– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Nick Ramsay.
Lywydd, diolch ichi am y cyfle i siarad heddiw am ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru. Roedd cynllun arfaethedig Cylchffordd Cymru yn brosiect unigryw a sylweddol, a oedd i'w weld fel pe bai'n cynnig posibilrwydd o adfywio ardal ddifreintiedig yn economaidd. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno bod Llywodraeth Cymru'n iawn i archwilio posibiliadau ar gyfer gwneud i'r prosiect hwn weithio, ac yn briodol iawn nid swyddogaeth y pwyllgor oedd gwneud sylwadau ar rinweddau penderfyniad y Cabinet yn y pen draw i beidio â darparu'r cymorth cyllid cyhoeddus y gofynnwyd amdano. Rydym yn bryderus iawn, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru ati ar y prosiect hwn. Rydym am i Gymru fod yn ddewis cyntaf ar gyfer buddsoddi, ac er mwyn cyflawni hyn mae angen i'r prosesau penderfynu a ddilynir gan y rhai sy'n gyfrifol am wario arian trethdalwyr yn y modd hwn fod yn gydlynol ac wedi'u dogfennu'n briodol.
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar ariannu cychwynnol Cylchffordd Cymru ym mis Ebrill 2017, ac amlygodd ddiffygion sylweddol yn y modd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect. Darparodd yr adroddiad sylfaen gadarn i'n hymchwiliad, a ymestynnodd y tu hwnt i gwmpas y cyllid cychwynnol i brosesau penderfynu Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynnig terfynol.
Gwelsom fod dull Llywodraeth Cymru o fynd ati ar y prosiect hwn yn un o ddau hanner: gwnaeth Llywodraeth Cymru rai penderfyniadau anesboniadwy yn ystod proses gyllid cychwynnol y prosiect hwn, fel awdurdodi taliad ar gyfer prynu FTR, cwmni beiciau modur yn swydd Buckingham, fel rhan o'r grant datblygu eiddo a fwriadwyd ar gyfer prynu tir yng Nglyn Ebwy. Yna, ar ôl gwneud y penderfyniad cychwynnol i beidio â darparu'r warant y gofynnwyd amdani, dewisodd Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei chyfiawnhad dros hynny ar fater cyfrifyddu technegol yn hytrach na chrybwyll y diwydrwydd dyladwy cynhwysfawr a gomisiynwyd ganddi. Arweiniodd hyn at ddryswch ymhlith y cyhoedd ac ni wnaeth fawr ddim i hybu hyder yng ngallu'r Llywodraeth i drin arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn dda.
Y teimlad cyffredinol oedd gennym, fel pwyllgor, oedd bod y penderfyniad polisi wedi'i wneud i gychwyn i gefnogi'r prosiect ac roedd yn rhaid cyflawni hyn doed a ddêl. Ein rôl ni, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yw gwneud yn siŵr nad yw brwdfrydedd gwleidyddion i gyrraedd pa bynnag nod polisi sydd ganddynt yn arwain at dorri corneli, oherwydd mae hynny'n arwain at wneud penderfyniadau gwael.
Wrth inni symud i ail hanner ein hymchwiliad, buom yn archwilio'r prosesau a arweiniodd at y penderfyniad terfynol i beidio â chytuno i warant Llywodraeth Cymru, a oedd yn hanfodol i sicrhau bod y prosiect yn digwydd. Nawr, sylweddolwn y gall llywodraethau newid eu meddyliau ar benderfyniadau, ac y dylent wneud hynny weithiau, ond mae'n bwysig nad yw prosesau'n cael eu llunio o gwmpas y polisi. Mae yna reswm pam fod prosesau ar gael ar gyfer llywodraethu da: i ddiogelu arian cyhoeddus ac enw da am lywodraethu da ac uniondeb. Mae gennym bryderon difrifol nad oedd Llywodraeth Cymru mor dryloyw a chynhwysfawr ag y gallai fod yn egluro ei phenderfyniad i gyflawni'r hyn a ymddangosai fel tro pedol ar brosiect Cylchffordd Cymru. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei safbwynt cadarnhaol ynglŷn â'r prosiect a'i bod wedi gosod ei meini prawf pendant ei hun ar gyfer gwneud ei phenderfyniad terfynol. Felly roedd hi'n sioc pan wrthododd y Cabinet y prosiect ar yr unfed awr ar ddeg.
Ni chafodd erioed ei wneud yn glir i ni, fel pwyllgor, pam y gwnaed y penderfyniad hwn. Ai oherwydd mater technegol yn ymwneud ag a fyddai'r prosiect ar y fantolen ai peidio? Neu rywbeth arall? Canfuom ei fod yn ymwneud â nifer o faterion ac mae'n ddirgelwch o hyd sut y bu i Lywodraeth Cymru, a oedd wedi treulio cryn amser ac wedi gwario arian sylweddol ar y prosiect, ei ddirwyn i ben yn y pen draw ar sail yr hyn a ymddangosai fel trafodaeth 20 munud yn y Cabinet. Mae'r cwestiynau hyn yn dal i fod heb eu hateb.
Felly, beth y gallwn ei ddysgu o hyn i gyd? Wel, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol ar arian cyhoeddus Cymru ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mewn ymateb i adroddiadau olynol yn y blynyddoedd diweddar gan yr archwilydd cyffredinol, a chan y pwyllgor hwn a a'i ragflaenwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu sicrwydd inni ar sawl achlysur fod gwersi wedi'u dysgu. Ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi. Bwriedir i'n gwaith craffu fod yn adeiladol a'n nod yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu'n well er budd pawb, yn enwedig y trethdalwr, ond rhaid i'r Llywodraeth ddysgu a datblygu o'n hadroddiadau er mwyn i'n gwaith craffu fod yn effeithiol.
Yn sicr nid ydym yn disgwyl gweld camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a chrebwyll gwael yn cael eu hailadrodd ar ran swyddogion fel y daeth yn amlwg o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Yn anffodus, mae stori drist Cylchffordd Cymru yn amlygu diffygion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr. Cymerodd y prosiect penodol hwn saith i wyth mlynedd i ddatblygu cyn cael ei ddirwyn i ben. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy doeth wrth wneud penderfyniadau. Mae angen iddi fod yn gyflymach ac mae angen iddi fod yn fwy hyblyg. Fel arall, ceir risg i Gymru yn ehangach fel lleoliad ar gyfer buddsoddi. Nid yw ein beirniadaeth wedi'i chyfeirio tuag at unigolion, ond yn hytrach tuag at fethiant yn y system ehangach ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny. Mae angen buddsoddiad ar Gymru ac mae angen gallu mewnol i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr.
Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei mesurau rheoli i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus mewn perthynas â deall cysylltiadau rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr; fod ariannu pryniant FTR Moto Ltd yn cael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos at ddibenion hyfforddiant mewnol gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y penderfyniadau anghyffredin iawn a wnaed ar lefel swyddogol, y diffyg dogfennau cysylltiedig a methiant ymddangosiadol swyddogion i geisio cael y cymeradwyaethau angenrheidiol gan eu Gweinidog priodol; ac yr atgoffir holl Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion ac uwch-weision sifil Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gofynion yn y codau gweinidogol a chodau'r gwasanaeth sifil ar gyfer sicrhau cywirdeb yr holl wybodaeth a gaiff ei rhyddhau.
Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor. Fodd bynnag, mewn mannau, mae'r derbyniad i'w weld yn cuddio bwriad y Llywodraeth ac wedi'i guddio yn y manylion cysylltiedig, mae'n ymddangos nad yw'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn yr ysbryd y'u gwnaethpwyd. Mae hon wedi bod yn thema gyson mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion, ac rydym wedi mynegi'r pryderon hyn o'r blaen, a hynny'n gyson.
Mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ar Gylchffordd Cymru, rydym yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru'n ddiffygiol mewn nifer o fannau allweddol. Wrth dderbyn argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn, mewn amgylchiadau penodol, fod angen iddi gryfhau ei mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian. Rydym yn teimlo bod angen gwneud rhagor i sicrhau bod swyddogion yn arfer crebwyll proffesiynol, ac roedd ein hargymhelliad yn canolbwyntio ar yr angen am well dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr. Roeddem am weld diwedd ar naïfrwydd masnachol cyson Llywodraeth Cymru, ac nid ymdrinnir â hyn yn yr ymateb i'n hargymhelliad, nac yn wir yn yr ymatebion i adroddiadau blaenorol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sydd wedi galw am ddysgu gwersi.
Mae'r pwyllgor yn pryderu hefyd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 o'n hadroddiad, lle rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod wedi adfer y £100,000 o'r cyfrif ysgrow ers hynny. Nid yw'r ymateb yn ei gwneud yn glir pa bryd y dechreuodd camau i adfer y cronfeydd hyn, neu yn wir, a oedd unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i adfer yr arian tan iddi gael ei hysgogi i wneud hynny gan ein hargymhelliad. Mae hon yn enghraifft dda o naïfrwydd masnachol ymddangosiadol Llywodraeth Cymru. Pan wnaed y penderfyniad i beidio â buddsoddi, dylai adfer yr arian fod wedi digwydd fel mater o drefn, a dylai'r ymateb i'n hargymhelliad fod wedi dweud yn syml, 'Rydym wedi adfer yr arian hwn.'
Yn olaf, mewn perthynas ag argymhelliad 6, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn mynegi bod ganddi brosesau cadarn ar waith eisoes ar gyfer ymdrin â phryderon am gyfarwyddiadau gan swyddogion awdurdodi i wneud taliadau: maent yn abl ac yn hyderus i ddwyn y pryderon i sylw'r uwch-reolwr annibynnol. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi, a byddem yn croesawu mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â faint o achosion a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle y mynegwyd pryderon fel y rhain, a rhyw eglurhad ynglŷn â sut y mae'r prosesau hyn wedi profi'n gadarn. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl heddiw. Diolch.
Mae'n bleser cael dilyn y Cadeirydd i gyflwyno, rwy'n credu, yn gynhwysfawr ac yn gadarn iawn yr hyn sydd, rwy'n credu—rhaid i ni dderbyn—yn adroddiad go ddamniol. Ac yn wir, mae'n anodd meddwl am adroddiad pwyllgor mwy damniol nac yn wir adroddiad archwilydd cyffredinol a ddaeth gydag ef sy'n fwy damniol. Ar yr wyneb, fel y dywedodd, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion i gyd, ond pan edrychwch yn iawn ar y manylion, wrth gwrs, mae yna amheuaeth o hyd a yw'r gwirionedd sy'n sail i'r feirniadaeth wedi gwneud argraff ac yn mynd i newid yr arferion a ddatgelwyd gennym.
Rwyf mewn penbleth. Y £100,000 yn y cyfrif ysgrow, hynny yw, beth, nid oedd y Llywodraeth yn gwybod? Roeddent wedi anghofio? Un posibilrwydd, wrth gwrs, yw mai blaendal nad oedd yn ad-daladwy ydoedd, opsiwn i bob pwrpas, a gweld bod yr opsiwn felly'n ddi-rym oherwydd bod y Llywodraeth wedi penderfynu dirwyn y prosiect i ben. Mae hynny'n bosibl, ond byddent wedi gwybod, does bosib, oherwydd byddai hynny wedi'i gynnwys yn y papurau ar y pryd. Felly, efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ein goleuo ar y pwynt hwnnw.
Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddatgelu, rwy'n credu, yw diffygion sylfaenol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gwneud ei phenderfyniadau, a'r tryloywder, sy'n ffinio ar anhryloywder, sy'n ffinio ar—i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw—ddiffyg ystyriaeth rhyfygus ynghylch y gwirionedd ar adegau. Mae'n rhaid iddo fod yn onest am hynny. Mae'r penderfyniadau gwael hyn yno, wrth wraidd y ffordd y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â llu o fuddsoddiadau, bach a mawr, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ganolog iawn i waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Hoffwn ganolbwyntio ar un o'r ymatebion i'r argymhellion oherwydd, fel y dywedodd y Cadeirydd, yr hyn sy'n allweddol mewn gwirionedd, yw beth sy'n digwydd yn awr, mewn ymateb. Os ydym yn parhau i wneud yr un camgymeriadau, ni fyddwn byth yn dod allan o'r mathau o drafferthion rydym ynddynt mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Dywed y Llywodraeth, mewn ymateb i argymhelliad 13, am y ddyled sydd heb ei thalu i'r Llywodraeth gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, ei bod yn ymwybodol o nifer o gynigion i atgyfodi'r prosiect, ac mae'n ymwybodol yn arbennig, o hyrwyddwr newydd y mae'n dweud ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu rhyddhau o'r atebolrwydd sy'n gysylltiedig â'r benthyciad hwnnw o £7.3 miliwn. Nawr, credaf fod angen inni wybod mwy am hynny, onid oes?
Credaf y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio'r cyfle hwn i ddweud mwy wrthym am y cynnig hwnnw, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n gynnig gan fuddsoddwyr neu ddatblygwyr eiddo tirol sy'n gweithio yn yr Unol Daleithiau, Rocksteady Partners—enw rhyfedd, fe gredaf, ar gwmni buddsoddi. Rwy'n credu eu bod yn protestio gormod, o bosibl. Mae Rocksteady, sy'n rhestru casinos mawr fel un o'i feysydd profiad allweddol ac yn wir, sydd ag un o'i nifer o swyddfeydd, mae'n deg dweud, yn Las Vegas, Nevada, yn hyrwyddo cynnig sy'n cyfuno'r trac rasio gyda datblygu cyrchfan hamdden ac mae'n cynnwys casino fel rhan o'i gynnig.
Mae'r Llywodraeth, yn ei hymateb, yn dweud, yn gyfnewid am eu rhyddhau o'r rhwymedigaeth, mai'r quid pro quo yw bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfran ecwiti. A yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn dweud ei bod yn agored i unrhyw gynnig a fyddai'n golygu ei bod hi, ac felly'r cyhoedd yng Nghymru, yn dal cyfran ecwiti mewn casino yn un o'r rhannau tlotaf o Gymru? Hynny yw, mae'n gwbl annerbyniol y gellid ystyried hynny fel cynnig hyd yn oed. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn codi i gyfrannu at y ddadl hon, gadarnhau mai'r hyrwyddwr newydd y mae'n sôn amdano yw Rocksteady Partners?
Y gwir mwy, rwy'n meddwl, a ddatgelwyd yma, yw pa mor echrydus o wael yr ydym am ymdrin â phrosiectau mawr. Rydym yn gwegian, mewn gwirionedd, o un prosiect sy'n creu newid sylfaenol i'r llall, ac ychydig iawn ohonynt sy'n cyflawni unrhyw beth. LG Semicon, Legend Court, Valleywood, Pinewood, nawr, wrth gwrs, Sain Tathan a'r morlyn llanw—rhesymau gwahanol dros fethiant y prosiectau hyn, ond mae'r map o Gymru yn frith o sbwriel breuddwydion briw, a rhaid inni dorri'r cylch hwnnw. Ceir rhai eithriadau: campws arloesedd bae Abertawe, Celtic Manor, y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd. Y gwahaniaeth yw pan fyddwn yn penderfynu creu rhywbeth ein hunain yn hytrach na dibynnu ar weithredwyr allanol, pa un a ydynt wedi'u lleoli yn Nevada ai peidio. Bydd hi bob amser yr un fath oni bai ein bod ni'n mynd y tu ôl i'r llyw. Os na wnawn hynny, ni chyrhaeddwn unman, a charwn apelio ar Lywodraeth Cymru: mae angen inni edrych ar adeiladu ein gallu i gyflawni prosiectau mawr, oherwydd yr hyn a ddatgelwyd yn hwn yw nad oes gan Lywodraeth Cymru mo'r sgiliau na'r profiad i wneud hynny ar hyn o bryd.
Roeddwn i'n meddwl bod ein Cadeirydd nodedig, mewn araith bwyllog a digyffro, wedi dangos gyda chywirdeb angheuol fethiant y Llywodraeth hon i gefnogi'r hyn a fyddai wedi bod yn brosiect ysbrydoledig a allai fod wedi trawsnewid de-ddwyrain Cymru gyfan. Pan ddechreuodd hyrwyddwyr Cylchffordd Cymru ar eu taith felancolaidd i gael cefnogaeth y Llywodraeth ar gyfer y prosiect hwn, nid wyf yn tybio eu bod wedi meddwl, yn y pen draw, mai hwy fyddai'r unig rai a fyddai'n cael tro o gwmpas y gylchffordd, a hwnnw’n dro trwstan, ond dyna'n union a ddigwyddodd. Mae'n hanes brawychus o fyopia gwleidyddol, anghymhwysedd gweinyddol, gochelgarwch a dauwynebogrwydd hyd yn oed. A chytunaf ag Adam Price yn yr hyn a ddywedodd, na allai adroddiad yr archwilydd cyffredinol, ac yn wir, adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod yn fwy damniol o Lywodraeth yn y ffordd y mae wedi ymdrin â hyn, neu unrhyw brosiect yn wir.
Roedd hyn yn mynd i sicrhau newid sylfaenol i'r Cymoedd gogleddol ac i dde Cymru yn ei gyfanrwydd, gan ddod â swm enfawr o arian y sector preifat—£410 miliwn—ar sail gwarant gyfyngedig gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi ymrwymo uchafswm o £8 miliwn y flwyddyn, am 30 mlynedd bosibl rhaid cyfaddef, rywbryd yn y dyfodol, ond gwarant a fyddai wedi'i diogelu ar asedau a fyddai, erbyn hynny, eisoes wedi cael eu hadeiladu. Felly, ni fyddai'n arian gwastraff; byddai rhywbeth i'w gael yn gyfnewid amdano. A chan dybio y byddai'r prosiect yn llwyddiannus, byddai'r Llywodraeth yn cael £3 miliwn y flwyddyn am ei gwarant. Felly, o ystyried bod y gwrthwynebiadau sydd wedi'u cynhyrchu gan y Llywodraeth ar wahanol gamau i gyd wedi bod yn wahanol eu hunain ac wedi cael rhywbeth yn y pen draw na fyddai neb wedi meddwl amdano ar y cychwyn hyd yn oed, ond a ddylai fod wedi bod yn hysbys mewn perthynas â dosbarthu dyled y sector preifat mor effeithiol ar fantolen y Llywodraeth am resymau sy'n parhau i fod yn aneglur, credaf fod hon yn stori warthus a ddylai fod yn destun ymddiheuriad mawr gan y Llywodraeth, er nad wyf yn siŵr y cawn unrhyw beth tebyg i hynny.
Nid oes amser i fanylu ar bob beirniadaeth a wnaed yn yr adroddiad hwn, ond gadewch inni edrych ar y £9.3 miliwn o gyllid prosiect a ddarparwyd, ar y cychwyn cyntaf, i sefydlu potensial datblygu'r prosiect hwn. Cefnogais y penderfyniad ar y sail fod hwn yn syniad gwerth ei gefnogi, ond ni fyddwn byth wedi cefnogi'r penderfyniad hwnnw pe bawn yn gwybod, yn y pen draw ac wedi dwy flynedd o waith ychwanegol a gwerth £50 miliwn o gostau datblygu a ysgwyddwyd gan hyrwyddwyr y sector preifat, fod y Llywodraeth yn mynd i roi diwedd ar y cynllun oherwydd dyfais gyfrifyddu yn llyfr rheolau'r Trysorlys. Roedd llyfr rheolau'r Trysorlys yno ar y dechrau. Os oedd posibilrwydd y byddai'r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel dyled Llywodraeth, ac yn amlwg, os na allai'r Llywodraeth ysgwyddo dyled bosibl o £400 miliwn, o ystyried y cyfyngiadau ar ei phwerau benthyca, dylai hynny fod ar y bwrdd o'r dechrau un. Nid ydym wedi cael unrhyw esboniad o hyd, hyd yn oed ar ôl hyn i gyd, pam na chafodd y ddyled sector preifat honno ei dosbarthu fel un a oedd ar lyfrau'r Llywodraeth.
Un peth na chawsom gan y prosiect hwn oedd unrhyw ddatganiad clir gan y Llywodraeth ynglŷn â pham y credent fod hwn yn brosiect nad oedd yn hyfyw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, mewn datganiadau amrywiol, wedi dweud nad oedd yn gwneud synnwyr o safbwynt masnachol, ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth yn deillio o'r broses diwydrwydd dyladwy a wnaed gan y Llywodraeth a allai ddangos hynny. Wrth gwrs mae'n brosiect hapfasnachol, mae'n brosiect sy'n dechrau o'r dechrau gyda safle moel, ond prosiect cyffrous a allai fod wedi trawsnewid Cymru gyfan, mewn gwirionedd, fel atyniad i dwristiaid a chyda'r parc modurol y gobeithiai'r datblygwyr ei ddenu ar sail y gylchffordd. Yn lle hynny, roedd y risgiau y cyfeiriais atynt yn awr yn ormod i'r Llywodraeth, ond yn y boced ôl, pan gafodd y cynllun ei lofruddio gan benderfyniad Cabinet—cawsant hyd i £100 miliwn yn y boced ôl o unman i adeiladu cyfres o siediau gwag heb unrhyw gwsmeriaid y gwyddys amdanynt ar eu cyfer. Nawr, mae hynny i'w weld yn baradocs rhyfeddol iawn—nad oeddent yn gallu derbyn £400 miliwn o arian preifat i adeiladu prosiect heb sail resymegol masnachol drosto, ond roeddent yn gallu dod o hyd i £100 miliwn o arian cyhoeddus i adeiladu rhywbeth nad oes unrhyw alw amdano, ar hyn o bryd o leiaf. Felly, dyfalu pur yw hynny.
Felly, credaf fod hon yn enghraifft warthus o gamreoli gan y Llywodraeth am yr holl resymau a nodwyd yn ogoneddus o amlwg, neu fel arall, yng nghwrs yr adroddiad. Ond am gyhuddiad ysgytiol yn erbyn y Llywodraeth—am hysbyseb echrydus i Gymru fel cartref posibl ar gyfer buddsoddiad sector preifat. Mae taer angen lleihau dibyniaeth Cymru ar y sector cyhoeddus a chael arian preifat i mewn, oherwydd mae angen inni gynyddu potensial creu cyfoeth yr economi i godi lefel incwm yn y wlad hon. Heb hynny, byddwn yn parhau â stori tlodi a dirywiad o dan Lywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan ymestyn yr hyn yr aethom drwyddo yn y 100 mlynedd diwethaf.
Mae'r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn tynnu sylw at ddiffygion sylweddol ac mewn rhai achosion, at benderfyniadau anesboniadwy ynghylch dull Llywodraeth Cymru o ariannu prosiect Cylchffordd Cymru. Croesawyd y prosiect yn eang, a rhoddai gyfle i adfywio un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i ystyried ymarferoldeb y syniad o Gylchffordd Cymru, ond yn eu hawydd i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth, gwnaeth swyddogion gamgymeriadau a hepgoriadau sylfaenol ac arfer crebwyll gwael.
Y ffaith amdani yw bod prosiect Cylchffordd Cymru wedi cael ei drefnu'n ofnadwy. Gwastraffwyd miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr, a chafodd pobl Blaenau Gwent eu gobeithion wedi'u codi yn gyntaf, ac yna'u chwalu gan y modd carbwl yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect hwn. Conglfaen unrhyw ddemocratiaeth effeithiol yw goruchwyliaeth weinidogol, ac eto, yn yr achos hwn, roedd ar goll. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi darlun o adran mewn anhrefn. I bob pwrpas, roedd swyddogion yn rhedeg y sioe ac yn gwneud penderfyniadau allweddol heb gymeradwyaeth weinidogol, ac ymhlith y camgymeriadau amlwg a wnaed gan y swyddogion, roedd y penderfyniad i gymeradwyo pryniant cwmni beiciau modur yn Lloegr. Prynwyd y cwmni, FTR, gydag arian a ddarparwyd gan grant datblygu eiddo Llywodraeth Cymru—grant y gellir ei ddefnyddio i ariannu pryniant tir ac eiddo gan y sector preifat i ysgogi datblygiad economaidd. Defnyddiodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd y grant o £300,000 i brynu FTR, sydd bellach wedi mynd i'r wal. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu egluro sut y cymeradwywyd y pryniant hwn pan nad oedd yr un o'r rhesymau a nodwyd yn cyd-fynd ag amcanion cymeradwy y cynllun grant datblygu eiddo. Yn wir, nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r penderfyniad hyd yn oed. Pan godwyd y mater gan yr Aelod Seneddol, cyhoeddwyd datganiad i'r wasg anghywir a chamarweiniol, yn dweud na ddefnyddiwyd unrhyw arian Llywodraeth Cymru i brynu FTR—datganiad i'r wasg a oedd yn tarddu o'r un tîm o swyddogion a oedd yn gyfrifol am gytuno'r gwariant cymwys ac awdurdodi taliad y cais am grant ar gyfer y caffaeliad.
Un enghraifft syfrdanol yw hon o'r nifer o bryderon a fynegwyd gan y pwyllgor ynghylch cadernid y broses o wneud penderfyniadau—pryderon am y seiliau rhesymegol ar gyfer gwahanol benderfyniadau a wnaed gan swyddogion, diffygion wrth gadw cofnodion a thystiolaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a oedd yn osgoilyd ym marn y pwyllgor. Mae hyn i gyd yn arwydd o adran allan o reolaeth. Rhaid cymryd camau effeithiol i sicrhau na all hyn ddigwydd eto.
Mae'r pwyllgor yn galw am lywodraethu a sianeli cyfathrebu mewnol cadarn ac effeithiol i warantu nad yw pethau o'r fath yn digwydd eto. Fodd bynnag, ymddengys bod yna ddiwylliant o wobrwyo methiannau. Yn hytrach na gweithredu clir a chadarn gan y Prif Weinidog, methodd roi unrhyw sicrwydd y byddai swyddogion y gwelwyd eu bod yn gyfrifol am fethiannau a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cosbi. Lywydd, mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi methu goruchwylio ei buddsoddiad arian cyhoeddus ym mhrosiect Cylchffordd Cymru. Maent wedi methu dangos gwerth am arian y buddsoddiad hwn. Wrth wneud hynny, maent wedi gwneud cam â phobl Blaenau Gwent, a cham mawr ar hynny; maent wedi gwneud cam â'r trethdalwr; maent wedi gwneud cam â Chymru. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i siarad—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn benodol, a gaf fi ddiolch i Nick Ramsay, Cadeirydd y pwyllgor, am roi cyfle i mi ymateb i'r argymhellion? Credaf ei bod yn deg dweud, er gwaethaf llawer iawn o ymdrech a gwaith ar bob ochr, nad oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gefnogi Cylchffordd Cymru gyda chyllid cyhoeddus. Gweithiasom yn anhygoel o galed gyda hyrwyddwyr y prosiect i gefnogi'r prosiect drwy gyfnod sylweddol o amser wrth inni lawn gydnabod yr effaith economaidd gadarnhaol bosibl a allai fod i brosiect cynaliadwy o'r math hwn mewn ardal ddifreintiedig. Roedd yn ymrwymiad mawr. Gall y pwyllgor a'r Aelodau yn y Siambr weld y gwaith a wnaeth y Llywodraeth ar archwilio ei hyfywedd. Fodd bynnag, roeddem bob amser yn glir fod angen i unrhyw gymorth a ddarperid gan y trethdalwr fod yn gymesur a theg. Er gwaethaf yr amser a'r cymorth a ddarparwyd, ni allodd hyrwyddwyr y prosiect ddarparu cynnig a oedd yn bodloni meini prawf penodol Llywodraeth Cymru, ac aseswyd bod cynnig terfynol y prosiect yn creu risg uchel iawn, gyda'r rhan fwyaf o'r risg, i bob pwrpas, yn cael ei hysgwyddo gan y Llywodraeth, ac felly gan y trethdalwr.
Aseswyd hefyd fod manteision honedig y prosiect, yn enwedig y swyddi a gâi eu creu, yn ansicr ar y gorau. Oherwydd yr holl ffactorau hyn a'r ffaith, er gwaethaf blynyddoedd o ymdrech, fod hyrwyddwyr y prosiect wedi methu llunio cynnig cadarn gyda chydbwysedd risg a gwobr priodol ar gyfer y trethdalwr, daeth y Cabinet i'r casgliad na allai ddarparu cymorth pellach. Yn gyffredinol, nid oedd fersiwn derfynol y prosiect yn cynrychioli gwerth da am arian i drethdalwyr Cymru.
Nawr, rydym wedi derbyn holl argymhellion y pwyllgor ar gyllid cychwynnol Cylchffordd Cymru, a gobeithio y gallaf ddangos i'r Cadeirydd heddiw fy mod yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'r argymhellion hynny. Fe nodaf nifer o'r argymhellion y mae'r Aelodau eisoes wedi'u crybwyll, a gobeithio y gallaf gynnig rhywfaint o sicrwydd pellach.
Yn gyntaf oll, tynnodd y Cadeirydd sylw at argymhelliad 6. Buaswn yn hapus i roi ffigurau gan y Llywodraeth y gwnaed cais amdanynt gan Gadeirydd y pwyllgor. O ran argymhelliad 13, gadewch imi ddweud ar goedd nad ydym yn agored o gwbl i bresenoldeb casino yn un o'r rhannau mwyaf difreintiedig o'r Deyrnas Unedig. Ceir nifer o hyrwyddwyr prosiectau, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae llawer o drafodaethau wedi digwydd—maent yn fasnachol gyfrinachol—ac nid cynnig Rocksteady yw'r unig gynnig sy'n cael ei ystyried.
Argymhelliad 3: nawr, mae darpariaeth y contract yn cyd-fynd ag arferion masnachol cyffredin, er y bydd swyddogion yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi i gyngor cyfreithiol gael ei ddarparu a'n bod yn gallu canfod beth yw sefyllfa'r cyfrif ysgrow. Rydym eisoes wedi cydnabod bod gwersi i'w dysgu o elfennau'r ffordd yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â'r prosiect, mae hynny'n sicr, ac rydym wedi sefydlu prosesau newydd i fynd i'r afael â'r materion hynny.
Rydym yn derbyn yr angen i gryfhau ein mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus. Rhaid i gamau gweithredu fod yn gymesur â'r risg sydd ynghlwm wrth y peth, yn ogystal â bod wedi'u dogfennu'n glir. Er enghraifft, rydym eisoes wedi gweithredu newidiadau i broses ymgeisio am y grant cyllid busnes. Rhaid i ymgeiswyr—mae'n rhaid iddynt bellach—egluro a yw cyllid Llywodraeth Cymru i gael ei dalu i gwmnïau cysylltiedig am nwyddau neu wasanaethau. Mae ymarfer ar y gweill hefyd i ystyried ein mesurau rheoli ar gyfer sicrhau gwerth am arian yn fwy manwl, a rhoddir ystyriaeth i'r prosesau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod prosiectau cymhleth yn dangos gwerth am arian lle y caiff gweithgareddau eu caffael. Rhaid nodi y bydd prosesau diwydrwydd dyladwy priodol yn cael eu cyflawni ar unrhyw gwmnïau cysylltiedig a nodwyd yn y cam ymgeisio. A chyda lansio cronfa dyfodol yr economi newydd, adnewyddwyd yr holl ganllawiau ar gyfer swyddogion, a diweddarwyd y canllawiau risg. Hefyd rydym wedi diweddaru ein canllawiau mewnol i sicrhau y cynhwysir yr holl wybodaeth berthnasol y gellid ei hystyried yn newydd, yn ddadleuol neu'n arwyddocaol mewn cyngor gweinidogol a ddarparwyd yn rhan o'r broses gymeradwyo. Rydym hefyd yn derbyn y gellid bod wedi gwneud rhagor o waith ar gam arfarnu'r prosiect cyn cynnwys pryniant FTR o fewn costau cymwys y grant datblygu eiddo. Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, bydd pryniant FTR yn cael ei ddatblygu'n astudiaeth achos i'w defnyddio mewn sesiynau hyfforddi mewnol.
Nawr, nodir canllawiau ar bwysoli risg prosiectau o'r math hwn yn llawlyfr Eurostat ar ddiffygion a dyledion llywodraeth a gynhyrchir gan Drysorlys ei Mawrhydi a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Nawr, rwy'n cydnabod y byddai'n werth i'r canllawiau hyn gael eu gwneud yn gliriach. Felly, i'r perwyl hwnnw, byddwn yn ymgysylltu ag eraill yn y DU a chyda'r ystadegwyr i bwyso arnynt i egluro a symleiddio'r rheolau dosbarthu. Mae'n eglur mai'r ystadegwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat sy'n gwneud penderfyniadau ffurfiol ar ddosbarthiad. Mae proses y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn un a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus ar sawl achlysur, pan fo Gweinidogion am fwrw ymlaen â ffordd benodol o weithredu. Er fy mod yn credu bod ein prosesau mewnol yn gadarn, rwy'n cydnabod y gellid gwella'r prosesau hyn. Rwyf hefyd yn cydnabod na wnaed y defnydd gorau o'r berthynas rhwng swyddogion yng Nghymru a'u cymheiriaid datganoledig ac yn Llywodraeth y DU. Rwy'n hapus i ymrwymo i gamau a fydd yn egluro'r berthynas waith a'r prosesau hynny'n well.
Ddirprwy Lywydd, rhybuddiodd Nick Ramsay yn ystod ei gyfraniad fod yna berygl i dorri corneli pan fo brwdfrydedd gwleidyddion ynglŷn â rhai prosiectau yn tyfu'n ormodol. Mae rhai gwleidyddion yn parhau i fod yn rhyfeddol o gefnogol i'r cynnig a gafodd ei wrthod yn anffodus. Ond os caf ddweud un peth i orffen am brosiectau mawr a ddarparwyd yng Nghymru: achub maes awyr Caerdydd; dyfodiad CAF; Aston Martin Lagonda; yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, gyda chyfraniad o £4 biliwn at yr economi leol; y fasnachfraint reilffordd newydd sy'n werth £5 biliwn, a ganmolwyd ledled y DU; y clwstwr o led-ddargludyddion cyfansawdd; Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru—mae pob un o'r rhain yn brosiectau enfawr a gyflawnir gan y Llywodraeth hon.
Diolch. A gaf fi alw ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl heddiw?
Os caf gyfeirio at rai o'r cyfraniadau—yn gyntaf, Adam Price. Adam, fe nodoch fod proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn wael, a dangoswyd hynny gan yr hyn a welsom yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth edrych ar y dystiolaeth o broses Cylchffordd Cymru a'r problemau. Ac rydych yn iawn: rhaid inni ddod allan o'r llanastr hwn. Credaf mai dyna'r brif neges a ddaw gan y pwyllgor. Rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, fel sy'n cael ei ddweud yn aml, ac mae angen edrych yn awr i'r dyfodol a gwneud yn siŵr fod y problemau sydd wedi digwydd yn y gorffennol—y camgymeriadau, os ydych am eu galw'n hynny, sydd wedi digwydd yn y gorffennol ar sawl lefel wahanol—yn cael eu hunioni fel na chaiff yr un camgymeriadau eu hailadrodd os ceir prosiect o'r math hwn eto yn y dyfodol. Fe ddefnyddioch chi'r ymadrodd, 'tirwedd o freuddwydion briw', a rhaid inni beidio ag anghofio ar ddiwedd hyn i gyd fod yna ardal o Gymru sy'n ddifreintiedig iawn, ac angen ei hadfywio, lle mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru roi gobaith ar gyfer y dyfodol, ar gyfer adfywio, ar gyfer ailddatblygu, ac roeddent yn disgwyl i'r prosiect hwn fod yn ffordd o godi eu hunain allan o'r problemau y maent ynddynt ac y maent wedi bod ynddynt ers amser hir iawn. Ac ni allwch ond deall bod y bobl hynny'n teimlo bod cyfle wedi'i gipio oddi wrthynt ar ôl y fath ddisgwyl hir pan oeddent yn meddwl y byddai'r prosiect hwnnw'n mynd rhagddo.
Neil Hamilton, fe ddisgrifioch chi brosiect Cylchffordd Cymru fel un ysbrydoledig ac fe sonioch chi am anghymhwysedd syfrdanol ar hyd y llwybr a gymerwyd. Fel y dywedoch, gallai Cylchffordd Cymru fod wedi newid pethau'n sylfaenol, ac rydych chi'n iawn, ni allai'r pwyllgor ddirnad pam y rhoddwyd y prosiect o'r neilltu yn y pen draw, pam y cafodd ei ddirwyn i ben yn y pen draw, o ganlyniad i ddyfais gyfrifyddu yn llyfr rheolau'r Trysorlys. Ac fel y dywedoch chi, wrth gwrs, nid oedd y ddyfais gyfrifyddu'n ychwanegiad newydd i lyfr rheolau'r Trysorlys. Roedd wedi bod yno o ddiwrnod cyntaf y prosiect hwn, o gamau cyntaf y prosiect hwn. Felly, ni allem ddeall—a chredaf ar ddiwedd ein trafodaethau na allai'r pwyllgor ddeall—pam na chrybwyllwyd y ddyfais gyfrifyddu yn llawer cynharach fel rheswm dros beidio â bwrw ymlaen gyda'r prosiect, fel rheswm dros fynd at y datblygwyr a dweud, 'Edrychwch, mae hyn yn rhywbeth na all Llywodraeth Cymru ei fforddio.' Ni allem ddeall hynny. Nid oedd diwydrwydd dyladwy, a gafodd ei gyflawni, i'w weld ar y diwedd yn rhan o'r broses benderfynu derfynol. Felly, mae'n peri i ni ofyn: 'Pam y gwnaethoch chi'r diwydrwydd dyladwy?' Wel, wrth gwrs, rhaid ichi wneud y diwydrwydd dyladwy; mae hynny i gyd yn rhan o roi caniatâd i brosiect. Felly, mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le yn yr achos hwnnw.
Mohammad Asghar, fe gyfeirioch chi at broses wneud penderfyniadau 'anesboniadwy'—a dyna'r term sy'n ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwyddo draw—a arweiniodd at wastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac roedd hi'n ymddangos, o'n safbwynt ni, fod yna ddiffyg goruchwyliaeth weinidogol neu ddiffyg trywydd papur fan lleiaf i benderfynu a oedd goruchwyliaeth weinidogol ai peidio ac yn fy marn i, dyna oedd un o'r pethau a berai fwyaf o bryder o'r cyfan. Ni allem weld a oedd—nid chi, nid y Gweinidog presennol; y Gweinidog blaenorol a oedd ynghlwm wrth hyn. Ni allem benderfynu a oedd hi wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ariannu rhan FTR y cynllun ai peidio. Ni chafwyd trywydd papur. Am swm o £300,000, ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol. Efallai fod yna gytundeb ar lafar, ond ni all hynny fod yn ddigon. Fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rhaid inni allu dangos, pan fydd prosiectau ac arian yn cael eu cymeradwyo, fod yna reswm dilys dros wneud hynny. Felly, roedd hynny'n amlwg yn rhan wael o'r broses hon.
Yn olaf, a gaf fi groesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet? Gwnaethoch nifer o bwyntiau da iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y materion a nodais a'r materion y mae Aelodau eraill wedi'u crybwyll ac a nodwyd gan yr adroddiad, a'ch bod yn bwriadu unioni rhai o'r rhain—yr holl bethau hyn. A gadewch i ni fod yn glir, mae rhai o'r Aelodau yma wedi bod yn llafar iawn eu cefnogaeth i Cylchffordd Cymru ers amser maith ac yn parhau i fod. Nid yw rhai Aelodau wedi bod yn hoff o'r prosiect o gam cynnar iawn. Nid dyna oedd diben y pwyllgor. Nid oeddem yn edrych ar hyn er mwyn dweud a oedd hwn yn benderfyniad polisi cywir gan Lywodraeth Cymru ai peidio. Rydym yno i ddweud, ar hyd y ffordd, wrth wneud penderfyniadau a phan gâi arian ei ryddhau, fod hynny wedi'i wneud am y rhesymau cywir. Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud na allai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddweud bod gwerth am arian wedi'i gyflawni wrth wario arian ar y prosiect hwn mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym yn gobeithio o ddifrif, yn y dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru'n dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yma. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod y gwersi hynny wedi'u dysgu. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi'u dysgu'n gyfan gwbl eto. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd y gwersi wedi'u dysgu ac na fydd cadeirydd cyfrifon cyhoeddus yn sefyll yma yn y dyfodol, yn dweud am brosiect yn y dyfodol, 'Onid yw'n drueni na ddysgwyd y gwersi hyn?' Mae angen inni wneud hyn ar gyfer Cylchffordd Cymru. Gadewch i ni unioni hyn a gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, nad yw'r camgymeriadau hyn yn cael eu gwneud.
Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.