Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Diolch i chi, unwaith eto. Rwyf wedi cyfarfod â Heléna Herklots, ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Wrth symud ymlaen, rwy'n gwybod na fydd yn gallu gwneud popeth, ond un o'r pethau y bydd yn canolbwyntio arnynt yw camdriniaeth yr henoed. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwneud ymrwymiadau hirdymor i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, ac rwy'n gefnogol iawn i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, sydd bellach yn cyflwyno deddfwriaeth y mae ei hangen yn fawr yn y maes hwn. Rydym yn gwybod, Weinidog, nad yw pobl hŷn bob amser yn gwybod beth yw eu hawliau, nid ydynt bob amser yn gwybod pan fyddant yn profi anghyfiawnder, ac nid oes ganddynt hyder bob amser i roi gwybod eu bod yn cael eu cam-drin. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn fwyaf diweddar gan Wasanaeth Erlyn y Goron, a ddangosodd mai 250 o'r 35,000 o droseddau a gafodd eu herlyn yng Nghymru y llynedd oedd yn droseddau yn erbyn yr henoed. Mae'n amlwg fod angen i ni wneud ymdrech fawr i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu cryfhau, fod pobl hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau, a bod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo a diogelu'r rhain. A allwch chi gydnabod heddiw fod yna le i gryfhau hyn gyda deddfwriaeth ac y byddwch yn gweithio mewn ffordd adeiladol gyda'r Bil arfaethedig, ac wrth gwrs, y sawl sy'n ei gyflwyno, er mwyn cryfhau hawliau ein pobl hŷn yng Nghymru?