1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Tachwedd 2018.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghwm Cynon? OAQ52939
Wel, rwy'n bryderus iawn am y ffaith bod llawer o'n pobl fwyaf agored i niwed, yng Nghwm Cynon ac mewn mannau eraill, yn cael trafferth i ymdopi â chymhlethdodau credyd cynhwysol. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU roi sylw brys i'r materion hyn cyn iddyn nhw symud hawlwyr budd-daliadau presennol i gredyd cynhwysol.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n rhannu eich pryderon, a hefyd y pryderon a godwyd gan fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, o ran dioddefwyr trais domestig ac effaith credyd cynhwysol arnyn nhw. Ond mae cynifer o grwpiau agored i niwed yn mynd i ddioddef o ganlyniad i'r cyflwyniad hwn, ac mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi gwaith ymchwil newydd yn dangos y bydd rhai pobl anabl sengl sy'n gweithio yn fwy na £300 y mis yn waeth eu byd oherwydd diffygion yn nyluniad credyd cynhwysol. Hefyd, gallai'r rhai nad oes ganddynt ofalwr ac na allant weithio fod £180 y mis yn waeth eu byd pan fyddant yn gwneud hawliad newydd.
Ar ôl i'r Ysgrifennydd gwaith a phensiynau a adawodd yn ddiweddar gydnabod y niwed y mae credyd cynhwysol yn ei achosi, ond gan hefyd fod wedi gwneud addewidion mawr o ran diogelu'r mwyaf agored i niwed, a wnaiff Llywodraeth Cymru wneud sylwadau i'w holynydd i sicrhau nad mwy o eiriau gwag yn unig yw'r rhain gan Weinidogion Torïaidd yn San Steffan?
Wel, rydym ni wedi ysgrifennu dro ar ôl tro at Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny, gan eu hannog i ailystyried y polisi niweidiol hwn ac ymrwymo i dargedu mwy o gymorth i helpu i godi pobl allan o dlodi. Rydym ni i gyd yn gweld, wrth gwrs, diffygion credyd cynhwysol, a bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r sylwadau yr ydym ni wedi eu gwneud.
Ac yn olaf, David Melding.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o Aelodau yn y fan yma y dylai mwy fod wedi ei wneud i ddysgu o'r broses gyflwyno ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n croesawu penderfyniad Amber Rudd y bydd hynny'n cael ei gyflymu nawr, yn enwedig trwy wrando ar gyngor arbenigol a phrofiad y rhai sydd wedi symud i'r system newydd erbyn hyn. Ond mae'r system newydd yn un sydd wedi cael croeso eang o ran ei gwneud yn haws a rhoi terfyn ar y dibyn rhwng budd-daliadau a gweithio, a dyna'r weledigaeth yr wyf i'n credu y dylem ni i gyd ei rhannu—i fod â system budd-daliadau sydd wir yn galluogi pobl i wireddu eu potensial llawn.
Nid wyf yn credu mai yn y syniad y mae'r broblem o reidrwydd, ond yn y gweithredu. Ac rydym ni'n gwybod bod diffygion cynllunio mewn credyd cynhwysol—tynnwyd sylw at hynny mewn adroddiad Cyngor ar Bopeth diweddar ar effaith credyd cynhwysol ar bobl sengl, anabl. Felly, er enghraifft, nid yw'n bosibl cael lwfans gwaith heblaw drwy'r lwfans gallu gweithio. Mae hyn yn golygu bod rhaid asesu rhywun fel heb fod yn ddigon iach i weithio er mwyn cael cymorth sydd wedi ei dargedu yn y gwaith. Wel, dyna un enghraifft o ble mae'r system yn torri i lawr. Mae'n bwysig dros ben nad yw pobl yn dioddef oherwydd nad yw system yn gweithio fel y dylai.
Diolch i'r Prif Weinidog.