– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Rhagfyr 2018.
Gweithred gynta'r prynhawn yma yw enwebu y Prif Weinidog. A oes unrhyw enwebiadau ar gyfer penodi'r Prif Weinidog? Carwyn Jones.
Llywydd, o dan Reol Sefydlog 8, a gaf i enwebu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru?
A oes unrhyw enwebiadau eraill? Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Ar ran Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n falch o enwebu Paul Davies AC.
Unrhyw enwebiadau eraill?
Ar ran grŵp Plaid Cymru, rwy'n enwebu Adam Price i fod yn Brif Weinidog Cymru.
Unrhyw enwebiadau eraill? Nac oes. Gan fod yna dri enwebiad, felly, byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy'n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod yn nhrefn yr wyddor. Dywedwch enw'r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi'n glir pan gewch chi eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i'r Dirprwy Lywydd nac i finnau bleidleisio. Dyma ni, felly, y rhestr enwau, a'r enw cyntaf, Mick Antoniw.
Mark Drakeford.
Rhun ap Iorwerth.
Adam Price.
Mohammad Asghar.
Paul Davies.
Gareth Bennett.
Ymatal.
Hannah Blythyn.
Mark Drakeford.
Dawn Bowden.
Mark Drakeford.
Michelle Brown.
Ymatal.
Jayne Bryant.
Mark Drakeford.
Angela Burns.
Paul Davies.
Hefin David.
Mark Drakeford.
Alun Davies.
Mark Drakeford.
Andrew R.T. Davies.
Paul Davies.
Paul Davies.
Paul Davies. [Chwerthin.]
Suzy Davies.
Paul Davies.
Mark Drakeford.
Mark Drakeford.
Dafydd Elis-Thomas.
Mark Drakeford.
Rebecca Evans.
Mark Drakeford.
Janet Finch-Saunders.
Paul Davies.
Russell George.
Paul Davies.
Vaughan Gething.
Mark Drakeford.
John Griffiths.
Mark Drakeford.
Lesley Griffiths.
Mark Drakeford.
Llyr Gruffydd.
Adam Price.
Siân Gwenllian.
Adam Price.
Neil Hamilton.
Ymatal.
Mike Hedges.
Mark Drakeford.
Vikki Howells.
Mark Drakeford.
Jane Hutt.
Mark Drakeford.
Mark Isherwood.
Paul Davies.
Huw Irranca-Davies.
Mark Drakeford.
Julie James.
Mark Drakeford.
Caroline Jones.
Ymatal.
Carwyn Jones.
Mark Drakeford.
Helen Mary Jones.
Adam Price.
Mandy Jones yn absennol. Steffan Lewis yn absennol. Dai Lloyd.
Adam Price.
Neil McEvoy.
Adam Price.
David Melding.
Paul Davies.
Jeremy Miles.
Mark Drakeford.
Darren Millar.
Paul Davies.
Eluned Morgan.
Mark Drakeford.
Julie Morgan.
Mark Drakeford.
Lynne Neagle.
Mark Drakeford.
Rhianon Passmore.
Mark Drakeford.
Adam Price.
Adam Price.
Nick Ramsay.
Paul Davies.
Jenny Rathbone.
Mark Drakeford.
Mark Reckless.
Paul Davies.
David Rees.
Mark Drakeford.
David Rowlands.
Ymatal.
Jack Sargeant.
Mark Drakeford.
Bethan Sayed.
Adam Price.
Ken Skates.
Mark Drakeford.
Lee Waters.
Mark Drakeford.
Joyce Watson.
Mark Drakeford.
Kirsty Williams.
Mark Drakeford.
Leanne Wood.
Adam Price.
Byddwn yn awr yn aros i'r clerc gadarnhau canlyniad y bleidlais.
Siaradwch ymysg eich gilydd.
Dyma ganlyniad y bleidlais, felly: Mark Drakeford 30 pleidlais, Paul Davies 12 pleidlais, Adam Price naw pleidlais, a phump yn ymatal. Gan ei fod wedi derbyn dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd, rwy'n datgan bod Mark Drakeford wedi ei enwebu yn Brif Weinidog y Senedd yma. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, byddaf yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog. Rwy'n gwahodd Mark Drakeford i annerch y Siambr. Mark Drakeford. [Cymeradwyaeth.]
Llywydd, diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi fy enwebiad yma y prynhawn yma? A dylid rhoi diolch arbennig, wrth gwrs, i fy rhagflaenydd, Carwyn Jones, am roi fy enw gerbron y Cynulliad, ac am y cymorth y mae wedi'i gynnig mor gyson dros nifer o flynyddoedd, ond yn enwedig dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wrth i bethau newid.
Fel y gŵyr pob un ohonoch o'r trafodion ddoe, mae arwain plaid wleidyddol yma yng Nghymru yn fraint aruthrol, ac mae cael eich enwebu a'ch ethol yn Brif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol hyd yn oed yn fwy o fraint. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r cyfle a'r cyfrifoldeb a ddaw law yn llaw â'r swydd hon. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau, ym mhob rhan o'r Siambr, am eu haelioni ers dydd Iau yr wythnos diwethaf? Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr holl negeseuon a gefais.
Heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn gwbl briodol, mae'r pleidiau wedi cynnig eu henwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog, ac rydym wedi cynnal y broses ddemocrataidd hanfodol honno—etholiad. Yn y nifer o etholiadau rwyf wedi cymryd rhan ynddynt, mae pawb sydd wedi cymryd rhan ynddynt, bron â bod, yn gwneud hynny oherwydd y cyfraniad y maent yn awyddus i'w wneud i wasanaeth cyhoeddus Cymru, ac yn sicr, mae pawb sydd wedi cael eu henwebu heddiw yn byw yn y traddodiad allweddol hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, pan gefais fy ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yr wythnos diwethaf, dywedais fod mod yn awyddus i fod yn fflam o obaith mewn byd sy'n tywyllu. Nid heddiw yw'r adeg ar gyfer sylwadau pleidiol, ond mae'r awyr o'n hamgylch wedi tywyllu mwy byth yn y dyddiau ers hynny. Mae rhyw fath o wallgofrwydd wedi amharu ar y Blaid Geidwadol, ac ymddengys bod nifer sylweddol o'i Haelodau Seneddol o'r farn mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol ein gwlad yw drwy daflu her i'r arweinyddiaeth ar y goelcerth sydd ohoni yn sgil Brexit. Rwy'n credu o ddifrif, Ddirprwy Lywydd, fod pethau yma, mewn sefydliad mwy newydd a gwahanol iawn, yn cael eu gwneud mewn ffordd wahanol, a bron bob amser, fod pethau'n cael eu gwneud yn well.
Ddoe, buom yn sôn cryn dipyn am ddosbarth 1999. A bydd y rhai ohonom a oedd, mewn gwahanol ffyrdd, yn rhan o bethau yma ers dyddiau cynnar y Cynulliad Cenedlaethol, yn cofio mai'r bwriad oedd i hwnnw hefyd fod yn fflam o obaith yng Nghymru, yn fan lle y gellid anghofio'r hen ffyrdd gwrthbrofedig o wneud gwleidyddiaeth, a datblygu rysáit gwahanol, lle byddai'r pethau rydym yn cytuno arnynt yr un mor bwysig â'r pethau rydym yn anghytuno arnynt, a lle byddai'r materion sy'n uno ein gwlad yn cael rhywfaint o flaenoriaeth dros y materion sy'n bygwth ein rhannu. Nawr, nid wyf yn sôn am wleidyddiaeth heb angerdd neu gredoau sylfaenol. Rwy'n credu mewn gwleidyddiaeth sy'n ymroddedig ac sy'n cael ei llywio gan y math o gymdeithas rydym yn awyddus i helpu i'w chreu—amrywiaeth, undod, cymuned a chydraddoldeb—ar yr ochr hon i'r Siambr, ond lle rydym yn cyflawni'r wleidyddiaeth honno â pharch a ffocws ar yr hyn sy'n gyffredin rhyngom, lle rydym yn cydnabod bod y ffordd rydym yn ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac ansicr—math mwy caredig o wleidyddiaeth.
Ddirprwy Lywydd, bûm yn meddwl cryn dipyn am hynny ddoe pan soniodd Carwyn am ein deddfwriaeth rhoi organau. Ar y noson hir honno pan fuom yn trafod y Bil yma ar lawr y Cynulliad, roeddem yn fflam o obaith mewn bywydau lle nad oedd llawer o obaith i'w gael. Ond cynhaliwyd y ddadl honno gennym, yn fy marn i, mewn ffordd a oedd yn gweddu i'w phwnc: drwy angerdd ar bob ochr i'r Siambr, ond heb unrhyw amheuaeth fod pob cyfraniad wedi'i gymell gan ddyhead i wneud y gwahaniaeth gorau posibl. Roedd y Bil a basiwyd gennym yn well o ganlyniad i'r ddadl honno, ac mae'r Ddeddf rydym wedi'i rhoi ar y llyfr statud wedi newid bywydau yma yng Nghymru ac wedi ysbrydoli newid y tu hwnt i'n ffiniau, a dyna'r math o wleidyddiaeth y mae pob un ohonom, rwy'n credu, yn awyddus i weld mwy ohoni yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Ddirprwy Lywydd, pan ddeuthum i'r Siambr hon am y tro cyntaf, ni ddeuthum yma fel pob un ohonoch chi, drwy gael eich ethol yma; deuthum yma am y tro cyntaf yng nghysgod y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a oedd yn ymweld â'r lle am y tro cyntaf wrth i'r Siambr ddod yn barod i'w defnyddio. Mae unrhyw fath o newid fel hyn yn adeg i fyfyrio, fel y gwelsom ddoe, ac rwyf wedi bod yn meddwl cryn dipyn am fy hen ffrind a mentor yn ddiweddar. Ni chynhesodd yn hawdd at yr adeilad newydd hwn. Bydd y rhai ohonom a oedd yma ar y pryd yn cofio, wrth i'w sylfeini gael eu gosod, y byddai'r adeilad gwreiddiol—Tŷ Hywel—yn gwegian o'r naill ochr i'r llall o dan effaith y gyrdd peiriant a'r cyhoeddiad llai na chalonogol a fyddai i'w glywed dros y system sain, yn cynghori'r rhai ohonom ar y lloriau uchaf i beidio â phoeni gan fod yr adeilad wedi'i gynllunio i siglo o ochr i ochr. 'Maent yn adeiladu lean-to newydd' oedd yr hyn y byddai'r Prif Weinidog ar y pryd yn ei ddweud wrth ymwelwyr pan oedd hyn yn digwydd.
Credaf iddo gynhesu at y man lle y treuliodd gymaint o oriau, a lle byddaf, y tro nesaf y byddaf yma, yn ateb eich cwestiynau. Fe fyddwch wedi gweld, efallai, ymhlith y sawl peth atyniadol ynglŷn â bod yn Brif Weinidog, nad y cyfle hwnnw yw'r un a apeliodd fwyaf ataf. A chredaf mai'r rheswm am hynny, yn rhannol o leiaf, yw oherwydd y blynyddoedd maith hynny pan dreuliwn y rhan fwyaf o bob dydd Mawrth yn paratoi'r Prif Weinidog ar y pryd ar gyfer yr ornest honno. Byddai'r diwrnod yn dechrau gyda Rhodri yn mynd drwy'r ffeil aruthrol honno y mae pob un ohonoch wedi'i gweld, gan nodi'r mannau hynny lle roedd angen mwy o wybodaeth neu well gwybodaeth. Yna, byddem yn ceisio dyfalu, yn aflwyddiannus fel arfer, ble fyddai Nick Bourne neu Ieuan Wyn Jones, neu yn ddiweddarach, Kirsty Williams, yn ceisio creu trafferth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Byddai Rhodri'n diflannu; byddwn innau'n cael fy ngadael i geisio dod o hyd i'r wybodaeth a oedd ar goll gan dimau ym Mharc Cathays a oedd, yn anochel, ar wyliau, ar ddiwrnod hyfforddi neu wedi diflannu i Swyddfa Cymru, cyn i Rhodri ddychwelyd i amsugno, gyda'r gallu syfrdanol a oedd ganddo i wneud hynny fel papur blotio, popeth a oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.
Er gwaethaf yr holl waith paratoi manwl hwnnw, gallai popeth fynd o'i le mor hawdd. Fel y Llywydd, nid wyf yn bwriadu ysgrifennu unrhyw gofiannau, ond pe bawn i'n gwneud hynny, byddai'r dydd Mawrth hwnnw pan ddechreuodd y BBC adrodd ar y One O'Clock News, gyda llai na hanner awr i fynd tan y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, fod grŵp o weision sifil Llywodraeth Cymru wedi cael eu 'darganfod', fel y dywedodd y BBC, mewn sesiwn fondio mewn sawna yn Llanymddyfri wedi'i serio ar fy nghof. [Chwerthin.]
Ar yr adegau hynny pan oedd trafferthion amlwg ar y gorwel, byddai Rhodri'n anelu am y lifft, a byddwn innau'n mynd yn ôl at fy nesg. Ar y dyddiau hynny, byddai'r Prif Weinidog ar y pryd yn oedi wrth iddo adael yr ystafell ac yn cynnig y cyngor doeth hwn: 'Helmed dun ymlaen', byddai'n ei ddweud, ac yna byddai'n ymadael am y Siambr hon. Felly, os oes unrhyw aelodau o fy nheulu yn yr oriel yn dal i bendroni ynglŷn â beth i'w gael i mi ar gyfer y Nadolig—[Chwerthin.]—rydych wedi clywed hynny'r prynhawn yma. Edrychaf ymlaen, gyda het addas ar fy mhen, at weld pob un ohonoch ar y dydd Mawrth cyntaf pan fyddwn yn ailddechrau yn y flwyddyn newydd. Ac yn y cyfamser,
Nadolig Llawen i chi i gyd. [Cymeradwyaeth.]
Da iawn, a llongyfarchiadau, Mark.