Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch i chi am hynny. Gallaf gadarnhau bod y bwrdd cenedlaethol eisoes wedi cyfarfod, a'i rôl yw goruchwylio'r cynnydd ar gyflawni 'Cymru Iachach', yn hytrach na darparu, i bob pwrpas, ail gwrs gwneud penderfyniadau ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol unigol i gytuno ar gynigion y maent eisiau eu gwneud ar gyfer trawsnewid. Fy swyddogion i fydd yn edrych ar y cynigion hynny o hyd, ac yna yn fy nghynghori a ddylwn gytuno i ariannu'r cynigon a wneir ai peidio. Y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod wedi cyhoeddi canllawiau yn barod, gydag eglurhad ynglŷn â'r meini prawf sydd i'w diwallu gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddarparu'r prosiectau trawsnewidiol hynny. A'r rhai rydym wedi eu hamlygu yw bod yn rhaid iddynt fod yn wirioneddol drawsnewidiol—felly'n gwneud mwy nag ailddiffinio gwasanaeth cyfredol, sy'n bodoli'n barod—a bod â'r potensial hefyd i gyflawni ar raddfa fawr, oherwydd rwy'n edrych am drawsnewid gwirioneddol ar draws y system ac nid am gyfres o brosiectau micro sy'n ymwneud ag amgylchiadau mwy lleol ac arweinyddiaeth leol iawn. Rwy'n edrych am faint go iawn a'r gallu i dyfu yn yr hyn sydd gennym.
Rwy'n bwriadu mesur ein llwyddiant drwy broses o atebolrwydd. Mae gennym gronfa sy'n edrych i weld a ydym wedi trawsnewid ein sefyllfa mewn gwirionedd, a ydym yn cyflawni'r penawdau ac yn cyrraedd y targedau, y 40 o dargedau gwahanol sydd gennym yn 'Cymru Iachach' dros y cyfnod cychwynnol o dair blynedd. A gwn y byddwn yn cael ein barnu ar hynny. Bydd prosesau craffu yma, bydd cyfleoedd rheolaidd i ofyn cwestiynau i mi. Ond rhan o'r her, er mwyn i bob un o'r cynigion hynny drawsnewid y gwasanaeth, yw bod yn rhaid i mi fod yn barod, hyd yn oed gyda'r cyngor gorau a'r cynllun gwasanaeth gorau, gyda phobl o fewn y maes iechyd a'r maes gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, ei bod hi'n bosibl na fydd pob un ohonynt yn llwyddo neu na fydd pob un yn llwyddo i gyflawni'r holl nodau ac amcanion a osodir yn erbyn pob cais a ddaw i law. Mae'n bwysig fy mod yn derbyn hynny o'r cychwyn cyntaf, oherwydd fel arall ni fyddwn yn gweld arloesedd go iawn ac ni fyddwn yn gweld dull trawsnewidiol go iawn o ailstrwythuro ein gwasanaethau i oresgyn heriau'r dyfodol.
Felly, ar gyfer pob cais, fe welwch yr hyn y mae'n ei gwmpasu, fe welwch y sail dros wneud fy mhenderfyniad ac fe welwch rywbeth am amserlen i weld a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.