– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 23 Ionawr 2019.
Felly, y datganiadau 90 eiliad, a’r datganiad cyntaf heddiw gan David Rowlands.
Ar 10 Ionawr 1879, croesodd tair colofn o filwyr Prydeinig yr afon Buffalo i mewn i Wlad y Zwlw, De Affrica, gan adael tua 1,800 o filwyr o 24ain Gatrawd y Milwyr Traed yn y gwersyll yn Isandlwana. Ar 22 Ionawr, amgylchynodd tua 20,000 o luoedd Brenin Gwlad y Zwlw, Cetshwayo, y gwersyll Prydeinig. Arweiniodd y frwydr a ddilynodd at un o'r gorchfygiadau gwaethaf a gofnodwyd erioed gan y fyddin Brydeinig. Lladdwyd dros 1,300 o amddiffynwyr y gwersyll.
Gyda'r nos ar 22 Ionawr, disgynnodd tua 3,000 o ryfelwyr Zwlw, yn ffres o'r gyflafan yn Isandlwana, ar Rorke's Drift, a gâi ei amddiffyn gan lu o 140 o ddynion yn unig, yn cynnwys milwyr o'r 24ain Gatrawd o Filwyr Traed, Cyffinwyr De Cymru. Parhaodd y frwydr a ddilynodd drwy'r nos ac i mewn i'r 23 Ionawr. Roedd digwyddiadau'r noson honno a'r diwrnod wedyn yn mynd i fod yn un o funudau gwychaf y Fyddin Brydeinig. Yn erbyn pob disgwyl, gwrthsafodd y garsiwn yn Rorke's Drift ymosodiad ar ôl ymosodiad gan rai o ymladdwyr brodorol mwyaf ffyrnig a dewr Affrica gyfan.
Daeth yr ymladd i ben pan alwodd y Tywysog Zwlw, Dabulamanzi, mewn arddangosiad o drugaredd mawr ac i gydnabod dewrder ei gydryfelwyr, ar ei filwyr i roi'r gorau i ymladd, saliwtiodd y garsiwn a thynnodd yn ôl. Yn dilyn hynny, dyfarnwyd 11 croes Victoria am amddiffyn Rorke's Drift mor ddewr, y nifer uchaf o groesau Victoria a roddwyd erioed mewn un frwydr. Ar y diwrnod hwn, gant a deugain o flynyddoedd ers y frwydr honno, mae'n briodol ein bod yn cofio'r rhai ar y ddwy ochr a ddangosodd ddewrder mor eithriadol.
Yr wythnos hon, yn arwain at Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2019, cefais y fraint o ymuno ag aelodau'r gymuned ym Merthyr Tudful a ddaeth at ei gilydd i nodi cwblhau Gardd Cofio'r Holocost yng nghefn Llyfrgell Merthyr Tudful. Mae'n un enghraifft fach ond pwysig o sut y gall cymuned, gan ddechrau gyda grant gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yna drwy gymorth nifer o grwpiau lleol o wirfoddolwyr, fod yn rhan o ymdrech ryngwladol i gofio, ymchwilio ac addysgu am Holocost.
Eleni, byddwn yn myfyrio ar thema Diwrnod Cofio'r Holocost, rhwygo o'u cartref, yr heriau o gael eich rhwygo o'ch cartref yn wyneb rhyfel, gwrthdaro ac erledigaeth a'r dyhead sylfaenol am fywyd gwell a mwy diogel. Eleni hefyd, ni allaf helpu ond ychwanegu nodyn personol i'r cofio, a minnau newydd ddychwelyd o ymweliad ag Auschwitz-Birkenau. Ni ddylem byth anghofio erchyllterau'r Holocost a dylem ddefnyddio'r amser hwn i fyfyrio ar yr amodau a ganiataodd i weithredoedd barbaraidd o'r fath ddigwydd—nid erledigaeth Natsïaidd yn unig, ond hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Mae fy ymweliad diweddar wedi atgyfnerthu gwerth pob un o'n gweithredoedd cofio, boed ym Merthyr Tudful, neu yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, fel y gwnaethom wrth gynnau cannwyll ar risiau'r Senedd amser cinio heddiw, neu ar draws ein gwlad. Yn yr adeg anodd hon, gadewch i bob un ohonom fyfyrio ar ein geiriau, ein meddyliau a'n gweithredoedd, a gadewch inni gofio'r rhai a rwygwyd o'u cartrefi ac addo unwaith eto y gwnawn ni chwarae ein rhan yn cynnal yr amodau a fydd yn sicrhau nad ailadroddir erchyllterau'r Holocost.