– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 5 Rhagfyr 2018.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl fer, a galwaf ar David Melding i siarad ar y testun a ddewisodd.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi arfer â'r fath groeso cynnes. Yn y 24 awr diwethaf neu oddeutu hynny rydym wedi trafod y gyllideb, rydym wedi trafod Brexit ac rydym newydd fod yn trafod record Llywodraeth Cymru, ond yn awr fe gawn ysbaid dawel, ac rwyf am droi at y Neolithig yn stori Cymru—
Bwm bwm. [Chwerthin.]
Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr oes Neolithig, fel rydych ar fin darganfod. Yng ngogledd-orllewin Ewrop, lle rydym ni, digwyddodd yr oes Neolithig rhwng tua 4,500 BC a 1,700 BC, er nad yw'n arbennig o ddefnyddiol inni fod yn rhy fanwl yn y materion hyn. Ni wnaeth neb ddeffro un dydd a dweud, 'A, mae'r oes Neolithig ar ben a'r Oes Efydd wedi dechrau', ond rydym yn hoffi defnyddio'r categorïau hyn. Ond yr hyn sy'n nodweddu'r cyfnod Neolithig yn anad dim yw ffermio ac aneddiadau. Ond cafwyd cyflawniadau mawr eraill hefyd: crochenwaith, cerfluniau bach, celf drosiadol, addurniadau megis troellau, sieffrynau a losenni, pictogramau, ideogramau, bwyelli a hyd yn oed dulliau elfennol o gadw bwyd. Roedd yn gyfnod hynod o ddyfeisiadau a darganfyddiadau technolegol.
Nawr, mae'r holl safleoedd y byddaf yn cyfeirio atynt yn fy nadl fer yn ymddangos ar y cyflwyniad ffotograffig sydd ar y sgrin yn awr. Rwyf am ddechrau gyda Llech y Filiast ym Mro Morgannwg. Mae'n un o fy hoff lefydd. Rwyf wedi cerdded yno ac wedi treulio amser yno, wedi darllen barddoniaeth yno, wedi trafod yn ddysgedig, gobeithio, gyda rhai o'r Aelodau yn y Siambr, yn wir, wrth bendroni dros, ac edrych ar yr heneb honno. Mae'n fy atgoffa i, beth bynnag, am gyflawniadau rhyfeddol ein cyndadau yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae'n wirioneddol bwysig yn fy marn i ein bod yn parchu ac yn dathlu'r cyflawniadau hyn.
Hoffwn droi yn awr at John Davies, a'r hyn y mae'n ei ddweud am Lech y Filiast mewn cyfrol sy'n mesmereiddio yn fy marn i, sef Hanes Cymru—y llyfr hanes un-gyfrol gorau a ysgrifennwyd hyd yma, ac mae gennym lyfrau hanes Cymru un-gyfrol gwirioneddol wych, yn mynd yn ôl at David Williams. Ond mae John Davies yn dechrau'r gwaith hwnnw â phennod o'r enw, 'Paviland, Tinkinswood a Llyn Cerrig Bach: Y Dechreuadau', a chredaf yn bendant mai dyna'r cyd-destun cywir i'w osod. Mae Llech y Filiast yn dangos y feistrolaeth gynyddol dros yr amgylchedd sy'n nodweddu'r oes Neolithig go iawn, ac rwy'n meddwl: byddai'r maen capan ar yr heneb honno wedi galw am 200 o ddynion i'w rhoi yn ei lle—trefnusrwydd rhyfeddol. Ac fe'i hadeiladwyd ar ôl i lawer o'r coetir ym Mro Morgannwg gael ei glirio gan y dechnoleg newydd—y bwyelli newydd. Oherwydd ar ôl diwedd Oes yr Iâ, cawsom gyfnod o goedwigoedd tymherus trwchus dros y rhan fwyaf o Gymru, a chliriwyd llawer ohonynt wedyn i wneud lle i ffermio. A dylanwadwyd ar weithgaredd yn y rhan hon o Gymru'n drwm gan ddiwylliant Llydaw, a dyfynnaf nawr o lyfr John Davies:
'Dyma agwedd ar 'bersonoliaeth Cymru' y gellir colli golwg arni wrth ystyried y wlad yn ddim ond rhan o Ranbarth Ucheldir Prydain. Wyneba Cymru wastadeddau Lloegr tua'r dwyrain, ond wyneba hefyd lwybrau'r môr tua'r gorllewin. Derbyniodd bobl a dylanwadau o'r naill gyfeiriad a'r llall, a bu'r cydadwaith rhwng yr hyn a ddaeth dros dir a'r hyn a ddaeth dros fôr yn thema gyffrous yn hanes cynnar Cymru.'
Ac rwy'n cytuno'n llwyr. Ym mis Mehefin 2017, pan oedd Dŵr Cymru yn gwneud gwaith gwella ar safle yn Llanfaethlu, canfu archeolegwyr yn gweithio ar ran Dŵr Cymru dystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol yn dyddio'n ôl oddeutu 4,000 i 6,000 o flynyddoedd. Roedd offer fflint ymysg y canfyddiadau. Gellir ffurfio fflint llawn silica yn offer o amryw fathau, er enghraifft y cyllyll a'r bwyelli y soniais amdanynt. Roedd y safle hwn hefyd yn cynnwys bwyd wedi llosgi, megis cnau a hadau eraill, a fydd yn galluogi arbenigwyr i ddyddio'r safle gan ddefnyddio radiocarbon ac ail-lunio'r deiet Neolithig.
Yn ogystal, ar Ynys Môn, gallwch weld y twmpath yn y gelli dywyll a elwir yn Bryn Celli Ddu, a dywed Cadw am yr heneb hon ei bod yn ymddangos iddi gael ei dechrau yn y cyfnod Neolithig diweddar, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl, fel clostir defodol. Mae Cadw hefyd yn nodi bod beddau cyntedd wedi disodli'r meingylch yn ddiweddarach yn y cyfnod Neolithig—math o heneb a welir yn aml o gwmpas arfordiroedd Môr Iwerddon ac mor bell i ffwrdd â Llydaw. Gwir wychder y feddrod hon yw ei bod wedi'i hadeiladu mor fanwl gywir fel ei bod wedi'i halinio'n berffaith gyda'r haul yn gwawrio ar hirddydd haf. Mae'r haul yn treiddio i lawr i mewn i'r siambr gladdu fewnol. Arweiniodd gwaith cloddio yno at ddarganfod 10 enghraifft o gerfiadau craig yn ogystal â chrochenwaith ac offer fflint. Yn rhyfeddol, mae hanes y safle'n mynd yn ôl hyd yn oed ymhellach gan fod ôl tyllau pyst yn y meingylch wedi'u dyddio drwy ddefnyddio carbon yn ôl i'r cyfnod Mesolithig. Ac mae'n dangos ein bod yn dysgu pethau o'r newydd yn gyson am y safleoedd hyn ac yn darganfod safleoedd eraill.
Safle arall o ddiddordeb arbennig i mi yw'r fryngaer yng Nghaerau, Caerdydd. Roedd hon yn arfer bod yn un o'r prif ganolfannau grym yn rhanbarth Caerdydd cyn y goresgyniad Rhufeinig, ac yn un o'r prif ganolfannau am filoedd lawer o flynyddoedd. Daeth plentyn chwech oed o hyd i grochenwaith a phennau saethau yno, a daeth yn amlwg fod Caerau'n gartref i gymuned bwerus ers o leiaf 3,600 BC. Canfuwyd pennau saethau eraill a oedd wedi torri, ar ôl cael eu defnyddio mae'n debyg, a chafwyd hyd i arfau eraill, a ddangosai fod brwydr bwysig wedi digwydd yno tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Ac mae'r olion hyn o weithgarwch yn mynd yn ôl lawer yn gynharach nag y credem yn flaenorol. Ac mae'n fy rhyfeddu—plentyn allan yno'n sydyn yn dod o hyd i'r darganfyddiadau rhyfeddol hyn a chanddo'r dealltwriaeth wedyn i ofyn yn eu cylch a'u bod wedyn yn dod i sylw'r amrywiol arbenigwyr. Dyma sy'n wych am y prosiect penodol hwnnw yn fy marn i, ac fe siaradaf ychydig am hynny mewn eiliad, gan ddangos unwaith eto ein bod yn cael ein harwain, gyda darganfyddiadau cyson, at ddehongliadau newydd o'r safleoedd hyn, a dyna pam eu bod mor werthfawr. Mae CAER—Datgelu Hanes Cudd Caerau a Threlái, y prosiect treftadaeth yno—yn cynnwys archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ynghyd â Cymunedau yn Gyntaf Caerau a Threlái. Eu nod yw archwilio hanes ac archaeoleg maestrefi Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, o'r cyfnod cynhanesyddol i'r cyfnod modern, gan helpu i gysylltu cymunedau â'u treftadaeth a datblygu cyfleoedd addysgol. Mae eu gwefan yn nodi bod bryngaer Caerau, cyn dechrau'r goresgyniad Rhufeinig, yn ganolfan grym bwysig ar gyfer rhanbarth Caerdydd i gyd, ac yn un o'r bryngaerau mwyaf a mwyaf trawiadol yn ne-ddwyrain Cymru. Yn ystod y cyfnod canoloesol, adeiladwyd amddiffynfa gylch ac eglwys—eglwys Santes Fair—o fewn y ffiniau hynafol o'r Oes Haearn, a gellir gweld eu gweddillion trawiadol hyd y dydd heddiw, sy'n dangos parhad rhyfeddol y safle arbennig hwnnw. Unwaith eto, credaf fod honno'n agwedd werthfawr arall ar yr henebion hyn.
Dywedodd Oliver Davis, sydd wedi gweithio ar y prosiect:
Mae lleoliad a nifer y darganfyddiadau Neolithig yn dangos ein bod wedi darganfod clostir sarnau—man arbennig lle byddai cymunedau bach yn ymgasglu ar adegau pwysig o'r flwyddyn i ddathlu, gwledda, cyfnewid pethau ac o bosibl i ddod o hyd i briod.
Roedd yn ddatblygiad cymdeithasol allweddol o'r cyfnod Neolithig. Gyda llaw, mae safleoedd o'r fath yn brin iawn yng Nghymru, a dim ond pum enghraifft arall y gwyddys amdanynt, yn y de yn bennaf, fel y mae'n digwydd.
Ym mis Mehefin eleni, lansiodd rhaglen byw'n lleol dysgu'n lleol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrosiect Treftadaeth CAER, gwrs chwe wythnos, 'Hanes cudd Caerau a Threlái', sy'n darparu cyrsiau achrededig am ddim mewn cymunedau sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd. Am syniad gwych yw hwnnw. Roedd pum aelod o'r gymuned, ynghyd â nifer o gyfranogwyr o fannau eraill, yn cymryd rhan yn y cwrs, a chawsant gyfle prin i ymweld â daeargelloedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru i gael hyfforddiant gwerthfawr mewn llunio a chynnal arddangosfeydd ar gyfer amgueddfeydd.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddweud wrth gloi fy mod yn croesawu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, a gyflwynwyd ac a basiwyd gan y Llywodraeth hon? Mae'n bwysig tu hwnt ein bod yn gweld ffordd, drwy ddileu'r amddiffyniad o anwybodaeth ynglŷn â heneb neu ei lleoliad, o sefydlu'r cyfrifoldebau sydd gan berchnogion eiddo pan gaiff yr henebion hyn eu canfod neu, yn amlwg, pan ofalir amdanynt. Mae cymaint ohonynt i'w cael—mae gennym dreftadaeth Neolithig gyfoethog felly mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn ei chadw mor llawn â phosibl, oherwydd rydym yn ailddehongli, bydd darganfyddiadau newydd gan genedlaethau'r dyfodol, heb amheuaeth, a chyda ffotograffau o'r awyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig, gyda'r defnydd o dronau hefyd, rydym yn darganfod safleoedd newydd drwy'r amser. Mae modd arddangos cloddweithiau y gallwch eu gweld o uchder mawr, ond nid ar lefel y ddaear. Hefyd, mae angen inni wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o henebion Neolithig, a chredaf fod prosiect Caerau'n bwysig iawn yn hyn o beth.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi orffen drwy ddweud y dylid rhoi parch haeddiannol i'r cyfnod Neolithig, oherwydd mae iddo le arbennig iawn yn stori Cymru? Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr am y cyfle, Dirprwy Lywydd, i ymateb i'r ddadl ryfeddol ac annisgwyl hon. Un o fanteision y lle hwn, Senedd Cymru, yw ein bod ni'n gallu trafod, fel y dywedodd y ddeddfwriaeth a'n sefydlodd ni, unrhyw faterion yn effeithio ar Gymru. Ond rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i mi glywed dadl ac, yn sicr, y tro cyntaf i mi gymryd rhan mewn dadl fer, yn sôn am y cyfnod neu'r gorffennol y gellir ei alw yn gynhanesyddol. Ond mae hwn yn air rydw i'n cael ychydig o broblem efo fo, oherwydd mi fyddwn i yn dadlau yn athronyddol os ydym ni'n gallu sôn am y cynhanesyddol, mae'n rhaid ei fod o'n bod, ac felly ei fod, mewn rhyw ystyr, yn hanesyddol, ond fe adawn ni hwnnw i'r athronwyr.
Mi ges i gyfle mis diwethaf i amlinellu y blaenoriaethau sydd gyda ni yn yr adran ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. A'r pwyslais yn y blaenoriaethau yna oedd dadlau a dangos bod Cymru yn codi fel cenedl fodern erbyn heddiw o dreftadaeth ddiwylliannol gydag elfennau cyffredin dros filoedd o flynyddoedd. Ac felly mae'r Aelod yn saff iawn yn dweud ein bod ni yn cychwyn yn nyfnder y cyfnod cynhanesyddol. Yn wir, ymhell cyn y cyfnod Neolithig, fel y mae hwnnw'n cael ei ddyddio, a dyfodiad yr hyn a ddisgrifiodd David fel dyfodiad amaeth a chymunedau sefydlog, rydym ni'n gallu mynd â stori'r wlad sydd bellach yn cael ei galw yn Gymru yn ôl i gyfnod yr Oes Iâ ddiwethaf o leiaf, a'r olion dynol cynharaf a ddarganfuwyd o, mewn dyfnodau, 'Gymro' yn ôl yn ogof Pontnewydd gymaint â 0.25 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Felly, mae’r cynhanesyddol yn fater sydd o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru, ac fe garwn i bwysleisio beth ydy gwahanol elfennau'r etifeddiaeth yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i diogelu yn ystod y cyfnod yr ydw i wedi bod yn gyfrifol amdano fo—ychydig dros flwyddyn.
Ein blaenoriaeth ganolog ni ydy gofalu am ein hamgylchedd hanesyddol drwy hyrwyddo ei fwynhad i bobl. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n gallu deall, hyd y gellir, y gorffennol yr ydym ni’n sôn amdano fo, er mwyn iddo allu apelio at bobl yn y presennol ac yn y dyfodol.
Mae’r darganfyddiadau sydd wedi’u gwneud yn y cyfnodau cynnar yma yng Nghymru yn ddarganfyddiadau sydd o arwyddocâd rhyngwladol gwirioneddol, yn ogof Pen-y-fai ar benrhyn Gŵyr, er enghraifft. Mae'r hanes o adeiladu beddrodau—. Mae’r rhain wedi’u creu, fel y dywedodd David, wrth gyfeirio at Tinkinswood—at Lech-y-filiast, neu beth bynnag yr ydym ni am ei galw hi—yn y fan honno, lle rhyfeddol iawn. Mae’r rhain yn adeiladau nodedig yn y tirwedd. Mae’r Oes Efydd wedi gweld miloedd o domenni claddu wedi’u gwasgaru ar draws tirwedd Cymru, gyda nwyddau claddu gwerthfawr ynddyn nhw—clogyn aur yr Wyddgrug, efallai, ydy’r mwyaf enwog. Mae'r Oes Haearn yn gweld newidiadau pellach—cymunedau bryngaer a'r cannoedd o olion sy'n bodoli ar draws Cymru, megis yn Nhre’r Ceiri.
I mi, mae sefydliadau sydd wedi dehongli y safleoedd yma, yn arbennig Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd wedi cofnodi safleoedd newydd dirifedi yn ddiweddar iawn, fel y cyfeiriwyd, yn ystod yr haf sych, lle canfuwyd olion wedi crino yng nghaeau y tirlun gwledig o’r newydd, fel bod y cynhanes yn gallu dod nôl yn fyw, fel petai, oherwydd y tywydd yr ydym ni’n ei oddef ar hyn o bryd—. Yn y digwyddiadau yna, rydym ni wedi gweld, drwy waith y comisiwn a drwy’r darluniau a’r ymchwiliadau rhyfeddol sydd wedi’u gwneud, y modd y mae yna glystyrau diddorol o’r cyfnodau cynhanesyddol ar draws ein gwlad. Un o’r rhai mwyaf nodedig, wrth gwrs, ydy’r clystyrau yna ar Ynys Môn, a ni fyddwn i am adael Ynys Môn allan o unrhyw drafodaeth ar y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r henebion cynhanesyddol yn Ynys Môn yn gallu hawlio’u lle gydag Ynysoedd Erch, gyda Dyffryn Boyne yn Iwerddon, gyda Chôr y Cewri yn Lloegr. Mae'r rhain ymhlith y llefydd mwyaf rhyfeddol ar ein holl wledydd Prydain ac Iwerddon. Mae yna safleoedd penodol dan ofal Cadw yn cynnwys beddrodau cyntedd Neolithig Bryn Celli Ddu a Barclodiad y Gawres, sydd ddim yn bell oddi yno.
Mae Cadw hefyd yn gyfrifol am feddrodau cerrig Neolithig yng ngogledd Penfro, gan gynnwys Pentre Ifan, ac, ym Mro Morgannwg—rydw i wedi sôn, fel y mae’r Aelod wedi sôn, am Tinkinswood ger Sain Nicolas, lle’r ydw innau wedi cael cyfle i dreulio tipyn o amser gyda’r teuluoedd ifanc sy’n perthyn i mi yn yr ardal honno, a chael y profiad rhyfedd o fod yn ceisio esbonio’r cynhanesyddol i blant ifanc. Felly, mae’n bwysig pwysleisio ein bod ni, yn y ddarpariaeth gyfoes yng ngwaith Cadw ac yng ngwaith y Llywodraeth, yn gwerthfawrogi’r etifeddiaeth yna ac yn ymdrechu i’w diogelu hi.
Rydw i am dalu teyrnged fan yma i’r ymddiriedolaethau archeolegol yng Nghymru sydd wedi ymweld ac asesu pob safle cynhanesyddol yr ydym ni’n ymwybodol ohonyn nhw. Mae yna 23,000 o’r safleoedd yna, ac mae’r wybodaeth enfawr sydd wedi deillio o hyn bellach yn gofnodion sydd ag iddyn nhw statws cyfreithiol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Rydym ni'n gweithredu'r Ddeddf ar hyn o bryd drwy'r gwaith darparu penodol sydd wedi cael ei wneud i roi cyfarwyddiadau am sut y mae gweithredu'r Ddeddf, ac fe fyddwn ni yn parhau i wylio hynny ac yn ei hadolygu hi'n ffurfiol, yn sicr, mewn blynyddoedd i ddod.
Mae Cadw hefyd yn cynhyrchu mapiau ar-lein, Cof Cymru, sy'n cynnwys lleoliad a disgrifiad pob safle cynhanesyddol sydd wedi'u diogelu yng Nghymru. Wedyn mae'r wybodaeth yma ar gael ac mae'n bosib cael gafael ynddyn nhw, ac mae'r cyngor—y nodyn technegol cynllunio cyntaf erioed ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol—wedi cael ei chyhoeddi mor ddiweddar â'r llynedd.
Mae'r gwaith yma yn digwydd, ac mae'r gwaith hyrwyddo yn parhau yn bwysig. Ac i'r pwrpas yma, rwyf i wedi dod ag anrheg fach i'r Aelod, sef y disgrifiad dwyieithog diweddaraf ar gyfer disgyblion ifanc o Lyn Cerrig Bach, Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, ac, fel y gall yr Aelodau i gyd ei weld, mae yma ddarluniau hyfryd sydd yn atgynhyrchu'r cyfnodau Neolithig a chyn-Neolithig, ond peidiwch â gofyn i mi eu gwirio nhw, ond maen nhw, yn sicr, yn hanesyddol yn gywir. Rydym ni'n ceisio creu brwdfrydedd ymhlith y genhedlaeth nesaf yn yr hanes hir yr ydym ni'n rhan ohoni, ac fe garwn i nid jest diolch i'r ymddiriedolaethau archeolegol ond hefyd i'r amgueddfa genedlaethol. Mae'r datblygiadau aruthrol yn Sain Ffagan yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi dod i sefyllfa lle maen nhw wedi cael eu hail-agor yn swyddogol yn ddiweddar iawn. Mae'r orielau newydd yma'n rhoi statws clir ac amlwg i'r gwrthrychau cynhanesyddol o bob rhan o Gymru. Nid ydy hi'n bosib i chi fynd i mewn i unrhyw un o adeiladau'r amgueddfa heb eich bod chi'n sylweddoli bod hanes Cymru'n hen ac yn hir ac yn rhywbeth i ni i gyd ei barchu heddiw, ac rydw i'n ddiolchgar unwaith eto am y cyfle i drafod y fath bwnc yn ystod dadl yn y Cynulliad.
Diolch. Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, bwriadaf symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.] A all tri Aelod ddangos eu bod am i'r gloch gael ei chanu? Iawn, fe ganwn y gloch. Diolch.