt, yng ngeiriad yr adroddiad, yn gyfnewid am eu 'bathodynnau o hygrededd'—i weithredodd unigol y cadeirydd, y cyfarwyddwr cyllid, y prif weithredwr, y Rheoleiddiwr Pensiynau a'r Cyngor Adrodd Ariannol, fel y mae'r adroddiad ei hun yn dweud, tyfodd Carillion yn fom corfforaethol enfawr ac anghynaliadwy sy'n tician yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol sy'n dal mewn bodolaeth heddiw.

Rhaid inni fynd ati'n rhagweithiol i fynd i'r afael ag amgylchedd lle mae cwmnïau fel Carillion a Capita wedi gallu ffynnu ynddo. Yn yr un modd, mae'r adroddiad ar ddarparu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan Capita yn nodi byrbwylltra canoli gwasanaethau wedi'i ysgogi gan gost yn hytrach na chanlyniadau—gwasanaethau a gâi eu rhoi ar gontract allanol cyn i unrhyw un o'r cymhlethdodau gael eu deall yn iawn. Yn amlwg, mewn ymgais i arbed arian, llamodd y GIG yn Lloegr yn rhy fuan at fodel darparu a oedd o'i hanfod yn anaddas, a rhoi'r gwaith yn nwylo contractwr preifat wedyn. Gyda rhywbeth mor bwysig ag iechyd, gallai'r canlyniadau fod yn enbyd. Yn ffodus, yn yr achos hwn, mae'n ymddangos bod y canlyniadau gwaethaf posibl wedi cael eu hosgoi, ond mae gwaith ar glirio'r goblygiadau gweddilliol yn dal i fynd rhagddo. Mae angen inni fod yn ddoeth ynglŷn â'r ddau fater: sut y gall pwysau acíwt ar gyllidebau olygu y gallai penderfyniadau gael eu gwneud ar frys a heb feddwl clir ymlaen llaw, a'r angen i fynd i'r afael ag annigonolrwydd ein system gaffael sydd wedi caniatáu i'r cwmnïau monolithig hyn dra-arglwyddiaethu. A rhaid inni wneud hyn wrth inni lywio drwy rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenhedlaeth: Brexit ac awtomatiaeth.

Rwyf wedi sôn ar sawl achlysur am y pwysau ariannol a wynebir gan gynghorau a'r atyniad y bydd hyn yn ei gyflwyno i gwmnïau yn y sector preifat sy'n barod iawn i gynnig ffyrdd o awtomeiddio swyddi a gwasanaethau er mwyn rhyddhau adnoddau, heb ddeall natur gymhleth y gwasanaethau a ddarparir, a heb fawr o ystyriaeth i'r canlyniadau os aiff pethau o chwith. Gallwn weld hynny'n digwydd eisoes mewn rhai rhannau o Gymru. Er enghraifft, mae Capita eisoes yn darparu canolfan gyswllt ac ystafell reoli gweithrediadau ar gyfer Heddlu De Cymru, sy'n cyflogi gwasanaethau wedi'u hawtomeiddio, i bob golwg, a dyfynnaf, er mwyn helpu i gyflymu'r broses benderfynu ar gyfer y rhai sy'n ateb galwadau a gwella amseroedd ymateb cyffredinol i ddigwyddiadau drwy wneud hynny.

Ni allaf ond meddwl mai ieithwedd cysylltiadau cyhoeddus am dorri costau yw hyn. Os parhewn i ganiatáu i awtomeiddio gael ei yrru gan elw yn y sector preifat, nid oes ond un pen draw yn bosibl. Os ydym yn caniatáu i'r dull hwn wreiddio, bydd yr holl sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel rhywbeth sy'n cael ei yrru gan doriadau, ac nid oes angen iddo gael ei weld felly. Os ydym yn harneisio awtomatiaeth, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen inni ei chael. Ac mae angen i'r Llywodraeth grynhoi ei hadnoddau, drwyddi draw, ar gyfer wynebu'r modd y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i'n helpu gyda'r problemau y gwyddom fod yn rhaid inni fynd i'r afael â hwy.

Er nad ydym wedi gadael i Carillion a Capita sugno'r holl gontractau cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus i'r un graddau ag yn Lloegr, yr ail wers o'r adroddiadau hyn sy'n rhaid inni ei chrybwyll yw ein bod yn ymwybodol iawn fod angen trawsnewid ein prosesau caffael. Mae'r ymgyrch i leihau costau gweinyddol, ynghyd â phrinder sgiliau caffael, wedi cyfyngu ar allu llywodraeth leol yng Nghymru i ailstrwythuro arferion caffael, ac mae wedi arwain at dra-arglwyddiaeth cwmnïau mawr wedi'u preifateiddio. Fodd bynnag, bydd trawsnewid strategaeth gaffael yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau cyhoeddus symud oddi wrth y dull confensiynol trafodaethol tuag at adeiladu capasiti. Bydd angen iddynt ddod yn bartneriaid mewn arferion caffael, nid prynwyr nwyddau a gwasnaethau unwaith yn unig. Bydd angen cymorth sylweddol ar gyfranogwyr ar ddwy ochr y dull newydd hwn o gontractio. Bydd gweithredu i gryfhau'r economi sylfaenol ac ymdrechion i ddefnyddio polisi caffael i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn helpu i unioni'r dra-arglwyddiaeth hon. Mae'r strategaeth economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn siomedig yn hyn o beth.

Er bod effaith economaidd Brexit yn debygol o fod yn ddwys—a rhaid i ni beidio â bychanu hyn—gallai roi diwedd ar ein rhwymedigaethau i ddilyn rheolau caffael yr UE, yn dibynnu ar delerau cytundebau masnach yn y dyfodol. Gallai hyn roi cyfle delfrydol i lunio ein llyfr rheolau ein hunain ar brynu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn caniatáu inni hollti contractau cyfyngus o fawr a gwella cefnogaeth i gwmnïau lleol.

Mae'r adroddiadau hyn yn rhybuddio'n glir am beryglon dibynnu ar fonolithau corfforaethol rhy-fawr-i-fethu sy'n rhoi elw o flaen y budd cyhoeddus. Mae datganoli yn caniatáu inni ddysgu gwersi gan eraill, felly gadewch inni wneud hynny. Diolch.