3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff pleidlais Senedd y DU ar gytundeb Brexit Llywodraeth y DU ar 15 Ionawr 2019 ar Gymru? 256
Lywydd, mae dull y Prif Weinidog o weithredu wedi'i wrthod yn bendant. Mae angen Tŷ Cyffredin newydd o dan Lywodraeth newydd i ddod o hyd i ffordd newydd ymlaen. Byddai dull o'r fath yn cau'r drws ar Brexit 'dim bargen' ac yn diogelu swyddi a'r economi yma yng Nghymru.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Am ddwy flynedd, mae Prif Weinidog y DU wedi dilyn polisi Ewropeaidd sy'n canolbwyntio ar ddiogelu buddiannau'r Blaid Dorïaidd yn hytrach na buddiannau'r wlad. Am ddwy flynedd, mae hi wedi trin pobl Cymru a Chynulliad Cymru gyda dirmyg llwyr. Mae pob addewid o ymgysylltiad a chyfranogiad wedi'i dorri. Mae'r DU bellach mewn cyflwr—[Torri ar draws.] Mae bellach mewn rigor mortis cyfansoddiadol. Mae'r Llywodraeth wedi'i pharlysu a'r DU bellach wedi dod yn destun sbort a'r Prif Weinidog yn batrwm o analluogrwydd. Mae gan yr Unol Daleithiau Trump; mae gennym ni Theresa May.
Yn sgil y grasfa drychinebus a hanesyddol neithiwr, mae hi'n dweud y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn estyn ar draws Tŷ'r Cyffredin, ond ar yr un pryd, mae'n dweud bod ei llinellau coch yn aros—felly, dim trafodaeth ar undeb tollau, dim trafodaeth ar farchnad sengl, dim trafodaeth ar ryddid i symud neu Lys Ewrop cyfiawnder, dim trafodaeth gyda gwrthblaid Ei Mawrhydi. Felly, ar ôl hepgor pawb—yn cynnwys yr UE—at bwy ar y ddaear y mae hi'n estyn allan? Dyma Brif Weinidog aflwyddiannus tu hwnt, Prif Weinidog sy'n parhau i wadu, yn arwain Llywodraeth heb ddilysrwydd, heb fandad a heb syniad. Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog—[Torri ar draws.]—Brif Weinidog, a oes gennych unrhyw hyder ym Mhrif Weinidog y DU?
Wel, Lywydd, dylai unrhyw Brif Weinidog sy'n cael ei threchu yn y ffordd y cafodd y Prif Weinidog ei threchu wrth iddi geisio cyflawni'r cyfrifoldeb pwysicaf un a ddaw iddi ymddiswyddo. Rwy'n credu mai dyna'r llwybr gweithredu sy'n gyfansoddiadol briodol a dylai wynebu hynny a'i ddilyn. Ar ôl dweud hynny, Lywydd, gadewch imi ddweud, fel rwyf bob amser yn dweud yn y Siambr yma, pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog y DU yfory, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr fod buddiannau pobl Cymru bob amser yn gwbl hysbys ac yn cael eu rhoi gerbron pwy bynnag fydd yn Brif Weinidog y DU.
Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y dylai pawb yn y Siambr hon ac yn Nhŷ'r Cyffredin y DU barchu canlyniad y bleidlais ym mis Mehefin 2016 a chynorthwyo Llywodraeth y DU i weithio drwy ganlyniadau hynny wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd? At hynny, a wnewch chi gytuno hefyd mai'r bygythiad mwyaf i Gymru yw Jeremy Corbyn fel Prif Weinidog yn y Deyrnas Unedig? Mae hwnnw'n fygythiad gwaeth na Brexit 'dim bargen': trethi uwch, mwy o ddyled yn ein gwasanaethau cyhoeddus a mwy o wastraff?
Lywydd, y bygythiad mwyaf i Gymru yw ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb o gwbl, gyda'r holl niwed y bydd hynny'n ei wneud i fusnesau yma yng Nghymru, i swyddi yma yng Nghymru. Os yw'r Aelod yn ofni Llywodraeth Jeremy Corbyn i'r fath raddau, nid oes amheuaeth y bydd yn cefnogi galwadau yn Nhŷ'r Cyffredin i drechu'r Llywodraeth fel y gellir rhoi hynny i bobl y wlad ei benderfynu, oherwydd, os yw mor siŵr o'i safbwynt, pam y mae'n ofni etholiad cyffredinol i'r fath raddau?
A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog beth sy'n digwydd nawr? Beth sy'n digwydd pan fydd Theresa May yn ennill y bleidlais o ddiffyg hyder heddiw? A ydych yn cytuno â mi nad oes gan Jeremy Corbyn unrhyw weledigaeth glir ar Ewrop chwaith—nid yw'n ddim cliriach na Theresa May—felly byddai etholiad cyffredinol yn gwbl ddibwrpas? A wnewch chi gefnogi refferendwm pleidlais y bobl yn lle hynny?
Wel, Lywydd, mae'r Aelod yn gofyn beth sy'n digwydd nesaf. Yn gyntaf oll, yn sicr nid wyf wedi rhoi'r gorau i'r posibilrwydd y bydd Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod y Llywodraeth hon. Bydd ei blaid yn pleidleisio heno o blaid cynnig o ddiffyg hyder. Hoffwn pe bai ganddo hyder yn y cynnig o ddiffyg hyder y bydd ei blaid yn ei gefnogi. Dyna rwyf am ei weld yn digwydd; rwyf am weld y Llywodraeth hon yn cael ei threchu ac etholiad cyffredinol. Ac rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef fod etholiad cyffredinol yn amherthnasol, oherwydd nid yn unig y byddai gennym Lywodraeth a fyddai'n cynnig ymagwedd synhwyrol tuag at Brexit, ond byddai gennym Lywodraeth a fyddai'n troi ei chefn ar gyni a'r holl bethau yr ydym ni, ar draws y Siambr hon, yn cynnwys ei blaid ef, yn galw amdanynt yma wythnos ar ôl wythnos. Mae cymaint mwy yn y fantol mewn etholiad cyffredinol. Dyna pam y mae angen Llywodraeth newydd arnom, a meddyliwch beth y gallai honno ei wneud i Gymru.
Diolch am eich ymateb i gwestiwn Mick Antoniw yn gynharach, Brif Weinidog. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—eich bod am i Senedd y DU ddiystyru Brexit 'dim bargen'. Felly, rydych chi o leiaf wedi gwneud eich safbwynt yn glir. Yn amlwg, draw yma, mae ein safbwynt yn gwbl wahanol; nid ydym yn gweld Brexit 'dim bargen' fel ateb gwael; mewn gwirionedd rydym yn ei weld fel Brexit Sefydliad Masnach y Byd, yn hytrach na Brexit 'dim bargen'.
Nawr, cawsom ddatganiad ddoe gan eich Gweinidog Brexit, ac roeddwn o'r farn ei fod yn cynnwys rhai elfennau defnyddiol, yn yr ystyr ei fod yn amlinellu nifer o gynlluniau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu llunio, gan gynghori busnesau ac ati ynglŷn â'r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Yn amlwg, fel rydych wedi datgan, nid dyna yw'r opsiwn rydych yn ei ffafrio, ond os ydych yn cytuno â'ch Gweinidog Brexit, Weinidog, mae hwnnw'n ddigwyddiad sy'n rhaid i chi ei ystyried bellach. Ac rwy'n credu y byddai'n beth doeth ichi ganolbwyntio eich ymdrechion ar wneud cynlluniau ar gyfer pan fydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth a sut y bydd hynny'n effeithio ar Gymru, yn hytrach na gwneud yr hyn y buoch yn ei wneud fel Llywodraeth am y ddwy flynedd a hanner diwethaf a cheisio rhwystro Brexit. A fyddech yn cytuno, Brif Weinidog, y byddai hynny—[Torri ar draws.] A fyddech yn cytuno y byddai honno'n ymagwedd synhwyrol?
Cwestiwn arall sydd gennyf yw hwn: rwy'n nodi o ddilyn cyfryngau cymdeithasol Adam Price, ac rydym yn gwneud hynny'n frwd dros ben yng ngrŵp UKIP, fod yna—[Torri ar draws.] Cafwyd—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai—[Torri ar draws.] Cafwyd rhai trafodaethau trawsbleidiol a oedd yn cynnwys Adam a Paul Davies o bosibl. Felly, fel mater o ddiddordeb, ni oedd yr unig blaid a gefnogai Brexit, felly roeddwn yn meddwl tybed pam na chawsom ein gwahodd? Diolch.
Lywydd, gadewch imi ymateb i'r cwestiwn cyntaf yn gyntaf. Fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro—ac rwyf wedi ei ddweud eto yn awr—byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn cael effaith drychinebus ar yr economi yma yng Nghymru, ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac ym mywydau dinasyddion Cymru. A yw hynny'n golygu nad ydym yn paratoi rhag y posibilrwydd hwnnw, yn enwedig wrth iddo ddod yn fwy o bosibilrwydd? Wel, wrth gwrs, fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn paratoi yn erbyn y diwrnod hwnnw, ac mae ein paratoadau wedi dwysáu ers mis Medi y llynedd, ac rydym wedi adrodd arnynt yn rheolaidd i'r Cynulliad. Dyna'r pethau y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol atynt ddoe. Byddwn yn adrodd arnynt eto ar lawr y Cynulliad yr wythnos nesaf, nid oherwydd ein bod am funud yn barod i ystyried cefnogi cam o'r fath, ond mae gennym gyfrifoldeb i bobl Cymru i weithredu, os mai felly y bydd hi.
Mae'r Aelod yn gywir fy mod wedi cyfarfod ag arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn gynharach. Rwy'n ddiolchgar iddynt am ddod o hyd i amser i gael y trafodaethau hynny, a gwneuthum hynny ar y sail fod tair plaid yn y Cynulliad hwn yn ymroddedig i ffurf ar Brexit a fyddai'n lleddfu ei effaith yma yng Nghymru, tra bo'r blaid y mae Mr Bennett yn ei chynrychioli yn coleddu'r safbwynt y mae wedi'i fynegi yma y prynhawn yma. Mae'n credu nad oes angen paratoi ar gyfer Brexit 'dim bargen' am ei fod yn croesawu'r posibilrwydd hwnnw. Nid yw eraill yma yn ei groesawu, a dyna pam y penderfynais y buaswn yn trafod y materion gyda hwy.
Fel chi, Brif Weinidog—roedd y modd y trechwyd Llywodraeth y DU neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin yn wirioneddol hanesyddol. Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad, a phe bai gan y Prif Weinidog unrhyw ymdeimlad o ddyletswydd tuag at y wlad, byddai wedi ymddiswyddo y bore yma o ganlyniad i hynny. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig heno. Rwy'n synnu nad yw rhai o gefnogwyr y cynnig hwnnw i'w gweld mor ymrwymedig iddo. Brif Weinidog, beth bynnag sy'n digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin heno a beth bynnag sy'n digwydd yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun nesaf, onid y gwir amdani yw ein bod yn mynd yn brin o amser i gwblhau'r sgyrsiau hyn? Rydym yn brin o amser i ddod o hyd i ateb. Mae graddau a maint aflwyddiant polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig neithiwr yn golygu na allant ddychwelyd gyda mân addasiadau i'r cytundeb a gobeithio y bydd yn cael ei basio. Onid yw'n bryd i ni yn awr nid yn unig i edrych eto ar erthygl 50, ond i dynnu erthygl 50 yn ôl, i'n galluogi i gael amser i gael dadl go iawn, yn y wlad hon ac ar draws ein Seneddau, am y math o ffordd ymlaen, a bod y ffordd honno wedyn yn cael ei rhoi i'r bobl mewn refferendwm, a fydd yn refferendwm gonest, lle y bydd pobl yn gallu datgan eu hachos a gwneud eu dewis?
Wel, rwy'n cytuno gyda'r hyn a ddywedodd Alun Davies ein bod yn mynd yn brin o amser ac ni ddylai hynny fod yn syndod i neb. Rydym wedi cael ein rhybuddio ynglŷn â hynny ers misoedd lawer, fod y cloc yn tician. Rydym yn awr yn y rhan olaf o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae angen mwy o amser. Mae angen mwy o amser arnom i gael y trafodaethau y cyfeiriodd Alun Davies atynt. Ceir mwy nag un ffordd lle y gellid gwneud hynny. Gelwais heddiw am atal amserlen erthygl 50 dros dro, ac rwy'n meddwl y bydd parodrwydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd i gytuno i hynny, ar yr amod eu bod yn gwybod, yn y ffordd y dywedodd Alun Davies, nad yw'r trafodaethau sydd i'w cynnal dros yr ychydig ddyddiau nesaf yn ymwneud â thincran ar ymylon cytundeb Mrs May. Ni fydd hynny byth yn bodloni 230 o aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhaid i Brif Weinidog y DU roi'r gorau i'w pholisi aflwyddiannus a diffygiol o negodi drwy gyfres o linellau coch, a dweud yn barhaol wrth bawb arall beth nad yw hi'n mynd i gytuno ag ef. Mae angen iddi ddarganfod beth y mae pobl eraill yn barod i gytuno ag ef. Mae'n rhaid iddi ddangos yr hyblygrwydd y byddai arweinyddiaeth go iawn yn ei ddangos, ac yn y modd hwnnw, o ystyried yr amser y mae Alun Davies wedi tynnu sylw ato, mae cyfle o hyd i gael cytundeb a fyddai'n cyd-fynd â'r prosbectws a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ac a fyddai'n caniatáu inni adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd sy'n diogelu ein buddiannau hirdymor.
Brif Weinidog, roedd maint aflwyddiant y Torïaid neithiwr yn ei gwneud hi'n amlwg bellach mai'r unig ddewisiadau sydd ar ôl yw Brexit y mae'r ddwy brif blaid yn ei gefnogi, trychineb 'dim bargen' neu bleidlais y bobl. O ystyried y byddai unrhyw gytundeb Brexit yn golygu y byddai Cymru yn waeth ei byd, yn dyfnhau magl tlodi ac yn gwreiddio cyni ariannol, a fyddech yn cytuno â mi mai'r unig opsiwn difrifol bellach i'r rhai sydd eisiau rhoi pobl Cymru yn gyntaf yw pleidlais y bobl?
Nid wyf yn cytuno â hynny, Lywydd. Credaf y down at y pwynt pan allai hynny'n bendant fod yn wir, ac os cyrhaeddwn y pwynt hwnnw, efallai y bydd yn rhaid i ddychwelyd at y bobl i gael y gair olaf ar y mater hwn fod yn ffordd drwy'r cyfyngder y byddai Tŷ'r Cyffredin ynddo os na allai wneud yr hyn y tynnodd Lynne Neagle sylw ato yn rhan gyntaf ei chwestiwn, sef dod o hyd i ffurf ar Brexit y gall Tŷ'r Cyffredin gytuno arno. Nawr, efallai'n wir ein bod yn teimlo nad oes llawer o bosibilrwydd o hynny, ond dywedodd y Prif Weinidog ddoe—fe ailadroddodd hyn mewn sgwrs ffôn a gefais gyda hi yn hwyr neithiwr—ei bod yn mynd i estyn allan at y pleidiau eraill a seneddwyr eraill, ei bod yn mynd i gynnwys gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau hynny, gyda'r nod o ddod o hyd i ffordd wahanol drwy'r cyfyngder hwn. Rwy'n credu—os yw hi mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl heddiw—y bydd rhaid inni ganiatáu'r ychydig ddyddiau sydd ganddi at ei defnydd i weld a ellir cyflawni hynny. Os oes cytundeb y gall ei lunio sy'n bodloni'r profion a nodwyd gan fy mhlaid, sy'n bodloni'r profion a nodwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', gallai fod cytundeb yno i'w wneud o hyd. Os nad yw hynny'n wir, yn yr amgylchiadau hynny, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle—y bydd yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl.
Diolch i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn gan Rhun ap Iorwerth.