– Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar werthfawrogi ein hathrawon—buddsoddi yn eu rhagoriaeth. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y datganiad—Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Wrth inni symud yn nes tuag at wireddu ein cwricwlwm newydd i Gymru, rydym yn cyflymu'r gwaith o ddatblygu'r diwylliant a'r seilwaith dysgu proffesiynol i sicrhau y bydd diwygio'r cwricwlwm yn cael ei wireddu. Mae cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysg yn un o'r blaenoriaethau yn fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog. Mae'n un o amcanion allweddol 'Cenhadaeth ein Cenedl', ein cynllun gweithredu ar y cyd i ddiwygio addysg, ac mae'n ganolog i roi'r cwricwlwm newydd ar waith. Er ein bod eisoes wedi cychwyn yn dda gyda chefnogaeth i ymarferwyr, mae ein taith ymhell o fod wedi dod i ben. I'n cefnogi yn yr ymdrech hon, mae dull cadarn o ddysgu proffesiynol yn hanfodol. Mae gan y systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd addysgwyr bywiog ac ymgysylltiedig a staff cymorth sydd wedi ymrwymo i ddysgu parhaus. Ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm newydd heb weithlu addysg o ansawdd uchel. Dyna pam yr wyf wedi ymrwymo i ddatblygu dull cenedlaethol o ddysgu proffesiynol trwy gydol gyrfa, sy'n cynyddu gallu o'r addysg gychwynnol i athrawon ac a gaiff ei wreiddio mewn ymchwil ar sail tystiolaeth a chydweithredu effeithiol.
Drwy ymgysylltiad cynnar â'r cwricwlwm drafft, mae ysgolion arloesi wedi ystyried goblygiadau dysgu proffesiynol uniongyrchol, ac mae'n amlwg y bydd angen dull cenedlaethol wrth inni symud yn gyflym tuag at gyhoeddi'r cwricwlwm drafft. Mae'r dull yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm newydd. Fe'i cynlluniwyd i ymateb i flaenoriaethau ysgol yn ogystal â blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, ac mae'n cwmpasu taith ddysgu unigol pob ymarferwr. Mae'r cwricwlwm dysgu proffesiynol newydd yn seiliedig ar y safonau dysgu proffesiynol ac mae'n elwa ar fanteision cyfuniad o ddulliau. Datblygwyd y dull drwy broses o ymgynghoriad a chydadeiladu gan gysylltu â'r OECD, yr undebau, y prifysgolion, y consortia rhanbarthol, yr awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion, yr ysgolion arloesi a llawer o rai eraill. Cynhaliwyd amrywiaeth o brosiectau ymchwil ar gyfer rhoi sail dystiolaeth i gydrannau'r dull a sicrhau cydlyniad cyffredinol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i gydnabod gwaith y Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg a'u her adeiladol i ddysgu proffesiynol wrth gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm. Llwyddodd adroddiad y pwyllgor y llynedd i ddwyn ynghyd gyngor a mewnbwn gwerthfawr.
Pan gaiff y cwricwlwm drafft ei lansio ym mis Ebrill 2019, byddwn yn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o'r heriau sy'n gysylltiedig â'i weithredu mewn ysgolion. Mae'r buddsoddiad yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi'r offer inni ac i'r system i wneud hyn yn llwyddiannus. Mae ein dull brethyn cartref o ddysgu proffesiynol yng Nghymru yn bwynt allweddol yn ein taith ddiwygio. Mae'n dwyn ein safonau proffesiynol newydd, y dull ysgolion fel sefydliadau addysgol a'r model dysgu proffesiynol at ei gilydd i greu gweledigaeth sy'n addas i'n system ni wrth iddi ddatblygu.
Bydd y dull newydd hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar gefnogi athrawon i gael gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles a'i wella. Rydym wedi gwrando'n ofalus ar y proffesiwn yn hyn o beth, a'r gwaith a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn yr ysbryd hwn, rwy'n ymrwymedig i sicrhau y bydd arian ychwanegol sylweddol ac adnoddau ar gael i gefnogi dysgu proffesiynol. Yn y flwyddyn ariannol hon, bydd £9 miliwn ychwanegol ar gael, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf bydd hyn yn cynyddu i £15 miliwn. Mae hyn yn golygu y byddwn, dros y 18 mis nesaf, yn rhoi cyfanswm o £24 miliwn yn ychwanegol i gefnogi gweithredu'r dull cenedlaethol. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf ar gyfer cymorth i athrawon yng Nghymru ers datganoli. Bydd yr arian yn mynd i'r rheng flaen a'r nod fydd creu a rhyddhau capasiti ar lefel ysgol a chlwstwr ar gyfer ymgysylltiad ag anghenion dysgu proffesiynol y cwricwlwm newydd sy'n strwythuredig, wedi'i reoli ac yn meddu ar yr adnoddau priodol. Rydym yn disgwyl trawsnewid mawr yn y ffordd y mae ein hymarferwyr a'n arweinwyr yn meddwl am eu dysgu proffesiynol yng ngoleuni'r cwricwlwm newydd, ac mae angen inni roi'r cymorth i ysgolion i wneud y newid sylweddol hwn.
Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi athrawon, arweinwyr a rhai eraill yn yr ysgolion i gymryd yr amser y bydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r newidiadau a mireinio eu harferion. Bydd hyblygrwydd yn rhan o'r cyllido, gan alluogi ysgolion i weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd sy'n addas i'w hamgylchiadau eu hunain. Bydd yn cefnogi athrawon i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio'r cwricwlwm newydd a'r ddarpariaeth ohono, yn unol â'r newid sylfaenol yn y dull o weithredu sy'n ofynnol yn y cwricwlwm newydd. A bydd yn cefnogi hyfforddwyr ac arweinyddion dysgu proffesiynol penodedig ar lefel ysgol a chlwstwr—argymhelliad allweddol gwaith ymchwil gan brifysgolion ac yn rhyngwladol yn y maes hwn.
Llywydd, mae ein dull cenedlaethol o weithredu dysgu proffesiynol yn hanfodol i sut yr ydym yn gwerthfawrogi ein hathrawon ac yn buddsoddi yn eu rhagoriaeth. Rydym yn parhau â'n taith ddiwygio gydag eglurder a hyder, gan roi i'n hathrawon y gefnogaeth a'r buddsoddiad y mae eu hangen arnyn nhw i sicrhau eu bod yn dal ati i godi safonau ledled ein system addysg. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rydym yn hapus iawn i gefnogi cryn dipyn o'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y bydd adroddiad Donaldson yn gofyn am ailsgilio eang ymhlith ein hathrawon a staff cymorth, gyda'r rhyddid hefyd, gobeithio, i ymateb yn fwy uniongyrchol i'r dulliau amrywiol sydd gan ddisgyblion o ddysgu, yn hytrach na'r ddealltwriaeth fwy ragnodol sydd gan Estyn o addysgu, dyweder? Diolch i chi hefyd am eich sylwadau ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n bwynt sy'n werth ei wneud bod beirniadaeth adeiladol yn ymwneud â helpu'r lle hwn i wneud gwaith da, ac nid yw'n gyfle'n unig i ddweud 'Gadewch i ni roi pwniad i'r Llywodraeth', er bod hynny'n demtasiwn ar adegau. Tybiaf y byddwch, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at ein hymchwiliad nesaf, sydd ar gyllid ysgolion, sydd, yn fy marn i, mewn gwirionedd, yn ymwneud â thestun y datganiad hwn i ryw raddau hefyd.
Rydych yn dweud bod y dull o weithredu'r cyllid newydd hwn i gefnogi datblygiad athrawon wedi cael ei lunio ar y cyd â nifer o bartïon â diddordeb, gan gynnwys awdurdodau lleol. A oedden nhw'n ymwybodol o'ch bwriad chi i glustnodi'r cyllid newydd hwn sydd i'w groesawu'n fawr iawn ar gyfer y diben hwn yn y ffordd a wnaethoch chi? A ydych yn hyderus y caiff ei ddefnyddio ar gyfer hyn cyn gynted ag y bydd y cynghorau yn ei gael? Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch chi, fod hyn ar gyfer y rheng flaen, ac, yn amlwg, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn cefnogi unrhyw gyllid uniongyrchol i ysgolion. Ond rwy'n awyddus i wybod sut y byddwch chi'n monitro'r defnydd o'r arian hwn pan fyddwch—wel, yn amlwg, rydych chi'n gwybod am sefyllfa'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a cheir peth cydymdeimlad ymhlith y cyhoedd â'r safbwynt y maen nhw'n ei gyflwyno.
O ran y swm penodol o arian, sut ddaethoch chi i'r casgliad y byddai llwyddo i ddatblygu'r dysgu proffesiynol newydd hwn, i'r lefel a fyddai'n angenrheidiol iddo fod yn llwyddiannus, yn costio £24 miliwn? A wnaethoch chi ddadlau gydag Ysgrifennydd cyllid y Cabinet y gallai, er mwyn gwneud hyn yn hollol iawn, fod angen mwy arnoch, ond mai dyna'r cyfan yr oedd yn barod i'w roi i chi? Sut bynnag yr oedd hi, mewn gwirionedd, pe byddai'r awdurdod lleol yn gallu defnyddio rhywfaint o'r arian hwn mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r diben yr oeddech chi'n ei fwriadu ar ei gyfer—ac, yn amlwg, dyma'r hyn yr oeddwn yn ei geisio yn fy nghwestiwn cyntaf—a fyddai hynny mewn gwirionedd yn lleihau'r swm gwirioneddol o arian fyddai ar gael i ddarparu'r hyfforddiant yr ydych yn credu sydd ei angen i gwblhau'r gwaith? Rwy'n credu mai un o'r pethau y byddem ni i gyd yn poeni amdano yw y gallai hyn, fel amcan polisi, ddatblygu i fod yn rhywbeth bregus a hyd yn oed fethu pe na fyddai'r arian y dywedasoch sy'n gwbl angenrheidiol yn dod i law.
Fy nghwestiwn nesaf yw: 'Beth sy'n hollol angenrheidiol?' Y £24 miliwn—yn amlwg, dywedodd Ysgrifennydd cyllid y Cabinet ein bod ni'n sôn am £15 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae £9 miliwn arall wedi ymddangos o rywle, felly hoffwn pe gallech ddweud wrthym o ble y daeth y £9 miliwn hwn. Nid wyf yn dweud nad oes croeso iddo, ond gyda dim ond pum mis eto cyn diwedd y flwyddyn ariannol, sut ydych yn disgwyl i'r £9 miliwn hwn gael ei wario mewn ffordd ystyrlon, pan ragwelir na fydd unrhyw ddull cenedlaethol ond yn cael ei gyflwyno, mewn gwirionedd, o'r flwyddyn nesaf ymlaen? Ac ar ben hynny, datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol—rhagwelwyd mai dim ond £5.8 miliwn fyddai'n angenrheidiol i ddatblygu hwnnw. Mae eisoes wedi cael ei ddatblygu, i bob pwrpas, felly beth am y £9 miliwn? Ar gyfer y cyflwyno? A sut fyddech chi'n gwneud hynny ymhen pum mis?
Clywais o'ch datganiad fod amrywiaeth o brosiectau ymchwil yn mynd rhagddynt. Wel, mae'n debyg na fyddan nhw'n barod i roi gwybod sut y bydd y £9 miliwn hwnnw i'w wario. Neu a oes unrhyw beth y gallech yn wirioneddol ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn hon? Oherwydd os oes— ac mae'n hynny'n gwbl bosibl—byddai hynny, yn amlwg, yn rhyddhau £9 miliwn ym mhen arall cyllideb y flwyddyn nesaf. Beth ydych chi'n rhagweld gwario hynny arno? Pwy yw'r hyrwyddwyr a'r arweinyddion dysgu proffesiynol yr ydych chi'n disgwyl eu gweld? Hynny yw, a ydyn nhw ar gael nawr, neu ai'r disgwyliad yw y byddan nhw'n dod i'r adwy ac yn ein helpu i gyflwyno'r cynllun da hwn y flwyddyn nesaf? A yw'r ysgolion yn glir ynghylch pwy y bydden nhw'n hoffi eu rhyddhau, os ydych yn gallu dwyn llawer o hyn yn ei flaen?
Rwy'n dymuno ei gwneud yn glir, mewn gwirionedd, nad wyf yn holi'r cwestiynau hyn i herio amcan eich polisi. Ond gan gofio bod yr awdurdodau lleol wedi bod yn crochlefain am arian ychwanegol, yn enwedig ar gyfer eu cyllideb ysgolion, sut y daethpwyd i'r penderfyniad fod y £9 miliwn hwn, sydd wedi ymddangos o rywle, yn mynd i gael ei ddefnyddio ar gyfer yr amcan clodwiw a theilwng hwn ond ar yr un pryd mae'r ysgolion yn dweud, 'A dweud y gwir, nid ydym yn gallu fforddio i redeg ein hysgolion.' Felly, pe gallech ein helpu ni ac esbonio hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn. Yn sicr, mae'r arian i'w groesawu, ond rwy'n awyddus i ddeall mwy am natur uniongyrchol y defnydd ohono.
Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig i ni gydnabod gwaith y Pwyllgor yn hyn o beth. Pan edrychodd y pwyllgor ar y cwricwlwm, hwn oedd argymhelliad Rhif Un y pwyllgor: mae angen i ni, fel Llywodraeth, fynd i'r afael ag anghenion dysgu proffesiynol y staff, os ydym eisiau datblygu amcanion y cwricwlwm. Rwy'n gobeithio bod yr aelodau o'r Pwyllgor a weithiodd ar yr adroddiad hwnnw yn falch ein bod wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth wrth wneud hyn.
Gadewch imi fod yn gwbl glir ynglŷn â'r ffordd y bydd yr arian yn cyrraedd y rheng flaen. Yn y flwyddyn ariannol hon, dyrennir yr arian i'r consortia rhanbarthol, sydd wedi bod yn ymwneud â datblygiad y rhaglen hon ac sy'n hyderus y gallwn anfon yr adnoddau hynny i'r rheng flaen. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Ceir sylfaen eang o dystiolaeth a gafwyd eisoes, ac mae ein hysgolion arloesi sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol wedi bod yn arbrofi gyda rhai o'r technegau hyn eisoes. Felly, nid cychwyn stond yw hwn. Caiff ei lywio gan ymarfer sydd eisoes wedi ei wneud mewn ysgolion, ac mae rhai enghreifftiau gwych y gallaf gyfeirio atyn nhw. Er enghraifft, Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni: arloeswr cymharol newydd ym maes datblygiad proffesiynol, ond yn gweithio yn galed iawn, iawn, nid yn unig o fewn eu hysgol eu hunain, ond mewn gwirionedd gydag ysgolion y clwstwr o'i chwmpas, i edrych o ddifrif ar beth yw'r anghenion a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol os ydym eisiau bod yn barod ar gyfer y cwricwlwm—yn rhagweithiol iawn. Ysgol Gynradd Romilly: unwaith eto, enghraifft arall lle mae'r mapio wedi cael ei wneud eisoes ar gyfer unigolion i nodi beth y maen nhw'n ei deimlo sydd ei angen i'w paratoi ar gyfer bod yn barod i'r cwricwlwm newydd. Ond, yn amlwg, bydd yn rhaid i rywfaint o'r gwaith hwn gael ei ddatblygu ymhellach pan fydd manylion y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu rhyddhau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn llywio ein trafodaethau parhaus am yr hyn sy'n angenrheidiol.
Grant a neilltuir i'r awdurdodau lleol fydd yr arian ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd yn rhaid gwario'r arian i'r dibenion hyn. O ran arian i gonsortia ac i ysgolion fel ei gilydd, byddwn yn ceisio sicrhau bod tryloywder yn y dull o ddyrannu adnoddau a hefyd yn y gwaith o fonitro'r cyllid. Nawr, mae cydbwysedd i'w daro bob amser, onid oes, rhwng creu swm enfawr o fiwrocratiaeth, yn enwedig i ysgolion unigol, i roi cyfrif am arian, a gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr hyn y mae wedi ei fwriadu ar ei gyfer. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r consortia rhanbarthol, y bydd yn ofynnol iddyn nhw gyhoeddi eu cynlluniau gwariant ar gyfer yr arian, a byddwn yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ôl y grwpiau proffesiynol ac yn ôl yr ysgolion unigol. Felly, byddwn yn disgwyl casglu'r data hynny fel y gallwn fodloni ein hunain ynghylch y defnydd a wneir o'r arian. Ond mae'n rhaid taro cydbwysedd rhwng creu hunllef fiwrocrataidd i bobl a chaniatáu i'r arian gael ei ddefnyddio at y dibenion a fwriedir.
Nid oes cweryl rhwng fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau. Nid oes mantais i mi o fod yn cweryla. Rwy'n credu ichi ddweud mod i'n 'dadlau' ag ef. Ond mae ef yn ymwybodol, os yw'n cwricwlwm am fod yn llwyddiant, yna bydd raid inni fuddsoddi yn ein hathrawon i'w galluogi i gyflawni hynny. Bydd yr holl waith yr ydym wedi ei wneud ar y cwricwlwm yn mynd i'r gwellt os na fydd ein hathrawon mewn sefyllfa i roi hwnnw ar waith yn llwyddiannus ar ran eu disgyblion. Yr enghreifftiau o'r mathau o bethau y bydd angen i ysgolion eu harchwilio—byddwn yn edrych ar oblygiadau'r cynnwys newydd, dulliau newydd o gynllunio a gwireddu dysgu, dulliau newydd o asesu cynnydd plant, datblygu'r sgiliau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm ar lefel ysgol—rhywbeth nad yw ysgolion efallai mor gyfarwydd â'i wneud—datblygu trefniadau cydweithredol ar gyfer y cwricwlwm ar lefel ysgol o 4 i 19 oed, felly mewn gwirionedd gwneud yn siŵr bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn cydweithio i sicrhau bod llwybr i'w gael ar gyfer dysgwyr unigol. Goblygiadau, er enghraifft, y meysydd dysgu a phrofiad—bydd gennym faes dysgu a phrofiad newydd, sef iechyd a lles. Bydd hynny, mewn rhai ffyrdd, yn her i'r sector yn y maes arbennig hwn, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr y bydd ein hathrawon yn hyderus y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar y cyfle o fod â'r maes dysgu a phrofiad newydd o iechyd a lles.
At ba ddiben y disgwyliwn i'r arian gael ei ddefnyddio? Wel, rydym yn hyderus bod ysgolion mewn sefyllfa i fapio anghenion dysgu eu hathrawon. Byddwn yn disgwyl iddyn nhw ddefnyddio'r arian i ryddhau a llenwi bylchau gydag amser y staff ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch ar y cyd. Mae hynny'n anodd iawn yn aml. Rwy'n credu i ni gael y sgwrs hon yr wythnos o'r blaen yn y pwyllgor wrth drafod yr adegau y bydd cyllidebau yn gyfyng, y bydd y gallu i ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant yn diflannu. Mae hyn nawr yn golygu y bydd adnoddau wedi eu neilltuo i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Rwy'n ymwybodol iawn ac yn effro i'r pwysau sylweddol sydd ar lywodraeth leol. Byddwch wedi clywed ateb y Prif Weinidog heddiw o ran y Llywodraeth yn parhau i fwrw golwg ar beth arall y gallwn ei wneud i ysgafnhau'r pwysau. Rwy'n siŵr, pe bai'r Llywodraeth mewn sefyllfa i wneud hynny, byddai'r awdurdodau lleol yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion a sicrhau bod plant yn eu hardal leol yn cael y cyfleoedd gorau posibl. Ond wedi gwneud hynny, bydd angen inni wneud yn siŵr bod gan yr athrawon hynny yn y stafell ddosbarth y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw. Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym yn ymateb hefyd i alwadau cyson gan yr undebau i fod â'r arian hwn yn ei le, ac roeddwn yn hapus iawn ddoe i weld y croeso cynnes iawn a roddodd undebau'r athrawon i'r cyhoeddiad hwn.
Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers blynyddoedd, wrth gwrs. Os nad ydy'r gweithlu yn cael—
Mae'n flin iawn gyda fi, ond nid yw'r cyfieithiad i'w gael gennyf i, Llywydd. Rwy'n flin iawn.
Iawn. A ydych chi eisiau imi drio eto? A ydy o'n gweithio rŵan?
Sori—
Ocê. Ydy hon yn broblem gan bawb?
Rwy'n flin iawn—
Na. Nid arnoch chi y mae'r bai; mae pethau fel hyn yn digwydd.
Nage, arnaf i y mae'r bai, sori. Mae'n gweithio ar hwn—mi gymeraf i fenthyg un Lesley.
Iawn. Pwyswch drosodd.
Bydd raid i mi lanhau hwn iddi wedyn.
Peidiwch â sôn, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.]
Siân Gwenllian i gario mlaen.
Iawn. Gobeithio eich bod chi'n fy nghlywed i, a chlywed y cyfieithiad yn glir hefyd.
I'r dim.
Ardderchog. Fe wnaf ddechrau eto, felly.
Mae codi safonau a chodi statws y proffesiwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo ers nifer o flynyddoedd. Os nad ydy'r gweithlu yn cael hyfforddiant o safon uchel drwy gydol eu gyrfa, o'u haddysg gychwynnol hyd at gyfnod ymddeol o'r sector, fydd y safonau ddim yn codi yn y dosbarth.
Cyn troi at fater sydd wedi cael ei drafod yn fan hyn nifer o weithiau, sef athrawon llanw a'u rhan nhw yn y broses yma, rydw i eisiau cyffwrdd hefyd ar y mater yr oedd Suzy yn ei godi ynglŷn â'r £15 miliwn o arian, ac a fyddai fo wedi bod yn well i'r arian fynd yn syth i'r gyllideb graidd yn hytrach na chael ei roi fel grant benodol.
Rŵan, rydw i'n cydymdeimlo â chi, achos rydw i newydd ddweud fy mod i'n meddwl bod angen buddsoddi i gael y dysgu proffesiynol yma'n digwydd yn iawn, ond, wrth gwrs, mae hi'n gyfnod eithriadol o anodd ar y cynghorau sir, ac mae'r gymdeithas llywodraeth leol wedi dweud y byddai'n llawer iawn gwell ganddyn nhw weld y £15 miliwn yn cael ei wario ar gadw swyddi—un ai dros 350 o athrawon profiadol neu dros 600 o gymorthyddion dysgu—fel y byddai'r achos wedi bod petai'r cyllid yma wedi cael ei gynnwys o fewn y gyllideb graidd. Rydw i'n gweld eich dilema chi: rydych chi eisiau gwario'r arian yn y lle iawn, ond, ar y llaw arall, mae hi'n gyfnod o argyfwng ac mae ein hysgolion ni angen pob ceiniog er mwyn cadw'r athrawon profiadol—felly, jest gofyn ichi jest ystyried ychydig ar hynny unwaith yn rhagor.
Ond i droi yn benodol rŵan at athrawon llanw, mae yna bedair gwaith mwy o asiantaethau preifat ar gyfer athrawon llanw rŵan nag oedd yna ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae yna bryderon ynglŷn â thâl ac amodau a datblygiad proffesiynol yr athrawon yma, efo llawer o ysgolion yn dibynnu'n gynyddol ar athrawon llanw i lenwi absenoldebau athrawon. Mae'n hollbwysig, felly, onid ydy, bod yr athrawon llanw hefyd yn derbyn hyfforddiant a bod eu gwybodaeth o ddatblygiadau yn y cwricwlwm yn gyfoes.
Mewn datganiad gennych chi'n ddiweddar ar wefan y Llywodraeth, mi ddywedwyd y bydd dysgu proffesiynol yn hawl i bob ymarferwyr mewn ysgolion, nid athrawon yn unig, felly hoffwn i wybod a fydd yna ddarpariaeth ar gyfer athrawon llanw hefyd a sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Mae'r datganiad yn dweud hefyd y bydd arian yn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn aflonyddu cyn lleied â phosib ar ddysgu'r disgyblion, a bydd yr arian yn helpu sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau ar gyfer dysgu proffesiynol hefyd. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ar sut y mae hynny'n mynd i ddigwydd? Ac a ydy hynny, yn anorfod, yn mynd i arwain at ragor o ddibyniaeth ar athrawon llanw? Felly, y pwynt penodol yna, os gwelwch yn dda, a'ch sylwadau chi ynglŷn â'r gyllideb graidd yn erbyn grant. Diolch.
Diolch yn fawr, Siân, ac mae'n flin iawn gyda fi am yr amhariad a gorfod gwneud ichi ailddechrau. Mae safon fy Nghymraeg yn gwella, ond hyd at flwyddyn 2 neu flwyddyn 3, ac nid yn ddigon da ar gyfer y Siambr.
Rwy'n credu mai'r hyn a groesawaf yn bendant yw eich dealltwriaeth na allwn ni sylweddoli, heb ragoriaeth yn y gweithlu addysgu, yr ymdrech ar y cyd ar draws y Siambr hon i ddarparu addysg o'r radd flaenaf. Dyna pam y tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd dod o hyd i'r adnoddau hyn. Os edrychwn ar adroddiadau blaenorol Estyn, tynnwyd sylw at yr angen i fuddsoddi yn ansawdd ein dysgu fel blaenoriaeth, a dyna pam mae hi'n hollol iawn dod o hyd i'r arian hwn.
Gallwn gael dadl am y dulliau y gall yr arian hwn fynd i'r rheng flaen, ond, fel yr ydych chi eich hunain wedi ei gydnabod, yn aml y peth cyntaf i ddiflannu yw buddsoddiad mewn staff a hyfforddiant. Ac, felly, os ydym eisiau buddsoddi yn ein staff, rwyf wedi penderfynu mai'r unig ffordd y gallwn fod yn gwbl sicr y bydd hynny'n digwydd yw drwy grant wedi'i neilltuo. Nid wyf i o'r farn y dylai fod yn ddewis deuaidd chwaith—ei fod yn arian ar gyfer y grant cynnal refeniw neu'n arian ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae angen inni wneud yn well na hynny, a byddwn yn ailadrodd hefyd bod y Llywodraeth yn parhau i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi'r grant cynnal refeniw yn y dyfodol.
Ond, Llywydd, defnyddiodd Siân Gwenllian y gair 'argyfwng'. Credaf i mai argyfwng fyddai ein cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno ar sail statudol yn 2022 ac na fyddai ein hathrawon mewn sefyllfa i'w gyflawni. Byddai hwnnw'n argyfwng gwirioneddol. A heb i ni flaenoriaethu'r gwariant hwn ar gymorth a dysgu proffesiynol, ni fydd y cwricwlwm newydd yn cyflawni'r hyn y mae angen iddo'i gyflawni. Rwy'n credu y byddai hynny'n argyfwng gwirioneddol inni. Dyna pam yr wyf wedi gwneud y penderfyniad hwn i flaenoriaethu a rhoi'r adnoddau hyn yn benodol i fuddsoddi yn ein staff. Fel y dywedais, gwnaed hyn ar y cyd â'n cydweithwyr yn undebau'r athrawon ac maen nhw wedi croesawu'r adnodd hwn.
Rydych chi yn llygad eich lle i gydnabod bod gan gynorthwywyr addysgu ac athrawon cyflenwi hefyd yr un hawl i gael cyfleoedd dysgu proffesiynol. Maen nhw i raddau helaeth iawn yn aelodau gwerthfawr a werthfawrogir o'n gweithlu addysg ac mae ganddyn nhw swyddogaeth sylweddol wrth ddatblygu a chyflawni gydag addysg, ar ein cenhadaeth genedlaethol. Felly, yn rhan o'r broses fonitro, byddwn yn ceisio cael y consortia i adrodd ar y niferoedd sy'n manteisio ar yr hyfforddiant a faint ohono sydd ar gael i athrawon cyflenwi, ond hefyd yn edrych ar, ac yn rhoi, hyblygrwydd i ysgolion o ran eu gallu i ddefnyddio eu hadnoddau i gefnogi athrawon, a hefyd eu staff addysgu cynorthwyol. Mae rhai ysgolion yn gwneud hynny eisoes; mae rhai ysgolion yn dweud nad ydyn nhw mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, ceir hyblygrwydd ar gyfer ysgolion unigol a chlystyrau i wneud trefniadau ar gyfer staff addysgu a staff cynorthwyol addysgu a byddwn yn monitro materion sy'n ymwneud â chyflenwi.
Gwn fod materion ynghylch cyflenwi yn parhau i beri pryder i'r Aelodau ar draws y Siambr hon; maen nhw'n peri pryder i minnau. Dyna pam rydym yn parhau â'n gwaith o geisio ymgorffori telerau ac amodau gwell yn sgil ein caffael cenedlaethol o'r gwasanaethau hyn ac yn bwriadu sicrhau bod hyfforddiant proffesiynol ar gael fel rhagofyniad i asiantaethau sy'n gweithio yn y maes hwn. Fel y dywedais, nid wyf dan unrhyw gamargraff o ran yr heriau sy'n wynebu'r grant cynnal refeniw, ond, os ydym yn ddifrifol o ran sicrhau bod y proffesiwn yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd, a'n bod ni'n ddifrifol o ran llwyddiant y cwricwlwm, yna bydd yn rhaid inni fuddsoddi yn ein gweithlu ac mae'n rhaid inni wneud hynny nawr. Bydd yn rhy hwyr os arhoswn am flwyddyn neu ddwy arall, os neu pan fyddai neu na fyddai'r system ariannol—y sector ariannol, yr awyrgylch ariannol, yn well neu beidio. Mae'n rhaid achub ar y cyfle hwn nawr.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn nodi, unwaith eto, eich bod wedi rhyddhau eich cyhoeddiad allweddol i'r wasg cyn ei gyhoeddi i ni. Gan eich bod yn gallu cyhoeddi datganiad i'r wasg ar y mater, rydych chi'n amlwg mewn sefyllfa i gyhoeddi'r datganiad i Aelodau'r Cynulliad, ond wnaethoch chi ddim. Rwyf braidd yn siomedig eich bod wedi ei ryddhau i'r wasg gyntaf cyn gwneud y cyhoeddiad yn y fan hon.
Ond, gan droi at eich datganiad, rwy'n siŵr y bydd athrawon ac ysgolion yn hynod ddiolchgar i chi am yr arian yr ydych yn ei gyhoeddi heddiw—neu yn hytrach a gyhoeddwyd gennych chi ymlaen llaw. Tybed a yw hwn yn gyfaddefiad eich bod chi'n ceisio newid gormod yn rhy gyflym? A fu'n rhaid ichi addo'r swm hwn o arian oherwydd cost athrawon cyflenwi gan nad ydych chi wedi sicrhau dewis arall ar wahân i ddefnyddio asiantaethau, sy'n codi crocbris ar ysgolion? Ai'r cynllun o'r dechrau oedd gwario'r swm enfawr o £24 miliwn yn y modd hwn? Os felly, pam nad ydych chi wedi dweud hynny o'r blaen—hynny yw, pan wnaethoch chi gyhoeddi'r cwricwlwm newydd?
Rydych yn dweud ei fod ar gyfer sicrhau bod newidiadau yn cael eu gwneud mewn ffordd a fydd yn blaenoriaethu lles athrawon ac yn lleihau'r amharu ar ddysgu disgyblion. Nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor o ddyrannu'r arian. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud, gydag unrhyw fesur yr ydych yn ei gyflwyno, boed yn Fil anghenion dysgu ychwanegol neu beth bynnag, oni bai i'r adnoddau fod ar gael i ganiatáu i'r newidiadau hyn ddigwydd, nad yw hynny'n werth dim. Holi'r wyf i pam mae hyn yn dod i'r amlwg nawr a pham na chafodd ei ystyried yn gynharach, oherwydd siawns gen i y dylech chi fod wedi ystyried hyn pan gyhoeddwyd eich cynlluniau i gyflwyno'r holl newidiadau hyn i'r cwricwlwm yn y lle cyntaf, ac yn sicr fe ddylech chi fod wedi gwneud asesiad o'r effaith y byddai maint y newidiadau hyn yn debygol o'i gostio i'r proffesiwn addysgu i'w rhoi ar waith.
Yn y datganiad ysgrifenedig i'r wasg gan y Llywodraeth, cewch eich dyfynnu'n dweud bod yr arian yn dangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi athrawon a dysgu proffesiynol, ac eto i gyd cyn hynny dywed mai bwriad yr arian yw pontio i'r cwricwlwm newydd mor hawdd â phosibl. Ond pa un o'r ddau ydyw? Roedd ychydig o anghysondeb yn y fan honno, mae'n ymddangos. Ai cyfle newydd yw hwn ar gyfer dysgu proffesiynol, fel yr awgryma eich dyfyniad, ynteu ymateb i'r panig y bydd angen help na chafodd ei ragweld hyd yma ar athrawon ar gyfer addasu i'r newidiadau, fel yr awgryma gweddill yr erthygl? Ai arian newydd yw hwn, ynteu arian y bydd yn rhaid iddo ddod o'r gyllideb addysg bresennol sy'n lleihau, y mae'r Llywodraeth Lafur yr ydych chi'n ei chynnal wedi ei thorri mewn termau gwirioneddol? Os nad yw'n arian newydd, a oes gennych gywilydd bod eich newidiadau chi yn gofyn am gymryd arian o rannau eraill o'r system addysg er mwyn helpu i hwyluso'r broses o drosglwyddo i'r cwricwlwm newydd oherwydd eich bod chi'n ceisio gwneud gormod o newidiadau yn rhy gyflym? Mae £24 million yn golygu llawer o athrawon newydd, llawer o lyfrau newydd—gallai rhai ysgolion gwledig ac ysgolion lleol osgoi cael eu cau. Felly, rwyf i o'r farn ein bod ni a'r trethdalwyr yn haeddu cael gwybod beth sy'n cael llai o arian—mae'n ddrwg gennyf, dechreuaf eto—beth fydd llai o arian yn cael ei wario arno er mwyn ariannu eich cyhoeddiad diweddaraf chi. Ac a wnewch chi roi rhestr fanwl o'r hyn fydd yn cael llai o gyllid nag a ragwelwyd o ganlyniad i hyn a pha asesiadau yr ydych chi a gweddill aelodau'r Cabinet wedi eu gwneud o oblygiadau'r gostyngiadau hynny? Diolch.
Llywydd, mae'n flin gennyf, mae'n rhaid fy mod i wedi camgymryd, oherwydd roeddwn i'n credu bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a wnaeth ei ymrwymiad Rhif 1 ynghylch datblygiad proffesiynol o ganlyniad i'r cwricwlwm yn adroddiad unfrydol a gafodd ei gymeradwyo gan bob aelod o'r pwyllgor. Cyn belled ag y cofiaf i roedd Michelle Brown yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, felly roedd hi'n gwbl ymwybodol o'r trafodaethau am hynny.
Nid wyf i erioed, ddim erioed wedi dweud na fyddai angen inni fuddsoddi yn natblygiad dysgu proffesiynol ein staff addysgu. Ni ddywedais i hynny erioed. Gwn yn well na neb, os ydym eisiau cael y system addysg yr wyf i'n ei dymuno i'm plant i, ac yn wir, i bob plentyn yng Nghymru, yna gweithlu addysg o ansawdd da fydd yn ei chyflawni. Nawr, mae'r Aelod yn dweud 'Pam nawr?', ac mae hwnnw'n gwestiwn dilys i'w ofyn. Rydym yn gwneud y cyhoeddiad hwn nawr gan fod y gwaith ymchwil wedi dod i ben, mae'r gwaith wedi cael ei wneud, i nodi pa gyfleoedd a gofynion dysgu proffesiynol sy'n deillio o'r newidiadau i'n cwricwlwm. Dyna pam mae'n bwysig inni wneud y cyhoeddiad hwn nawr, oherwydd mae'r ymchwil gyda—rydym wedi gwneud y gwaith ymchwil gyda'n prifysgolion, rydym wedi ymgynghori â'n proffesiwn addysgu, rydym wedi edrych ar effaith y newidiadau i'r cwricwlwm mewn gwledydd eraill a'r hyn y maen nhw wedi ei wneud i sicrhau bod y diwygiadau i'w cwricwlwm nhw wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r gwaith wedi cael ei gwblhau bellach, mae ein hysgolion arloesi wedi bwydo nôl, ac rydym mewn sefyllfa i sicrhau y bydd y dull gweithredu cenedlaethol yn cael ei ddwyn yn ei flaen.
Nawr, mae Michelle Brown yn dweud, 'A yw'r cyhoedd mewn gwirionedd yn dymuno i ni wario'r arian hwn?' Wel, byddwn i'n dadlau—byddwn i'n dadlau—[Torri ar draws.] Byddwn i'n dadlau bod y cyhoedd yn disgwyl i'r Llywodraeth hon fuddsoddi mewn athrawon ledled y wlad hon sydd yn sefyll o flaen eu plant o ddydd i ddydd, yn darparu nid yn unig y cwricwlwm presennol ond gwricwlwm y dyfodol—cwricwlwm y cydnabyddir, ac eithrio gan UKIP, fod ei angen arnom ni yma yng Nghymru. Ac er mwyn rhoi'r cyfle gorau iddo lwyddo a pheidio â thynghedu ein hathrawon i fethiant, mae angen inni fuddsoddi ynddyn nhw. Mae'r Aelod yn dweud, 'Pa un o'r ddau ydyw? Buddsoddiad yn ein staff addysgu neu fuddsoddiad yn ein cwricwlwm?' Wel, ni allwch gael un heb y llall. Mae'n ymwneud â gwerthfawrogi ein proffesiwn addysgu; mae'n ymwneud â dweud y byddwn yn blaenoriaethu eu dysgu a'u datblygiad nhw. Nid siarad am y peth yn unig fyddwn ni, byddwn yn ei ariannu, a byddwn yn rhoi iddyn nhw'r cyfle gorau posibl i wireddu'r cwricwlwm newydd cyffrous i Gymru ar eu cyfer nhw, ond, yn bwysicach na hynny, ar gyfer ein dysgwyr.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad? Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyllid ychwanegol yn fawr iawn. Fel y tynnwyd ein sylw ato, roedd hwn yn faes o bryder mawr i'r pwyllgor ac rwyf fi, am un, yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi gallu ymateb mor gadarnhaol.
Fel y tynnwyd ein sylw ato gennych, mae a wnelo hyn â'r cwricwlwm newydd, ond hefyd â buddsoddi yn ein gweithlu, sef ein hased mwyaf. Gwn fod Llywodraeth Leol wedi bod yn uchel ei gloch o ran y cyllid hwn, ond ys gwn i a fyddech chi'n achub ar y cyfle hwn i ailadrodd i mi nawr, er bod taer angen mwy o arian ar gyfer Llywodraeth Leol, ac rwy'n gobeithio y daw hwnnw, ei bod yn gwbl hanfodol inni fod â'r adnodd gwarchodedig hwn i fuddsoddi yn ein hathrawon medrus, yn enwedig gan fod Estyn wedi dweud wrthym ni'n gyson mai addysgu yw'r agwedd wannaf yn y system.
Roedd gennyf i un cwestiwn arall, am yr hyn a ddywedwyd gennych am y cyllid yn cyfrannu at helpu athrawon gyda'u hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae hynny hefyd yn ymateb i adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor, a tybed a allech chi ddweud ryw ychydig bach mwy am sut y byddech chi'n rhagweld y rhan honno o'r arian yn cael ei gwario.
Diolch, Lynne, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu defnyddio adroddiad y pwyllgor a'r dystiolaeth a gasglwyd i helpu i lunio a ffurfio polisi'r Llywodraeth. Fel y dywedodd Suzy Davies yn gynharach, dyna un o gryfderau ein system, rwy'n credu. Rwy'n gredwr cryf hefyd, yn yr egwyddor nad oes gan y Llywodraeth a gweision sifil yr holl atebion, ac mae hi'n bwysig defnyddio argymhellion y pwyllgorau, a'r amser y maen nhw'n ei roi, a'r ymdrech y maen nhw'n ei wneud, i lunio'r adroddiadau hynny, i helpu datblygu polisïau.
Bu'n rhaid i mi i glustnodi'r cyllid hwn i sicrhau y caiff ei wario at y dibenion hyn. Heb glustnodi yn y fath fodd, rwy'n credu bod perygl gwirioneddol na fyddai'r arian hwn ar gael ar gyfer cyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae'n debyg bod datganiad i'r wasg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cadarnhau hynny—na fydden nhw wedi blaenoriaethu hynny; bydden nhw wedi ei wario nid ar bethau llai pwysig, ond bydden nhw wedi ei wario ar bethau gwahanol. Byddaf bob amser yn y Cabinet yn ceisio rhoi cymaint o adnoddau â phosibl i reng flaen y byd addysg. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r Llywodraeth yn parhau i edrych i weld beth y gellir ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol drwy gyfrwng y grant cynnal refeniw, ond mae hi'n gwbl hanfodol, os yw ein diwygiadau addysg i fod yn llwyddiannus, ein bod yn buddsoddi yn ein proffesiwn addysgu.
Nawr, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod 'Dyfodol Llwyddiannus'—'Donaldson', fel y'i gelwir—yn amlygu, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae angen i blant a phobl ifanc brofi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol er mwyn ffynnu a llwyddo yn eu haddysg.'
Ac un o bedwar diben y cwricwlwm newydd fydd cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu yn unigolion iach, hyderus, ac mae'r pedwar diben hynny, wrth gwrs, wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. Felly, mae angen inni fod mewn sefyllfa i sicrhau bod athrawon yn meddu ar yr hyfforddiant hwnnw i'w galluogi i wireddu un o'r dibenion hynny.
Bydd un agwedd o ran 'yr hyn sy'n bwysig' ym maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn canolbwyntio ar iechyd meddwl ac emosiynol, ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, un o'r pethau y bydd angen i ysgolion fynd i'r afael ag ef wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yw sut byddan nhw'n gallu ymwneud â'r meysydd dysgu a phrofiad, a sut byddan nhw'n gallu bod yn ffyddiog bod eu staff mewn sefyllfa i gyflawni hynny. O ystyried bod hynny'n rhan mor hanfodol o'r maes dysgu a phrofiad, byddem ni'n disgwyl y byddai ysgolion—efallai yn y gorffennol, mewn rhai ysgolion, nad ydyn nhw wedi rhoi llawer iawn o sylw i'r maes hwn—eisiau defnyddio rhai o'r adnoddau hyn i allu rhoi eu hunain mewn sefyllfa i gyflawni'r maes dysgu a phrofiad hwnnw, a'r datganiad 'yr hyn sy'n bwysig' hwnnw.
Wrth gwrs, bydd pethau'n gliriach i bawb ynghylch y meysydd dysgu a phrofiad pan gânt eu cyhoeddi yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, a bydd hynny'n ein helpu i lunio ein cyfres nesaf o gyfleoedd dysgu proffesiynol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.