– Senedd Cymru am 5:49 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais ar ddadl Aelodau ar gyllid addysg bellach. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Bethan Sayed. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, tri yn ymatal, 21 yn erbyn, felly, derbyniwyd y cynnig.