Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 19 Medi 2018.
Felly, o ystyried yr hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â'r rôl rydych yn credu y bydd y byrddau rhanbarthol yn ei chwarae, a allwch chi egluro sut y mae hynny'n cysylltu â'r bwrdd trawsnewid cenedlaethol? Ai'r bwrdd hwn fydd yn gyfrifol am drawsnewid y gwasanaeth iechyd gwladol yn y pen draw? Ac fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae ailstrwythuro prosesau busnes yn sgìl hynod ddiffiniedig ac mae'n cymryd llawer o brofiad i'w wneud yn llwyddiannus, yn enwedig mewn sefydliad mor fawr â'r GIG—a chofiwch, pan gyfeiriaf at y GIG, fy mod yn cyfeirio at y GIG a gofal cymdeithasol, oherwydd mae'r ddau'n rhan annatod o'i gilydd. Felly, hoffwn ddeall pa adnoddau ychwanegol y gallech fod yn eu rhoi ar waith i gefnogi'r bwrdd cenedlaethol a'r byrddau partneriaeth rhanbarthol o ran pobl sydd â sgiliau ailstrwythuro prosesau busnes trawsnewidiol. A phryd y byddwch yn mesur—neu sut y byddwch yn rhoi cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol ar waith fel y cawn wybod pa mor dda y maent yn ei wneud a pha amserlenni y maent yn eu dilyn?