– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Nawr, yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer holi'r Cwnsler Cyffredinol yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei amlinellu yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid penderfyniad y mae'r Llywodraeth gyfan yn gyd-gyfrifol amdano yw hyn, sef yr hyn y gwnaethoch chi ei fynegi yn eich ymateb inni. Ond, dywedodd hefyd wrth aelodau’r pwyllgor bod cred o fewn y Llywodraeth y byddai dadl ar 4 Rhagfyr, ac y byddai’r adroddiad ar gael i Aelodau o'r sefydliad hwn yr wythnos hon. Mae'n adroddiad 580 o dudalennau, fel yr wyf yn deall. Chi yw arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth. Os bydd y ddadl honno yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, byddai’n rhaid ichi gyflwyno’r ddadl honno heddiw. A wnewch chi gadarnhau a fydd y ddadl honno yn cael ei chyflwyno heddiw, ac y bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau fel y gall yr Aelodau edrych drosto yn ystod y dyddiau nesaf? Neu, ai'r gwir amdani yw na fydd y ddadl hon yn gweld golau dydd yn awr o dan y Prif Weinidog presennol hwn, ac na fydd y ddadl honno yn debygol o gael ei chynnal yma cyn tymor y gwanwyn? Fel y dywedais, mae cymaint o nodiadau ac ymatebion cyferbyniol i gwestiynau y mae angen eglurder arnom. Dyma’r prosiect seilwaith mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef, neu y bydd wedi ymgymryd ag ef o bosibl, ers 1999. Rhwng Ysgrifennydd y Cabinet, chithau, a’r Prif Weinidog ei hun, mae cymaint o wahanol sefyllfaoedd yn ymffurfio fel ein bod ni, yr Aelodau, angen eglurder gan y Llywodraeth yn ystod y camau gweithredu.
Byddwn yn gofyn hefyd, yng ngoleuni’r profiadau gwael parhaus y mae pobl yn eu cael ar y rheilffyrdd, i Ysgrifennydd y Cabinet ei hun gyflwyno datganiad sy'n amlinellu yn llwyr yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y broses o drosglwyddo rhwng Trenau Arriva a gweithredwr y fasnachfraint newydd. Ceir tystiolaeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun a chan Drafnidiaeth Cymru, nad dyna oedd y trosglwyddiad mwyaf delfrydol y gellid ei wneud. Ond eto, roedd y dyddiad hwn yn adnabyddus i lawer o bobl; roedd yn hysbys i bawb, mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y datganiad a gawsom ni yr wythnos diwethaf gan Drafnidiaeth Cymru yn cyfeirio at y ffaith nad oedd y storfeydd ar gyfer darnau sbâr yr hyn y dylent fod yn sicr, a'u bod yn annigonol. Mae angen inni ddeall, gan ein bod ni i gyd yn cael negeseuon e-bost, gohebiaeth dros y ffôn, profiadau wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy'n teithio ynghylch y sefyllfa erchyll y mae llawer o bobl wedi eu gadael ynddi. Nid yw'n deg ar y cyhoedd sy’n teithio, heb sôn am Aelodau’r sefydliad hwn, na allwn ni roi'r atebion iddyn nhw y maen nhw’n eu haeddu .
Rwyf yn ddiolchgar am y datganiad a ddaeth gan Drafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf. Ond, pe bai hon yn stori newyddion gadarnhaol, rwyf yn siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ynghylch y trosglwyddiad cychwynnol a’r chwe wythnos yn y cyfamser. Felly, gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth os gwelwch yn dda sy’n amlinellu'r union gyfrifoldebau y mae’r Llywodraeth wedi ymgymryd â nhw i ddatrys y broblem hon?
Ynghylch yr M4, fe geisiaf fod mor glir ag y gallaf. Rydym ni mewn proses gyfreithiol. Rydym ni wedi cael ymchwiliad lleol. Mae’r Llywodraeth wedi cael yr adroddiad hwnnw. Mae'n amodol ar gyngor swyddogol a chyngor cyfreithiol. Ar ôl cael y cyngor swyddogol a chyfreithiol a chwblhau'r cliriadau, caiff ei gyflwyno i'r Prif Weinidog ar gyfer ei benderfyniad gweithredol yntau. Nid penderfyniad y Cabinet ar y cyd mohono; penderfyniad gweithredol y Prif Weinidog ydyw.
Unwaith y bydd hynny wedi ei wneud, i fod yn glir, rwyf wedi ei gwneud hi’n glir iawn, oherwydd maint y prosiect a'r diddordeb ledled Cymru, yn wahanol i unrhyw brosiect priffyrdd arall, y byddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth. Mae peth posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Llun nesaf. Byddai'n rhaid inni gael caniatád y Llywydd i wneud hynny. Trafodwyd yn y Pwyllgor Busnes y bore 'ma bod hyn yn bosibilrwydd o hyd. Fodd bynnag, fel y dywedais o'r blaen, os nad yw hynny'n bosibl—os nad yw hynny'n bosibl gan nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yn y broses—yna byddwn yn gweld beth arall y gellir ei wneud.
Os cyrhaeddwn ni ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna byddaf yn argymell i’r Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd ef neu hi, fod ymrwymiad y Llywodraeth hon yn cael ei anrhydeddu, bod y ddadl honno yn cael ei chyflwyno, ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na allai hynny ddigwydd. Ond mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn y drefn gywir. Ni allwn ni gael dadl yn amser y Cynulliad cyn gwneud y Gorchmynion, oherwydd nid yw hynny'n ystyriaeth berthnasol o’r ffordd y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw. Felly, bydd yn rhaid cael cyfres glir iawn o brosesau, a bydd yn rhaid i ddadl y Cynulliad ddod ar yr adeg iawn yn ystod y broses honno. Felly, mae posibilrwydd o hyd y gallem ni wneud hynny ddydd Mawrth nesaf, ond, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud hynny. Os na allwn ni, yna bydd yn rhaid inni weld beth arall y gellir ei wneud.
Rydym ni'n ymrwymedig iawn i'r ddadl, ond mae'n rhaid i hynny fod ar yr adeg briodol yn ystod y broses. Mae'r broses yn hynod o gymhleth. Mae’r holl bethau y mae’n rhaid eu gwneud fel y gall y Prif Weinidog wneud y penderfyniad hwnnw yn gyfreithlon, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau perthnasol, yn hynod o gymhleth. Felly, mae angen inni gael y broses yn gywir, ac mae arnom ni angen symud ymlaen at y ddadl. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir. Nid wyf yn gwybod sut i’w ddweud yn gliriach na hynny.
O ran Trafnidiaeth Cymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynegi imi ei fod yn hapus iawn i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn rhoi diweddariad wythnosol i'r holl Aelodau ynghylch ble'r ydym ni arni gyda'r trefniadau pontio a’r trosglwyddiad. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch meddygfeydd teulu, os gwelwch yn dda? Fel y byddwch yn ymwybodol, mae meddygon teulu sy'n gontractwyr annibynnol hefyd yn berchen ar eu hadeiladau eu hunain yn draddodiadol, a chofiaf yn dda, yn feddyg teulu ifanc, y disgwylir ichi gael yr hyn sydd, yn effeithiol, yn ail forgais ar feddygfa deulu ar yr un pryd â morgais ar eich cartref teuluol.
Nawr, yn ddiweddar, rwyf wedi cael sylwadau i'r perwyl, pan rydych chi'n gwibio 20 i 30 mlynedd yn eich blaen, pan fo meddygon teulu yn ymddeol, neu'n ymddeol yn gynnar, neu'n symud yn eu blaenau, gan adael y meddygon teulu sy'n weddill gydag adeilad sy'n anodd ei werthu yn aml, gydag ecwiti negyddol a chosbau adbrynu cynnar, bod modd cael colledion ariannol enfawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac mae pobl yn meddwl tybed pam nad yw meddygon teulu yn dymuno bod yn gontractwyr annibynnol sy'n berchen ar eu meddygfeydd eu hunain mwyach.
Nawr, mae gan y GIG yn Lloegr system iawndal ar gyfer meddygon teulu mewn amgylchiadau tebyg. Meddygon teulu sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i'w cymunedau sy'n wynebu colledion ariannol enfawr os mai nhw yw'r rhai olaf mewn meddygfa deulu ar ôl i'r partneriaid eraill adael. Nid ydym ni'n disgwyl i feddygon ymgynghorol mewn ysbytai fod â chyfran ariannol orfodol yn eich ysbyty cyffredinol dosbarth arferol neu ganolfan gofal arbenigol trydyddol, a byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pethau. Diolch yn fawr iawn.
Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at broblem benodol gyda'r system bresennol lle mae meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Rydym ni'n gweld symudiad tuag at lai o bractisau meddygon teulu sy'n fwy o ran maint gyda chymysgedd sgiliau ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n darparu amrywiaeth ehangach o ofal iechyd yn lleol, ac mae hynny'n rhannol oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud ynghylch ymrwymiadau ariannol ac ati.
Rydym ni yn meddiannu practisau mewn rhai amgylchiadau os caiff y practisau hynny eu rheoli, yn enwedig gan fod y duedd o ddefnyddio staff locwm sy'n costio mwy ac ati yn datblygu. Felly, mae'n gywir i dynnu sylw at hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a chydweithwyr yn GIG Cymru ar raglen diwygio contractau i fynd i'r afael â sut y mae contractau yn gweithredu, sy'n ei gwneud hi'n fwy cynaliadwy i feddygon teulu o ran cyflawni'r camau gweithredu. Mae nifer y practisau meddygon teulu yn gostwng yn raddol, ac mae hynny'n duedd. Yn rhan o'r trafodaethau hynny, rydym ni'n edrych i weld beth y gellir ei wneud i liniaru'r amgylchiadau hynny y mae'r Aelod yn tynnu sylw atynt.
Roeddwn i'n bwriadu codi'r mater o asid ffolig. Mae Llywodraeth y DU, fel y bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol, wedi cyhoeddi ei chynlluniau i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ddiweddar i leihau spina bifida a namau geni ataliadwy eraill sy'n gysylltiedig â lefelau isel o asid ffolig. Credaf ein bod ni'n gwybod bod dau blentyn yr wythnos yn y DU, ar hyn o bryd, yn cael eu geni gyda namau geni ataliadwy. Mae'n newyddion da iawn bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hyn, ac rwy'n gwybod fod hyn yn rhywbeth y mae Gweinidogion Cymru a'r Alban wedi lobïo drosto, ac rwy'n tybio y bydd hyn yn berthnasol i holl gynhyrchwyr blawd y DU. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad yng Nghymru i egluro y bydd hyn yn berthnasol i Gymru a sut y bydd yn cysylltu â'n dyletswyddau i reoleiddio bwyd a'n cyfrifoldebau dros safonau bwyd, oherwydd rwy'n credu, yn amlwg, bod hyn yn rhywbeth y mae mamau yn benodol angen ei wybod.
Ie, mae'r Aelod yn tynnu sylw at faes hynod o bwysig. Rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i atgyfnerthu blawd ag asid ffolig. Rydym ni wedi bod yn galw ers amser hir i fwrw ymlaen â hyn, ac mae Ysgrifennodd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ddoe i gadarnhau ein cefnogaeth a hyrwyddo gweithredu cyflym yn hyn o beth. Nodwn mai'r amseriad disgwyliedig ar gyfer yr ymgynghoriad yw dechrau 2019, a bod swyddogion wedi dechrau deialog cadarnhaol i hyrwyddo'r ymgynghoriad drwy'r Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gwybod hefyd nad yw'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r Amgylchedd wedi gwneud adroddiad swyddogol ynghylch y lefel uchaf o asid ffolig eto, ond rydym ni o'r farn na ddylid oedi'r broses ymgynghori gyda bwriad o gytuno ar ddull gweithredu unffurf i gyflwyno deddfwriaeth ledled y DU cyn gynted â phosib.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ar ganlyniadau'r arolwg diweddaraf ynglŷn â chwaraeon mewn ysgolion? Yn ôl yr arolwg, mae'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ehangu yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r ysgol dair gwaith yr wythnos neu fwy wedi aros yn ddigyfnewid ers 2015, ac mae'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau rhwng bechgyn a merched yn parhau i fod yr un fath. Mae'r mwynhad o chwaraeon, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, wedi gostwng, ac fel y mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru wedi dweud, heb hynny, nid oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gael perthynas gadarnhaol gydol oes â chwaraeon.
Os gwelwch yn dda, gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y gellir ei wneud i annog mwy o ddisgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Mae'r Aelod yn amlygu rhan bwysig iawn o'r cwricwlwm, a bydd yr Aelod yn ymwybodol, yn rhan o ddiwygiadau Donaldson i'r cwricwlwm, ein bod ni'n cyflwyno cwricwlwm newydd a rhan fawr iawn o hynny yw bod yn ddinesydd iach a gweithgar yng Nghymru. Rydym ni'n gobeithio yn fawr iawn y bydd hynny'n golygu y bydd chwaraeon yn rhan llawer mwy creiddiol o'r cwricwlwm. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y buom ni'n arbrofi gyda'r rhaglen milltir y diwrnod ar gyfer ysgolion cynradd, ac ati. Felly mae'n amlygu rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Mae'n rhan bwysig iawn o'n cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer ysgolion gyda'r nod o sicrhau bod ein plant, fel maen nhw'n dod allan o'n hysgolion, yn cyfrannu at gymdeithas Cymru mewn modd iach a gweithgar, fel yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud.
Arweinydd y tŷ, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Rwy'n parhau i ymdrin â swmp mawr o waith achos sy'n ymwneud â phroblemau a achosir gan ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu. Yn wir, byddwn i'n dweud mai hyn yw'r elfen fwyaf yn fy mag post, ac rwy'n gwybod fod Aelodau eraill y Cynulliad yn gweld materion tebyg. Beth amser yn ôl, yn ystod dadl ar ffyrdd nad oedden nhw wedi eu mabwysiadu, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth y byddai'n sefydlu tasglu i edrych ar y mater hwn. A gawn ni ddatganiad i ddiweddaru'r Aelodau ar y gwaith hwn?
Yn ail, cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolydd yr ymgyrch WAVE 70/30. Mae'r ymgyrch honno'n canolbwyntio ar ddileu camdriniaeth plant drwy ataliaeth sylfaenol. Mae eu hateb, sef cynnig cymorth i rieni a darpar rieni cyn y bydd niwed yn digwydd yn cyd-fynd yn dda â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, felly gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidogion ar y gwaith i hyrwyddo magu plant yn gadarnhaol?
Ie, yn wir. Gan ymdrin â nhw tuag yn ôl, mae swyddogion wedi cwrdd â George Hosking, sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol WAVE Trust, ar sawl achlysur i drafod y gwaith, gan gynnwys yr ymgyrch 70/30 y mae'r Aelod yn ei amlygu, a gwaith ynglŷn â phrofiadau plentyndod andwyol. Mae'r cyfarfodydd wedi rhoi cyfleoedd i swyddogion rannu gwybodaeth gyda WAVE Trust ynghylch polisïau a rhaglenni allweddol Llywodraeth Cymru o ran rhoi cymorth i deuluoedd. Rydym ni'n rhagweld y bydd gennym ni ddiddordeb cyffredin gyda WAVE Trust ac y bydd trafodaethau yn parhau.
Mae dull yr ymgyrch yn gwbl gydnaws â nodau ac amcanion ein rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn ogystal ag ymgyrch magu plant yn gadarnhaol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo'. Rydym ni'n gefnogol iawn i'r ymgyrch ac yn credu bod gan y gwasanaethau a ddarperir y gallu i ategu'r gwaith a wnaed eisoes gan y Llywodraeth, ac rydym ni'n hapus i weithio ochr yn ochr â'r prosiect.
O ran ffyrdd nad ydyn nhw wedi eu mabwysiadu, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn edrych ar rai o'r materion ers peth amser, ar y cyd â'r Gweinidog dros dai, y Gweinidog dros gynllunio a nifer o bobl eraill yn y Llywodraeth. Byddaf yn gwirio gyda nhw ble'r ydym ni arni gyda'r gwaith hwnnw a sut mae pethau'n bwrw ymlaen a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn unol â hynny.
A gaf i ofyn am un datganiad ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd? Euthum i gyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Defnyddwyr Rheilffordd Wrecsam-Bidston ddydd Sadwrn, lle cyfeiriodd y Cadeirydd ni at ddiweddariadau teithio byw Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn, a ddangosodd, ac eithrio mân achosion o oedi rhwng Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Caerdydd ac Abertawe, fod holl wasanaethau eraill y de yn wasanaethau da, tra bod oedi difrifol rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog a rhwng Caer a Chryw, ac roedd amserlen Wrecsam-Bidston wedi ei newid—h.y. wedi ei dileu.
Ddoe, ysgrifennodd yr aelod gweithredol dros drafnidiaeth yn Wrecsam at Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwch yn ymwybodol, yn dilyn y penderfyniad gan Drafnidiaeth Cymru nad oedd gwasanaethau trên yn gweithredu rhwng Wrecsam a Bidston y penwythnos diwethaf, oherwydd ychwanegu at wasanaethau rheilffyrdd yn y de oherwydd digwyddiad chwaraeon, nid ymgynghorwyd ag unrhyw randdeiliaid yn y fan yma ymlaen llaw ac ni chawsant eu hysbysu'n uniongyrchol o hynny, nac wedyn y penderfyniad i ddileu a chwtogi ar yr amserlen a oedd eisoes wedi ei chwtogi dros y penwythnos heb unrhyw drafodaeth gyda'r rhanddeiliaid. Rydym ni'n gwybod fod cadeirydd gweithgor trafnidiaeth Neston, ar ben arall y llinell, wedi e-bostio ddydd Gwener—eu sefyllfa yn Neston am dair blynedd oedd y dylai'r llinell gyfan gael ei gweithredu gan Merseytravel, gan y byddai'r darn rhwng Bidston a Shotton, o leiaf, meddent, yn gallu cael y gwasanaethau o ansawdd uchel y maen nhw'n eu darparu.
Ac, yn olaf, ddydd Gwener, derbyniodd fy swyddfa alwad ffôn gan rywun o'r tu mewn sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd, chwythwr chwiban, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, a ddywedodd wrthyf fod y rhan fwyaf o'r trenau wedi eu dileu gan nad oedd rhai sbâr ar gael pan gymerodd Lywodraeth Cymru yr awenau, a bod yr offer a'r darnau sbâr wedi eu cymryd gan Arriva. Felly, mae arnom ni angen gwybod pam na wnaeth y gweithredwr sylwi ar y darnau sbâr colledig hyn a'u darparu, a pham na roddwyd mynediad at durniau olwynion yn ei lle. Eto, clywsom ddydd Sadwrn, yn rhy hwyr, nad oedd mynediad i Cryw, Bryste na Taunton. Ond gwyddom hefyd mai'r esgus dros yr holl drenau nad ydynt ar y llinellau yw prinder turniau olwynion. A oes ateb cynaliadwy ar waith, neu ai problem untro yw hyn, ac a fydd hyn yn datrys y broblem?
Nid wyf eisiau ymateb byr. Rwy'n gofyn am ddatganiad gweinidogol i'r Cynulliad hwn fel y gallwn ni fynd at wraidd yr amryw gwestiynau hyn sy'n cael eu codi gan randdeiliaid pryderus iawn.
Fel y dywedais, y sefyllfa lle nad yw'r stoc ar y cledrau—fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau'r Prif Weinidog, mae gennym ni 10 y cant o'r stoc honno ar waith eto. Ac mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, fe wnaethom ni ddweud y byddwn yn gwneud trefniadau i Drafnidiaeth Cymru roi diweddariad wythnosol i'r Aelodau ar y sefyllfa ledled Cymru, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr Aelod yn cael ei gynnwys yn hynny, yn amlwg.
Arweinydd y tŷ, rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddau fater. Y cyntaf yw: byddwch yn ymwybodol o adroddiad Undeb y Cerddorion, sy'n codi'r mater o ddiffyg mynediad at gerddoriaeth, nawr, sy'n effeithio ar rannau cyfan o gymunedau, ac unigolion, yn enwedig pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig. Byddai datganiad sy'n dadansoddi'r adroddiad hwnnw gan nodi a yw'r casgliadau hynny hefyd yn berthnasol i Gymru mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn.
Ac yn ail, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch darparu gwybodaeth i Aelodau Seneddol ac Aelodau'r Cynulliad o wahanol Seneddau. Dyma'r rheswm: mae pob un ohonom ni yn gynrychiolwyr seneddol; rydym yn codi materion ar ran ein hetholwyr. Mae gennyf faterion yr wyf wedi gorfod eu codi gyda'r Swyddfa Gartref. Gwrthododd y Swyddfa Gartref ymateb i Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Pe baem yn arddel yr egwyddor dant am ddant gan gyfeirio at gyfrifoldebau datganoledig rhwng y Seneddau priodol, yna byddai busnes yn chwalu, byddai etholwyr yn cael bargen wael o ran cynrychiolaeth. Ac mae'n ymddangos i mi fod hwn yn fater pwysig, bod y Swyddfa Gartref wedi arddel y safbwynt o wrthod ymgysylltu ag Aelodau Cynulliad Cymru yn llwyr. Pe baem yn gwneud hynny mewn meysydd eraill, byddai gennym ni ganlyniadau sylweddol iawn. Yn amlwg, nid ydym ni'n dymuno hynny. Mae'n ymddangos i mi fod hyn yn fater y mae arno angen ei ddatrys rhwng Llywodraethau.
Ie, a dweud y gwir, mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisoes wedi ei godi gyda'r Llywydd. Lefel Comisiwn i Gomisiwn ydyw, rwy'n credu. Ac rydym ni wedi cael peth trafodaeth ynghylch trefniadau dwyochrog. Bydd Aelodau wedi gweld yng nghyfathrebu diweddar Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ynghylch cyfraddau treth yng Nghymru, a'r ohebiaeth a anfonwyd at bob un o Aelodau'r Cynulliad—ynghylch CThEM yn gwneud trefniadau i ymdrin ag Aelodau'r Cynulliad wrth godi materion sy'n ymwneud â'r dreth Gymreig. Rydym ni wedi cael sgwrs debyg am y Swyddfa Gartref a threfniadau dwyochrog eraill ynghylch mynediad i adeiladau a chyfleusterau ac ati. Ac rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd y Llywydd yn dymuno rhoi sylw iddo yn y dyfodol; rydym ni wedi cael peth trafodaeth am y peth.
O ran y trefniadau cerddoriaeth, mae'r aelod yn amlygu'r rhan difrifol iawn o ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Rwy'n gwybod ei fod ef ei hun yn chwaraewr ukelele a banjo brwd—roeddwn yn meddwl y byddwn yn sôn am hynny yn ei gwmni. Rydym yn cydnabod yn llwyr y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i wneud rhywbeth cyn gynted â phosib. Dyna pam fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno cyllid ychwanegol o £3 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i ddarparu cerddoriaeth ledled Cymru. Mae cynigion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ynglŷn â sut i wario'r arian, a disgwylir cyhoeddiad ynglŷn â hynny yn fuan iawn.
Tybed a allem ni gael datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn ag ymdrin â'r diwydiant hapchwarae yn ei gyfanrwydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Hapchwarae ei adroddiad blynyddol ar y mater o bobl ifanc a hapchwarae, ac, yn bryderus, dyma'r gweithgaredd mwyaf niweidiol bellach y mae pobl ifanc hyd at 16 oed yn ei wneud. Felly, mae hyn bellach yn fwy o broblem nag yfed alcohol ymysg pobl o dan 16 mlwydd oed. Rhai o'r pryderon a fynegwyd yn y grŵp trawsbleidiol ddydd Mawrth diwethaf oedd nad yw 90 y cant o'r tafarndai yn cymryd camau i atal pobl ifanc sy'n defnyddio eu peiriannau ffrwythau. Mae'n cymryd hyd at hanner awr cyn iddyn nhw wneud unrhyw beth, ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae'r holl arian wedi diflannu. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y prif swyddog meddygol yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn, ond mae'n ymddangos imi hefyd mai mater rheoleiddiol i awdurdodau lleol yw sicrhau bod tafarndai, os yw'r peiriannau ffrwythau ofnadwy hyn ganddyn nhw, yn goruchwylio pwy sy'n eu defnyddio. Hefyd, credaf fod mater cyffredinol ynglŷn â'r ffordd y mae cwmnïau hapchwarae yn treiddio—drwy'r cyfryngau cymdeithasol, drwy weithgareddau chwaraeon—i ymenydd pobl ifanc, bod hapchwarae yn rhywbeth cŵl i'w wneud. Ac rydym ni wedi gweld mewn gwaith ymchwil a gynhyrchwyd yn Awstralia bod hyn yn ffordd eithaf dychrynllyd y mae ymenyddiau plant yn cael eu dylanwadu arnynt. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad i weld bod y Llywodraeth yn cymryd hyn o ddifrif fel y dylem ni fod wedi ei wneud gydag ysmygu tua 30 mlynedd yn ôl.
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at fater sydd o gryn bryder, ym mhob rhan o'r Siambr, i bawb. Yn gynharach eleni, fe ysgrifennais i ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am y llwyth o hysbysebion hapchwarae ar y teledu, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein—ar gyfer y rhai ohonom ni sy'n ymhél â gemau, mae'n drwch drwy'r diwydiant—yn enwedig yn y ffordd y maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bobl hawdd manteisio arnyn nhw, ac yn enwedig plant a phobl ifanc yn yr hysbysebion hynny. Rhoddwyd eu hymateb yn Llyfrgell yr Aelodau, ac rwyf wedi cyfarfod ers hynny â'r Awdurdod Safonau Hysbysebu i drafod y mater o ddyfeisiau symudol sy'n cael eu rhannu, a sut maen nhw'n gwybod pwy sy'n cael eu targedu ganddyn nhw. Maen nhw'n hollol o ddifri ynghylch hynny, rwy'n falch o ddweud.
Fel Llywodraeth, rydym ni wedi bod yn gweithio gydag adrannau gwahanol i weld beth y gallwn ni ei wneud i leihau a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hapchwarae. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynllunio i wneud datganiad maes o law, sy'n amlinellu'r hyn a wnaed hyd yma, a beth arall y gallwn ni ei wneud. Rydym ni'n hollol o ddifri ynglŷn â hyn. Mae'r Aelod yn llygad ei le i dynnu sylw at yr anawsterau, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Senedd y DU ar derfynellau betio ods sefydlog gan gyd-Aelodau Llafur wedi mynd peth o'r ffordd i fynd i'r afael â hyn hefyd.
Diolch i arweinydd y tŷ.