Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 21 Tachwedd 2018.
Mae'n nodedig fod pob ardal yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU o ran cynhyrchiant, ond mae cyfartaledd y DU ei hun yn is na chyfartaledd llawer o economïau datblygedig eraill. Ond sut y bydd y galw ar y sector o ganlyniad i'r cynllun cyflogadwyedd yn cael ei ateb pan nad yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny?
Nodaf heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £8 miliwn i sicrhau rhywfaint o gydraddoldeb rhwng cyflogau darlithwyr addysg bellach ac athrawon. Mae angen y dalent orau sydd ar gael i addysgu ar sector addysg bellach cryf, ac mae'n rhaid i hynny ddod law yn llaw â chyflog sy'n adlewyrchu eu pwysigrwydd. Mae'n ddiddorol, mewn gwirionedd, fod manylion y cyhoeddiad hwn wedi'u rhoi heddiw mewn pryd ar gyfer y ddadl hon. Boed hynny'n gyd-ddigwyddiad ai peidio, fe'u croesewir. Credaf y dylid nodi yma hefyd fod cyd-undeb llafur addysg bellach yng Nghymru wedi dweud yn y gorffennol y dylai unrhyw gynnydd fod yn uwch na'r mynegai prisiau manwerthu, a bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod 10 mlynedd o gyfyngu ar gyflogau. Rwy'n gobeithio mai dyna sy'n cael ei gyhoeddi heddiw ac y bydd hynny'n gallu lleddfu'r pryderon hynny. Ond mae angen inni ddeall hefyd fod rhan o'r gŵyn a arweiniodd at bleidlais i streicio yn ymwneud nid yn unig â rhifau moel ond hefyd â llwyth gwaith sydd wedi cynyddu, sydd yn cynyddu ac sydd ar fin cynyddu ymhellach, heb fod y cyflogau a'r adnoddau'n adlewyrchu hynny.
Mae ein pwynt olaf yn pwysleisio'r hyn y credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon, waeth beth fo'n pleidiau, yn ei gydnabod: nad yw addysg bellach, yn y gwaith o lunio polisi, wedi cael y sylw angenrheidiol y mae'n ei haeddu, ac sydd ei angen ar y wlad hon os ydym yn dymuno cael economi sy'n llwyddo. Y peth rhwystredig i lawer ohonom yw y credaf fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn. Credaf fod y Gweinidog yn llygad ei lle pan ddywedodd, fel rhan o'i hymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fod yn rhaid i uwchsgilio a'r agenda sgiliau ehangach fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Ni chredaf eu bod ar hyn o bryd, ac ni chredaf ei bod hi'n meddwl eu bod ar hyn o bryd, yn ôl ei sylwadau i'r BBC. Credaf fod y datganiad hwn ddoe ynghylch cyllid i addysg bellach hefyd yn profi hyn. Cyfle coll arall, enghraifft arall o ddiwygio tameidiog.
Dengys cynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o faint yr her, oherwydd mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae Llywodraethwr Banc Lloegr wedi cyfrifo bod mwy na 15 miliwn o swyddi yn y DU mewn perygl yn sgil awtomeiddio, ac mae hynny’n gyfystyr â 700,000 o swyddi yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Mae’r felin drafod Centre for Cities yn awgrymu y bydd angen i ni ddod o hyd i swyddi i 110,000 o bobl yng Nghymru erbyn 2030 oherwydd awtomeiddio.'
Pan edrychwn ar yr adolygiadau cyllid a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf, adolygiad Hazelkorn ar gyllid hirdymor yn y dyfodol, adroddiadau ar arloesi, gwelwn fap sydd wedi’i osod allan yn gymharol dda ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yr hyn sydd ar goll yw menter strategol i ddod â’r darnau gwahanol hyn at ei gilydd a'u gwneud yn gyfan. Ac ni allwn barhau i aros. Mae gwledydd eraill yn cydnabod pwysigrwydd addysg bellach a dysgu gydol oes ac mae ganddynt strwythurau ar waith sy'n gosod y sector ar y blaen yn eu strategaethau economaidd. Mae'n amlwg, er enghraifft, yng Ngwlad y Basg; maent yn un o’r rhanbarthau uchaf y pen yn Ewrop, ond maent wedi cyrraedd yno o ganlyniad i’r pwyslais a roesant ar addysg. Maent wedi canolbwyntio buddsoddiad ar arloesi ac ymchwil a sgiliau yn gyffredinol, gyda chynlluniau sgiliau—eu pedwerydd cynllun sgiliau, sy'n clymu’r system addysg at ei gilydd fel un gyda chynlluniau, canllawiau a chyllid yn rhedeg drwodd gyda disgyblion 14 oed ymlaen.
Yng Nghymru, fel y nodais yn gynharach—. A ddoe, cawsom gyhoeddiadau ynglŷn â'r sector addysg bellach yn ymgysylltu mwy â'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yr oedd Llywodraeth Cymru i'w gweld yn cydnabod nad oeddent yn gallu chwarae’r rhan ganolog y mae angen iddynt ei chwarae, gan iddynt gyhoeddi bod angen iddynt benodi ymgynghorydd annibynnol i helpu gyda’r ffordd ymlaen. Mae’r cyferbyniad yn wirioneddol drawiadol. Mae'r Ysgrifennydd addysg wedi dweud ei bod yn gobeithio y gellir ailwampio addysg bellach yn llwyr cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Nid gobeithio y gellir gwireddu hynny rwyf fi; rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynllunio'n strategol ar gyfer y ffordd ymlaen.
Nawr, fel y dywedais, rydym mewn sefyllfa amhosibl o ran economi Cymru. Ar ryw adeg, bydd angen inni wneud penderfyniad ynglŷn â sut i wneud cynnydd economaidd go iawn, gan nad yw ein dinasyddion yn mynd i oddef dau ddegawd arall o ddirywiad wedi'i reoli. Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon yn y gorffennol fod ein cynnyrch domestig gros, ar ddechrau datganoli, yn debyg i un Gweriniaeth Iwerddon; bellach, nid yw’r wlad honno’n gallu ein gweld yn eu drych ôl, hyd yn oed.
Mae’r fath beth â niweidio drwy wneud dim yn bosibl. Credaf mai’r hyn yr hoffem ei weld yw ymrwymiad i gyflwyno’r weledigaeth strategol sydd ei heisiau a'i hangen ar y sector; diogelu cyllid a blaenoriaethu ar gyfer cynnydd mewn termau real; cynllunio addysg a sgiliau fel eu bod yn cydblethu â’n hanghenion economaidd; cynyddu buddsoddiad mewn arloesi; a phenderfynu i ble rydym yn dymuno mynd fel cenedl—beth yw ein pwynt gwerthu unigryw, lle rydym am fuddsoddi ein sgiliau ar gyfer y dyfodol a beth rydym yn dymuno’i gyflawni? Sut y gallwn sicrhau bod ein busnesau'n fwy hyfyw yn fasnachol, creu mwy o entrepreneuriaid a chadw’r bobl a’u syniadau yma yng Nghymru, gan hyrwyddo Cymru a gweithio yng Nghymru? Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid iddynt ymateb i’r her a chyflawni yn y sector hwn.