1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 25 Medi 2018.
Trown nawr at arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, a'r cyntaf y prynhawn yma yw arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth i weithredu gofal plant cyffredinol, sydd, a dyfynnaf, yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ac yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol?
Mae gennym ymrwymiad maniffesto cadarn iawn, y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef.
Prif Weinidog, roedd y dyfyniad yna a ddefnyddiais o ymgais arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, mae eich Llywodraeth yn torri'r ddarpariaeth prydau ysgol. Mae gennym ni Ysgrifenyddion Cabinet yn eich Llywodraeth sy'n dweud un peth ac yna'n gwneud yn llwyr i'r gwrthwyneb. Nawr, mae'r comisiynydd plant wedi gresynu eich deddfwriaeth gofal plant fel cymhorthdal mawr—[Torri ar draws.]—cymhorthdal mawr ar gyfer rhai o'r teuluoedd sy'n ennill y mwyaf yng Nghymru sy'n debygol o atgyfnerthu anghydraddoldebau.
Prif Weinidog, rydych chi'n parhau i droi eich cefn ar wleidyddiaeth cynnydd o blaid gwleidyddiaeth tlodi. A ydych chi'n derbyn bod eich cynnig gofal plant atchweliadol yn debygol o atgyfnerthu anghydraddoldeb, neu a ydych chi o'r farn bod y comisiynydd plant yn anghywir?
Wel, dau beth: gadewch i ni ladd y camargraff hwn yn gyntaf oll bod y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yng Nghymru yn waeth nag y mae yn Lloegr. Nid dyna'r ffaith. Ceir 3,000 yn fwy o blant a fydd yn derbyn cinio ysgol am ddim o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Rhoddwyd £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, mae'r syniad hwn bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn cael ei thorri rywsut, yn anghywir—mae'n gwbl anghywir. Rwyf i eisoes wedi rhoi'r ffigurau o ran y sefyllfa ariannol ac o ran y plant a fydd yn cael eu heffeithio.
Cyflwynwyd cynllun radical ac arloesol gennym i helpu rhieni sy'n gweithio. Dyna yw diben y cynnig—mae ar gyfer rhieni sy'n gweithio, gan ein bod ni'n gwybod pa mor anodd y gall hi fod i bobl fynd yn ôl i weithio gyda chostau gofal plant. A dyma y mae hyn wedi ei gynllunio i'w wneud—helpu'r bobl hynny sydd eisiau mynd i'r gwaith, i gael gwared ar rwystr i gyflogaeth a darparu'r gofal plant sydd ei angen ar bobl ar adeg pan fo angen y cymorth hwnnw arnyn nhw er mwyn symud yn ôl i'r byd cyflogaeth. Dyna y mae'r cynllun wedi ei lunio i'w wneud.
Yn union fel eich polisi prydau ysgol, gyda hwn, bydd plant ar eu colled. Bydd rhieni ar eu colled, a'r rheini sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd yn enwedig—[Torri ar draws.]—bydd y rheini sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd ar eu colled o ganlyniad i'ch deddfwriaeth gofal plant. Nawr, mae astudiaethau o Iwerddon i Awstralia i yma yng Nghymru yn dangos mai un o'r rhwystrau mwyaf i bobl sy'n chwilio am waith yw mynediad at ofal plant o ansawdd uchel, a'r union bobl hynny—y bobl sy'n chwilio am waith neu'r rhai sydd mewn addysg neu hyfforddiant—y bydd eich polisi yn eu heithrio o gymorth gofal plant. Felly, Prif Weinidog, mae hwn yn bolisi atchweliadol. Byddwch yn gallu cael gofal plant am ddim os ydych chi'n bâr sy'n ennill £200,000, ond os ydych chi'n rhiant mewn anawsterau sy'n ceisio dychwelyd i waith neu hyfforddiant, bydd cymorth o'r fath yn cael ei wadu i chi. Sut mae hyn yn cyd-fynd â'ch gwerthoedd sosialaidd honedig, Prif Weinidog?
Wel, unwaith eto, dychwelaf at y pwynt a wneuthum, y mae'n ymddangos na wnaeth hi sylwi arno, sef hwn: pan ddaw i brydau ysgol am ddim, mae'r cynnig a wnaed gennym ni yn golygu y bydd £10 miliwn yn fwy y flwyddyn ac y bydd 3,000 yn fwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim. Nid wyf i'n gweld sut mae hynny'n cyfateb i dorri prydau ysgol am ddim. Gadewch i ni wneud hynny'n gwbl eglur nawr.
Yn ail, ceir y cynllun cyflog, wrth gwrs, sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, ond mae'n ymddangos ei bod hi'n gwrth-ddweud ei hun. Ar y naill law mae'n dweud y dylai fod yn gynllun cyffredinol; yna mae'n dweud y dylai fod yn gynllun i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith. Dyna y bwriedir iddo ei wneud—helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith a gwrthbwyso'r costau gofal plant y byddai'n rhaid iddyn nhw eu talu fel arall, sy'n ei gwneud yn llai deniadol i fynd i mewn i waith. Nawr, os mai dyna'r hyn y mae'n ei ddweud y dylem ni fod yn ei wneud, rydym ni yn gwneud hynny a byddwn yn bwrw ymlaen â'n cynnig maniffesto ac yn gwneud y cynnig gofal plant mwyaf hael mewn unrhyw le yn y DU.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, a oes gennych chi gywilydd o'r amseroedd aros damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd, sef y gwaethaf a gofnodwyd erioed, a gyhoeddwyd y mis hwn?
Mae'n rhaid iddyn nhw wella, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond, os edrychwn ni ar berfformiadau mewn rhannau eraill o'r GIG, rydym ni'n gweld bod y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn gwella. Yn amlwg, ceir her bod yn rhaid i Betsi Cadwaladr ymateb iddi er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ysbytai hynny.
Wel, Prif Weinidog, mae hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers bron i dair blynedd a hanner. Beth sydd yna i'w ddangos yn sgil eich cynlluniau gwella a gweddnewid cam wrth gam? Wel, mae'r hanes yn dweud y cyfan: bu 1,900 o gleifion yn aros mwy na 12 awr mewn gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd—mae hyn yn fwy na'r holl fyrddau iechyd eraill gyda'i gilydd; yr haf hwn, collwyd mwy na 5,000 o oriau gan fod ambiwlansys yn cael eu hoedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ysbytai yn y gogledd; cofnodwyd 26,000 o ddigwyddiadau diogelwch cleifion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 10,000 yn fwy nag yng Nghaerdydd, ac roedd 233 o'r rhain yn ddigwyddiadau difrifol, mwy na dwbl y rhai yng Nghaerdydd; yn y tair blynedd diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi gorwario £88 miliwn ac mae ganddo fwy na 2,000 o gleifion yn aros dros flwyddyn am driniaeth. Mae'r rhain yn ystadegau brawychus, ac y tu ôl i'r ffigurau hyn y mae pobl go iawn sy'n dioddef o ganlyniad i'ch anallu llwyr i helpu'r bwrdd iechyd hwn i wella. Ers tair blynedd, rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaethau hyn ac wedi gosod meincnodau i sicrhau bod y bwrdd iechyd hwn yn gwella. Rydych chi'n amlwg yn siomi pobl y gogledd, felly a allwch chi ddweud wrthym ni nawr beth ydych chi a'ch Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hyn? Pa fesurau penodol ydych chi'n mynd i'w cymryd nawr i ddechrau mynd i'r afael â'r sefyllfa hynod ddifrifol hon?
Wel, rydym ni'n cydnabod bod perfformiad ar y ddau safle hynny yn annerbyniol. Dyna'r peth cyntaf i'w ddweud. Mae'n adlewyrchiad o bwysau a gofynion ar staff sy'n gweithio'n galed. Rwyf i wedi dweud fy mod i'n disgwyl i'r bwrdd roi camau ystyrlon ar waith i ymdrin â hyn. Nawr, beth ydym ni wedi ei wneud? Wel, mae'r bwrdd, gyda gwerth £1.5 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, wedi gwneud trefniadau i dargedu gwelliannau a chamau gweithredu o ran y system gofal heb ei drefnu yn y gogledd. Darparwyd £6.8 miliwn gennym yn gynharach eleni hefyd i gryfhau capasiti gweithredol y bwrdd iechyd ym mhob un o'r tri prif ysbyty yn y gogledd, a bwriedir i'r pecyn cymorth hwnnw alluogi'r bwrdd iechyd i gynyddu ei ddealltwriaeth o heriau lleol a gwneud penderfyniadau effeithiol i gynorthwyo gwelliant ar unwaith. Mae uned gyflawni GIG Cymru hefyd yn gweithio ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam i gynorthwyo gwaith rheoli perfformiad lleol.
Nawr, fel y dywedais, er bod y perfformiad yn gyffredinol yn annerbyniol, dwy awr a 48 munud oedd y cyfnod aros nodweddiadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Awst i gleifion gael eu gweld, eu hasesu a'u trin neu eu rhyddhau. Nawr, o ystyried y pryder penodol, sydd wedi ei godi yn deg, am ffigurau mis Awst, rhoddwyd cylch gwelliant o 90 diwrnod a bydd hwn yn ganolbwynt i'r bwrdd a'r timau clinigol ar draws y gogledd. Byddwn yn adolygu cynllun 90 diwrnod y bwrdd ac yn penderfynu pa un a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol wedi'i dargedu fel mater o frys.
Prif Weinidog, mae pobl y gogledd yn y sefyllfa hon o ganlyniad i danariannu, israddio ac esgeulustod cyson ar ran eich Llywodraeth Cymru chi. Mae eich anallu llwyr i arwain y bwrdd iechyd hwn i well sefyllfa yn arwain at ganlyniadau enfawr i bobl y gogledd a'r staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu eu gofal. Mae pobl y gogledd yn haeddu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy. Yn amlwg, rydych chi wedi methu. Felly, dyma eich cyfle, Prif Weinidog: cyn i chi adael, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn nawr i ymddiheuro i bobl y gogledd yr ydych chi wedi eu siomi mor wael?
Yn gyntaf oll, mae'r rhain yn ddau fater mewn dau ysbyty sydd wedi dod i'r amlwg ym mis Awst y mae'n rhaid ymdrin â nhw. Does bosib y gall ef sefyll yn y fan yna a dweud nad oes gan gyni cyllidol ddim i'w wneud â hyn? Pan roddwyd £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, yr oedd cyfran sylweddol ohono ar gyfer iechyd ac addysg, a yrrodd—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn boenus—[Torri ar draws.] Gwn ei fod yn boenus, ond pan roddwyd swm sylweddol i iechyd ac addysg, a yrrodd geffyl a throl drwy fformiwla Barnett, lle'r oedd y Ceidwadwyr Cymreig? Mud, distaw, di-hid. Gadewch i mi ddweud wrtho: mae'n ceisio creu darlun o'r gogledd yn cael ei esgeuluso—roedd yn bleser mawr gennyf yr wythnos diwethaf gael mynd i Ysbyty Glan Clwyd ac agor y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol—[Torri ar draws.] Bai pwy yw hynny? Fy mai i yw bod y SuRNICC wedi ei hagor, mae'n ymddangos? Dyna ni. Agorodd canolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol, atgoffaf y blaid gyferbyn, oherwydd i mi gomisiynu adroddiad i weld a fyddai'n gynaliadwy i leoli uned o'r fath yn y gogledd—[Torri ar draws.] O ganlyniad i—
A allwch chi i gyd ymdawelu, os gwelwch yn dda, a gwrando ar yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i'w ddweud? Gofynnodd eich arweinydd y cwestiwn—rwy'n siarad wrth Aelodau ar y meinciau i'r dde i mi—gofynnodd eich arweinydd gwestiwn ac mae angen i ni glywed yr ateb gan y Prif Weinidog, heb unrhyw gymorth gan neb arall. Diolch.
O ganlyniad i'r adroddiad hwnnw, o ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru, bydd llawer, iawn o famau yn y gogledd a fydd yn gallu rhoi genedigaeth i'w babanod yn ddiogel a chael gofal yn ddiogel yn y gogledd erbyn hyn, yn hytrach na gorfod teithio i Lerpwl. Gall ef siarad, rydym ni'n cyflawni.
Diolch. Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, pa un o'r penderfyniadau canlynol ydych chi'n credu y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwyaf balch ohono? Ai dympio 300,000 tunnell o fwd niwclear tua 1 filltir o Fae Caerdydd, neu ai rhoi trwydded ar gyfer llosgydd biomas sydd y drws nesaf i adeiladau preswyl yn noc y Barri, neu, yn olaf, ai gwrthod gwerthu pren o'r coetir cyhoeddus am bris y farchnad, gan ddwyn £1 filiwn oddi wrth trethdalwyr Cymru o bosibl?
Wel, mae'r ddau fater cyntaf yn faterion gweithredol, o ran trwyddedu. Mae'r trydydd yn fater sydd wedi ei archwilio ac nad yw'n dderbyniol. Yn amlwg, dangoswyd diffyg cymhwysedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru—nid yw cael contractau llafar, er eu bod efallai'n dechnegol ddilys yn gyfreithiol, yn ddoeth. Mae'n llawer gwell cael pethau wedi eu hysgrifennu i lawr. Mae hynny wedi cael ei archwilio, yn briodol, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
A gaf i ei atgoffa nad ei blaid ef yw'r blaid orau mewn gwirionedd i bregethu ar yr amgylchedd? Dyma blaid nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb yn yr amgylchedd o gwbl, hyd y gwelaf, ac a oedd eisiau ein tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd, a oedd yn llwyr gyfrifol am godi safonau Prydain, a oedd mor echrydus, o ran yr amgylchedd, yn enwedig yn y 1970au a'r 1980au. Roedd un afon—afon Irwell yn Salford, rwy'n credu—a fyddai'n mynd ar dân ar un adeg os oeddech chi'n taflu matsien wedi ei chynnau i mewn iddi. Yr Undeb Ewropeaidd lusgodd Prydain allan o'r gwter o ran ei safonau amgylcheddol.
Nawr, gadewch i ni weld yr hyn y mae UKIP yn ei gynnig er mwyn gwarchod a gwella ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol, yn absenoldeb y fframwaith Ewropeaidd hwnnw.
Ie, rydych chi'n sôn am yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n eich holi am eich goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru, ond diolch am ein harwain ni i lawr lôn bengaead, Prif Weinidog. Soniasoch—[Torri ar draws.] Soniasoch am y goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n falch eich bod chi'n gweld swyddogaeth werthfawr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i wneud hynny. Nawr, mae gan Aelodau meinciau cefn eich hun, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae, rhan hanfodol i'w chwarae, o ran craffu ar sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, mae gennym ni un Aelod o'r meinciau cefn sydd wedi chwarae rhan hynod werthfawr ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran darparu goruchwyliaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru. Nodaf fod yr Aelod hwnnw yn cael ei wobrwyo am ei waith clodwiw trwy gael ei dynnu oddi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Onid yw hyn yn profi, Prif Weinidog, nad ydych chi eisiau craffu priodol ar sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan eich Llywodraeth?
Rwy'n ei chael hi'n anodd derbyn yr hyn y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud pan ddywed—. Mae'n sôn am bwysigrwydd gwaith y pwyllgor materion cyhoeddus, yr wyf i'n credu sy'n gywir, ac mae'n sôn am yr angen am graffu, ac eto ar yr un pryd mae eisiau diddymu'r Cynulliad, gan roi dim craffu o gwbl i ni wedyn—dros Cyfoeth Naturiol Cymru na thros unrhyw beth arall. Mae'n galw am ail refferendwm ar ddatganoli, ac yn gwrthwynebu un pan ddaw i Brexit. Felly, pan ddaw i graffu, ei ateb ef i fwy o graffu yw diddymu'r union graffwyr eu hunain, gan ei gwneud yn llawer mwy anodd i waith craffu priodol ddigwydd. Ac oherwydd y gwaith craffu hwnnw y cynorthwywyd i'r problemau yn Cyfoeth Naturiol Cymru gael eu canfod. Yn y blynyddoedd a fu, ni fyddai'r lefel honno o graffu erioed wedi bod yno, yn y dyddiau cyn datganoli. Mae'r gwaith craffu hwnnw, yn gwbl briodol, wedi ei wneud gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n fater nawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda ni fel Llywodraeth, i unioni'r sefyllfa.
Nawr, i ddychwelyd at yr hyn a ddywedodd eich Aelod, eich Aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yng nghanol y ffiasgo pren, dyfynnaf:
'Beth sy'n digwydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae cael eu cyfrifon wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ddigynsail ac yn warthus a dweud y gwir. Rwy'n cael trafferth meddwl am esboniad pam y gallai hyn fod yn digwydd. A allai fod yn llygredd neu'n anghymhwysedd? Ond ymddengys bod adran goedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli rheolaeth...a chredaf y dylai fod atebolrwydd gan...uwch arweinwyr...y sefydliad hwn, sy'n ymddangos fel pe byddai wedi colli rheolaeth.'
Diwedd y dyfyniad. Nawr, rydych chi'n sôn fy mod i eisiau gael gwared ar graffu. Rwy'n sôn am fod eisiau cael gwared ar y sefydliad cwbl ddiwerth hwn, Cynulliad Cymru, yr ydych chi wedi bod yn ganolog iddo ers 18 mlynedd. Nid y craffu gan Aelodau'r meinciau cefn yw'r broblem, oherwydd pan fyddan nhw'n gwneud gwaith craffu, rydych chi'n lladd arno beth bynnag ac rydych chi'n eu tynnu oddi ar y pwyllgorau. Y pwynt yw nad yw'r Llywodraeth—[Torri ar draws.] Nad yw'r Llywodraeth—[Torri ar draws.] Nad yw'r Llywodraeth yr ydych chi wedi bod yn rhan ohoni ers 18 mlynedd yn addas i redeg y sefydliadau hyn, a dyna pam mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael bargen ofnadwy o Gynulliad Cymru. Onid yw hynny'n wir, Prif Weinidog?
Gadewch i mi weld nawr. Gadewch i mi weld—bu dau refferendwm: un ym 1997 ac un yn 2011. Nid yw'n derbyn y canlyniad, ac eto mae e'n mynnu—yn mynnu—na ddylai fod unrhyw refferendwm o gwbl ar y cytundeb o ran Brexit. Mae ei ragrith yn anhygoel bron. Ar y naill law, mae'n dweud ein bod ni angen mwy o graffu, ac yna mae'n dweud bod angen i ni gael gwared ar yr holl graffu, heb sylweddoli'r gwrthddywediad yn yr hyn y mae'n ei ddweud. Rwy'n siŵr bod yr Aelod dros Lanelli wrth ei fodd gyda'r gefnogaeth a roddwyd iddo gan arweinydd UKIP. [Chwerthin.] Mae'n rhywun sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif o feinciau cefn y Llywodraeth, yn union—[Anhyglywadwy.]—fel y dylid ei wneud. Mae Lee yn rhywun—mae'r Aelod dros Lanelli yn rhywun—sy'n mynegi ei farn, ac mae'n iawn i wneud hynny. Dyna y mae Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth yno i'w wneud, i wneud yn siŵr ein bod ni, fel Llywodraeth Lafur Cymru, yn gwneud pethau'n iawn.
Nawr, nid wyf yn siŵr beth mae e'n ei ddweud: cael gwared ar y Cynulliad neu gael gwared ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid wyf i'n gwybod. Yr hyn yr wyf i yn ei wybod yw pe byddai UKIP byth yn dod i rym—ac roedd saith ohonyn nhw i ddechrau, ac mae pedwar ohonyn nhw nawr; pwy a ŵyr, efallai y bydd llai o lawer ohonyn nhw yn y dyfodol, a rhan o'r rheswm am hyn yw oherwydd na all UKIP ennill dim, 'Gadewch i ni geisio ymosod ar y corff na allwn ni ennill etholiad iddo.' Ond, pe byddai UKIP byth yn dod i rym, rydym ni'n gwybod na fyddai unrhyw gorff rheoleiddio amgylcheddol; byddai caniatâd i bopeth pan ddaw i'r amgylchedd. Byddai ein hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, byddai ein traethau yn cael eu difetha, i gyd yn enw'r athroniaeth farchnad wallgof y mae ei blaid eisiau ei hyrwyddo. A dyna realiti UKIP. Byddwn ni'n brwydro i wneud yn siŵr bod pobl Cymru, ie, yn cael y Llywodraeth y maen nhw'n ei haeddu, y craffu y maen nhw'n ei haeddu, ac yn cadw'r corff y gwnaethant bleidleisio drosto, nid unwaith, ond y gwnaethant bleidleisio drosto ddwywaith, o ran pwerau ychwanegol.
Dychwelwn at gwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3—Suzy Davies.