1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 7 Tachwedd 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ52859
Diolch. Gwnaethom ein gwrthwynebiad i ffracio yn glir yn 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021' Llywodraeth Cymru. Dros yr haf, cynhaliais ymgynghoriad cyhoeddus ar echdynnu petrolewm yng Nghymru a nododd bolisi i wrthwynebu ffracio, ac argymhellodd hefyd na ddylid rhoi unrhyw drwyddedau petrolewm newydd yng Nghymru.
Yn ddiweddar, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru a Frack-Free Wales, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n gwrthwynebu ffracio'n gryf ac wedi gweithio'n galed i'w rwystro rhag digwydd ym Mro Morgannwg. Fe ddywedoch chi'n ddiweddar yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru—ac rydych wedi ailddatgan eich gwrthwynebiad amlwg i ffracio heddiw. Nodwyd gennych fod gan Lywodraeth Cymru bwerau dros ffracio a'ch bod yn credu bod y math hwn o gynhyrchiant ynni yn groes i'r nodau llesiant a'n nodau amgylcheddol. Felly, rwy'n croesawu'r moratoriwm presennol ar ffracio a'r ymgynghoriad i gael gwared ar danwydd ffosil o'n cymysgedd ynni, ac i beidio â chefnogi ceisiadau ar gyfer hollti hydrolig a thrwyddedau petroliwm. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wahardd ffracio yng Nghymru yn barhaol?
Diolch. Rwy'n benderfynol o ddefnyddio pob dull posibl o sicrhau nad yw ffracio'n digwydd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwrthwynebiad cryf i roi trwyddedau petrolewm newydd, neu ganiatadau ar gyfer ffracio, a chyflwyno polisi cynllunio llawer mwy cadarn. Felly, gyda'i gilydd, credaf mai dyma'r camau gweithredu mwyaf cadarn a gymerwyd gan unrhyw wlad yn y DU i sicrhau nad yw ffracio'n digwydd.
Mae'r polisïau a fu gennym ar waith wedi atal unrhyw ffracio rhag digwydd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn diwedd y tymor. Felly, mae gennym yr adolygiad i 'Polisi Cynllunio Cymru', a hefyd mae gennym ein crynodeb o'r ymgynghoriad ar betrolewm, a bydd hynny'n sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru'n golygu na fydd ffracio'n digwydd yn y dyfodol yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr ateb i'r cwestiwn blaenorol, oherwydd roeddwn yn mynd i ofyn i chi am yr amserlen rydych yn ei dilyn. Dywedwch eich bod yn cyflwyno datganiad cyn toriad y Nadolig. A fydd y datganiad hwnnw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni? Oherwydd ar hyn o bryd, i bob pwrpas, digwyddodd y moratoriwm yn sgil atal caniatadau cynllunio newydd yn y maes hwn. Yn amlwg, ni all hynny bara am fwy na chyfnod penodol o amser yn unig, ac o gofio ei fod yn ymrwymiad gan y Llywodraeth, pa fath o amserlen rydych chi'n ei dilyn er mwyn gweithredu'r mesurau diogelwch cryfach hyn a fydd yn amlwg yn gwella'r gallu i atal ffracio ac echdynnu nwy siâl yma yng Nghymru?
Diolch. Gallaf gadarnhau y byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor hwn—felly, o fewn y mis a hanner nesaf—a bydd yn cynnwys amserlen.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu safbwynt eich Llywodraeth ar ffracio. Pa un a ellir gwneud y broses ffracio'n ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ai peidio, tanwydd ffosil yw'r cynnyrch terfynol o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd eich Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu pob trwydded ar gyfer nwyeiddio glo tanddaearol yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedau ar gyfer gwaith echdynnu glo newydd?
Fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.