Ffordd Liniaru'r M4

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:16, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ni waeth pwy sy'n gwneud y penderfyniad ynglŷn â'r M4, heb os, mae dinas Casnewydd yn cael ei llesteirio gan dagfeydd traffig sylweddol. Ar yr M4 fel y mae ar hyn o bryd a phan fo damwain ar y llwybr hwnnw, mae gweddill Casnewydd yn dod i stop, ac ni fydd hyn ond yn gwaethygu pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu cyn bo hir. Mae pawb yn cytuno bod angen gwneud rhywbeth. Er bod trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd a dibynadwy yn sicr yn hollbwysig, nid dyma'r ateb cyflawn. Mae cryn dipyn o waith i'w wneud ar y cynlluniau metro o gwmpas Casnewydd cyn y byddant yn newid o fod yn llinellau lliw ar y map i fod yn llwybrau a gwasanaethau go iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod angen mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys a'i bod yn ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw hyn yn trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf?