– Senedd Cymru am 4:19 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl ar gyllideb atodol gyntaf 2018-19, a galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig arferol ar gyfer y gyllideb atodol gyntaf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Dyma'r cyfle cyntaf i ddiwygio cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn aml yn eithaf cyfyng ei chwmpas, ac nid yw eleni'n eithriad. Un o natur weinyddol yw hi'n bennaf. Mae hi'n rheoleiddio nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn a throsglwyddiadau rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i lefel gyffredinol yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, gan adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae'n adlewyrchu newidiadau mewn rhagolygon gwariant a reolir yn flynyddol yn unol â'r manylion diweddaraf a roesom ni i Drysorlys Ei Mawrhydi. Serch hynny, mae hi'n cynrychioli rhan bwysig o system gyllideb a chraffu y Cynulliad Cenedlaethol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon a'r adroddiad a ddarparwyd ganddo gyda'i saith casgliad a gyhoeddwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf. Fe wnaf i ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad hwnnw, wrth gwrs, yn y ffordd arferol.
Mae nifer o'r newidiadau a nodir yn y gyllideb atodol gyntaf hon yn rheoleiddio'r sefyllfa o ran dyraniadau o'r cronfeydd cyfalaf a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r ddadl ar y gyllideb derfynol ac yn rhan o adolygiad man canol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae'r dyraniadau hyn yn defnyddio cyfalaf cyffredinol a chyllidebau cyfalaf trafodion ariannol. Dyrennir dros £70 miliwn i brif grŵp gwariant y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i gefnogi gwelliannau i'r GIG, megis gwasanaethau newyddenedigol yng Nghaerfyrddin ac Abertawe ac i helpu i gael fflyd ambiwlans newydd i Gymru. Caiff tri deg-pum miliwn o bunnoedd ei ddyrannu i'r portffolio addysg i gyflymu'r gwaith o weithredu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac i dreialu model newydd ar gyfer canolfannau dysgu, yn enwedig mewn cymunedau yn y Cymoedd.
Caiff mwy na £55 miliwn ei ddyrannu i MEG trafnidiaeth a'r economi i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun teithio llesol integredig, datblygiadau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r Cymoedd Technoleg, band eang y genhedlaeth nesaf a gwella profiad pobl sy'n ymweld â safleoedd Cadw. Gwnaed nifer bach o ddyraniadau o'r cronfeydd refeniw wrth gefn yn y gyllideb atodol hon, gan gynnwys £7.2 miliwn drwy'r gordal iechyd mewnfudo, £5 miliwn i gefnogi cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, £1.8 miliwn i ehangu'r grant datblygu disgyblion, a fydd yn disodli'r grant gwisg ysgol, a £1 miliwn i barhau â theithiau bws am ddim dros y penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru. Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon, mae'r cronfeydd refeniw wrth gefn yn £129 miliwn, gyda'r cronfeydd cyfalaf wrth gefn yn £126 miliwn ar gyfer cyfalaf cyffredinol ac yn £127 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol.
Dros y misoedd nesaf byddaf yn monitro ein sefyllfa ariannol yn ofalus, wrth gwrs. Rydw i’n bwriadu gosod ail gyllideb atodol yn unol â’r amserlen arferol. Rydw i’n parhau i archwilio gyda chydweithwyr yr achos dros ddyrannu o gronfeydd yn ystod y flwyddyn, wrth barhau i gadw lefel adnoddau sy’n ddigonol ar gyfer y cyfnod ariannol ansicr rydym ni’n gweithio ynddo. Bydd hyn yn caniatáu inni ymateb lle bo angen i bwysau pellach posibl ar y gyllideb ac i gario cyllid ymlaen drwy gronfa wrth gefn Cymru. Bydd unrhyw ddyraniadau pellach o’r cronfeydd wrth gefn eleni yn cael eu hadlewyrchu yn yr ail gyllideb atodol. Hoffwn i ddiolch unwaith eto i’r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith yn craffu ar y gyllideb atodol hon ac rydw i’n gofyn i’r Aelodau ei chefnogi.
Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas?
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl fer yma. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, nid yw’r gyllideb atodol hon yn un sylweddol. Ond wedi dweud hynny, rydym fel pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle bob tro i ystyried unrhyw newidiadau yn y gyllideb ac yn gwneud hynny’n ffurfiol drwy drefn y gyllideb atodol.
Rydym, felly, wedi defnyddio’r gyllideb atodol hon fel cyfle i nodi lle’r hoffem weld mwy o fanylion wrth symud ymlaen—ac rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb yn yr hydref, wrth gwrs—felly, meysydd megis y cyfalaf trafodiadau ariannol mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano, cyllid iechyd, y cytundeb masnachfraint rheilffordd, datgarboneiddio ac effaith deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol ar y gyllideb. Ac, wrth gwrs, rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb garbon gyntaf hefyd—a pholisïau benthyciadau myfyrwyr. Dyma’r meysydd y byddwn ni yn craffu ymhellach arnynt a byddaf yn cyfeirio jest yn fyr iawn at dri o’r materion hyn yn awr.
Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn faes y bu'r pwyllgor yn ei ystyried wrth graffu ar y gyllideb yn ystod yr hydref diwethaf, pan roeddem ni’n pryderu efallai na allai'r Llywodraeth ddefnyddio'r ffrwd ariannu hon yn llawn. Rydym yn falch o nodi bod y rhan fwyaf o'r cyfalaf trafodiadau ariannol wedi cael ei ddefnyddio, ac er gwaethaf cyfyngiadau'r Trysorlys, mae tystiolaeth o beth defnydd arloesol o'r cyllid. Byddem yn awyddus i weld rhagor o fanylion ynghylch sut y dyrennir yr arian hwn, a dylid cynnwys hyn yn y darlun cyffredinol o ddyled Llywodraeth Cymru yn y gyllideb maes o law.
Mae'r pwyllgor yn bryderus o weld nad yw rhai byrddau iechyd yn dal heb fodloni eu gofynion o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, er ei fod yn galonogol nodi y bydd y portffolio iechyd ar hyn o bryd yn ymdopi o fewn yr arian sydd wedi'i ddyrannu iddo. Ond, mae'n dal i fod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol, felly byddwn yn parhau i ddangos diddordeb yng nghyllid y byrddau iechyd. Rydym wedi nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei wneud mewn perthynas â chyfrifon y bwrdd iechyd yn ogystal, ac yn edrych ymlaen at eu hadroddiad hwythau.
Fel pwyllgor, mae gennym hefyd ddiddordeb yng nghytundeb cyllidol y masnachfraint rheilffordd. Rydym yn awyddus i ddeall sut mae'r holl drefniadau ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyngweithio, a hoffem weld manylion ychwanegol yn yr hydref ar sut mae'r cytundeb rheilffyrdd yn dylanwadu ar y gyllideb yn fwy eang. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma, ac rydw i’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau eraill yn ogystal.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon hefyd, ac roeddwn yn falch o gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid o graffu ar y gyllideb atodol. Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch am gyfeirio at waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'r gwaith ar y byrddau iechyd lleol a'u hariannu yn dal ar y gweill, felly wnaf i ddim dweud gormod ar hyn o bryd, ac eithrio dweud, yn amlwg, bod pryderon parhaus unwaith eto eleni am ddiffygion cyllidebol y byrddau iechyd. Nid yw hyn yn broblem newydd; mae'n broblem sydd wedi bodoli mewn un ffordd neu'r llall yn y rhan fwyaf o'r byrddau ers peth amser. Mae'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru, dros amser, fynd i'r afael ag ef, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith, y bydd Mike Hedges yn siŵr o'i grybwyll cyn bo hir, bod gwariant ar iechyd yn cynyddu a'i fod ar hyn o bryd yn cyfrif am hanner—efallai ychydig yn fwy yn awr—cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae diffygion cyllidebol y byrddau iechyd hynny yn dod yn broblem gynyddol bob blwyddyn ac yn faich cynyddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyllid, bu newidiadau sylweddol mewn adnoddau a chyfalaf dyraniadau yn y gyllideb atodol hon, gyda chynnydd o £15 miliwn a £134 miliwn ers cyllideb 2018-19. Ond, wedi dweud hynny, mae'n wir dweud, er eu bod yn sylweddol, nad ydynt yn faterion sydd o bwys aruthrol i ni boeni'n ormodol yn eu cylch yn ystod yr amser hwn o bennu'r gyllideb. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith bod symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU o oddeutu £2,761,000 wedi dod i'n rhan o gyllideb 2016 y DU mewn perthynas â gwaith ymchwil a datblygu. Yna ceir y newidiadau yng nghyllideb 2017 y Deyrnas Unedig ac, fel y gwyddom ni, bydd Cymru yn elwa ar £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol yn deillio o fformiwla Barnett. Nid ydym ni eto wedi cael ymrwymiad, neu yn wir, awgrym, gan Lywodraeth Cymru pa un a ydyn nhw'n bwriadu i'r arian hwnnw fynd i'r gwasanaeth iechyd. Byddai hynny i'w groesawu rywbryd, Ysgrifennydd y Cabinet.
Er bod angen inni wneud arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaeth iechyd a cheisio gwyrdroi diffyg cyllidebol y byrddau iechyd lleol, mae'n dal yn bwysig hefyd i gydnabod bod arian ychwanegol o ryw gyfran, o leiaf, wedi dod gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru i'w wario yn y maes hwnnw. Nid wyf yn credu i Ysgrifennydd y Cabinet sôn am y fframwaith cyllidol yn ystod y gyllideb atodol hon. Rydym ni'n aml yn sôn amdano yn y Siambr hon. Mae wedi'i groesawu gan bob plaid, ac mae'n dda gwybod y bydd Cymru yn derbyn arian o 120 y cant o'i gymharu â'r gwariant fesul pen o'r boblogaeth yn Lloegr o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol hwnnw y brwydrwyd mor galed i'w sicrhau, ac mae hynny'n gyflawniad y dylid ei gydnabod.
Os caf i droi at rai o'r manylion—ychydig o fanylion y gyllideb—mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi sôn am lawer o hyn. Fe wnaethoch chi sôn am addysg a chrybwyll arian i ddisodli'r grant gwisg ysgol, a hefyd newidiadau yn y gyfran o'r grant gwella addysg fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Roedd hynny'n destun peth trafod. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl ifanc wedi bod yn pryderu am doriadau, yn sicr yn achos y gyfran o'r grant gwella addysg a fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Sut caiff hynny ei gydnabod yn y gyllideb hon? A yw'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol o ran diddymu arian heb gyflwyno unrhyw arian newydd yn cael eu hunioni? A gywirwyd hynny yn y gyllideb hon, ac a yw hynny wedi'i ddatrys erbyn hyn?
O ran yr economi a thrafnidiaeth, mae'r dyraniad o £10 miliwn o gronfeydd cyfalaf ar gyfer llwybrau teithio llesol i'w groesawu. Ond mae yn amlygu sut yr ydym ni'n dal i aros, mae'n bum mlynedd rwy'n credu ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n cofio gweithio arno yn y Cynulliad diwethaf ar y Pwyllgor Menter a Busnes, fel yr oedd bryd hynny. Deddfwriaeth dda iawn mewn egwyddor, ond dyma ni yn dal i aros am y canlyniadau ers peth amser bellach. Felly, a allwn ni fod yn hyderus gyda'r gwariant cyfalaf ychwanegol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwn ni o'r diwedd yn gweld golau ar ddiwedd y twnnel o ran gwireddu rhai o'r amcanion hyn o'r Ddeddf Teithio Llesol?
Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydym ni'n cadw golwg fanwl ar y newidiadau a wnaed, gan ddefnyddio hwn, i raddau helaeth iawn mae'n debyg, yn astudiaeth achos ar gyfer craffu ar y gyllideb yn y dyfodol. Mae newidiadau i'r gwaith craffu hwnnw ar y gweill, y mae angen inni edrych arnyn nhw wrth ddatganoli pwerau treth y flwyddyn nesaf. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddwch yn synnu i wybod, yn ymatal ar y gyllideb atodol hon, gan nad oeddem ni'n cefnogi'r gyllideb wreiddiol, a gwelliannau i honno yw hyn. Ond ar y cyfan, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i wneud gwaith craffu ychwanegol ar gyfer y gyllideb hon.
Y cyfan yr wyf i am wneud yw tri phwynt byr iawn yn y ddadl hon. Yn gyntaf, nid yw'r gyllideb atodol gyntaf ddim ond fymryn yn wahanol i'r gyllideb wreiddiol. Pe byddai newidiadau sylweddol ynddi, mae'n debyg y byddai gennym ni broblem, a byddai'n rhyfedd iawn pe byddai talpiau mawr o arian yn symud o gwmpas. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddisgwyl gan y gyllideb atodol gyntaf.
Ond er nad yw'r newidiadau sylweddol, rwy'n credu ei bod hi yn arfer da bod yr Ysgrifennydd Cyllid yn dod gerbron y Pwyllgor Cyllid er mwyn sicrhau y gellir craffu ar y gyllideb ac inni gael dadl arni yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod hynny yn wirioneddol bwysig ein bod ni'n parhau i wneud hynny yn hytrach na chaniatáu, fel y mae'r rheolau'n gwneud, lythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet a llythyr yn ôl gan y Pwyllgor Cyllid. Rwyf wedi credu erioed nad anfon llythyrau rhwng dwy blaid yw'r ffordd orau o gael sgwrs, a gall pethau fynd ar goll. Felly, rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi parhau i fod yn agored a thryloyw ac yn barod i drafod, fel yr oedd ei ragflaenydd, gyda'r Pwyllgor Cyllid.
Credaf hynny'n arfer da iawn, ond ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd gennym ni Ysgrifennydd Cyllid gwahanol ac mae'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu'r cyfnewid drwy lythyr yn unig. Gobeithiaf y bydd yr arfer hwn, a gyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol ac y mae'r Ysgrifennydd Cabinet presennol bellach yn ei dilyn, o lunio cyllideb atodol ac ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid, yn rhywbeth y bydd pob Ysgrifennydd Cyllid yn ei wneud yn y dyfodol, ac wedyn mae gennym ddadl mewn cyfarfod llawn arno, hyd yn oed os yw'r cyfarfod llawn yn bennaf yn cynnwys pobl, neu dim ond yn cynnwys pobl sydd ar y Pwyllgor Cyllid yn y lle cyntaf. Ond mae'n bwysig ein bod yn cael dadl yn ei gylch mewn cyfarfod llawn a'n bod ni'n craffu yn y manylder hwnnw.
Yn ail, mae trafodiad cyfalaf, sy'n ymddangos i fod yn ddull gan y Trysorlys o gadw benthyca oddi ar ddyled y Llywodraeth, yn creu anawsterau enfawr. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Trysorlys wedi cytuno i gais Llywodraeth Cymru i ddwyn ymlaen £90 miliwn o gyllid trafodion ariannol heb ei wario oedd wedi ei gynnwys yng nghyllideb tymor yr hydref y DU, yn ogystal â threfniadau cronfeydd wrth gefn Cymru. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw arian wedi ei ddychwelwyd i Drysorlys San Steffan. Os ydym yn rhoi arwyddion o lwyddiant i unrhyw Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid, mae'n rhaid bod peidio ag anfon unrhyw arian yn ôl i Drysorlys San Steffan yn un o'r pethau hynny yr ydych chi'n ei farcio â nodyn cadarnhaol, oherwydd anfon arian yn ôl i San Steffan yw'r peth olaf yr ydym ni eisiau ei wneud.
Dyfynnaf yr Ysgrifennydd cyllid, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Cyllid fod cyfyngiadau ar ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn gwneud hyn yn offeryn anhylaw.
Yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o gymdeithasau tai a'r angen am ddeddfwriaeth o ganlyniad i hynny i ddynodi nad yw cymdeithasau tai yn sefydliadau sector cyhoeddus, mae hynny wedi golygu, am gyfnod byr, na ellid defnyddio cyfalaf trafodion i gefnogi cymdeithasau tai i adeiladu cartrefi.
Croesawaf y gyfran gyntaf o arian sy'n cael ei ddefnyddio i roi cymorth i undebau credyd yng Nghymru. Rwy'n credu bod llawer ohonom ni, ym mhob plaid, sy'n gefnogol iawn i undebau credyd, sy'n rhoi cyfle i lawer o bobl fenthyca ar lefel na allen nhw yn unrhyw le arall, lle na allan nhw gael arian gan fanciau'r stryd fawr, ond does dim prinder o fenthycwyr ar garreg y drws sy'n barod i fenthyca arian iddyn nhw ar gyfraddau anhygoel. Felly, mae'n swm bach o arian, a fyddai'n ddefnyddiol iawn i undebau credyd unigol yn y trawsnewid y maen nhw'n gorfod ei wneud o ran y rheolau newydd sy'n berthnasol iddyn nhw, ac o ran cymarebau cyfalaf i fenthyciadau. Mae'n debyg mai dyna'r gwahaniaeth mewn rhai achosion rhwng eu gallu i barhau i fasnachu neu beidio, ond mewn gwirionedd mae'n bwysig ein bod ni yn cefnogi'r undebau credyd hyn, oherwydd i lawer gormod o bobl mae'n ddewis rhwng undebau credyd a benthycwyr carreg y drws.
Y broblem arall gyda chyfalaf trafodion yw nad yw'r cyhoedd yn deall na ellir gwario'r arian ar ysgolion ac ysbytai. Mae gennych chi'r arian hwn, pam nad ydych chi'n ei wario ar ein blaenoriaethau allweddol—ffyrdd, ysgolion ac ysbytai?
Yn olaf, mater nad yw'n effeithio'n uniongyrchol ar gyllideb Llywodraeth Cymru ond sy'n effeithio ar gyfanswm benthyca'r Llywodraeth, yw'r gronfa benthyciadau myfyrwyr. Mae benthyciadau myfyrwyr yn rhan o'r gwariant a reolir yn flynyddol, sydd wedi cynyddu £22.5 miliwn—£19.1 miliwn cyfalaf a £3.4 miliwn refeniw. Eglurodd Ysgrifennydd y Cabinet bod Trysorlys ei Mawrhydi yn darparu'r cyllid ar gyfer y llyfr benthyciadau myfyrwyr yng Nghymru a bod gwaith yn cael ei wneud ar lefel y DU ynghylch dosbarthiad benthyciadau myfyrwyr. Bydd hyn yn effeithio llai arnom ni yng Nghymru, gan fod gennym ni system wahanol o roi cymorth i fyfyrwyr, sydd yn fwy hael o ran y grantiau yr ydym ni yn eu rhoi, yn hytrach na benthyciadau y mae'n rhaid eu had-dalu. Ond, i mi, mae'r llyfr benthyciadau myfyrwyr fel cynllun Ponzi enfawr—mae'n dal ati i gynyddu. Rydych chi'n benthyca arian i bobl na fydd bron yn sicr yn talu'r cyfan yn ôl, ac na fydd y rhan fwyaf yn llwyddo i'w dalu. Mae'r gyfradd dreth sylfaenol ar gyfer cyn-fyfyrwyr gyda benthyciadau 8 y cant yn uwch na gweddill y boblogaeth. Pe ychwanegid 8 y cant at dreth incwm pawb arall, byddai stŵr ofnadwy, ond ymddengys ei bod hi'n iawn ei ychwanegu ar bobl sy'n raddedigion. Pryd fydd Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli nad yw'r cynllun benthyciadau myfyrwyr yn gweithio ac nad yw'n gallu parhau yn ariannol heb gronni dyledion mwy a mwy? Nid yw'n gweithio. Mae angen inni gael system newydd o ariannu myfyrwyr.
A gaf i groesawu'r gyllideb atodol gyntaf yn y flwyddyn ariannol hon? Mae'r Pwyllgor Cyllid, fel y dywedodd y Cadeirydd a Mike Hedges eisoes, wedi canfod fawr ddim i sôn amdano—newidiadau bychain, fel y dywedodd Mike Hedges—ar ei chwarter cyntaf. Ond gobeithio y cawsoch chi'r casgliadau yn ddefnyddiol hefyd.
Roeddwn i'n falch o groesawu cyhoeddiad y GIG yn adolygiad canol tymor cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, a fydd yn cael effaith fuddiol ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac fel Mike Hedges, rwyf i, sy'n noddwr ar gyfer undebau credyd yng Nghymru, yn croesawu'n arbennig y trafodion ariannol yr ydych chi'n eu cyhoeddi i gynorthwyo undebau credyd â chyfrifoldebau rheoleiddiol newydd pwysig—sy'n hanfodol i gefnogi benthyca moesegol ledled Cymru.
A gaf i hefyd achub ar y cyfle heddiw i gydnabod llwyddiannau'r degawd diwethaf o ran datblygu fframwaith cyllidol i Gymru, wrth fabwysiadu ein pwerau newydd? Yn wir, soniodd Nick Ramsay am hyn yn ei gyfraniad. Y trethi cyntaf i'w codi yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd, addasiad cadarnhaol parhaol i fformiwla Barnett, darpariaethau benthyca refeniw a chyfalaf a pharatoadau ar gyfer cyflwyno cyfradd treth incwm i Gymru—wrth ichi wneud datganiad, credaf fod gennym ni'r cyfle i gydnabod y pwynt pwysig hwn heddiw.
Mae'n siomedig, mae'n rhaid imi ddweud, Nick Ramsay, y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, o'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud, eich bod yn cefnogi'r gyllideb atodol hon heddiw. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod cefnogi'r gyllideb atodol hon—[Torri ar draws.] Iawn.
Cyfeiriwyd ataf ddwywaith, felly mae gen i hawl i ymateb.
Yn neis iawn hefyd.
Do, ac mae yna lawer o bethau yn hyn—. Credaf fy mod drwy gamgymeriad wedi dweud 'newidiadau sylweddol' yn gynharach—newidiadau pwysig yr oeddwn i'n ei olygu, yn hytrach na newidiadau sylweddol. Ond, ydym, rydym ni bob amser yn ymatal ar y gyllideb atodol, oherwydd mae'n cynrychioli newid i gyllideb flaenorol nad oeddem ni'n ei chefnogi, felly nid oes arnom ni eisiau achosi dryswch yn ddi-angen.
Wel, rydych chi wedi dweud hynny ar goedd yn awr, Nick Ramsay. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud yw bod hyn yn gamp ryfeddol y bydd gennym ni, mae'n siŵr, gefnogaeth ar gyfer y gyllideb atodol heddiw, ac yn wir, fel y gwnaethoch chi ddweud, Nick Ramsay, ar gyfer y fframwaith ariannol a sicrhawyd, a byddwn i'n ei ddweud er gwaethaf wyth mlynedd o gynni a orfodwyd arnom ni yn Llywodraeth Lafur Cymru gan Lywodraeth y DU. Ond rwy'n credu bod hyn yn un o lwyddiannau hyn—. O ran cael y gyllideb drwy gamau'r gyllideb atodol, y gyllideb lawn a'r fframwaith ariannol, mae hyn o ganlyniad i ewyllys gwleidyddol, ewyllys gwleidyddol Llywodraeth Lafur Cymru, ond hoffwn hefyd gydnabod cydweithrediad gwleidyddol, sydd yn berthnasol iawn, byddwn i'n ei ddweud, o ran y Pwyllgor Cyllid—y cydweithrediad gwleidyddol yr ydym ni wedi'i gyflawni i ddatblygu'r pwerau cyllidol hyn yng Nghymru.
Ni fyddaf yn cefnogi'r gyllideb hon yn y fan yma heddiw. Doeddwn i ddim yn cefnogi'r gyllideb derfynol, felly ni fyddaf yn gwneud hynny, fel y dywedais, heddiw. Yr hyn sydd gennym ni yma, mewn gwirionedd, yw rhywfaint o arian yn symud o gwmpas, dim unrhyw newid mawr gwirioneddol. Yn wir, mae'r ymadrodd 'canu crwth tra llosgo Rhufain' yn dod i'r meddwl. Cymru yw'r unig genedl ddatganoledig sy'n talu'r dreth ystafell wely. Nawr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad mater iddo ef oedd hynny. Wel, mae'n fater i wleidyddion yr Alban, mae'n fater i wleidyddion yng Ngogledd Iwerddon, lle maen nhw wedi cael gwared ar y dreth ystafell wely, sy'n dreth niweidiol sy'n effeithio ar y lleiaf breintiedig.
Os edrychwch chi ar Gaerdydd yn lleol, Cyngor Caerdydd, maen nhw'n dweud y ceir diffyg o £91 miliwn yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf, ac fe wnaf i ddyfynnu'r hyn a ddywedodd y cyngor:
bydd yna wasanaethau na fyddwn ni, yn syml, yn gallu eu cynnig i drigolion yn y dyfodol.
Mae'n beth difrifol iawn, iawn. A beth sy'n cael ei wneud? Dim llawer. Os edrychwch chi ar y diffyg eto, £91 biliwn, wel, o leiaf bod hynny'n llai na'r cyllidebau—yn llai na'r bonws y dyfarnodd Prif Weithredwr Persimmon i'w hun, neu a roddwyd iddo ym mis Ionawr: £110 miliwn. Rwyf eisiau pwysleisio bod Persimmon yn un o'r cwmnïau, un o'r endidau corfforaethol, sy'n annhreithio ein cefn gwlad yn yr ardal hon ac yn gwneud elw trybeilig.
Mae'n gyllideb wael gan Lywodraeth wael nad oes ganddi unrhyw syniadau ar ôl, a gorau po gyntaf y gwelwn ni gefn y weinyddiaeth hon.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i'r holl Aelodau hynny a wnaeth gyfraniadau perthnasol i'r ddadl hon. Fel y dywedodd Mike Hedges, er bod y gyllideb atodol gyntaf yn gymharol gyfyngedig ei natur, mae'n rhan bwysig o broses y gyllideb, gan ganiatáu sôn am unrhyw newidiadau wrth y Cynulliad, ac i'r Cynulliad graffu arnynt. Mae'n siŵr y bydd yn rhybuddio Gweinidogion cyllid yn y dyfodol am ddiffygion arferion epistolaidd, pe bydden nhw byth yn gwyro oddi wrth yr arfer honno.
Cyfeiriodd Mike hefyd at y ffordd yr ydym ni wedi trin cyfalaf trafodion ariannol yn y gyllideb atodol. Rydym ni wedi gallu dwyn ymlaen y £90 miliwn a ddyrannwyd yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac er bod y cyfyngiadau o ran sut y gellir defnyddio cyfalaf trafodion ariannol yn rhai gwirioneddol, mae ein gallu i wneud rhai pethau arloesol, er enghraifft, ariannu undebau credyd, yn enghraifft o'r math o ddefnydd dychmygus yr wyf wedi ymrwymo i geisio ei wneud o bob ceiniog sy'n dod i Lywodraeth Cymru.
Ailadroddodd Mike y rhybuddion a wnaeth yn y Pwyllgor Cyllid o ran y llyfr benthyciadau myfyrwyr. Rydym ni, fel y dywedodd, yn llai agored i rai o'r peryglon hynny nag ar draws y ffin. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'i swyddogion yn dangos diddordeb mawr yng nghanfyddiadau'r adolygiad o gyllid myfyrwyr sydd ar y gweill yn Lloegr, i weld, pan gaiff ei gyhoeddi, a fydd yn effeithio ar Gymru mewn unrhyw fodd.
Soniodd Nick Ramsay am y mater o wariant ar iechyd. Mae gwariant ar iechyd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a'm gwaith i yw gwneud yn siŵr bod digon o arian wastad ar gael i ddarparu gwasanaethau ac i dalu biliau ym mhob rhan o Gymru. Nid yw'r dyraniadau ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn ddiweddar, wrth gwrs, ar gyfer y gyllideb atodol hon neu hyd yn oed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Unwaith inni gael rhywfaint o sicrwydd ynghylch y swm gwirioneddol o arian a fydd ar gael i Gymru o ganlyniad i'r cyhoeddiadau hynny, yna byddwn yn falch o gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ynglŷn â sut yr ydym ni'n bwriadu eu defnyddio.
Mae'r gyllideb atodol yn wir yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant gwisg ysgol, a fydd bellach yn gynllun grant estynedig, yn gwneud mwy na'r un blaenorol. Roeddwn yn awyddus i wneud yn siŵr bod gan yr Ysgrifennydd Addysg y cyllid oedd ei angen arni i roi'r cynllun newydd hwnnw ar waith, ac roeddwn yr un mor eiddgar i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud darpariaeth ar gyfer y grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig.
Diben y dyraniadau llwybrau teithio llesol yw cyflymu'r rhaglen, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n deg dweud nad oes dim byd wedi digwydd o ran teithio llesol, ond mae'r £10 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd yn y gyllideb atodol hon, £20 miliwn y flwyddyn nesaf, £30 miliwn y flwyddyn ar ôl hynny yn fuddsoddiad sylweddol i wneud yn siŵr y gallwn ni wneud mwy nag yr ydym wedi gallu'i wneud o'r blaen o ran y maes polisi pwysig iawn hwnnw.
Gwrandawais yn astud iawn ar yr hyn a ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Diolch iddo eto am yr adroddiad. Mae casgliadau'r adroddiad yn gosod agenda glir ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn y gwaith y mae'n bwriadu ei wneud yn y gwaith cyllideb a fydd o'n blaenau yng ngweddill y flwyddyn hon, ac mae'n ddefnyddiol iawn i mi fod wedi gweld sut y mae'r Pwyllgor Cyllid yn bwriadu mynd i'r afael â hyn.
Dirprwy Lywydd, a gaf i orffen drwy adleisio'r sylw a wnaeth Jane Hutt, fod y gyllideb ar gyfer eleni wedi'i gosod yn erbyn y cyfnod hwyaf o gyni parhaus o fewn cof? Mae'n cael effaith wirioneddol ar ein cyllideb. Er gwaethaf hynny, nod y gyllideb atodol gyntaf yw gosod y sylfeini ar gyfer y flwyddyn gyfredol, ac i fraenaru'r tir ar gyfer penderfyniadau cyllidebol anodd a allai eto fod o'n blaenau.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, rydym ni’n pleidleisio ar yr eitem hon pan ddaw hi'n amser pleidleisio.