11. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:35 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:35, 10 Hydref 2018

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur arfaethedig y Comisiwn: Mesur Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, tri yn ymatal, un yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig.

NDM6821 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru): O blaid: 44, Yn erbyn: 1, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 922 NDM6821 Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn - Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)

Ie: 44 ASau

Na: 1 AS

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Wedi ymatal: 3 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:36, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn sicrhau bod y bleidlais wedi'i chynnal yn briodol. Do, cafodd ei chynnal yn gywir, ond ni chafodd ei disgrifio'n briodol gennyf fi, yn amlwg. Felly, 44 o blaid y cynnig—a byddech yn meddwl y buaswn wedi'i gael yn gywir ar y cynnig hwnnw o bob cynnig—44 o blaid, 3 yn ymatal, 1 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Felly, dyma ni yn dod i'r bleidlais ar y ddadl ar waredu deunyddiau a garthwyd o fôr Hafren, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth a Darren Millar. Agorwch y bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod. 

NDM6813 Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 22, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 923 NDM6813 Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren Cynnig heb ei ddiwygio

Ie: 22 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:36, 10 Hydref 2018

Gwelliant 1—os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 1. 

NDM6813 - Gwelliant 1: O blaid: 26, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 924 NDM6813 - Gwelliant 1

Ie: 26 ASau

Na: 22 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 10 Hydref 2018

Y bleidlais nesaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.  

Cynnig NDM6813 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pryderon eang ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren i leoliadau oddi ar arfordir de Cymru, sy'n gysylltiedig ag adeiladu gorsaf bŵer newydd yn Hinkley.

2. Yn nodi:

a) o dan delerau’r Confensiwn ar Atal Llygredd Morol yn sgil Dympio Gwastraff a Deunyddiau Eraill (Confensiwn Llundain, 1972), y mae’r DU yn un o’r llofnodwyr, dim ond deunyddiau sydd â lefelau de minimis o ymbelydredd a all gael eu hystyried ar gyfer cael eu gwaredu ar y môr.

b) yr asesiad ymbelydrol generig ceidwadol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol, yw’r dull rhyngwladol cymeradwy ar gyfer profi am lefelau de minimis o ymbelydredd a chafodd y dull hwn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol Hinkley.

c) y dystiolaeth o fewn adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol a nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud ei benderfyniad ynghylch trwydded forol ar sail cyngor arbenigol, a hynny’n unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar gyfer asesiadau ymbelydrol.

d) y ffaith y daeth yr holl brofion ac asesiadau i’r casgliad fod y gwaddod i’w waredu o fewn y terfynau diogel, nad oes unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd pobl nac i’r amgylchedd a’i fod yn ddeunydd diogel ac addas i’w waredu ar y môr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru o safbwynt ymgysylltu rhagor â’r cyhoedd er mwyn egluro’r broses a’r dystiolaeth, gan dawelu ofnau’r cyhoedd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 10 Hydref 2018

Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM6813 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 10, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 925 NDM6813 - Cynnig wedi'i ddiwygio

Ie: 38 ASau

Na: 10 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 12 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.