– Senedd Cymru am 6:16 pm ar 19 Medi 2018.
Os ydych yn gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n dawel, os gwelwch yn dda, ac yn gyflym?
Rydym yn symud yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Jack Sargeant i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle hwn i gyflwyno fy nadl fer gyntaf yn y Senedd ar wella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig. Rwy'n falch iawn heddiw hefyd i roi munud o fy amser i gyd-Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Adam Price, Julie Morgan a Darren Millar.
Deuthum i'r Cynulliad hwn ar yr adeg anoddaf yn fy mywyd i a bywyd fy nheulu, ac i lawer ohonom mae'n dal i fod yn amser anoddaf ein bywydau. Bryd hynny, addewais i fy etholwyr, pobl y Blaid Lafur ac yn wir, i bobl ledled Cymru y buaswn yn chwarae fy rhan i sicrhau gwleidyddiaeth fwy caredig a hefyd yn adeiladu ar waddol fy nhad. Roedd yn ymgorffori gwleidyddiaeth fwy caredig, gyda'i allu a'i barodrwydd i weithredu ac i ymdrechu bob amser i weithio'n drawsbleidiol. Byddai'n tynnu sylw at fwlio pan fyddai'n dod ar ei draws a bob amser yn cynorthwyo pobl i ddod drwy eu hanawsterau. Rwy'n bwriadu gwneud yr un peth: adeiladu gwleidyddiaeth fwy caredig, nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ei hun, ond caredigrwydd mewn bywyd yn gyffredinol.
Byddwn yn brifo pobl ar adegau, am mai dyna yw bywyd. Fodd bynnag, ni ddylem wneud hynny'n fwriadol byth, a dylem oll fod yn ymwybodol fod angen i ni fod yn fwy caredig wrth ein gilydd. I gyflawni hynny, mae angen newid diwylliant yn sylfaenol: newid yn niwylliant ein gwleidyddiaeth i'w gwneud yn fwy hygyrch i'r bobl a gynrychiolwn, trin ein gilydd gyda pharch, waeth beth yw ein safbwyntiau a gwrando ar syniadau a gweithio ar draws rhaniadau pleidiol er lles y wlad, am mai dyna y mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig.
Credaf fod y ddadl hon yn un amserol gyda phenawdau newyddion diweddar ac ystadegau'n dangos cynnydd mewn troseddau casineb, gwleidyddion yn cael negeseuon casineb ar-lein ac anesmwythyd cyhoeddus ar gynnydd. Mae cynnydd enfawr yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol, a heriau cymdeithasol a gwleidyddol oll yn ffactorau sy'n egluro pam y mae ein gwleidyddiaeth fodern wedi dod yn un amrywiol a llwythol. Er gwaethaf yr holl gynnydd a wnaed gennym fel gwlad, mae Cymru'n rhan o'r DU sy'n wynebu llawer o raniadau, nid yn unig materion yn ymwneud ag 'aros' neu 'adael' yr UE, ond rhwng yr ifanc a'r hen, y gogledd a'r de, y cyfoethog a'r tlawd, y trefol a'r gwledig. Mae llawer o bobl yn disgwyl i fy mhlaid arwain y ffordd a gwella'r rhaniadau hyn, ond mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i chwarae ein rhan ein hunain ac arwain y newid sydd ei angen arnom.
Mae'r genhedlaeth nesaf o bobl ledled Cymru yn disgwyl inni weithredu er eu budd. Yn Oriel y Senedd mae yna fwrdd arddangos gyda phethau y mae pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu gweld, ac yn fy araith gyntaf yn y Senedd dywedais fy mod yn gobeithio, fel cynrychiolydd cenhedlaeth newydd yn y Cynulliad hwn, y gallwn wneud rhywbeth i adeiladu gwleidyddiaeth well a mwy caredig i bawb ar gyfer y dyfodol. Ac mae hyn yn golygu annog mwy o'r genhedlaeth iau i gymryd rhan—cenhedlaeth y dyfodol gyda syniadau ffres—yn y lle hwn ac mewn sefydliadau gwleidyddol eraill.
Ddoe, cefais gyfle i ddarllen drwy rai o'r syniadau hyn ar y bwrdd yn yr Oriel ac rwy'n pwysleisio y dylai llawer o bobl ar draws y Siambr hon fynd i edrych drostynt eu hunain, oherwydd nid oeddwn yn synnu gweld bod cynifer o blant a phobl ifanc yn cyfeirio at yr angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar fwlio mewn ysgolion. Wrth gwrs, bydd yn cymryd amser, ond gyda'r arweinyddiaeth gywir, gallwn sicrhau, o fewn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, ein bod yn arwain y ffordd tuag at roi terfyn ar fwlio yn ein rhengoedd. Rwy'n credu'n gryf fod arweinyddiaeth yn ymwneud â gwrando, ac i fy mhlaid i, mae'n ymwneud â gwrando ar bobl Cymru ac estyn allan at ein haelodau newydd a'r aelodau presennol, a chefnogwyr y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chynnwys pobl yn ein dadleuon ar bolisi a gwneud penderfyniadau.
Mae'r cyhoedd yn disgwyl i'n pleidiau gwleidyddol, yn aml heb lawer o ffydd, i arwain drwy esiampl, ond maent hefyd yn disgwyl i ni fel unigolion weithredu, ac nid yw'n ddigon da inni sylwi ar yr angen am garedigrwydd yn ein gwrthwynebwyr gwleidyddol; rhaid inni edrych arnom ni ein hunain hefyd. Er mwyn i ddemocratiaeth fod yn effeithiol, rhaid i'r pleidiau allu gweithredu, fan lleiaf. Mae agweddau ymffrwydrol a brwydro mewnol oll yn effeithiau a welir mewn pleidiau o bob lliw, ac yn y pen draw, mae natur lwythol gyfredol gwleidyddiaeth y DU yn creu risg na fydd modd mwyach i ASau ac ACau uno'r bobl ar gyrion pellaf y gymdeithas.
Gwaith y Llywodraeth yw cymryd y dicter a'r rhwystredigaeth y mae cynifer o grwpiau ar draws y DU ac ar draws Cymru yn ei deimlo am eu dyfodol a throi'r dicter a'r rhwystredigaeth yn weithgarwch a llwyddiant. Mae llywodraethu yn ymwneud â gwella'r rhaniadau a chyfuno'r gorau o'r holl ddelfrydau hyn, nid yn unig rhai prif ffrwd, ond y rhai sy'n cyffroi fwyaf o emosiynau. O'n rhaniadau gwleidyddol, gwyddom fod cynnydd mawr wedi bod mewn troseddau casineb, a'r gwir cas yw bod hil, ethnigrwydd, crefydd, rhyw, statws anabledd a'r holl gategorïau cysylltiedig yn parhau i benderfynu beth fydd cyfleoedd bywyd a lles pobl ym Mhrydain mewn ffyrdd sy'n gwbl annerbyniol.
Nawr, bydd rhai yn dadlau nad yw gwleidyddiaeth fwy caredig yn bosibl, ond ni fydd gwleidyddiaeth fwy caredig yn bosibl heblaw bod mwy o'r rhai sy'n mynd i elwa yn gallu pleidleisio, er enghraifft. Dylai gwleidyddiaeth lenwi'r gofod lle mae'r frwydr rhwng syniadau yn caniatáu inni drafod rhwng gwahanol safbwyntiau gwleidyddol, ac rydym wedi gweld, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y cynnydd yng ngwleidyddiaeth hunaniaeth fel ateb gor-syml i broblemau cymhleth, ond mae mwy i'w gynnig ac mae'n bwysig dechrau ffurfio prosiectau gwleidyddol newydd sy'n cystadlu. Mae dychwelyd at wleidyddiaeth garedicach hefyd yn golygu'r posibilrwydd o gynnig dewisiadau polisi amgen sy'n fwy hyfyw i bobl i ddewis o'u plith, yn seiliedig ar degwch a dadansoddi cymdeithasol a ffeithiol. Mae'r llwybr at wleidyddiaeth fwy caredig hefyd yn golygu cael gwared ar y siambr atsain a'r diffyg cysylltiad rhwng y cyhoedd ac aelodau etholedig. A'r hyn fydd yn digwydd ar ddwy ochr y Siambr, a phob ochr i'r Siambr, boed yn y cyfryngau, yn y Senedd a'r Cynulliad ac mewn fforymau cyhoeddus, fydd creu siambr atsain, ac ni fyddwn yn gweld syniadau go iawn yn cael eu cyfnewid mwyach, ond yn hytrach, fe welwn galedu meddylfryd sydd wedi ymffurfio'n barod—meddylfryd y swigen. Un canlyniad i hyn yw y gall safbwyntiau eithafol ffynnu'n haws nag o'r blaen. Mae rhyngweithio personol wedi troi'n ryngweithio rhithiol bellach ac mae hynny wedi caniatáu radicaleiddio a'r perygl o radicaleiddio yng nghywair trafod, gyda'r newyddion a dadleuon ar rwydweithiau cymdeithasol yn troi'n gas.
Er mwyn i wleidyddiaeth weithio ar ei gorau mae angen cyfaddawd hefyd, ac mae cyfaddawd yn ffurf ar garedigrwydd. Mae'n golygu parchu eraill er mwyn ystyried eu barn o ddifrif. Weithiau mewn gwleidyddiaeth rydym yn cytuno i bethau nad ydynt o reidrwydd o fudd inni ond oherwydd mai dyna'r peth cywir i'w wneud, ac mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n angharedig i geisio ailfframio neu ailddiffinio'r cyfaddawd hwnnw. Mae'n ymddangos na all rhai, gan gynnwys y pwerus yn ein heconomi ar draws y DU ac mewn bywyd gwleidyddol, ddychmygu bod caredigrwydd yn gweithio fel strategaeth wleidyddol. Mae llawer yn gweld caredigrwydd fel gwendid. Mae'n nodwedd cymeriad sy'n cael ei hosgoi a'i gwawdio. Wel, nid wyf yn cytuno â hynny, ac nid wyf am ildio i'r rhai sy'n awgrymu nad yw newid diwylliant, gwleidyddiaeth fwy caredig a charedigrwydd mewn bywyd yn bosibl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Yn y 1960au, dadleuai'r awdur Americanaidd James Baldwin o blaid gwleidyddiaeth newydd yn seiliedig ar gariad. Roedd yn alwad ddewr ar adeg pan oedd ymgyrchwyr rhyddid yn llythrennol yn cael eu lladd mewn gwaed oer a chynddaredd eirias. Ysgrifennodd Hannah Arendt lythyr at Baldwin yn ymateb gan ddadlau bod yn rhaid i wleidyddiaeth a chariad fod yn ddieithriaid. Gwelai ynddo lwybr llithrig tuag at sentimentaliaeth a dileu rheswm. Pan fyddwch yn gadael y drws yn gilagored i gariad, dadleuodd, byddwch hefyd yn ei adael yn agored i'w wrthwyneb, sef casineb, ac roedd hi wedi cael profiad enbyd iawn o hwnnw, wrth gwrs, yn yr Almaen Natsïaidd. Roedd Baldwin—dyn du a hoyw—yn anghytuno:
Mae cariad yn diosg y mygydau yr ofnwn na allwn fyw hebddynt ac y gwyddom na allwn fyw o'u mewn.
Mae caru'n gilydd yn golygu bod yn rhaid inni fod yn ni'n hunain yn gyfan gwbl ac yn agored, a deall bod yn rhaid i ni ddysgu gwrando er mwyn i ni gael ein clywed. Nid gwendid yw caredigrwydd. Mae'n fath gwahanol o gryfder, a'r hyn a ddisgrifiodd Baldwin fel yr ymdeimlad cadarn a chynhwysol o ymgyrch a her a thwf, ac yn yr ysbryd hwnnw rwy'n falch o gefnogi'r alwad am fath newydd o wleidyddiaeth lle mae cariad yn ysgogiad, yn ddelfryd, yn rhinwedd ac yn nod cyffredin i ni.
Diolch yn fawr iawn ichi am roi cyfle imi ddweud ychydig eiriau yn y ddadl bwysig iawn hon. Hoffwn longyfarch Jack Sargeant am gyflwyno'r pwnc, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwnc anodd a chredaf ei fod yn dangos dewrder yn ei gyflwyno. Credaf fod arnom angen gwleidyddiaeth fwy caredig—gwleidyddiaeth o gyd-barch—a chredaf yn yr amser byr y mae wedi bod yma fod Jack wedi cyfrannu at y cyd-barch hwnnw.
Cyn imi ddod yma fel Aelod Cynulliad, fel eraill yn y Siambr hon, roeddwn yn aelod o Dŷ'r Cyffredin, a phan ddeuthum yma roedd i'w gweld yn Siambr fwy cydsyniol. Roedd hi'n ymddangos bod pobl yn chwilio i weld lle roeddent yn cytuno yn ogystal â lle roeddent yn anghytuno, ac roeddwn yn teimlo bod llawer o gyd-barch. Ond teimlaf fod hynny wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, a theimlaf, fel y dywedodd Jack, nad ydym ni yn y Siambr wedi bod yn esiamplau da iawn i'r cyhoedd bob amser yn ddiweddar, a chredaf fod mwy o wrthdaro bellach. Mae mwy o weiddi wedi bod a cheir llai o oddefgarwch tuag at ein gilydd fel unigolion.
Hoffwn gefnogi'r ddadl hon yn gadarn iawn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bosibl arddel safbwyntiau angerddol, a choleddu barn wahanol iawn, a dal i barchu ein gilydd, a chredaf y dylem wneud hynny yn y Siambr hon. Rwy'n credu bod dadl Jack heddiw yn tynnu sylw at hynny, a hoffwn roi fy nghefnogaeth lawnaf iddi.
Rwyf finnau hefyd, Lywydd, yn awyddus i godi i gefnogi galwadau Jack am wleidyddiaeth fwy caredig yma yng Nghymru, gwleidyddiaeth sy'n parchu urddas pob bod dynol. Wedi'r cyfan, rydym oll yn gyfartal, rydym oll wedi ein creu ar ddelw Duw, ac mae gan bawb ohonom hawl, rwy'n credu, i gael ein clywed. Rydym yn anghofio weithiau, rwy'n meddwl, ac yn colli ein hunain yn theatr Siambr y Cynulliad. Fi fyddai'r cyntaf i gydnabod weithiau, pan fo'r angerdd ar ei fwyaf dwys, ein bod yn dweud pethau y byddem yn hoffi eu stwffio'n ôl i lawr ein gyddfau. Ond un peth sy'n sicr yw bod llawer iawn o undod, ac yn fy 11 mlynedd yn Siambr y Cynulliad hwn, buaswn yn cytuno â barn Julie Morgan fod yna lawer mwy sy'n ein huno nag sy'n ein rhannu, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni fod yn bobl sy'n anghytuno'n dda, fel y gallwn o leiaf werthfawrogi safbwynt y rhai rydym yn anghytuno â hwy hyd yn oed os nad ydym yn rhannu'r un farn.
Credaf yn sicr nad yw galwad Jack wedi syrthio ar glustiau byddar o'm rhan i, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pob un ohonom yn gwneud ein gorau yn y Siambr hon a'r tu allan i'r Siambr hon, i wneud yn siŵr fod yma barch, fod caredigrwydd bob amser yn cael ei ddangos yn y geiriau a rannwn ac yn ein gweithredoedd tuag at bobl eraill. Felly, llongyfarchiadau i chi, Jack. Rwy'n cefnogi eich galwadau'n llawn, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ar fy meinciau wrth ddweud hynny.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn hynod o ddiolchgar i Jack am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd wrth gwrs, fe all ac fe ddylai Cymru arwain y ffordd yn hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy amrywiol. Wrth gwrs, dylai ansawdd y drafodaeth yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill mewn bywyd cyhoeddus osod y cywair ar gyfer dadleuon cyhoeddus yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn credu, Ddirprwy Lywydd, fod lefel y ddadl yn y Siambr wedi newid yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy'n gresynu at hynny.
Ni chlywais y ddadl rhwng fy nghyd-Aelod Kirsty Williams a Darren Millar yn gynharach, ond hoffwn ddweud rhywbeth sydd wedi fy nharo'n fawr yma—gallwn gael anghytundeb egnïol iawn yn aml, trafodaeth fywiog, dadl fywiog, ac mae Darren a minnau wedi cyfnewid safbwyntiau egnïol ac angerddol ar wahanol ochrau'r sbectrwm, ond yr hyn nad yw'r cyhoedd yn ei weld yw ein bod yn gyfeillgar iawn tu allan mewn gwirionedd, fod gennym lawer mwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu. Pe baech am ei ddangos fel canran, rydym yn cytuno ar lawer iawn—rydym yn dadlau am swm bach iawn o wahaniaeth. Mae pawb ohonom yma am yr un rheswm mewn gwirionedd: mae pawb ohonom yma oherwydd ein bod am wneud Cymru yn lle gwell i etholwyr ac i bawb ohonom, ac mae gennym fap llwybr gwahanol i gyrraedd yno, ond mae pawb ohonom yn ymdrechu i gyrraedd yr un man. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl yn ei wneud yw amlygu hynny.
Mor aml mewn bywyd cyhoeddus, mae'n cael ei ystyried yn waith gwrthwynebol, ond mae pawb ohonom yn gwybod bod llawer o'r hyn a wnawn yma'n gydsyniol mewn gwirionedd, ein bod yn dadlau am ddarnau bach o fanylion ffeithiol a phwyslais gwahanol, ond mewn gwirionedd, i raddau helaeth rydym yn cytuno. Fel arall, ni fyddem yn gallu pasio deddfwriaeth. Rydym yn aml yn symud i'r un cyfeiriad, ond efallai fod gennym lwybr ychydig yn wahanol. Os ydych am ddefnyddio'r gyfatebiaeth â mapiau Google: efallai y bydd eich amser cyrraedd ddau funud yn arafach os ewch ar hyd y llwybr hwn, ond rydym yn ceisio cyrraedd yr un lle.
Mewn gwirionedd, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem sôn mwy amdano. Er enghraifft, wrth annog menywod ifanc i ddod i mewn i wleidyddiaeth, mae'n aml yn syndod iddynt ein bod yn cyd-fynd yn dda iawn, a bod pawb ohonom ar draws y pleidiau yn cyd-fynd yn dda y tu allan i'r Siambr, fel ein bod yn aml yn cael trafodaeth, oherwydd yr hyn a welant, wrth gwrs, yw dadl fywiog i mewn yma. Maent yn rhagdybio bod hynny'n lledaenu i'r pwyllgorau ac ati, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw pobl yn gwylio'r pwyllgorau i'r fath raddau. Nid ydynt yn gweld y gweithio caled cydsyniol a'r gwaith manwl sy'n digwydd ynddynt. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud yn siŵr fod pobl yn gweld y rhan honno o'r gwaith cydsyniol—i ddyfynnu dyfyniad Jo Cox a ddefnyddiodd Darren, mae gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu.
Weithiau mae'n cymryd gweithred erchyll fel marwolaeth Jo Cox AS i greu ton o emosiwn o'r fath. Gwnaed argraff fawr arnaf, ar ôl i Jo farw, gan y modd y siaradai'r cyfryngau, am ennyd, am wleidyddion fel gweision cyhoeddus, fel y gwyddom sy'n wir, a'r ddeuoliaeth ofnadwy sy'n wynebu pawb ohonom lle caiff gwleidydd lleol ei edmygu'n fawr yn lleol, ond mewn gwirionedd, ni chaiff gwleidyddion yn gyffredinol eu hedmygu. Cafwyd ymchwydd bach, oni chafwyd, pan oedd pobl yn deall yr holl waith hwnnw, ac yna aethom yn ôl at y miri beunyddiol. Ond rwy'n credu y dylai'r ymddygiad cadarnhaol a modelau rôl fod yn rhywbeth rydym yn ei ddathlu mewn gwirionedd, a phan fyddwn yn siarad â'r bobl ifanc yn ein senedd ieuenctid, er enghraifft, a thynnodd Jack sylw at hyn, dylem sicrhau eu bod yn adeiladu'r math hwnnw o gonsensws, oherwydd fe wyddoch ein bod i gyd yn cyflawni mwy pan fyddwn yn adeiladu'r consensws hwnnw, ac rydym yn aml yn ceisio mynd i'r un cyfeiriad.
Credaf fod yna nifer o bethau sydd angen inni eu hystyried o ddifrif yn y Siambr hon hefyd. Mae yna bethau y gallem eu gwneud, y gallai'r Comisiwn eu gwneud ac y gallai pawb ohonom eu gwneud, pethau fel interniaethau—interniaethau cyflogedig, interniaethau priodol—sy'n annog pobl nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cynrychioli yn y Siambr i fod yma. Felly, gellid cynnig interniaethau penodol ar gyfer pobl ag anableddau, er enghraifft, neu bobl o gymunedau amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli yma ar hyn o bryd fel y gallwn ddangos i bobl fod y lle hwn yn lle croesawgar ar gyfer pob un ohonynt.
Yn ddiweddar, fel y Dirprwy Lywydd, cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc o ystod o gefndiroedd lleiafrifol ethnig amrywiol, a gwnaed argraff fawr arnaf gan y modd yr oeddent yn dweud nad oeddent wedi teimlo croeso yn yr adeilad oherwydd, pan wnaethant edrych drwy'r waliau gwydr i mewn i'r adeilad, nid oeddent yn gweld unrhyw un a edrychai'n debyg iddynt hwy, ac felly nid oeddent yn teimlo ei fod yn lle ar eu cyfer hwy. Cefais fy syfrdanu'n fawr gan hynny. Credaf fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y lle hwn yn lle croesawgar a thryloyw i'n holl gymunedau yng Nghymru, ar gyfer ein pobl ifanc yn ogystal â—wel, i bob cymuned. Dyna'r pwynt. Ac mae'r bobl yn edrych am rywun sy'n edrych yn debyg iddynt hwy, i weld a yw'r lle'n eu croesawu. Yn bersonol, er enghraifft, buaswn i'n ei chael hi'n anodd iawn cerdded i mewn i siop goffi neu far nad oedd yn cynnwys unrhyw un a edrychai'n debyg i fi. Rwy'n credu na fyddai llawer o groeso i mi yno yn ôl pob tebyg, a gallwch allosod hynny i fywyd cyhoeddus. Ac fe welwch fod diffyg modelau rôl yn wirioneddol bwysig.
O ran pethau fel troseddau casineb, soniodd Jack am y cynnydd mewn troseddau casineb. Rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn annog pobl i roi gwybod am yr holl droseddau sy'n digwydd, oherwydd gwyddom nad yw'r holl droseddau'n cael eu cofnodi, a rhan o'r broblem honno yw sicrhau bod pobl yn deall—ac rydym wedi siarad â phob un o'n cydweithwyr ymhlith comisiynwyr yr heddlu am hyn hefyd—y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydynt yn rhoi gwybod am drosedd oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer o ragdybiaeth ynghylch hynny. Mae comisiynwyr yr heddlu ar draws y sbectrwm pleidiol wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd rhywbeth yn cael ei wneud os ydych yn rhoi gwybod am drosedd o'r fath ac rydym yn pwysleisio hynny—nad yw hon yn ffordd dderbyniol o ymddwyn yn y Gymru fodern, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn i wneud hynny.
Yn yr un modd gyda'n cynllun ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid a'n cynllun cenedl noddfa sy'n destun balchder i ni ac rydym wrthi'n dadansoddi ymatebion iddo. Rydym am wneud yn siŵr y gall pawb yng Nghymru wneud cyfraniad priodol i'n bywyd, y gallant ddefnyddio'r doniau sydd ganddynt yng Nghymru er lles pawb ohonom. Rydym yn gwybod na allem weithredu ein gwasanaeth iechyd gwladol, ni allem weithredu llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus heb gyfraniad pobl a ddaeth yma, gan ddianc weithiau rhag y sefyllfaoedd mwyaf echrydus ac sydd wedyn yn gallu trawsnewid eu hunain a defnyddio'u sgiliau er ein lles. Nid wyf byth yn hapusach na phan welaf hynny'n digwydd, a gobeithio y gwelwch y fideo hyfryd iawn sydd ar gael ar Facebook—mae'n ymddangos yn aml iawn ar fy ffrwd i beth bynnag—o'r ddau berson ifanc mewn gwisg draddodiadol Fwslimaidd yn siarad Cymraeg dros nant yn sir Gaerfyrddin. Mae'n galonogol dros ben, ac maent yn siarad yn Gymraeg ynglŷn â sut y mae eu bywydau wedi newid ers iddynt ddod i Gymru, sy'n wirioneddol hyfryd. Rwy'n credu mai dyna'r math o fodel rôl sydd ei angen arnom—i'r bobl ifanc hynny ddod i mewn i fywyd cyhoeddus ar ôl gwneud bywyd yma fel y mae Jack yn ei ddweud. Felly, rwy'n falch ei fod wedi dweud hynny.
Rwyf am ddweud un peth olaf ynglŷn â hynny. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Angela.
Diolch ichi am gymryd ymyriad, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, mai'r un peth nad ydym wedi sôn amdano yw'r rôl y mae'r cyfryngau yn ei chwarae, a chredaf ei bod hi'n hanfodol fod y cyfryngau'n ymatal rhag rhai o'r ffyrdd y maent yn portreadu pobl, gwleidyddion, ffoaduriaid, fel bod y modelau rôl da hyn, y straeon da hyn, ehangu ein dealltwriaeth a derbyn gwahanol ffyrdd o fyw, yn cael eu portreadu mewn ffordd lawer mwy cadarnhaol oherwydd i fod yn onest, gallwch godi unrhyw bapur, yn bapur tabloid neu fel arall, a'r pethau negyddol sy'n cael eu hamlygu bob amser. Y gwleidydd sy'n gwario 32c ar fwyd cathod neu'r person mewn gwisg Fwslimaidd sy'n cerdded ar hyd y stryd ac yn dweud rhywbeth sy'n cael ei gamddehongli. Wyddoch chi, rydym bob amser yn edrych am y gwaethaf, ac rwy'n ofni fy mod yn credu bod yn rhaid i'r cyfryngau fod yn rhan o'r broses o helpu pawb i ddatblygu math newydd a mwy caredig o wleidyddiaeth. Un o'r rhesymau y credaf ei bod mor bwysig yw os na wnawn hyn, byddwn yn gadael gwead ein cymdeithas yn agored i eithafion yr ymylon yn unig. Ni fydd y bobl dda am gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, oherwydd byddant yn edrych arno ac yn dweud, 'Nid yw'n rhywbeth i mi', a byddant yn troi cefn. Pan wnawn hynny, pan fyddwn yn gadael lle wag, un o'r pethau y gwyddom i sicrwydd yw bod natur yn casáu gwactod. Os byddwn yn gadael gwagle, bydd yn cael ei lenwi gan bobl nad oes ganddynt mo'r cariad y buoch yn sôn amdano, ac y siaradodd Adam mor ddoeth yn ei gylch, yn ganolog iddo.
Rwy'n cytuno'n llwyr, Angela. Un o'r pethau rydym wedi bod yn falch iawn o fod yn ei wneud yw casglu cyfres o straeon cadarnhaol o bob rhan o Gymru i sicrhau eu bod yn y cyfryngau, ac i fod o ddiddordeb i newyddiadurwyr mewn darnau math cylchgrawn gwell na'r math o bethau rydych yn sôn amdanynt.
Roeddwn am orffen trwy ddweud, heb fodelau rôl ifanc fel Jack, mae'n anodd iawn cyfleu'r darlun hwnnw, a buaswn yn annog pob un ohonoch—. Felly, un o'r pethau rwy'n ei wneud, ac rwy'n siarad mewn llawer o ysgolion—gwn fod Suzy yn ei wneud a gwn fod Caroline yn ei wneud oherwydd rwy'n eu gweld yno, oherwydd eu bod o'r un rhan â fi—byddaf yn siarad â llawer o bobl ifanc mewn ysgolion, amrywiaeth eang iawn o bobl, ac rwy'n dweud, 'Edrychwch, byddwch wedi clywed yr holl stwff am wleidyddion, byddwch wedi clywed bod gwleidyddion benywaidd yn cael llwyth o ofid ac yn y blaen, ac mae rhywfaint o hynny'n wir. Ond rwy'n gwneud y gwaith hwn oherwydd fy mod wrth fy modd yn ei wneud ac oherwydd, mewn gwirionedd, ei fod yn beth gwerthfawr i'w wneud. Fe ddowch i sylweddoli eich bod yn gwneud rhywbeth sy'n bwysig iawn ac mewn gwirionedd, mae gennych gyfle o ddifrif i newid y ffordd y mae eich cenedl yn gwneud rhai pethau.' Dyna'r peth y mae angen inni ei gyfleu, oherwydd caiff ei golli yn yr holl anhawster a diffyg caredigrwydd. Ond pe baem am ddangos y math o gryfder y siaradodd Adam amdano mewn caredigrwydd, ac y soniodd Julie amdano yn ogystal, yn y modd y trafodwn bethau, pe baem yn dangos peth o'r consensws hwnnw a'r gwir foddhad a gewch o wneud gwasanaeth cyhoeddus—nid gwasanaeth etholedig yn unig, mae mathau eraill o fywydau mewn gwasanaeth cyhoeddus yn bosibl—cawn fath mwy caredig o wleidyddiaeth, oherwydd byddwn yn pwysleisio'r rhan honno o'n gwaith ac nid yn pwysleisio'r rhan o'n gwaith sy'n fath o ymryson fel y cewch chi weithiau adeg y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac yn y blaen. Ac nid wyf yn meddwl fod dim o'i le ar nodi, mewn gwirionedd, fod Darren yn fwy o gath fach y tu allan i'r Siambr nag y mae weithiau—i ddyfynnu fy nghyd-Aelod, Kirsty Williams. Nid wyf am ddifetha eich enw da, Darren. [Chwerthin.] Ond hefyd, fod gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu, ac rwy'n meddwl, Ddirprwy Lywydd, fod y fan honno'n lle da i ddod i ben. Diolch yn fawr iawn am y ddadl, Jack.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.