– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 10 Hydref 2018.
Felly, eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a heddiw daw'r cyntaf o'r datganiadau 90 eiliad gan Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed llawer o gynnydd yn chwalu'r stigma ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond gwyddom fod llawer i'w wneud o hyd. Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw pobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd newidiol a heriol, ac roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad y bore yma gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, Sophie Howe, ar y mater hwn.
Yn anffodus, gwyddom fod un o bob pedwar myfyriwr yn dioddef iechyd meddwl gwael tra'u bod yn y brifysgol, a'r hyn y mae llawer ohonynt yn ei ddweud yw ei bod hi'n anodd dod o hyd i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Gall bod ar lwybr addysg beri llawer o straen. I lawer o fyfyrwyr, dyma eu tro cyntaf oddi cartref. Ceir llawer o brofiadau newydd a phobl newydd i'w cyfarfod. Yn aml, ceir pwysau ariannol, a gwaith a straen pa gwrs bynnag y maent yn ei ddilyn. Ac ar ben hyn i gyd, ceir gwahanol fathau o straen personol a theuluol. Felly, rwy'n falch o gefnogi ymgyrch Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ar iechyd meddwl eleni. Byddant yn adolygu'r arferion da ac yn edrych i weld ble mae modd gwella ac edrychaf ymlaen at weld eu canfyddiadau'n cael eu cyflwyno i ni yma yn y Siambr.
Lywydd, i mi, mae'r diwrnod hwn yn bersonol iawn hefyd. Roedd Dad yn berson hynod o gariadus ac yn fodel rôl i gynifer ohonom. Fel y dywedais yn fy araith gyntaf yn y Siambr hon, ef oedd y dyn yr oeddwn wrth fy modd yn mynd am beint gydag ef, y dyn a wnaeth fy helpu yn fy arholiadau, y dyn a safodd yn falch wrth fy ymyl pan raddiais, y dyn a ddaliai ein teulu gyda'i gilydd. Roedd ganddo lawer o ffrindiau a llawer o deulu agos a gwn fod ei farwolaeth wedi effeithio ar fy mywyd i a'u bywydau hwy am flynyddoedd lawer i ddod. Credaf ei fod wedi newid fy modolaeth ac wedi paratoi'r ffordd i lawer o bethau ddigwydd yn fy mywyd a oedd yn gyfan gwbl y tu hwnt i fy rheolaeth.
Lywydd, rwyf am orffen yn awr. Hoffwn ddweud wrth y rheini na allant drafod problemau iechyd meddwl ac sy'n ei chael hi'n anodd fy mod i'n sefyll gyda chi. Rwy'n un ohonoch, ond fe wnaf ymladd wrth eich ochr. Fe ddof i ben gyda dyfyniad byr iawn:
'Pan ddown at ein gilydd, mae afiechyd yn troi'n iechyd.'
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Yn Eglwys Sant Cybi heddiw, mae trigolion Caergybi a Dun Laoghaire wedi dod ynghyd i gofio suddo’r RMS Leinster union 100 mlynedd yn ôl.
Gadawodd yr RMS Leinster Kingstown, sef Dun Laoghaire erbyn hyn, ychydig cyn naw yn y bore ar 10 Hydref 1918. Anelai am Gaergybi gyda 771 o deithwyr a chriw ar ei bwrdd. Awr yn ddiweddarach, roedd hi wedi'i thargedu gan long danfor ar batrôl. Taniodd ddau dorpido a suddwyd y Leinster. Collodd dros 500 o'r bobl ar ei bwrdd eu bywydau. Roedd yn ddigwyddiad erchyll, a chredir bod yr ymateb iddo wedi dylanwadu ar y gwleidyddion a oedd yn cymryd rhan mewn trafodaethau i roi diwedd ar y rhyfel byd cyntaf. Arwyddwyd y cadoediad fis yn ddiweddarach.
Dioddefodd teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac Iwerddon yn enbyd, a heddiw rydym yn eu cofio a'r holl rai a fu farw: pobl fel y dyn tân John Williams o Walchmai, a oedd wedi achub teithiwr benywaidd ac wedi mynd i lawr wedyn i achub un arall pan fu farw; pobl fel Louisa Parry o Gaergybi, stiward a hwyliodd y diwrnod hwnnw yn lle un o'i chwiorydd a oedd yn sâl. Aeth i ddec is i helpu teithwyr ond cafodd ei chaethiwo mewn caban gyda mam a'i phlentyn. Cofiwn hefyd am griw llong danfor 123, a laddwyd wythnos yn ddiweddarach.
Mae'r grŵp coffáu canmlwyddiant RMS Leinster yng Nghaergybi yn cynnwys nifer a gollodd eu neiniau a'u teidiau pan suddodd y llong. Hoffwn dalu teyrnged iddynt am eu gwaith caled yn ein hatgoffa am hanes y Leinster ac am drefnu'r digwyddiadau coffáu ar Ynys Môn yr wythnos hon. Edrychaf ymlaen at fynychu un yn Neuadd y Santes Fair yng Nghaergybi ddydd Gwener. Heddiw, unir dwy gymuned a dwy wlad gyda'i gilydd wrth inni gofio.
Diolch. Mark Isherwood.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gofal Hosbis, wythnos o weithgaredd blynyddol i godi proffil gofal hosbis ledled Cymru a'r DU. Thema Wythnos Gofal Hosbis eleni yw 'Heart my Hospice'. Clywodd ymchwiliad diweddar y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol i anghydraddoldebau mynediad sut y gall ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r ystod lawn o wasanaethau a gynigir gan hosbisau a stigma ynglŷn â siarad am farwolaeth a marw fod yn rhwystrau i bobl rhag cael y gofal cywir. Argymhellodd y grŵp y dylai hosbisau ledled Cymru barhau i godi ymwybyddiaeth o'r gofal y maent yn ei ddarparu a'r cyfleoedd i gymunedau ymgysylltu â'u gwaith.
Bob blwyddyn, mae hosbisau yng Nghymru yn gofalu'n uniongyrchol am fwy na 10,000 o bobl, gydag oddeutu 80 y cant ohonynt yn cael gofal yn eu cartrefi eu hunain a'r gymuned. Mae hosbisau'n dibynnu ar ymgysylltiad â'u cymunedau i gefnogi eu gwaith. Maent yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli fel garddwyr, gyrwyr, mewn manwerthu a gweinyddu, ac yn codi cyfanswm o £2 miliwn bob mis i gynnal y ddarpariaeth o ofal hosbis yng Nghymru.
Mae hosbisau yng Nghymru yn gofyn i bobl ddangos eu cefnogaeth i'w hosbis drwy wirfoddoli, cyfrannu, neu drwy ddangos eu bod yn gefnogol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Gofal Hosbis. Drwy gydol yr wythnos, mae hosbisau yng Nghymru yn agor eu drysau i'w cymunedau ehangach er mwyn annog mwy o ymgysylltiad ac i wella ymwybyddiaeth o'r gwaith hanfodol a wnânt.
Heddiw, rydym yn nodi Diwrnod Digartrefedd y Byd. Ers ei sefydlu yn 2010, Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd wedi cael ei nodi ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica. Diben Diwrnod Digartrefedd y Byd yw tynnu sylw at anghenion pobl ddigartref yn lleol, a darparu cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan ac ymateb i ddigartrefedd, gan fanteisio ar y llwyfan a grëwyd gan ddiwrnod rhyngwladol. Felly, rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w nodi heddiw.
Gwelwyd cynnydd da yng Nghymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd, gan gynnwys y ddeddfwriaeth atal digartrefedd a ysbrydolodd fesurau tebyg yn Lloegr, ymrwymiadau ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, a gwaith i ddatblygu dull tai yn gyntaf. Ond mae'n dal i fod angen cynllun arnom, i bawb gael cartref diogel a sefydlog. Canfu Figures for Crisis, a gyfrifwyd gan yr Athro Glen Bramley o Brifysgol Heriot-Watt, fod 8,200 o bobl ledled Cymru yn profi'r mathau gwaethaf o ddigartrefedd. Mae hyn yn cynnwys y prif fathau o ddigartrefedd, fel pobl sy'n gaeth mewn lleoedd gorlawn ac anniogel, mewn hosteli a llochesi nos, yn cysgu ar soffas pobl a lloriau ceginau, neu mewn ceir, bysiau nos, pebyll ac wrth gwrs, yn frawychus, allan ar y strydoedd. Os parhawn fel yr ydym ar hyn o bryd, canfu ymchwil Heriot-Watt fod disgwyl i nifer yr aelwydydd digartref bron â dyblu yn y 25 mlynedd nesaf ledled Prydain. Rhaid inni ddyblu ein hymdrechion, a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar y malltod hwn.
Mae dathliadau dwbl yn Ninbych yr wythnos yma, gyda phenblwydd Canolfan Iaith Clwyd, wedi 30 mlynedd o ddarparu addysg Gymraeg i oedolion. Ac mae hi hefyd yn 10 mlynedd ers agor amgueddfa gwbl unigryw Gwefr heb Wifrau—Wireless in Wales—sydd hefyd wedi ei lleoli yn yr un adeilad, yng nghanol y dref yn Ninbych. Y prif symbylydd dros sefydlu’r ddau gorff oedd y diweddar David Jones, cyn-faer Dinbych, dysgwr Cymraeg, rhyng-genedlaetholwr pybyr, a gŵr a oedd â diddordeb mawr mewn hanes radios, a’r cysylltiad rhwng datblygiad radios a goroesiad yr iaith Gymraeg, a’r cysyniad o Gymru fel cenedl.
Bu David yn allweddol yn yr ymgyrch i agor canolfan iaith sirol gyntaf Cymru yn Ninbych, a’i gasgliad personol ef o hen radios yw craidd yr amgueddfa hynod ddiddorol a leolir yng Nghanolfan Iaith Clwyd yn y dref. Roedd e'n aelod o Blaid Cymru, ac yn rhyngwladol ei ddaliadau. Mi helpodd e sefydlu cymdeithas Cymru Cuba, ac mae Vesi, ei wraig, sy'n hannu o Fwlgaria, yn dal i fod yn weithgar gyda’r amgueddfa.
Mae’r ganolfan iaith, wrth gwrs, wedi datblygu gryn dipyn ers ei sefydlu yn ganolfan iaith sirol gyntaf Cymru. Yn dilyn ad-drefnu Cymraeg i oedolion ddwy flynedd yn ôl, mae Popeth Cymraeg bellach yn gyfrifol am gyrsiau sir Ddinbych i gyd. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria, sy’n gyfrifol am ddosbarthiadau Cymraeg yn siroedd Wrecsam a’r Fflint.
Mae’n deg dweud na fyddai’r miloedd sydd wedi elwa o’r cyrsiau yma, na’r miloedd sydd wedi ymweld â’r amgueddfa radios, wedi cael y cyfle heb weledigaeth addfwyn o styfnig ein cyfaill diweddar, David Jones. Mae’n dyled ni’n fawr i rywun a oedd yn bencampwr cymunedol go iawn, a dyna pam fy mod i am inni gofio heddiw a dymuno, wrth gwrs, yn dda i'r ddwy ganolfan ar eu penblwyddi arbennig.
Diolch.