1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Rhagfyr 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53101
Mae ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu ar yr economi yn amlinellu’r camau rydym ni wedi'u cymryd i gefnogi datblygu economaidd dros Gymru gyfan.
Gan ddiolch i chi am eich geiriau caredig jest nawr am roi organau, sydd yn Ddeddf allweddol bwysig i ni fel cenedl, a hefyd am bob cymorth i'm hetholwyr i dros y blynyddoedd, Brif Weinidog, a allaf i ddweud: mae bargen ddinesig bae Abertawe yn ganolog i ddatblygiad economaidd y de-orllewin, fel rydych chi'n gwybod? Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ddatganiad ysgrifenedig yn nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnal adolygiad annibynnol cyflym i'r fargen, a fydd yn edrych ar y cynnydd hyd yn hyn, a hefyd yn edrych ar y ffordd y mae'r fargen yn cael ei llywodraethu. Nawr, mae Aelodau etholedig ar draws fy rhanbarth i am weld y fargen ddinesig yn creu'r swyddi disgwyliedig cyn gynted ag y bo modd. Felly, a allwch chi ymhelaethu ar ddatganiad yr wythnos diwethaf, ac a allwch chi hefyd roi cadarnhad i Aelodau heddiw o'r amserlen sy'n gysylltiedig â'r adolygiad cyflym yma? Pryd ydych chi'n disgwyl iddo adrodd yn ôl?
Wel, ar hyn o bryd, beth rydym ni moyn sicrhau, wrth gwrs, yw bod yr adolygiad yn un sydd yn gyflym, sy'n annibynnol ac, wrth gwrs, un a fydd yn sicrhau sylfaen i'r llwyfan nesaf o weithredu. Mae pawb, wrth gwrs, wedi ymrwymo i sicrhau bod y fargen ei hunan yn llwyddiannus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n erfyn, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod yr adolygiad felly ar gael. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ei fod e'n rhywbeth sy'n gyflawn ond hefyd yn rhywbeth sydd ddim yn rhy araf.
Prif Weinidog, y gobaith yw bod bargen ddinesig bae Abertawe yn mynd i fod yn rhan o'r etifeddiaeth y gallwch chi fod yn falch ohoni, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi bod yn bryderus braidd yn sgil yr adroddiadau yr ydym ni wedi eu gweld yn y wasg, fel y soniodd Dai Lloyd, dros y diwrnod neu ddau diwethaf. Nid wyf i'n disgwyl i chi achub y blaen ar yr adolygiad cyflym, ac rwy'n ddiolchgar bod y ddwy Lywodraeth yn cynnal adolygiad cyflym, ond a oes unrhyw—? Mae dau brosiect sydd o bwysigrwydd arbennig i mi: un yw glannau digidol Abertawe a'r llall yw'r ganolfan arloesedd dur, ac rwyf i'n edrych—. A oes unrhyw beth sy'n peri unrhyw bryder o gwbl i chi—o gofio bod y prosiectau penodol hyn wedi cael cadarnhad pendant—y byddai angen i ni wybod amdano nawr, neu a allwch chi roi sicrwydd i ddarpar fuddsoddwyr na ddylai pryderon ynghylch un rhan o'r fargen effeithio ar eu ffydd yn y gweddill ohoni?
Gallaf. Wrth gwrs, mae'r Aelodau yn gyfarwydd iawn â'r mater hwnnw ac ni wnaf sylwadau pellach arno, ond mae'r fargen, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhywbeth sy'n hynod bwysig ar gyfer cyflawni ym mae Abertawe. Ond mae'n bwysig, pan fo amgylchiadau yn codi, bod adolygiad yn cael ei gynnal, dim ond i wneud yn siŵr bod pethau yn symud ymlaen fel y dylen nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhywbeth y byddwn ni'n gweithio arno gyda Llywodraeth y DU.
Prif Weinidog, mae gan y fargen ddinesig ran fawr i'w chwarae o ran gwella economi fy rhanbarth i, ac felly hefyd cydweithio gwirioneddol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae mentrau bach a chanolig eu maint y rhanbarth angen Llywodraeth sy'n deall eu hanghenion pan ddaw i seilwaith a rheoleiddio. Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i'ch olynydd pan ddaw i greu'r amgylchedd iawn i fusnesau Cymru oroesi?
Rwy'n credu ein bod ni'n gwneud hynny eisoes, a chredaf mai'r hyn sy'n bwysig, yn fwy nag unrhyw beth arall, yw bod y byd busnes yn gwybod bod y Llywodraeth yno i'w helpu, i'w gynorthwyo, ond nid i ymyrryd ag ef. Mae llywodraeth yn gweithio orau pan fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r byd busnes, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ymdrechu i'w wneud dros y degawd diwethaf ac, wrth gwrs, mae'r ffigurau economaidd yn dangos bod y dull hwnnw wedi bod yn llwyddiannus. Wrth gwrs, mater i'r Llywodraeth newydd yw penderfynu pa gyfeiriad y bydd yn ei ddilyn, ond mae'n eithriadol o bwysig—ac mae hyn yn rhywbeth y mae busnesau wedi ei ddweud wrthyf i lawer iawn o weithiau—ein bod ni'n cydweithio'n agos. Gwlad fach ydym ni; rydym ni'n gweithio'n agos rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Prif Weinidog, fel y nododd Suzy Davies, un o'r agweddau ar y fargen ddinesig yw'r sefydliad dur a, gadewch i ni siarad yn blaen, pe na byddai wedi bod am Lywodraeth Cymru yn camu ymlaen o dan eich arweinyddiaeth chi, efallai na fyddai gennym ni ddiwydiant dur yma yn y de i fod â sefydliad o'r fath—yn ôl yn 2016. A allwch chi roi sicrwydd, cyn i chi ddychwelyd i'r meinciau cefn, y byddwch chi'n cyfarfod gyda'ch olynydd i sicrhau ei fod yn deall pwysigrwydd dur i'r diwydiannau yng Nghymru, i sicrhau ei fod yn parhau i weithio dros bobl Cymru, bod y gwaith ym Mhort Talbot yn hollbwysig i'r sector hwnnw, gan gynnwys y pen trwm, fel y gallwn weld, yn y dyfodol, nid yn unig pen trwm dur, ond hefyd y dulliau arloesol ym maes dur, a sut y gallwn—? Gallwn ni yng Nghymru arwain y maes cynhyrchu dur ar draws y byd.
Wel, diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rydym ni i gyd yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r diwydiant dur, wrth gwrs, ledled Cymru. Rwy'n cofio'n iawn ym mis Mawrth 2016 y cyhoeddiadau a wnaed bryd hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud bod y dyfodol yn edrych yn llwm iawn ar yr adeg honno, yn arbennig felly i'r pen trwm ym Mhort Talbot. Roedd perygl gwirioneddol y byddai'r pen trwm yn cael ei golli, a Shotton, Trostre a'r Orb—roedd yn ymddangos eu bod nhw mewn gwell sefyllfa gan eu bod yn cael eu bwydo o Bort Talbot. Pan euthum i Shotton, un o'r pwyntiau a wnaed ganddynt wrthyf i yno oedd, 'Rydym ni'n cael ein cyflenwi o Bort Talbot. Os na fyddwn ni'n cael ein cyflenwi o Bort Talbot, mae gennym ni chwe mis i ddod o hyd i gyflenwr arall.' Ac roedd honno'n broblem wirioneddol. Er bod Shotton ei hun yn gwneud yn dda yn ariannol, mewn gwirionedd, heb Port Talbot, ni allai weithredu'n iawn. A gwnaed y pwynt hwnnw yn eglur dros ben i mi ar y pryd. Rydym ni mewn sefyllfa well o lawer. Nid ydym ni allan o berygl eto. Mae'r diwydiant dur yn—mae'r farchnad bob amser yn anodd ac yn ddibynnol iawn ar amrywiadau mewn arian cyfred. Ond golygodd lawer o waith, gan weithio gyda Tata—ac, er tegwch, roedd Tata fel cwmni bob amser yn agored i weithio gyda ni. Rwy'n credu, pe byddai gennym ni rai busnesau o wledydd eraill, na fydden nhw wedi siarad â ni. Ond roedd gan Tata synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol, a gwnaeth hynny gryn argraff arnaf i gan cwmni o'i faint. Roeddem ni'n gallu gweithio gyda nhw yn gyntaf oll i leihau colledion ac yna, wrth gwrs, i ddod o hyd i lwybr ar gyfer y dyfodol, ac mae'r gwaith hwnnw'n parhau. Gwn pa mor bwysig yw'r Abaty, fel yr ydym ni i gyd yn ei alw, i'r economi, nid yn unig Port Talbot, ond—. Yn fy etholaeth i, Corneli, adeiladwyd y rhan fwyaf o'r pentref i ddarparu llety i weithwyr a oedd yn gweithio yng Ngwaith yr Abaty, a bydd yn parhau i fod yn rhan aruthrol o bwysig o ddiwydiant Cymru ac, ni waeth pwy sydd mewn Llywodraeth, nid oes gen i unrhyw amheuaeth y bydd y cymorth hwnnw'n parhau yn y dyfodol.