– Senedd Cymru am 5:47 pm ar 29 Ionawr 2019.
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynigion. Julie Morgan.
Cynnig NDM6944 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Cynnig NDM6945 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.
Cynnig NDM6943 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynigion.
Cafodd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio'n unfrydol dair blynedd yn ôl. Drwy weithredu'r Ddeddf fesul cam, rydym yn sefydlu system newydd o reoleiddio ac arolygu darparwyr gofal cymdeithasol sy'n gadarn, sydd wedi'i symleiddio ac sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae'r system newydd yn galluogi Arolygiaeth Gofal Cymru i gymryd golwg cyffredinol o'r gwasanaeth cyfan yn well, mae'n gwneud cofrestru gyda'r arolygiaeth yn haws, ac mae'n helpu dinasyddion i gael gafael ar wybodaeth allweddol wrth ddewis eu gofal a'u cymorth. Hefyd, mae'n ceisio sicrhau y bydd y gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru yn cael eu cofrestru a'u harolygu yng Nghymru.
Mae sicrhau cysondeb yn y gofynion ar wasanaethau a reoleiddir o dan y Ddeddf wedi bod yn un o'n prif amcanion polisi. Felly, pan fo'n bosibl, mae'r gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol gwasanaethau lleoli oedolion, eirioli a maethu drwy'r rheoliadau hyn sydd ger ein bron ni heddiw yn cyfateb i'r rhai hynny a gymeradwywyd gan y Cynulliad hwn ac y daethpwyd â hwy i rym yng nghyfnod 2.
Ond mae'n rhaid inni gofio bod gan bob gwasanaeth ei nodweddion unigryw ei hun ac y dylid ei reoleiddio yn unol â hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n helaeth gyda rhanddeiliaid i deilwra gofynion penodol i sicrhau bod hyn yn cyd-fynd orau â'r ffordd y darperir pob gwasanaeth yn ymarferol heb beryglu'r safonau cyffredinol a ddisgwylir. Mae pob un o'r rheoliadau hyn yn cynnwys gofynion craidd o ran llywodraethu'r gwasanaeth, y ffordd y mae'n cael ei gynnal, ei staffio, a sut y mae'n diogelu ac yn cefnogi pobl. Maen nhw hefyd yn sicrhau pwyslais ar ganlyniadau a lles unigolion ac yn cynnwys materion sy'n sail i ansawdd, diogelwch a gwelliant. Pan nad yw darparwyr neu unigolion cyfrifol yn cyrraedd y safon, mae'r rheoliadau yn pennu'n glir pa dor-rheoliadau a gaiff eu trin fel troseddau, neu y gallent gael eu trin fel troseddau. Cefnogir y rheoliadau gan ganllawiau statudol, sy'n nodi mewn mwy o fanylder sut y gall darparwyr ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â gofynion.
Mae Deddf 2016 yn gweld rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau eirioli am y tro cyntaf. Yn dilyn ymgynghoriad yng nghyfnod 1 a gyda chymorth y sector, rydym ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar eiriolaeth a drefnir gan awdurdodau lleol o dan eu dyletswyddau i gynorthwyo plant, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, a rhai pobl ifanc sy'n gadael gofal sy'n dymuno gwneud sylwadau ynghylch eu hangen am ofal a chymorth. Rwy'n credu bod hwn yn gam cyntaf cymesur, sy'n rhoi cyfle i ddysgu cyn ystyried estyniad i'r sector ehangach.
Mae swyddogion wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol o gam cynnar wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn. Mae hyn wedi helpu i nodi addasiadau hollbwysig i lasbrint cyfnod 2 i'w wneud i weithio yng nghyd-destun gwasanaethau penodol. Gan fod newidiadau ar ôl ymgynghori ac eglurhad pellach yn y canllawiau, rwy'n credu ein bod wedi cyflawni hyn. Mae un enghraifft o hyn yn cynnwys newidiadau i eiriad y rheoliadau lleoli oedolion i adlewyrchu pwysigrwydd paru unigolion â theuluoedd sy'n gydnaws, yn hytrach na dim ond trefnu lleoliad. Mae'r rheoliadau hyn hefyd erbyn hyn yn cynnwys yr angen i ddarparwyr fynnu bod gofalwyr lleoliadau oedolion yn eu hysbysu o fewn 24 awr ar ôl defnyddio unrhyw ddulliau rheoli ac atal. Mae'n ofynnol i'r darparwr gwasanaeth wedyn wneud cofnod o'r digwyddiad ar unwaith, gan leihau'r risg o oedi cymaint â phosibl. Mae gwelliant tebyg wedi ei wneud ar gyfer gwasanaethau maethu.
Gan ymateb i adborth, mae'r eithrio rhag cael ei reoleiddio ar gyfer unigolyn sy'n eirioli ar ran pedwar neu lai o bobl mewn blwyddyn wedi ei ddiwygio fel y gellir ystyried grwpiau o frodyr a chwiorydd fel un digwyddiad. Mae hyn bellach yn berthnasol pa un a yw darparwr yn unigolyn neu yn sefydliad. Fe wnaeth yr ymgynghoriad hefyd hybu newid i'r dyletswydd o onestrwydd, gan waredu'r gofyniad i weithredu mewn modd agored a thryloyw â chomisiynwyr gwasanaeth, gan fod ymgyngoreion yn teimlo y gallai hyn fod yn groes i brif bwrpas eiriolaeth, sef i ystyried a helpu i gynrychioli barn unigolion wrth sicrhau eu hawl i gyfrinachedd.
Bu nifer o newidiadau allweddol a ysgogwyd gan randdeiliaid i wella gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu rheoledig, ac mae'r rhain yn cynnwys: ehangu'r gofyniad i hysbysu partïon perthnasol am unrhyw ddigwyddiad o gamfanteisio ar blant yn rhywiol i gynnwys camfanteisio troseddol hefyd; ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gynnwys gwybodaeth am eu polisïau a'u gweithdrefnau sy'n berthnasol i anghenion plant yn y canllawiau ysgrifenedig i'r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc; ehangu gofynion ynghylch iechyd a datblygiad plant i gynnwys eu hiechyd a'u datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol; a chynnwys cyfeiriad pendant at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, erthygl 31, yr hawl i chwarae, ac i gynlluniau llwybr ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed.
Mae gofyniad wedi'i ychwanegu hefyd i bolisïau a gweithdrefnau darparwr sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol o gynilion a wneir ar ran plant, gan gynnwys trosglwyddo cofnodion ar ddiwedd eu lleoliad, ac mae hyn yn ymdrin â materion a godwyd gan achos ombwdsmon yn ddiweddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn olaf, mae darpariaeth drosiannol wedi'i chynnwys yn y rheoliadau ar gyfer cofrestru rheolwyr gwasanaeth â gofal cymdeithasol Cymru. Ar gyfer lleoliadau oedolion a maethu, mae'r gofyniad hwn wedi'i ohirio tan fis Ebrill 2022 ac eiriolaeth tan fis Medi 2022 er mwyn rhoi amser i reolwyr newydd a phresennol i ennill y cymwysterau i gofrestru os nad yw'r rhain eisoes wedi'u cwblhau. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad a'i sicrhau hi y bydd Plaid Cymru yn cefnogi, yn amlwg, y rheoliadau hyn heddiw. Rwy'n dymuno crybwyll un defnydd penodol o iaith yn y rheoliadau gwasanaethau maethu rheoledig gyda'r Dirprwy Weinidog. Rydym yn cyfeirio yn y rheoliadau at 'rieni maeth'. Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn nad dyna'r term a ddefnyddir fel rheol yn y sector erbyn hyn a bod rhesymau da iawn am hynny. Mae defnyddio'r term 'gofalwr maeth' yn cydnabod proffesiynoldeb gofalwyr maeth, ac rwyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o hynny. Gall defnyddio'r term 'rhieni maeth' hefyd greu anawsterau yn enwedig i blant hŷn, sydd efallai yn dal i fod â theimladau cryf iawn tuag at eu rhieni biolegol—mae'n bosib eu bod nhw'n gobeithio dychwelyd, bydd llawer ohonyn nhw yn dychwelyd—a gallai defnyddio'r term 'rhiant maeth' fod yn rhwystr mewn gwirionedd rhwng y gofalwr maeth a'r plentyn neu'r person ifanc y mae'n gofalu amdano. Gall hefyd fod yn derm a allai achosi dryswch i blant sy'n cael eu mabwysiadu yn y pen draw, oherwydd yn aml iawn, nid eu gofalwr maeth fydd eu rhiant hirdymor mewn gwirionedd. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog egluro pam yr ydym ni'n dal i ddefnyddio term sydd yn fy marn i yn un nad yw'r sector ar y cyfan, ac yn enwedig pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, yn rhy hoff ohono, nid yn arbennig o hapus ag ef, ac a fyddai'n bosibl—nid yw'n rheswm, yn sicr, i wrthwynebu'r reoliadau hyn heddiw, ond pa un a fyddai'n bosibl, wrth symud ymlaen, i ystyried geiriad mwy priodol a mwy cyfoes. Rwyf yn amau y gallai'r geiriad fod yn briodol i'w defnyddio yn y rheoliadau hyn oherwydd gallai ddisgyn drwy rwyd y ddeddfwriaeth sylfaenol, ond rwyf yn credu ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ofalus iawn ohono. Nid yw gofalwyr maeth yn rieni, ac nid ydyn nhw'n ceisio bod yn hynny, er eu bod yn cynnig, wrth gwrs, yn aml iawn, y math o gariad a chefnogaeth y mae'r rhieni gorau yn ei wneud.
Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb.
Diolch yn fawr iawn. A diolch yn fawr iawn i Helen Mary Jones am ei chyfraniad i'r ddadl. Mae hi'n llygad ei lle—y rheswm yr ydym ni'n defnyddio'r geiriau 'rhiant maeth' yw oherwydd dyna'r geiriad a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth, ac felly dyna pam mae'n rhaid inni ddefnyddio hynny yn y rheoliadau hyn. Ond mae hi'n gwneud sylw pwysig iawn, ac, wrth gwrs, ar gyfer pobl ifanc yn benodol, nid ydyn nhw'n gweld eu gofalwyr maeth fel rhieni, oherwydd bod ganddyn nhw eu rhieni eu hunain, ac yn aml mae'n anodd iawn iddyn nhw ymdopi ag iaith fel yna. Felly, rwy'n derbyn yn llwyr y sylw a wna, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gefnogi ar adegau eraill, pan rydych chi'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw. Ond yma ni allwn ni wneud hynny oherwydd dyna'r ddeddfwriaeth. Felly, gyda'r sylwadau hynny, rwy'n cynnig y cynigion.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw cytuno ar y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig o dan eitem 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.