2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i atal hunan-niweidio? OAQ52792
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae 'Siarad â fi 2', ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn nodi grwpiau o bobl sy'n arbennig o agored i niwed ac yn cyflwyno camau gweithredu i fynd i'r afael â ffactorau sy'n gallu cyfrannu at hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2' wedi adrodd ar gynnydd da ar nifer o'r camau gweithredu yn y strategaeth.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae dadansoddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant wedi darganfod bod chwarter y merched 14 mlwydd oed a bron un o bob 10 bachgen yn y DU wedi hunan-niweidio mewn cyfnod o flwyddyn. Yn anffodus, mae lefel y ddealltwriaeth o'r rhesymau y tu ôl i'r ffigurau hyn yn wael. Mae'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a gyflawnwyd gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, wedi taflu goleuni pwysig ar y mater hwn. Canfu'r adroddiad fod nifer y bobl ifanc a dderbyniwyd i adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd eu bod wedi hunan-niweidio wedi cynyddu 41 y cant yn y tair blynedd diwethaf. Bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan yw'r unig fwrdd iechyd sy'n cofnodi faint o bobl sy'n manteisio ar gymorth dilynol yn y dyddiau ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn sgil hunan-niweidio, cyfnod pan fo mynediad at gymorth priodol yn hanfodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa un a yw byrddau iechyd eraill yn ymwybodol o'r fenter hon, a beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella mynediad at gymorth i gleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty?
Diolch i chi am y cwestiwn. Fel y dywedais yn gynharach, rydym o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn ac rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethom mewn ymateb i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', ac fe gynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol a gadeiriwyd ar y cyd yn gynharach heddiw. Roedd hwnnw'n gyfarfod adeiladol a chadarnhaol, felly rwy'n edrych ymlaen at adrodd ar gynnydd pellach maes o law mewn perthynas â'r hyn rydym yn ei wneud yno.
Fodd bynnag, mae ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' cyfredol yn nodi ein disgwyliad y bydd byrddau iechyd yn monitro'r ddarpariaeth o gymorth yn dilyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty; mae hynny hefyd wedi'i amlinellu yng nghynllun cyflawni 'Siarad â fi 2'. Credaf y dylwn ddod yn ôl at yr Aelod eto i ofyn am sicrwydd priodol gan fyrddau iechyd eraill—maent o ddifrif ynglŷn â hynny ac yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Ond yn fwy na hynny, o ran sut rydym yn asesu ac yn deall sut y gwneir hynny, rydym eisoes yn edrych i weld sut y gallwn wella'r data a gasglwn drwy ddatblygu'r hyn a elwir yn set ddata graidd iechyd meddwl—er mwyn deall ein bod yn casglu'r un wybodaeth, yn yr un modd, yn yr un lle, i ganiatáu inni ddeall y gwelliannau sy'n cael eu gwneud a'r cynnydd cymharol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae hynny'n mynd ochr yn ochr â'r gwaith o weithredu system wybodaeth gofal clinigol Cymru ledled Cymru, i helpu i wella'r gwaith o fonitro cynnydd a gweithredu. Rwy'n credu y bydd yn ddefnyddiol i'r Aelodau wybod nad mater i'r gwasanaeth iechyd gwladol a chlinigwyr yn unig yw hyn, ond mae'n cynnwys y trydydd sector hefyd o ran ymgysylltu ynglŷn â'r hyn y dylem ei gasglu a sut y dylem ei gyflwyno a'i ddarparu i'r cyhoedd wedyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hanner y gwahanol fathau o salwch meddwl yn dechrau erbyn y bydd yr unigolyn yn 14 oed. I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyfres o fesurau ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys recriwtio timau cymorth iechyd meddwl newydd a fydd yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. O gofio bod mwy na 3,000 o bobl wedi llofnodi deiseb gan grŵp iechyd meddwl yng Ngwent yn galw am roi mwy o lais i bobl ifanc mewn gwasanaethau iechyd meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â salwch meddwl yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maent eu hangen yn ein gwlad? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Nodaf ymrwymiadau diweddar y Prif Weinidog ac fel y dywedais o'r blaen, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog cyfredol a'r Prif Weinidog blaenorol wedi bod yn barod i siarad yn agored am bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl. Yr her bob amser yw i ba raddau y maent wedi llwyddo i gefnogi eu geiriau gydag adnoddau a chamau gweithredu ar lawr gwlad. Os nad ydych yn fy nghredu, gofynnwch i ymarferwyr a grwpiau yn Lloegr, a byddant yn dweud nad yw'r rhethreg wedi cyd-fynd â'r realiti. Nid dweud yn unig nad ydym mor wael â Lloegr yw'r her i ni yma, ond gofyn yn hytrach 'Beth y gallwn ei wneud i wella ymhellach?' Dyna'n union y ceisiwn ei wneud trwy fwrw ymlaen â'r grŵp gorchwyl a gorffen mewn ymateb i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Bydd ffocws ar blant a phobl ifanc yn y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw, ond yn fwy na hynny gallaf gadarnhau y byddwn hefyd yn cynnwys plant a phobl ifanc yn uniongyrchol er mwyn llywio ein gwaith. Rhan o hynny fydd y dystiolaeth y mae'r pwyllgor eisoes wedi'i chlywed, gwybodaeth rydym eisoes yn ei chasglu, ond hefyd ymgysylltiad uniongyrchol wyneb yn wyneb â phlant a phobl ifanc mewn gwahanol rannau o Gymru wrth i ni geisio deall sut y gallwn wella'r cymorth a'r ymyrraeth gynharach honno.