1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
4. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Arweinydd y Tŷ am weithio gyda darparwyr trafnidiaeth i sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl ag anableddau? OAQ52803
Wel, fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymrwymedig i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn dileu rhwystrau i deithio, hybu byw'n annibynnol, a grymuso grwpiau agored i niwed i gyfranogi ym mywyd y gymdeithas. Dyma un o gonglfeini 'Symud Cymru Ymlaen', sy'n nodi ein huchelgais i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig â chynaliadwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd cyhoeddiad Trenau Arriva Cymru ychydig wythnosau yn ôl am eu pecyn newydd i gynorthwyo defnyddwyr rheilffyrdd sydd â nam ar eu golwg yn galonogol iawn. Roedd yn cynnwys pethau fel canllawiau sain arbenigol, cardiau cŵn cymorth a theithiau ymgyfarwyddo ar gyfer grwpiau sy'n cefnogi pobl â nam ar eu golwg. Rydym yn gwybod bod 107,000 o bobl â nam ar eu golwg yng Nghymru, ac mae'r RNIB yn awgrymu nad yw 80 y cant o'r rheini'n gallu teithio pryd bynnag neu i ble bynnag y byddent yn hoffi. Hoffwn wybod hyn: a fydd y darparwr newydd, Trafnidiaeth Cymru, yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau cymorth a gyflwynwyd gan Arriva yn flaenorol, fel bod cynlluniau uchelgeisiol fel y metro yn hygyrch i bawb yng Nghymru?
Bydd. Hoffwn, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a chydnabod ei diddordeb brwd yn y maes hwn. Gallaf gadarnhau mai'r bwriad yw parhau i wella profiad pobl â nam ar eu golwg ac sy'n dymuno defnyddio ein system drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n falch o ddweud hefyd y bydd darpariaethau fel canllawiau sain ar gyfer cynorthwyo teithio, y cynllun waled oren, sgwteri symudedd a chynlluniau teithio cŵn cymorth yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.
Nawr, credaf ei bod yn deg dweud bod bysiau'n darparu nifer enfawr o deithiau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi arwain ar hyn mewn sawl ffordd trwy sicrhau bod cyhoeddiadau clyweledol yn cael eu gwneud ar wasanaethau bysiau sy'n dibynnu ar gymorthdaliadau trethdalwyr. Roedd hyn yn uchelgeisiol iawn ac ar y pryd, roedd yn fesur eithaf dadleuol—roedd yn ymyrraeth ddadleuol ac yn galw am lawer gan y diwydiant. Fodd bynnag, ni wnaethom gilio rhag hynny, ac rwy'n awyddus, drwy gyfrwng y diwygiadau y soniais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma, i barhau i wella profiadau teithwyr, nid yn unig ar drenau ond ar fysiau hefyd, i bobl o bob gallu, i bobl sydd â golwg cyfyngedig neu bobl sydd wedi colli eu golwg yn llwyr.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd mynediad i bobl anabl yn cael ei ddarparu yng ngorsaf reilffordd y Fenni ar ôl ymgyrch hir gan drigolion lleol. O gofio nad yw bron i chwarter y gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad hwn pa drafodaethau y mae wedi'u cael ynglŷn â sicrhau bod pob gorsaf yn gwbl hygyrch i bobl anabl a pha bryd y bydd yr amcan hwn yn debygol o gael ei gyflawni yng Nghymru?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwyf wedi dweud wrth Nick Ramsay sut y bwriadwn wario £15 miliwn o'r £200 miliwn sydd ar gael ar gyfer gwella gorsafoedd ar wella mynediad i bobl anabl yn benodol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn gynted ag y byddwn wedi llunio'r adnodd a fydd yn mesur pa orsafoedd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Rwy'n cydnabod bod nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn cynrychioli etholaethau gyda chymunedau sydd â phlatfformau nad ydynt yn hygyrch i bobl anabl ar hyn o bryd. Rwy'n dymuno sicrhau bod y dull a fabwysiadir i fesur y gorsafoedd â blaenoriaeth yn un tryloyw, yn deg ac yn hawdd ei ddeall. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion yr adnodd hwnnw cyn gynted â phosibl.