1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion sy'n rhan o fand B Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ52976
Gwnaf. Bydd band B ein rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol o £2.3 biliwn yn ein hystâd addysg o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac, yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes, bydd holl awdurdodau lleol a cholegau Cymru yn elwa ar y buddsoddiadau hynny.
Ac mae'n wir bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddefnyddio cyllid cyhoeddus-preifat drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol o £500 miliwn i ariannu'n rhannol y gost o adeiladu ysgolion newydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wrthyf na fyddai cynlluniau adeiladu ysgolion unigol yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael cyllid, ac yn hytrach byddai cynlluniau yn cael eu tynnu ynghyd mewn sypiau ledled Cymru i fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys. Fodd bynnag, lluniwyd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mai 2017 pryd y dywedasant fod y rhan fwyaf o gynghorau wedi gwrthod, hyd yn hyn, caffael prosiectau mewn sypiau, y gallai ymgynghoriadau hirfaith ar un neu ddau o brosiectau dadleuol sy'n cynnwys uno neu gau o bosibl ohirio'r holl brosiectau sydd mewn swp ac y byddai methiant i gydweithredu yn peri risg sylweddol i'r elfen o'r rhaglen a ariennir gan refeniw.
Ar ôl edrych trwy drafodaethau blaenorol yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ar y model buddsoddi cydfuddiannol, rwy'n canfod bod y Llywodraeth wedi darparu gwybodaeth annigonol am sut y mae'n mynd i ddatrys y problemau hyn. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog, yn y lle cyntaf, amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r problemau o ran sypiau, ond, yn y tymor hwy, a wnaiff ef ymrwymo i ddadl yn amser y Llywodraeth fel y gall yr holl Aelodau graffu ar y model ariannu hwn yn effeithiol?
Y rheswm pam yr ydym ni wedi dewis partneriaeth strategol i ddarparu prosiectau addysg MIM yw ei fod yn caniatáu i werth cyfalaf prosiectau unigol fod yn is o lawer nag y byddent o dan gaffael unigol. Felly, rydym ni'n annog, wrth gwrs, bwndelu i ddigwydd er mwyn i'r gost ostwng, ymhlith rhesymau eraill. Rhoddir y cyfle i bartner strategol llwyddiannus ddarparu'r biblinell gyfanredol o gynlluniau addysg MIM—mae hynny hyd at £500 miliwn mewn gwerth—ac mae hynny'n cynrychioli ffordd effeithlon a hyblyg o ddarparu cynlluniau sengl neu mewn sypiau bach ar lefel leol sydd â gwerthoedd mor isel â £15 miliwn, oherwydd, heb hynny, byddai angen i bob awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach unigol gynnal proses gaffael llawn ar gyfer pob un o'i brosiectau MIM unigol, sy'n anymarferol ac yn cymryd llawer o amser. Byddem yn annog awdurdodau lleol, wrth gwrs, i fabwysiadu dull bwndelu fel bod eu costau eu hunain yn cael eu gostwng ac, yn ail, wrth gwrs, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu darparu prosiectau na fyddai'n cael eu darparu fel arall yn ôl pob tebyg, gan eu bod yn llai o ran maint.
Diben ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi eich clywed chi'n dweud droeon, yw gwella'r ystâd ysgolion ledled Cymru. Yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cau ysgol gefn gwlad fach sydd â chofrestr dda, sydd â dyfodol disglair o'i blaen—ysgol Llancarfan. Rwy'n sylweddoli na allwch chi drafod achos penodol, ond does bosib ei bod hi'n iawn i ddefnyddio arian ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i gau ysgol hyfyw sydd â dyfodol disglair, ac, yn wir, nid yw'r ddadl y mae Cyngor y Fro wedi ei chyflwyno hyd yn oed yn sôn am gau; adleoli yw'r cwbl y mae'n sôn amdano. Nid dyna ddiben ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, aie?
Wel, fel y mae ef yn ei ddweud, nid cau ysgolion yw amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain; amcan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw darparu safleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu ynddynt. Gwn, wrth gwrs, bod hynny wedi golygu mewn llawer o rannau o Gymru bod ysgolion newydd wedi cael eu hadeiladu a bod ysgolion presennol wedi cael eu cau am sawl rheswm. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, na allaf wneud sylwadau ar gynnig penodol sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg, ond rydym ni'n falch o'r ffaith bod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi darparu adeiladau newydd ac adeiladau wedi'u hailwampio i gynifer o blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Mae galw mawr am yr arian cyfalaf ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain gan y sector cyfrwng Cymraeg, sydd yn newyddion ardderchog, wrth gwrs, ac yn dangos awydd i gefnogi uchelgais miliwn o siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth yma. Ond nid oes yna ddigon o arian i ateb y galw, a hynny o bell ffordd. Mae gwerth dros £100 miliwn o geisiadau am arian wedi cael eu cyflwyno ar gyfer prosiectau i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. A fydd yna fwy o fuddsoddiad ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg neu addysg cyfrwng Cymraeg yn y tymor Cynulliad hwn?
Wel, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi yn fawr iawn mewn addysg ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cadw'r maint sy'n cael ei hala ar addysg yn uchel. Er enghraifft, os edrychwn ni ar beth rydym ni wedi ei wario ar addysg, rydym ni'n gallu gweld bod y gwario wedi mynd lan dros y blynyddoedd—1.8 y cant yn 2017-18, a hwnnw yw'r mwyaf o unrhyw un o'r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod yna fwy o alw am addysg Gymraeg, sy'n rhywbeth i'w groesawu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, drwy'r cynlluniau sydd gyda nhw, sicrhau bod y galw'n cael ei ateb, a hefyd, wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod yr athrawon yna er mwyn i'r ysgolion allu ffynnu a thyfu yn y pen draw. Rydym ni'n mynd i fuddsoddi, wrth gwrs, mewn addysg Gymraeg ac rydym ni'n mynd i weithio gyda'r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y cynlluniau sydd gyda nhw yn gynlluniau sy'n gryf.