– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 10. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â threfniadau gweinyddol ar gyfer darparu gofal plant a gyllidir. Gwelliant 26 yw'r prif welliant. Rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Rydym wedi ailgyflwyno gwelliant 26 fel hyn i helpu i egluro pwy fydd yn gyfrifol am ddarparu'r cynnig gofal plant ar adeg ei gyflwyno'n genedlaethol. Nid yw'r Bil yn dweud dim ar hyn o bryd pa un ai Llywodraeth Cymru ar lefel ganolog neu ein hawdurdodau lleol a fydd yn gwneud hynny. Er bod asesiad effaith rheoleiddiol y Bil yn sôn am hynny, heb yr angen am ddeddfwriaeth, gellid cyflwyno'r model gweithredu a gyflawnir gan awdurdodau lleol ar y cam treialu ar lefel genedlaethol. Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod angen deddfwriaeth i greu un system genedlaethol ar gyfer ymgeisio a gwirio cymhwysedd sy'n osgoi unrhyw wahaniaethau. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r opsiwn y mae'n ei ffafrio yw defnyddio CThEM fel cyfrwng i dderbyn a gwirio ceisiadau. Yng Nghyfnod 2, roeddwn yn teimlo bod ymateb y Gweinidog wedi methu pwynt y gwelliant hwn i raddau. Nododd y Gweinidog nad oedd unrhyw beth i'w ennill drwy ailddatgan dyletswydd sydd gan yr awdurdodau lleol eisoes, a dywedodd fod y ddyletswydd hon sy'n bodoli eisoes yn ehangach, gan ei bod yn cynnwys dyletswyddau ar gyfer plant anabl a'r Gymraeg. Er fy mod yn sylweddoli hynny, nid yw'r Bil yn dweud dim ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynnig ar y cam cyflwyno cenedlaethol. O ganlyniad, rhaid i'r Gweinidog ddarparu eglurder ar y mater hwn, gan mai'r Bil yw'r mecanwaith i fod ar gyfer asesu ceisiadau am y cynnig gofal plant. Ar hyn o bryd, bydd CThEM yn gyfrifol am yr ochr honno o ddarparu'r cynnig. Felly, rhaid i'r Gweinidog gadarnhau ai Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol sydd i'w dwyn i gyfrif yn y pen draw am weinyddu'r cynnig hwn.
Hefyd ni allaf bwysleisio digon pa mor bryderus yr ydym y bydd mwyafrif llethol y cynnig gofal plant yn cael ei adael i'r cynllun gweinyddol a heb fod ar wyneb y Bil. Mae gwneud hynny'n hepgor manylion allweddol, gan gynnwys oedrannau, oriau'r cynnig, sut y gall rhieni fanteisio ar y cynnig gofal plant, a'r amodau sydd angen i ddarparwyr eu bodloni. Mae'n destun pryder mawr na fydd gan y cynllun gweinyddol a amlinellir gan y Gweinidog unrhyw statws cyfreithiol, nac unrhyw weithdrefn graffu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r ddau welliant a ailgyflwynwyd, sef gwelliannau 27 a 28, yn ymwneud ag amodau sy'n rhaid i ddarparwyr eu bodloni—gwelliant 28—a sut y maent i gael eu hariannu—gwelliant 27—materion sy'n cael eu gadael ar hyn o bryd i'w penderfynu o dan y cynllun gweinyddol. Mynegodd rhai rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eu pryder ynglŷn â phwy fyddai'n gallu darparu'r gofal plant, sut y gwneir taliadau, ac ar ba gyfradd yr awr. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod angen sicrhau bod rolau awdurdodau lleol a CThEM wedi eu diffinio'n glir ar gyfer penderfynu ar drefniadau ôl-gymhwysedd ar gyfer gofal plant, felly nid yw gweithrediad ymarferol y Bil a'r cynnig gofal plant wedi'u heffeithio'n benodol. Nodwyd bod anghysondebau wedi codi yn Lloegr wedi i CThEM archwilio'r meini prawf cymhwysedd mewn gwirionedd.
Rhoddwyd tystiolaeth a oedd yn gwrthddweud ei hun gan y Gweinidog a'i swyddogion yn ystod Cyfnod 1. Er bod y Gweinidog wedi honni y byddai'r system dalu'n cael ei datblygu ar wahân i'r system wirio cymhwysedd yn y Bil, dywedodd ei swyddogion y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ganfod pa bryd y bydd angen i awdurdodau lleol gael gwybodaeth am gymhwysedd er mwyn gwneud eu penderfyniadau ar ddyrannu lleoedd ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn awgrymu bod trefniadau cymhwysedd ac ôl-gymhwysedd eisoes yn cael eu cysylltu. Yn ystod pob cam o'r Bil hwn mae'r Gweinidog wedi dweud dro ar ôl tro ei fod eisiau hyblygrwydd. Fodd bynnag, drwy roi llawer o feini prawf cymhwysedd y cynnig o dan y cynllun gweinyddol, daw'r angen hwn am hyblygrwydd ar draul pwerau craffu sylfaenol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Felly, unwaith eto mae'n galondid fod rhai consesiynau wedi'u gwneud, ond nid yw gosod y cynllun gweinyddol gerbron y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwanwyn yn golygu y bydd yr un prosesau craffu yn cael eu cyflawni ag a fyddai pe baent yn cael eu gosod ar wyneb y Bil. Felly, mae angen mwy o eglurder ar gyfer trefniadau ôl-gymhwysedd er mwyn sicrhau y bydd y system gofal plant newydd yn gweithredu'n llyfn. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod trefnu i dalu darparwyr gofal plant lawn mor bwysig â sicrhau y gweinyddir y system ymgeisio ar gyfer y cynnig yn gywir. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch.
Y Gweinidog i gyfrannu—Huw Irranca-Davies.
Diolch ichi, Lywydd. Credaf fod hynny'n helpu i egluro rhywbeth i mi. Credaf o ddifrif fod gennym gamddealltwriaeth. Yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw gwirio cymhwysedd rhieni, drwy fecanwaith CThEM, i fanteisio ar y cynnig gofal plant. Yr hyn roeddech chi'n sôn amdano yno, Janet, oedd yr agwedd o ddarparu'r cynnig mewn gwirionedd. Byddaf yn ôl o flaen Aelodau'r Cynulliad—wel, os wyf yn dal i fod yn y swydd hon—rywbryd yn y dyfodol pan fyddwn yn cyflwyno'r hyn y mae awdurdodau lleol wedi gofyn inni ei wneud, sef gosod strwythur y ffordd yr ydym yn cydgysylltu'r ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan mewn gwirionedd. Mae hynny'n rhywbeth ar wahân.
Felly, gadewch imi droi at y gwelliannau. Rydych yn gywir yn ailddatgan yr hyn a ddywedais o'r blaen mewn perthynas â diwygio gwelliant 26—nid wyf yn gweld beth sydd i'w ennill o ailddatgan dyletswydd sydd gan awdurdodau lleol eisoes mewn perthynas â sicrhau bod digon o ofal plant ar gael yn eu hardaloedd. Mae'r ddyletswydd bresennol, fel y dywedasoch, yn ehangach hefyd na'r hyn a gynigir, gan ei bod yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i'r angen am ofal plant sy'n addas ar gyfer plant anabl, ac ar gyfer gofal plant sy'n defnyddio'r Gymraeg.
Mae'n ymddangos bod gwelliant 27 yn ceisio dwyn llawer o'r manylion gweithredol rydym yn bwriadu eu cynnwys yn y cynllun gweinyddol o fewn cwmpas is-ddeddfwriaeth. Rydym yn mynd i ddysgu, rydym yn mynd i barhau i ddysgu o brofiad gyda'r cynnig hwn, a'r cynllun gweinyddol yw'r union fecanwaith sy'n rhoi hyblygrwydd pwysig inni allu addasu ac adolygu'r trefniadau gweinyddol, gweithredol, rheng flaen hynny wrth i ni fwrw ymlaen. Nid rhyw fath o esgus yw'r cynllun gweinyddol i guddio problemau rhag Aelodau'r Cynulliad. Rwyf eisoes wedi'i gyflwyno ar ffurf fframwaith i'w rannu gydag Aelodau, a buaswn o ddifrif yn croesawu craffu pellach ar y cynllun yn y gwanwyn.
O ran gwelliant 28, hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen am yr angen i gofrestru ac arolygu darparwyr er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn y cynnig. Rydym bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â'n rhesymau dros wneud hyn.
Ac os caf gyfeirio at y sylwadau a wnaethoch wrth orffen eiliad yn ôl ar y set flaenorol o welliannau: os oes perthnasau, neiniau a theidiau ac eraill allan yno sydd eisiau gwneud defnydd o'r cynllun hwn mewn gwirionedd—gan gynnwys darparu ar gyfer eu plant eu hunain yn ogystal ag eraill, oherwydd rwyf wedi gweld darpariaeth dda iawn gan bobl sy'n gweithredu mewn tai gyda chwech o blant, dau ohonynt efallai'n wyrion iddynt hwy ac ati—fe allant wneud hynny. Mae angen iddynt hwy gofrestru hefyd, dyna i gyd. Ac mae yna neiniau a theidiau sy'n gwneud hynny, rhaid imi ddweud.
Nawr, rwy'n credu y dylem gadw mewn cof hefyd fod yna eisoes gyfres o safonau y mae'n ofynnol i ddarparwyr gofal plant gydymffurfio â hwy. Cânt eu rhestru'n fanwl yn ein safonau gofynnol cenedlaethol, a chawsant eu hadolygu ym mis Ebrill 2016.
Felly, ar y sail hon, gyda'r esboniadau hynny, rwy'n gobeithio bod hynny wedi egluro pam na allwn gefnogi gwelliannau 26, 27 na 28.
Janet Finch-Saunders i ymateb.
Fe symudaf at y bleidlais felly, os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 26? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 26.
Gwelliant 27—Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 27? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 27.
Gwelliant 28—Janet Finch-Saunders.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Gwrthodwyd gwelliant 28.