1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd; cefais fy ailymgnawdoli yn llefarydd materion gwledig. [Chwerthin.]
Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r ymgynghoriad a lansiwyd gennych ddoe—yr ymgynghoriad pwysig iawn a lansiwyd gennych ddoe—beth yw eich diffiniad o 'reolwr tir'? Un o'r pum egwyddor rydych wedi'u tanlinellu yw, o dan unrhyw gynlluniau newydd a allai gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, fod angen iddynt fod yn hygyrch i bawb. Felly, mae'n bwysig deall beth fyddai'r meini prawf i'w gwneud yn hygyrch. Felly, beth yw rheolwr tir yn eich barn chi?
Hoffwn groesawu Andrew R.T. Davies i'w swydd newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at eich cael yn fy nghysgodi. Rydych bob amser yn disgrifio'ch hun fel 19 stôn o gig eidion gorau Cymru, felly rwy'n siŵr y cawn ychydig o hwyl gyda hynny hefyd. Felly, croeso i'ch portffolio.
Sut rwy'n diffinio rheolwr tir? Buaswn yn dweud ffermwyr a choedwigwyr, ond wrth gwrs, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr.
Diolch am y dehongliad hwnnw, er ei bod yn ymddangos, yn sicr, wrth ddarllen yr ymgynghoriad ac wrth ddarllen rhywfaint o ddyfalu yn y wasg, fod y diffiniad ychydig yn ehangach na hynny, ac y gellid dehongli y gall cwmnïau mawr, er enghraifft, a chanddynt ddaliadau tir—Tata Steel, er enghraifft, neu awdurdodau lleol a allai fod yn awyddus i ofalu am barciau neu leiniau neu beth bynnag—sy'n bodloni'r nodau amgylcheddol gael gafael ar rywfaint o'r arian hwn sydd, yn hanesyddol, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, bob amser wedi bod ar gael i rywun sydd â rhif daliad neu gyfeirnod cwsmer. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar y dehongliad o bwy y credwch sy'n rheolwr tir. A fyddai cyrff cyhoeddus o'r fath, fel yr amlinellais, neu gwmnïau preifat yn gymwys i gael peth o'r arian hwn y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, oherwydd os felly, byddai hynny'n newid cyfeiriad llwyr o'r hyn y mae'r polisi amaethyddol cyffredin, yn hanesyddol, wedi'i ddarparu yn ôl i amaethyddiaeth Cymru?
Wel, efallai y gallaf roi ychydig o gyngor ichi wrth i chi ddechrau ar eich rôl newydd, sef i beidio â chredu popeth a ddarllenwch yn y wasg. Credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.
Mewn perthynas â'r diffiniad o reolwr tir, fel y dywedaf, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr ac wedi bod felly erioed. Ni chredaf fod hyn yn newid mawr o ran cyfeiriad. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau gynllun rydym yn eu cyflwyno: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Nawr, rydym yn ymgynghori ar gyfansoddiad y cynlluniau hynny a sut y gall y cynlluniau sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion o ran y pum egwyddor a nodais ym mis Chwefror ar gyfer ein sector. Felly, mae'r ymgynghoriad yno. Rwyf wedi clywed yn y wasg y byddwn yn ariannu rhandiroedd. Ni fyddwn yn ariannu rhandiroedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig inni fod yn eglur ynglŷn â'r ymgynghoriad, ac unwaith eto, buaswn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu barn.
Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw, ac efallai y gallaf roi ychydig o gyngor yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet: mewn gwirionedd, fe'i cymerais o gyfweliad un i un yn y Wales Farmer ddoe, lle rhoesoch gyfres o atebion, felly roedd fy nghwestiynau'n seiliedig ar eich atebion chi. Yn amlwg, roeddent yn gadael y drws yn agored i ddehongliad o'r hyn yw rheolwr tir a phwy fyddai'n gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgynghoriad ar waith a bod llawer o waith i'w wneud ar yr ymgynghoriad hwnnw, ond ceir rhai mannau niwlog. Rydych wedi egluro hyn i raddau, ynghylch rhandiroedd er enghraifft, ac rwy'n cymryd y byddai hynny'n cynnwys cyrff cyhoeddus neu gwmnïau preifat hefyd, fel y nodwyd gennyf, na fyddent yn gymwys.
Ond un peth, yn amlwg, nad yw'r ymgynghoriad yn ei grybwyll yw ansefydlogrwydd yn y farchnad. Mae'n sôn am nwyddau cyhoeddus ac yn sôn am yr amgylchedd, yn wir. A ninnau'n cael tywydd poeth ar hyn o bryd, os oes gennych ffermwr yn cynhyrchu cnydau a chynhyrchu da byw o'r tir yng Nghymru, mae'r ansefydlogrwydd yn y tywydd a'r amodau yn rhywbeth na ellir ei liniaru. Ni all unrhyw gynllun busnes a luniwch roi ystyriaeth i hynny. Pa bwysau fyddwch chi'n ei roi i'r ansefydlogrwydd, i'r amgylchedd bregus iawn y mae ffermwyr a rheolwyr tir yn gweithio ynddo, na all unrhyw gynllun busnes roi ystyriaeth iddo? A yw wedi'i hepgor o'r ymgynghoriad a byddwch yn edrych arno yn ystod cyfleoedd pellach, neu o dan y ddau bennawd sydd gennych, mae gennych ansefydlogrwydd yno ac mae'n anodd dod o hyd iddo ar hyn o bryd?
Mewn perthynas ag ansefydlogrwydd, yn amlwg, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar hynny. Credaf eich bod yn gwneud pwynt perthnasol iawn—nid ydym wedi gweld y math hwn o dywydd ers dros 30, 40 mlynedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn helpu busnesau gyda'u cynlluniau busnes mewn perthynas ag ansefydlogrwydd.
Gan ddychwelyd at y cwestiwn blaenorol ar y cynllun nwyddau cyhoeddus, rwy'n cydnabod bod llawer iawn o'n ffermwyr yn darparu nwyddau cyhoeddus ar y funud heb gael eu talu amdanynt a chredaf fod hynny'n anghywir. Rydym yn rhoi gwerth aruthrol ar ein nwyddau cyhoeddus yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod hynny'n cael ei gydnabod, wrth fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jeremy Corbyn yn credu bod incwm sylfaenol yn syniad da iawn. A allwch esbonio pam na chredwch ei fod yn syniad da i ffermwyr Cymru?
Rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y cynllun taliadau sylfaenol a thaliadau uniongyrchol. Ni chredaf fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi darparu'r canlyniadau y credwn y gallwn gael mwy allan ohonynt ac sydd mor hynod o bwysig yma yng Nghymru.
Wel, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle fy mod yn cyfeirio at y toriad yn y cysylltiad rhwng yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel incwm sylfaenol a newid—newid sylweddol—i ganlyniadau sy'n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus, fel rydych newydd ei ddisgrifio, gan ddefnyddio iaith y Trysorlys i gyfiawnhau rhywfaint o hyn. Rwy'n deall hynny, a chredaf fod llawer yn eich papur ymgynghori i weithio gydag ef ac rwy'n derbyn y cyfeiriad y mae'n mynd iddo. Ond wrth dorri'r cysylltiad rhwng y tir y mae ffermwr yn gyfrifol amdano, a'r fferm deuluol yn arbennig yng Nghymru, rydych hefyd yn torri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachus, cynaliadwy a chymorth parhaus y taliadau. A thybed a ydych yn dal o'r farn fod cynhyrchu bwyd yn y fath fodd yn nwydd cyhoeddus ynddo'i hun, neu a yw hynny ond yn cynnwys y manteision amgylcheddol cysylltiedig a ddisgrifiwyd gennych.
Mae cynhyrchu bwyd yn hollbwysig a chyfeiriaf at y pum egwyddor ac at gyflawni amcanion y pum egwyddor, ac mae cynhyrchu bwyd yn un ohonynt, ac roeddwn yn gwbl benderfynol y byddai'n un ohonynt, ond nid yw'n nwydd cyhoeddus. Nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus. Mae ganddo farchnad ac felly ni all fod yn nwydd cyhoeddus. Felly, mae'n debyg mai'r hyn rydym yn ei wneud yw creu marchnad, os mynnwch, ar gyfer nwyddau cyhoeddus, ond nid yw bwyd yn nwydd cyhoeddus.
Credaf fod y ffordd rydych yn cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus a chredaf fod bwyd cynaliadwy a iachus yn rhywbeth y dylem fod yn ceisio'i gyflawni er budd ehangach yr amgylchedd, ein hiechyd cyhoeddus a phopeth arall, felly buaswn yn sicr yn awyddus i annog pobl i ymateb i'ch ymgynghoriad wrth wneud y cysylltiad cryf hwnnw.
Yr hyn nad ydym am ei weld, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yw diwedd ar y fferm deuluol yng Nghymru, diwedd ar y ffermwyr sy'n gyfrifol am, ac yn stiwardio'r tir y maent naill ai'n berchen arno neu'n ei osod ar rent—gan ein bod yn gweld mwy a mwy o dir yn cael ei osod ar rent. Ac ni fyddem am weld diwedd ar hynny, a ffermydd teuluol yn cael eu disodli gan reolwyr tir cyflogedig neu bobl sy'n wardeiniaid neu unrhyw beth arall. Mae'r buddsoddiad hirdymor hwnnw a'r cadernid hirdymor hwnnw'n allweddol i gynnal eich amgylchedd diogel, ac mae fferm deuluol a'r ffermwr ei hun yn ganolog i hynny.
Ond gan eich bod wedi awgrymu y bydd nifer fwy o bobl yn gallu pysgota yn y pwll hwn sy'n mynd yn llai, a allwch ateb hefyd sut y byddwn yn sicrhau y bydd hon yn elfen gynaliadwy a hirdymor o dan eich ymgynghoriad? Ar hyn o bryd, mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn saith mlynedd o hyd; er bod newidiadau, maent yn aml yn rhai graddol, ac yn enwedig os ydym yn symud tuag at nwyddau cyhoeddus, bydd angen i ffermwyr arddangos pethau fel dal carbon neu atal llifogydd, nid dros flwyddyn neu ddwy flynedd, ond dros gyfnod hir o amser. Felly, a ydych yn rhoi ystyriaeth lawn i'r angen am fframweithiau a buddsoddiad amlflwydd yn eich polisïau rheoli tir?
Hoffwn ddechrau drwy ddweud nad oes arnaf eisiau gweld unrhyw ffermydd teuluol bach yn cael eu colli—nid wyf am weld un fferm yn cael ei cholli. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gydnabod bod Brexit yn peri heriau enfawr i'r sector, a dyna pam fod angen inni wneud popeth y gallwn i'w cefnogi. Hwy yw ceidwaid ein tir a dyna'r neges—. Yn rhyfedd ddigon, rwyf newydd gael cyfweliad, cyn Sioe Frenhinol Cymru, a gofynnwyd imi a oedd fy argraffiadau wedi newid, a dywedais mai'r un peth nad oeddwn wedi sylweddoli oedd cymaint y mae ffermwyr yn ymfalchïo yn eu tir ac yn sicrhau eu bod yn gofalu amdano am y cyfnod a wnânt a sicrhau ei fod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Pan oeddwn yn Seland Newydd ym mis Ebrill, yr un wers a ddysgais, ar ôl yr hyn a ddigwyddodd iddynt yn ôl ym 1984 gydag ymyl y clogwyn hwnnw, oedd eu bod wedi colli cymaint o ffermydd bach, ac rwy'n benderfynol o sicrhau na fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru ar ôl Brexit.
Mae hyn yn rhan o'r ymgynghoriad—rydych yn llygad eich lle eu bod yn sector hirdymor a bod angen y diogelwch amlflwydd hwnnw arnynt. A bydd hynny'n ffurfio rhan o'r ymgynghoriad ar y ddau gynllun sydd gennym, ac rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn—a gobeithiaf fod hyn wedi'i gyfleu wrth lansio'r ymgynghoriad—y byddwn yn cael y cyfnod pontio hwn, oherwydd bydd y taliadau sylfaenol yn parhau yn 2018 a 2019, ac yna, o 2020 ymlaen, byddwn yn dechrau'r cynllun newydd. Ond mae'n rhaid cael cyfnod pontio amlflwydd: ni allwch ddisgwyl newid o'r taliad sylfaenol yn syth i'r cynllun newydd. Felly, byddaf yn defnyddio Taliadau Gwledig Cymru, sy'n llwyddiannus iawn fel y gwyddoch—ni yw'r gorau yn y DU—a byddaf yn defnyddio'r grŵp hwnnw i sicrhau bod y cynllun yn gywir gennym o'r dechrau.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi cael llawer o gysylltiad yn ddiweddar ag ymgyrchwyr lles anifeiliaid sy'n pryderu am stynio anifeiliaid cyn eu lladd a defodau lladd anifeiliaid, yn benodol. Ac maent wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod lladd heb stynio bellach wedi'i wahardd yn Nenmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd, fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn well o safbwynt lles, a bod datblygiadau methodolegol diweddar mewn electro-enseffalogramau yn ein galluogi i asesu'r profiad o boen yn fwy uniongyrchol nag erioed o'r blaen, ac mewn perthynas â lloi sy'n cael eu lladd drwy doriad fentrol i'r gwddf, mae'n debyg ei bod bellach yn gwbl glir y gellid dweud bod hyn yn boenus yn y cyfnod rhwng torri'r gwddf a cholli ymwybyddiaeth. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych eto—yn unol â safbwyntiau Cymdeithas Milfeddygon Prydain a'r RSPCA, a llawer o sefydliadau eraill sy'n ymwneud â lles anifeiliaid, mai'r unig ffordd o gadw at y safonau uchaf o ran lles anifeiliaid mewn lladd-dai yng Nghymru yw drwy sicrhau bod pob anifail yn cael eu stynio cyn eu lladd am ba reswm bynnag?
Mae hon yn sicr yn drafodaeth a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ychydig wythnosau yn ôl, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y wybodaeth a gefais ganddynt yn fanwl.
Da iawn. Wel, rwy'n ddiolchgar am yr ateb hwnnw, a chredaf ei fod yn gadarnhaol iawn. Pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu peidio â newid y gyfraith yn hyn o beth, a wnaiff ystyried cynnig amgen, a wnaed hefyd gan Gymdeithas Milfeddygon Prydain? Dywedant eu bod yn cydnabod, er bod stynio cyn lladd yn well o safbwynt lles, pe bai lladd heb stynio yn parhau i gael ei ganiatáu, y byddai stynio ar ôl torri yn ddull dilys o leihau dioddefaint anifeiliaid wrth eu lladd. A chredaf y byddai stynio ar ôl torri yn bodloni'r rhan fwyaf o'r gwrthwynebiad gan grwpiau crefyddol.
Wel, fel y dywedaf, rwy'n aros i swyddogion roi cyngor i mi ar ôl y drafodaeth gychwynnol a gefais gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain, felly, nid wyf am lunio'r polisi yn y fan a'r lle yn awr, ond mae'n amlwg yn broses barhaus i mi.
Ni fyddai llunio polisi yn y fan a'r lle yn briodol, hyd yn oed i lefarydd amaethyddiaeth, rwy'n siŵr. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd enfawr wedi bod yn nhwf y farchnad cig halal yn enwedig. Nid Mwslimiaid sy'n bwyta llawer o'r bwyd hwn, ac mae wedi mynd i mewn i siopau tecawê prif ffrwd a siopau bwyd brys hefyd. Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu bwyta bwyd o'r fath am ba reswm bynnag ar sail lles anifeiliaid. A fyddai'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta, ac felly, y dylai'r rheini sy'n pryderu am yr ystyriaethau lles anifeiliaid a grybwyllais allu gwneud dewis gwybodus mewn amgylchiadau o'r fath? A wnaiff hi ymrwymo i flaenoriaethu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o ladd at ddibenion crefyddol a lladd heb stynio, nid yn unig drwy labelu cynnyrch mewn archfarchnadoedd ond mewn bwytai a siopau tecawê hefyd?
Rwy'n cytuno'n llwyr—mae'n bwysig iawn fod pobl yn gwybod beth y maent yn ei fwyta, a chredaf, yn sicr mewn perthynas â bwytai, nad yw defnyddwyr yn ymwybodol o'r pethau hyn. Roeddwn mewn bwyty lle y sylwais, wedi i mi ddod allan, ar arwydd bach iawn ar waelod y drws a ddywedai fod yr holl gig yn gig halal. Nawr, credaf y dylai fod yn llawer mwy gweladwy, fel rydym wedi'i wneud gyda safonau hylendid bwyd, er enghraifft. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta.